
"Ei dir ef fydd wedi ei fendigo gan yr Arglwydd, a
hyfrydwch y nefoedd, a gwlith, ac a dyfnder yn gorwedd isod;
Hefyd a hyfrydwch cynnyrch yr haul, ac a hyfrydwch addfed-ffrwyth
y lleuadau;
Ac a hyfrydwch pen mynyddoedd y dwyrain, ac a hyfrydwch bryniau
tragwyddoldeb;
Ac a hyfryd wch y ddaear ac a'i chyflawnder; ac ag ewyllys da
preswylydd y berth."
O'r môr a'r gwastadeddau sy'n eu hamgylchu, gellir gweled mil mynyddoedd Cymru'n ymgodi tua'r nef. I estron, y mae golwg ryfedd a gwyllt a dieithr arnynt: i Gymro crwydredig y mae pob peth ond hwy'n ddieithr - ar wastadeddau pellaf y ddaear Lloegr hwy, mewn dychymyg a hiraeth, yn ei groesawu'n ôl.
Os mynnir deall hanes Cymru, ac os mynnir adnabod enaid y
Cymro, rhaid dechrau gyda'r mynyddoedd. Hwy fedr esbonio
datblygiad hanes Cymru, - dangos paham y mae'n wlad ar
wahân, pam mae'n rhanedig, ac eto'n un. Hwy fedr esbonio
cymeriad amlochrog y Cymro,- eu haruthredd gwyllt hwy a thawelwch
eu cadernid hwy sydd wedi ymddelwi yn ei enaid, enaid mor lawn o
rinweddau ac mor lawn o ddiffygion.
Wrth edrych ar fap o Brydain, gwelwn ei bod yn ymrannu'n ddwyrain
ac yn orllewin. Ar hyd ei thraethell orllewinol ymestyn rhes hir
o fynyddoedd uchel, gan edrych, dros fryniau'r Iwerddon, tua'r
môr mawr agored, a'r dyfodol. Ond gwastadedd ydyw'r rhan
ddwyreiniol, yn edrych yn ôl, dros gulfor, tua'r hen fyd.
Mewn rhyw dri lle neu bedwar, y mae toriad yn y rhes o
fynyddoedd, ac ymestyn y gwastadedd, trwy'r agoriadau hyn, i fin
môr y gorllewin. Rhennir y mynydd-dir, felly, yn wahanol
wledydd, - Cernyw, Cymru, Ystrad Clwyd, a'r Alban, - gyda llinell
droeog glan y môr yn derfyn ar ochr y gorllewin, a chyda
gwastadeddau Lloegr ar ochr y dwyrain.
Ymestyn Cymru allan i'r môr, a golchir godrau ei mynyddoedd
ganddo ar dri thu, - y gogledd, y gorllewin, a'r de. I'r dwyrain
gorwedd gwastadedd Lloegr, yr hwn dery fôr y gorllewin wrth
enau'r Ddyfrdwy, gan wahanu Cymru oddi wrth Ystrad Clwyd, ac wrth
enau'r Hafren, gan wahanu Cymru oddi wrth Gernyw. Gwelir ar
unwaith fod natur wedi gwahanu Cymru oddi wrth rannau eraill
Prydain, a fod iddi ei hanes priodol ei hun. Ymgyfyd ei
mynyddoedd mewn annibyniaeth naturiol uwchlaw'r gwastadedd, ac ar
wahân oddi wrth y mynydd?diroedd eraill. Erbyn hyn, y mae
holl fynydd-diroedd a gwastadeddau yr ynysoedd Prydeinig wedi
ymuno dan yr un llywodraeth. Ond cyhyd ag y bo mynydd a
gwastadedd yn bod, bydd gwahaniaeth hanfodol rhwng Cymry'r
bryniau a Saeson y gwastadeddau; er y gallant ymuno at lawer
amcan, at lawer amcan arall rhaid iddynt fod byth ar wahân.
Y mae gwir yng ngeiriau'r bardd ddarluniodd y mynyddoedd,
"Dyma gastell gododd Duw,
Ar eira ar ei ben,
I anibyniaeth Cymru fyw,
Ar frig Eryri wen."
Os ydyw ei mynyddoedd yn gwahanu Cymru oddi wrth bobman arall, y
maent yn ei rhannu hefyd ? heblaw ysbryd annibyniaeth cawn ynddi
ysbryd ymbleidio ac ymsectu. Pe buasai natur wedi gwastadau
pennau'r mynyddoedd a llenwi'r dyffrynnoedd dyfnion sy'n eu
rhannu, gan wneud y wlad yn wastad yn ogystal ag yn uchel, buasai
Cymru'n unol yn ogystal ag yn annibynnol. Ond ymsaetha'r
mynyddoedd i fyny, mewn afreoleidd-dra rhamantus, a rhennir y
wlad gan afonydd sy'n gwneud eu dyffrynnoedd yn ddyfnach bob
dydd.
