Search billions of records on Ancestry.com

Cerddi'r Bugail
Hedd Wyn

Cerddi Coffa
 R Williams Parry

Cynnwys

Hafan

BLODAU COFFA

Griff Llewelyn
Y llynedd mi welais Griffith Llewelyn,
Ei lygaid yn lasliw, ei wallt yn felyn.

Yn ei olwg lednais a'i dremiad tawel
Roedd nodau ei deulu, a golau'r capel.

Ond heddiw maei deulu o dan y cymyl,
Ac yntau yn huno yn sŵn y megnyl.

Caethiwa di, Arglwydd, ddwylo y gelyn
Darawodd un annwyl fel Griff Llewelyn.


 Yr Aberth Mawr
O'i wlad aeth i warchffos lom - Ewrob erch,
Lle mae'r byd yn storom;
A'i waed gwin yn y drin drom
Ni waharddai hwn erddom.

Yr Antur Olaf
Un dydd i'w antur gadawodd yntau
Henfro odidog ei ddifyr dadau;
Weithian ei glodydd edrydd ei frwydrau
Hyd erwau Ewrob a'i du ororau;
Ac yn y bell ddi-gân bau - rhoes yn glaf
Ei gŵryn olaf yn sŵn y magnelau.
Nid an Ango
Ei aberth nid â heibio,—ei wyneb
Annwyl nid â'n ango,
Er i'r Almaen ystaenio
Ei dwrn dur yn ei waed o

Hafan Mynegai Fyny Diwethaf Nesaf