WYF i yn hoffi'r blodau
Syn tyfu'n wyllt a rhydd
Heb undyn yn eu gwylio
Ond awel, nos a dydd;
Yr wyf yn mynd bob hafddydd
Heb gymar gyda mi
I gasglu'r blodau gwylltion
Ar lannau glas y lli.
Af ati'n fore, fore,
I gasglu'r blodau hyn
Cyn i'r ehedydd ddeffro
Rhwng rhedyn gwyrdd y bryn;
Rwyf wrthi hyd yr hwyrddydd
Nes casglu llu di-ri
O flodau gwyn a melyn
Ar lannau glas y lli.
|
Dychmygais wrth ddod adre
Weld llawer ysbryd hy
Yn llamu dros y caeau
A'i wallt yn hir a du;
Ond toc, fe welwn olau
Ffenestri nghartref i
Lle cefais wên i'm derbyn
O lannau glas y lli.
Mae gennyf chwaer yn gwywo
Dan farrug oer y glyn;
Mor hoff yw hi o'r blodau-
Rai melyn, gwyrdd, a gwyn;
Bob nos rwyn dyfod gartref
A'm blodau gyda mi
I lonni'r hon syn gwelwi
Ar lannau oer y lli. |