 |
Hamcan
Ffurfiwyd y Gymdeithas yn 1981 yn uniad o’r Cymdeithasau Hanes Teuluoedd a oedd
yn bodoli yng Nghymru. Ei hamcanion yw
(i) hyrwyddo astudiaeth o hanes ac achau teuluoedd yng Nghymru
(ii) gyd-drefnu a chynnal gweithgareddau’r Cymdeithasau Hanes Teuluoedd
(iii) hybu a sicrhau cyhoeddi deunydd sydd o ddiddordeb arbennig ac sydd o ddefnydd i haneswyr
Teuluoedd sy’n olrhain achyddiaeth Gymreig
(iv) cysylltu â
- "Capel" (Cymdeithas Treftadaeth a Capeli),
-
Llyfrgell Genedlaethol Cymru,,
- Grwp Archifau Siroedd Cymru,
a chyrff addas eraill er mwyn cynrychioli diddordebau ac anghenion y Cymdeithasau Hanes Teuluoedd a’u
haelodau.
Cydweithredu
Yn ogystal, mae cyfarfodydd y Gymdeithas yn gweithredu fel fforwm i gyfnewid syniadau
rhwng cymdeithasau, a gall hyn arwain at ledaenu’r arferion gorau. Gall hefyd arwain at hybu cydweithrediad
mewn meysydd o les cyffredinol, rhywbeth a allai fod y tu hwnt i adnoddau cymdeithasau unigol.
Enghraifft o’r cydweithredu rhwng y cymdeithasau aelodol fu cydgynnal
Cynhadledd Hanes Teuluoedd Brydeinig rai blynyddoedd yn ôl yn Aberystwyth. Yn fwy diweddar,
cyd-gynhyrchwyd y gyfrol Welsh Family History - A Guide to Research
drwy’r Gymdeithas, yn ogystal a'r llyfr Researching Family History in Wales.
Ymchwil
Gofidia’r Gymdeithas am nad oes ganddi’r adnoddau i gynorthwyo gydag ymchwil
ond bydd yn falch i ailgyfeirio ymholiadau i’r Gymdeithas Hanes Teuluoedd briodol. Ni fedrant hwythau,
gan mwyaf, ymgymryd ag ymchwil preifat ond yn aml mae ganddynt aelodau sy’n barod i roi help llaw i gyd-
aelodau o’u cymdeithas eu hunain.
Mae’r holl gymdeithasau yn cyhoeddi cylchgronau lle rhestrir yr enwau sydd yn destun dan
ymchwil gan y gwahanol aelodau. Fe’u hanogir i ddefnyddio’r cylchgronau fel cyfrwng i fynegi eu syniadau,
trosglwyddo eitemau diddorol o wybodaeth, ac efallai i ofyn am gymorth gyda phroblemau penodol a ddaw i’w
rhan yn eu hymchwiliadau. Mae’r holl gymdeithasau hefyd yn cyflawni’r gwaith o adysgrifio dogfennau a
chofnodi arysgrifau ac yn rhestru a mynegeio deunydd, er mwyn cynorthwyo aelodau i ymdrin â’u hymchwil.
|
 |
 |
CYMDEITHAS HANES TEULUOEDD CLWYD
yn cynnwys hen sir Y Fflint, y rhan fwyaf o sir Ddinbych a rhannau o sir Feirionnydd.
Ysgrifennydd: Mrs. A. Anderson,
The Laurels, Dolydd Road, Cefn Mawr, Wrexham LL14 3NH
CYMDEITHAS HANES TEULUOEDD DYFED
yn cynnwys hen siroedd Aberteifi, Caerfyrddin a Phenfro. Mae gan y gymdeithas ganghennau yn Aberteifi,
Caerfyrddin, Hwlffordd, Llanelli, Dyffryn Tywi Uchaf ynghyd â diddordeb rhannol yng Nghangen Llundain.
Ysgrifennydd:
Mrs. Beti Williams,
12 Elder Grove, Llamgunnor, Carmarthen SA31 2LQ
CYMDEITHAS HANES TEULUOEDD MORGANNWG
yn cynnwys yr hen sir Forgannwg gyda rhai cymwysiadau ffiniol. Mae gan y gymdeithas ganghennau yn Aberdâr,
Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr, Pontypridd ac Abertawe ynghyd a diddordeb rhannol yng Nghangen
Llundain.
Ysgrifennydd: Mrs R. Williams,
93 Pwllygath Street, Bridgend CF 36 6ET
GUILD OF ONE-NAME STUDIES
Ysgrifennydd:The Secretary, Box G,
14 Charterhouse Buildings, Goswell Road, London EC1M 7BA, England
CYMDEITHAS HANES TEULUOEDD GWENT
yn cynnwys yr hen sir Fynwy, ynghyd â rhan fechan o’r hen sir Frycheiniog gyda rhai cymwysiadau ffiniol
eraill. Mae gan y gymdeithas ganghennau yn Y Fenni/Trefynwy, Coed-dduon, Casgwent, Glynebwy,
Casnewydd a Phont-y-pwl.
Ysgrifennydd: Mrs Nicola Thomas,
11 Rosser Street, Wainfelin, Pont-Y-Pwl, Gwent, NP4 6EA
CYMDEITHAS HANES TEULUOEDD GWYNEDD
yn cynnwys hen siroedd Môn, Arfon, y rhan fwyaf o Feirionnydd a rhannau o sir Ddinbych. Mae gan y
gymdeithas ganghennau yn Llandudno, Caernarfon, Pwllheli, Llangefni a Dolgellau, ynghyd â
diddordeb rhannol yng Nghangen Llundain.
Ysgrifennydd: Mr J.Bryan Jones,
7 Victoria Road, Old Colwyn, Conwy, LL29 9SN
CYMDEITHAS ACHYDDOL MALDWYN
gan gynnwys sir hanesyddol Trefaldwyn â‘i gororau.
Ysgrifennydd: Mrs Sue Harrison-Stone,
Cambrian House, Brimmon Lane, Newtown, Montgomeryshire, Powys, SY16 1BY
CYMDEITHAS HANES TEULUOEDD POWYS
yn cynnwys hen siroedd Drefaldwyn, Maesyfed a Frycheiniog. Mae gan y gymdeithas grwpiau yn
Aberhonddu, Trefaldwyn a Maesyfed.
Ysgrifennydd: Mr. Roger Pearson,
Waterloo Cottage, Llandeilo Graban, Builth Wells, Powys LD2 3SJ
|
 |