Search billions of records on Ancestry.com

Cerddi'r Bugail
Hedd Wyn

Cerddi Coffa
 R Williams Parry

Cynnwys

Hafan

ADFEILION HEN EGLWYS

Ei hudol furiau lwydynt;- alawon
Ni chlywir ohonynt
Namyn dyfngor y corwynt
Ac isel gri gweddir gwynt

 

Y NADOLIG

DEG ŵyl, dan las dy gelyn - una gwlad
Yn swyn gwledd a thelyn;
A hyd Fethlem dyry dremyn
Ar y Duw Sanct yn ei grud syn.

 

NOS O RAGFYR

HENO, cwsg, dlws ieuanc oed; oer yw gwaedd
Arwr gwynt or dergoed;
Cwsg dan nen fy mwth henoed,
Cwsg, cwsg nes tawela'r coed.

Heno clyw gri aflonydd - o leddf ing
Ymladdfeydd fforestydd;
Huawdl sain y dymestl sydd
Fel alltud ar foel elltydd.

Hyd yr êl heibio'r helynt
Yn dy gwsg cei wrandaw gwynt
Gwyna tros faes a gwaneg
Ail mun friw ar lomwaun freg

Hafan Mynegai Fyny Diwethaf Nesaf