Search billions of records on Ancestry.com

CYNHWYSIAD.

Coed y Pry - Cartref Llenor, Awdur, Hanesydd a Chymwynaswr Genedl

Coed y Pry - Cartref Llenor, Awdur, Hanesydd a Chymwynaswr Genedl
Syr Owen Morgan Edwards (1848 -1920)

Cyflwynir y llyfr hwn i rieni Cymru, lle mae gwaith a serch yn gwneyd y cartref yn lân a sanctaidd; ac i blant Cymru, a gofiant am eu cartrefi annwyl byth.


I.--DOLWAR FECHAN,--CARTREF EMYNYDDES.
Ymysg bryniau Maldwyn y mae Dolwar Fechan, yn un o'r hafannau bychain gwyrddion sydd rhwng Llanfihangel yng Ngwynfa a dyffryn y Fyrnwy. Gorsaf Llanfyllin yw'r agosaf. Ganwyd Ann Griffiths Ebrill 1776, bu farw yn Awst 1805. MAP

II.--TŶ COCH,--CARTREF PREGETHWR.
Saif yng nghysgod y graig aruthrol goronir gan adfeilion castell Carn Dochan ym Mhenanlliw ramantus, yng nghanol Meirion. Ganwyd Robert Thomas (Ap Fychan) yma, mewn tlodi mawr; a chyn marw, Ebrill 23, 1880, yr oedd wedi dod yn bregethwr enwog ac yn athro duwinyddol. MAP

III.--GERDDI BLUOG,--CARTREF BARDD.
Yng nghanol mynyddoedd Meirionnydd, uwchben dyffryn cul a rhamantus, y mae'r Gerddi Bluog. O Harlech neu Lanbedr yr eir yno. Dyma gartref Edmund Prys, swynwr yn ol cred gwlad, archddiacon Meirionnydd wrth ei swydd, a chyfieithydd melodaidd y Salmau. Ganwyd ef tua 1541, bu farw tua 1621. Nid edwyn neb le ei fedd ym Maentwrog. MAP

IV.--PANT Y CELYN,--CARTREF PER GANIEDYDD.
Amaethdy ymysg bryniau Caerfyrddin, yn nyffryn Towi, yw Pant y Celyn. O Lanymddyfri yr eir yno Ganwyd "per ganiedydd Cymru," gerllaw iddo yn 1717; bu farw yno Ionawr 11, 1791. MAP

V.--BRYN TYNORIAD,--CARTREF GWLADGARWR.
Y mae Bryn Tynoriad yn nyffryn yr Wnion, ar ochr y Garneddwen, yn agos i orsaf Drws Nant. Y mae'r TŸ Croes ar gyfer yr orsaf agosaf yng nghyfeiriad Dolgellau, sef y Bont Newydd.
Ganwyd Ieuan Gwynedd: Medi 5, 1820, bu farw Chwefrol 23, 1852. MAP

VI.--TREFECA,--CARTREF DIWYGIWR.
Yn rhan brydferthaf Sir Frycheiniog, uwchlaw Talgarth, rhwng ffrydiau Wysg a Gwy, y saif coleg a phentref bychan Trefeca,--lle wnawd gan Howel Harris yn "gartref" cymundeb o dduwiolion diwyd.
Ganwyd Howel Harris Ionawr 29, 1714; bu farw Gorffennaf 21, 1773.
MAP

VII.--CAER GAI.--CARTREF UCHELWYR.
Hen balas Rhufeinig yw Caer Gai, ar fryncyn heulog uwch ben Llyn Tegid, yn nyffryn uchaf y Ddyfrdwy. Yr oedd y Fychaniaid, hen deulu Caer Gai, yn enwog am eu hathrylith.
Y ddau fwyaf adnabyddus ohonynt ydyw Gwerfyl Fychan a Rowland Fychan. Yn amser y Rhyfel Mawr yr oedd Rowland Fychan yn byw, a Gwerfyl dipyn yn gynt. MAP

VIII. --CEFN BRITH,--CARTREF MERTHYR.
Ffermdy ar lethr mynydd Epynt, wedi gweld dyddiau gwell, yw Cefn Brith. O Langamarch yr eir yno hawddaf Ganwyd John Penri yn y lle tawel hwn yn 1559; rhoddwyd ef farwolaeth fel bradwr, Mai 29, 1593.
MAP

IX. --GLAS YNYS,--CARTREF BARDD CWSG.
Y mae Glas Ynys ar fryn bychan yn codi o'r tipyn gwastadedd sy'n gorwedd rhwng mynyddoedd Meirionnydd a'r môr. O Harlech yr eir yno gyntaf. Mab Glas Ynys oedd Elis Wyn, awdwr Gweledigaethau Bardd Cwsg.
Treuliodd ei fywyd yma, o'i eni yn 1671, hyd ei gladdu yn 1734, yn Llanfair gerllaw. Y mae ysgriflyfrau o'i waith yn perthyn i eglwys Llanfair.
MAP

X. --TŶ'R FICER,--CARTREF BARDD MOES.
Y mae Tŷ'r Ficer yn hen dref Llanymddyfri. Y mae'n awr yn adfeiliedig iawn. Ynddo y goleuwyd Canwyll y Cymry gan Rhys Prichard, "yr Hen Ficer," a anwyd yn 1579, ac a fu farw yn 1644.
MAP

XI. --Y GARREG WEN,--CARTREF CANWR.
Yn Sir Gaernarfon, rhwng Cricieth a Phorthmadog, y mae amaethdy'r Garreg Wen, ar lethr hyfryd, lle tyf blodau lawer mewn cysgod rhag gwynt y môr.
Dafydd, mab y Garreg Wen, meddir, yw awdwr yr alawon Codiad yr Ehedydd a Dafydd y Garreg Wen.
MAP

XII. --TŶ DDEWI,--CARTREF SANT.
Saif Tyddewi ar lan môr gorllewinol Dyfed, yn eithaf sir Benfro. Ar draed neu mewn cerbyd yr eir yno, dros un bryn ar bymtheg o orsaf Hwlffordd. Cartref Dewi, nawdd sant Cymru, ydyw. Yn ol pob tebyg, cenhadwr dros Grist at baganiaid rhannau gorllewinol Cymru oedd Dewi Sant.
Yr oedd yn byw rywbryd rhwng 450 a 600. MAP

OL NODYN
Sylwadau pellach gan OME

*Bydd dilyn y cyswllt MAP yn mynd â chi i fap OS sy'n dangos (yn fras) safle'r cartref. Mae'r mapiau ar we-fan cwmni Multimap.com. I ddychwelyd i'r ddalen yma defnyddiwch y botwm "nol" (back) ar eich porwr.

Hafan

Mynegai