Search billions of records on Ancestry.com

CREDWN mai nid annyddorol fydd yr Alargan ganlynol, gan Gutyn Ebrill. Hi oedd y fuddugol mewn cystadleuaeth eisdeddfodol yn Nghorris, Medi 26, 1874 

GALARGAN
AR OL
MR. HUMPHREY DAVIES,
ABERCORRIS.

DWED y testyn mai galargan
Ydyw teilwng bwnc y dydd,
Am yr hybarch Humphrey Davies,
Un o gadfridogion ffydd;
Hoffa rheswm gael esboniad,
Pam y mynwn Alar-gân,
Am un aeth o fyd y galar
At ei delyn i’r nef lân!

Nid fel rhai heb unrhyw obaith,
Y tywalltwn ddagrau n ffol,
Tystiolaethau fil adawodd,
I ni yma ar ei ol,
Y newidiai faes ei frwydr,
Am fro hedd a phalmwydd gwyrdd;
Ac yr ai trwy’r fuddugoliaeth
Lle mae'r dewrion yn fu myrdd.

Pan yn sangur gladdfa dawel
Lle yr huna yr hen dad,
Dinas Meirw i hoff Rehoboth
Un o gysegr-fanau'r wlad,
Cwmwl tystion ol rinweddau
A’i weithgarwch pan yn fyw,
Gyfyd yno in hysbysu,
WELE FEDD CADFRIDOG Duw.

Gallwn inau ddwrdio Angau,
(Fel mae arfer llawer rhai)
Am golledau ardal Corris
Pan yn chwalu pabell glai,
Un a fu am haner can mlwydd
Iddi’n Flaenor ffyddlon iawn,
Fel crefyddwr a masnachydd,
Dyn, a gwir Ryddfrydwr llawn.

Er ein gobaith o’r byd arall,
Wylwn eto ddagrau’n llyn,
Am fod prinder cymeriadau
Mor ardderchog ar rhai hyn;
Hwn yn Batriarch Abercorris
Dros wyth deg o flwyddau maith,
Fu yn werthfawr heb ei eilydd,
Gorfoleddai yn ei waith.
Gwaith a wnaeth trwy fasnach eang,
Gwaith wrth fagu teulu mawr,
Gwaith cymydog wnai i’w ardal,
Gwaith a’i codai gyda’r wawr;

Ysbryd gweithio a gynhyrfai
Ei ewynau cryfion ef,
Nes y tynai waith y ddaear
O dan ddelw gwaith y Nef.

Nid yn nghysgod amddiffynfa
Gaerog, y gweithredai ef,
Ond ar flaen y gâd y byddai,
Heriai fyd, ac uffern gref;
Dewr ymladdai â phechodau,
Gwympodd filoedd yn mhob oes :
Meddai cleddyf ein hen gyfaill
Awch parhaol dur y groes.

Nid ei dalu’n nghoin y ddaear,
Gai efe am lafur maith,
Gwenau’r nef a garai fwyaf
Yn gydnabod am ei waith;
Rhai athrawon cyflogedig
Ger ei fron a aent yn fud,
Wrth weld maint a phwys y llafur
Wnai efe at wellar byd.
Llafur cariad at ddynoliaeth,
Ac eiddigedd dros ei Dduw,
A gynhyrfodd gorff ac enaid
Wmffre Dafydd tra fu byw;
Ar ei ddenlin yr addolai
Wrth ei allor hoff ei hun,
Gan addysgu i blant in ffyddlon,
I fawrygu Duw a dyn.

Ei weddiau yn y dirgel,
Oresgynai orsedd Iôr,
Dros ei dylwyth a’i gymdogion,
Achos Iesu ar dir a môr ;
Cariai adswn creigiau Corris
Erfyniadau yr hen dad,
Am gael nodded nef i’r gweithwyr
Yn mheryglon aml y wlad.
Bu’n ddirwestwr egwyddorol,
Daliair faner yn ddigryn,
Mynai sychu pob ffynhonell
Feddwol, o fewn Talyllyn;

Rhoes ei fywyd a’i areithiau,
Noddfa'r gelyn yn un fflam,
Bythol barch a roir i’w enw
Anwyl, gan aml dad a mam.
Crynair meddwyn yn ei wyddfod,
A dywedai, Ffiaidd wyf !
Ond tywalltai yr hen Gristion
Olew cariad lond ei glwyf;
Gwisgai hioedd o’r chwarelwyr,
Yn eu dillad a'u hiawn bwyll
Ar ol gadael llwybrau'r felldith,
Y gyfeddach a’i holl dwyll.

Bu’n arweinydd i’r fforddolion
Ienainc tua, dinas Duw,
Croesaw calon fyddai iddynt
Gael ei gymorth ef i fyw;
Haner canrif yn ddiacon,
Afu’n safle heb ei hail,
In hen gyfaill pan roedd blodau
Pur o rinwedd ar ei ddail.

Nid ei dynu yn anfoddog
Byddai i frodyr yn ei flaen,
Ni roes balchder dyn ystyfnig
I’w gymeriad un ystaen;
Ymestynai at ei orchwyl,
Yn wirfoddol filwr rhydd,
Gwneyd daioni pan y gllaf
Ydoedd arwyddair ei ddydd.

Rhoes ei help i ddwyn addysgiaeth
Enwog i addurno’r wlad,
Ni choleddai wag amheuaeth
O’r canlyniad, trwy un brâd;
Ca’dd llenyddiaeth a chelfyddyd, ,.
Pob diwylliant fedda’r fro
Ei gefnogaeth fwyaf diwyd,
Dyn i’r lliaws ydoedd o.