Trwy ganol Cymru rhed trum ardderchog o fynyddoedd o ogledd i dde, o fôr i fôr. Y mynyddoedd hyn a'u llethrau ydyw Cymru. Nid oes ond ychydig o'r wlad, - rhannau o Fôn, Dyffryn Clwyd, Dyffryn Maelor, a thraeth y de, yn llai na dau gant o droedfeddi o uchder,- rhyw gylch bychan o amgylch y wlad. Y tu mewn i'r cylch hwn ceir cylch mwy, o dir dan bum cant o droedfeddi. Ond ymgyfyd canolbarth y wlad, y rhan fwyaf o lawer o honni, i uchder sydd rhwng pum cant a dwy fil o droedfeddi ac ymsaetha rhai pigau yn uwch na hyn, cyrhaedda mynyddoedd Eryri'n uwch na thair mil a hanner o droedfeddi. Cyrhaedda'r mynyddoedd yn uwch na llinell y ddwy fil mewn pedwar lle - a gellir edrych ar bedwar mynydd uchel fel pedwar penteulu, gyda thylwyth lluosog o'u hamgylch. Y cewri mud hyn, - rhyfelwyr o lech a charreg galch, gyda chrib o wenithfaen ar eu helmau, - wnaeth hanes Cymru y peth ydyw, ac nid oes frenin eto wedi medru dileu eu dylanwad ar hanes a chymeriad eu preswylwyr.
Yn y gogledd ymgyfyd yr Wyddfa a theulu Eryri. Uchel ac
ysgythrog ydyw y rhain, rhes gribog yn ymestyn o ddyffryn Conwy i
eithaf penrhyn Llŷn. Wrth eu traed gorwedd Môn yn
dawel yn y môr. Cymdogaeth agosaf Eryri ydyw mynyddoedd
Berwyn, teulu lluosocach a manach, a'r Aran yn ymgodi mewn
prydferthwch o'u canol. Yr un defnydd sydd i'r rhain, - llech a
chrib o wenithfaen, - ond gyda charreg galch yn ymyl wen i odrau
eu gwisg. Nid ydynt yn sefyll mor agos at eu gilydd a mynyddoedd
Eryri, ac nid ydyw'r wisg sydd dan eu hamwisg wen yn unlliw, - y
mae mynyddoedd llech Meirion yn laslwyd, bryniau calch Dinbych yn
wynion, ac is-fryniau glo Fflint yn dduon. Mynyddoedd Eryri a
llethrau gorllewinol y Berwyn ydyw gwlad Gwynedd; llethrau
dwyreiniol y Berwyn ydyw gogledd gwlad Powys.
Yn nes i'r de gorwedd Plunlumon a'i blant, mewn hanner cylch yn
edrych tua'r môr, gyda Cheredigion yn ei fynwes, a Phowys
wrth ei gefn. Wrth ei droed y mae gwlad Dyfed yn ymestyn i'r
môr, gyda phigau gwenithfaen yn ymgodi o fryniau ei
gogledd, a chestyll yn gwylio dyffrynnoedd hafaidd tlysion y
de.
Os edrychir i'r de-ddwyrain o drumau Plunlumon gwelir y Mynydd Du a'i dylwythau, - yn llawn o gyfoeth dihysbydd, - a gwastadedd bras rhwng eu godrau a môr y de. O gymoedd eu dwyrain rhed yr Wysg a'r Wy, - yn loyw fel arian cyn gadael y mynyddoedd, - i ymdroelli'n ddioglyd trwy ddaear goch Gwent tua genau'r Hafren a'r môr. Rhwng Gwent a Dyfed y mae bro a bryniau Morgannwg gwlad y cyfoeth a'r lluoedd; gwlad "yn llwynaidd gan berllanau, a gwlad yr haearn a'r glo: gwlad y maendai lle mae mwynder," a gwlad pebyll Cedar.
Fel eu gwlad a glannau eu moroedd, felly hefyd y mae'r Cymry.
