Cerddi'r Bugail
|
DOLI
|
||
| ĀR y fronfraith roddi cerdd Mewn coedwig werdd o dderi; Cār y geinach redyn glān Y marian ar mieri; Caraf finnau er pob sen Wźn heulwen a fy Noli. Clywir heddiw weddwon bro Yn cwyno tan eu cyni; A barus waedd y rhyfel drydd Faith wledydd i dylodi; Canaf finnau, brydydd syn, Fy nhelyn i fy Noli. Carodd Dafydd gywydd gwin Ei Forfydd liw'r goleuni, Carodd Ceiriog awen lān Fyfanwy Fychan heini; Dwedaf finnau, bobol bach, Anwylach yw fy Noli. Pan gaeo fy llygaid wrth farw Goleued y mellt draws y glyn, Disgynned y glaw ar fynyddoedd A chaned y gwynt fel y myn. |
|
|
|
|
|
|