Gwyllt ydyw'r wlad, amrywiol, a rhyfedd; troellog ydyw ei ffyrdd,
ac ni wel neb a'u tramwyo fawr ymlaen. Y mae Lloegr yn wastad, ei
ffyrdd yn union, Lloegr y teithiwr o ben y daith faint sydd
ganddo i'w gerdded, a faint fydd ei ludded. Felly am drigolion y
wlad, - gŵr rheolaidd a phwyllog ydyw'r Sais, gŵr y
gellir dibynnu arno, gŵr wel lwybr dyletswydd ei fywyd yn
glir o'i flaen, gŵr heb bryder nac ansicrwydd meddwl nac ofn
nac anwadalwch. Ond am y Cymro, y mae ei feddwl ef yn rhamantus
ac athrylithgar, a gobaith yn gryfach na ffydd; ni wel ymhell
ymlaen, y mae ei holl fryd ar y llecyn y digwydd fod ynddo: y mae
ei lwybr heibio cornel y mynydd, ni wel beth sydd o'i flaen, nid
yw dyfalbarhad dyn y llwybrau sythion yn perthyn iddo, ac nid oes
sicrwydd beth a wna pan fo'r mynydd rhyngoch ag ef. Plentyn y
mynyddoedd ydyw,-yn addaw i Dduw ar lawer awr o frwdfrydedd fwy
nag y medrai bywyd o ddyfalbarhad ei gyflawni. Cryfder dychymyg a
dyhead am fywyd gwell, a phruddglwyf wrth weled mor anodd ydyw
sylweddoli pan fo'r brwdfrydedd wedi oeri, - dyna brif nodweddion
y Cymro. Rhoddwyd swm ei gymeriad, hawster dychmygu ac anhawster
cyflawni, mewn geiriau sydd erbyn hyn yn ddihareb,-
Hawdd yw dwedyd, Dacw'r Wyddfa;
Nid eir drosti ond yn ara,
Yr ymdrech gyntaf yn hanes Cymru yw'r ymdrech i gadw yr holl fynyddoedd dan eu teyrn. Dyna oedd amcan llawer un galluog o Arthur ddychymyg hyd Gadwallon hanes. Ond y mae toriad yn y mynyddoedd, ymestyn Dyffryn Maelor rhwng y Berwyn a mynyddoedd Teyrnllwg ac Ystrad Clwyd, ac nid oedd Caer yn ddigon cadarn i rwystro'r gelyn dorri hen Gymru'n ddwy.
Wedi hynny bu'r mynyddoedd yn ymladd gyda'r tywysogion Cymreig yn erbyn brenhinoedd Lloegr. Ac er i Gymru ddod yn rhan o deyrnas brenhinoedd Lloegr, cadwodd y mynyddoedd hi'n wlad ar wahân. Y mae'r mynyddoedd yn sicrhau y bydd y Cymry'n bobl neilltuol, bydd yr Wyddfa yn y môr cyn y collant nodweddion eu hanes a'u meddwl.
Rhoddodd y mynyddoedd i Gymru undeb ac annibyniaeth; undeb trwy wneud gwahaniaeth rhyngddi a Lloegr, annibyniaeth trwy ei rhannu'n gantrefi ac yn gymydau. A dyna ydyw hanes hapus gwlad fynyddig fo dan wenau Rhagluniaeth, - undeb ac annibyniaeth yn graddol gryfhau eu gilydd, cyfraith a rhyddid yn dod yr un peth.
NODYN I.
Rhennid tir Cymru yn dywysogaethau, cantrefi, cymydau. Yr oedd
terfynau'r tywysogaethau'n newid o hyd. Y pedair gadarnaf oedd
Gwynedd, Powys, Deheubarth, a Morgannwg, - yn ateb i ryw fesur i
bedair esgobaeth y wlad.
GWYNEDD. Yr oedd Môn yn dair cantref, dau gwmwd ymhob
un. Ar ei chyfer yr oedd cantrefi Arllechwedd ac Arfon. Ar
lethrau deheuol Eryri yr oedd cantrefi Llŷn, Eifionydd, ac
Ardudwy. O amgylch Gwynedd yr oedd cylch o gantrefi fyddai'n aml
yn rhan o honni, - Rhos a Rhufoniog, sef ehangder Mynydd
Hiraethog, rhwng Conwy a Chlwyd; Tegeingl, y gantref fryniog
rhwng Clwyd a Dyfrdwy; Dyffryn Clwyd; Edeyrnion a Phenllyn,
cantrefi mynyddig dyffryn uchaf y Ddyfrdwy; Meirionnydd, rhwng
Maw a Dyfi. Weithiau byddai Mawddwy a Chyfeiliog, holl lethrau
dyffryn Dyfi, dan dywysog Gwynedd hefyd.
POWYS, gwlad y Berwyn, cantrefi a chymydau Dyfrdwy a Hafren.
Dyffrynnoedd y Ddyfrdwy sy'n agor i Loegr yw Powys Fadog, - Ial,
Ystrad Alun, Maelor, y Waen, Croesoswallt, Dyffryn Ceiriog.
Dyffrynnoedd Hafren yw Powys Wenwynwyn, - Llannerch Hudol, Ystrad
Marchell, Mechain, Caereinion, Cedewain, Arwystli.
Rhwng y rhain a'r De, y mae cymydau Ceredigion o du'r môr i
Blunlumon; a Maelenydd, Elfael, Buallt, a Brycheiniog yr ochr
arall, - cymoedd Gwy a'r Wysg. Byddai'r tywysogaethau bychain hyn
yn newid dwylaw'n aml, weithiau dan Wynedd, dro arall dan Bowys,
yna dan arglwyddi'r goror, a phob amser yn llawn ysbryd
annibyniaeth.
MORGANNWG a Gwent, - dau gwmwd ar hugain hyfryd, - sydd ar lethrau a bro y De o Wy i Nedd. I'r gorllewin y mae tair cantref mawrion Ystrad Tywi, rhan arhosol y DEHEUBARTH o Nedd i Deifi. Rhwng hon a'r môr y mae ugain cwmwd Dyfed, bryniau a gwastadeddau y de-orllewin.