Gwelodd gladdu llu o’i frodyr,
Ac ol deulu hoff ei hun,
Yntau'n aros fel cedrwydden
Rymus, iraidd, deg ei hun;
Dedwydd iddo fu eu harwain
At y bâd i groesi r lli,
Gyda’r HWN, a rydiai’rr afon
ARWR brwydr CALFARI.

Cododd feibion o enwogrwydd,
Pur, rhinweddol, yn eu gwlad,
Merched ffyddlawn i hyfforddiant
Gwir ragorol mam a thâd;
Ei fab DAFYDD er ei fawredd
Aeth o flaen ei dâd i’r glyn,
Bu y fro o ben-bwy-gilydd,
Wedi i golli ef yn syn.

Cafodd daflu i fantell loyw
Ar ysgwyddau Humphrey bach
(Fel y geilw’r wlad yr iengaf)
Teilwng flaenor o’r ffydd iach;
Bydd ysbrydiaeth hen ELIAS
Yn yr ELISEUS yn llawn,
A gofala’r nef yn deilwng,
Am eneiniad ar ei ddawn.

Wedi cyraedd pedwar ugain,
Mynai’r patriarch fod yn llanc
Hoew, gyda diwygiadau,
Daliai’n wrol hyd ei drangc;
Mynodd uno yn y fyddin
Wrol gyda’r Temlwyr Da.
Rhywbeth wnelai sobri meddwon
Wnai ei ornaf oer yn ha.

Bwlch a dorwyd mewn byddinoedd,
Pan fu farw yr hen sant,
CORRIS wylai yn naturiol,
Fel y fam ar ol ei phlant;
Cofio i safle fel dyngarwr
A haelionus deym y lle
A chrefyddwr heb ei eilydd,
Ddalia gwyn am dano fe.

Cyrddau Misol De Meirionydd
Gawsant deimlo colled chwith,
Yn marwolaeth Wmffra Dafydd
O’r ffyddlonaf yn eu plith;
Ond mae'r hâd a hauwyd ganddo
Eto n tyfu yn y tir;
Tra bo Duw yn bur i’w eiriau,
Ffrwytha yntau amser hir.

Gall dysgawdwyr byd rychwantu
Pwys a mesur pethau mawr,
Dal cyfathrach gyda’r heuliau,
Tynu’r mellt o’r nef i lawr
Gwneyd gwrhydri anghredadwy
Ond ni allant fesur nerth,
Na rhoi pris ar waith y Cristion.
Tri-ugein-mlwyddd dyna werth!

Dichon nad oedd dydd ei farw
Yn dywyllwch drwy y Sir,
Ni wnaed rhwysg i glych-alaru
Dydd ei anwyl, digon gwir;
Ond o’r nefoedd daeth gosgorddlu
I Rehoboth at yr awr,
I gael gweled corff y gwron
Yn cymysgu â llwch y llawr.
Ni ŵyr llu o rai gwybodus
Fawr am ardal Corris iach,
Am ei bryniau serth a llechog,
Am ei phêr afonig fach;
Ond gŵyr Mesuronwyr Gwynfa
Am bob llathen yn y lle,
A gysegrwyd i weddiau,
A chlodforedd Teym y Ne

Mynnir codi cofgolofnau,
Am enwogion yn mhob oes,
Fel i herio anghof creulon
I ddistrywio’r clod a roes;
Cenedlaethau, i fydolwyr,
Am wrhydri dodda n llwyr
Tan belydrau dysg a chrefydd,
Fel y todda canwyll gŵyr

Adeiladodd Wmffra Dafydd
Ei gofgolofn yn ei ddydd,
Trwy ei foes, a’i fywyd duwiol,
Pyramidiau maes ei ffydd;
Ei sedd wâg o fewn Rehoboth
Draetha’r golled in hoes ni;
A’i rinweddau fy’n ddylanwad
Tra cydnebir nefol fri

Henffych well i’w goffadwriaeth!
Arogl hyfryd ini yw,
Tyfa blodau gardd Paradwys
I bereiddio bedd gŵr Duw ;
Gyda’r udgorn floedd ddiweddaf
Llwchyn at ei lwchyn ddaw
O falurion daear Corris
Gelwir ef i’r ddcheulaw.


Anfonwyd y llinellau canlynol i ni i’w dodi yn ein llyfryn gan ein hen gyfaill Mr. Evan Morris (Ieuan Meurig), Abergynolwyn, yr hwn sydd yntau erbyn hyn wedi myned drosodd at y mwyafrif:-

LLINELLAU COFFADWRIAETH
AM HEN DADAU CREFYDDOL CORRIS AC ABERLLEFENNI

O na buasai ban fynyddoedd Cymru,
A'u heirdd lanerchau, heddyw yn llefaru
Eu dwfn gyfrinion am fywydau’r saint
A dreuliwyd ar eu minion! O’r fath fraint
A fuasai ini gael yr hen amodau
Yn ngwres gweddiau taerion fyrdd y tadau
Mae holl lanerchau Cymru’n meddu’r fraint
O fod yn ddirgel-fanau llefau’r saint?
Ond dilyn llwybrau cewri’r llyfr hwn
Yw’n hamcan ni; a gormod gwaith mi wn
Fydd dodi bys ar ddau eu holl rinweddau,
I wasgu allan beth o'u peraroglau

Mae enwau llu o gedyrn crefydd heddyw
Yn fflachio yn ein cof fel sêr tryloyw;
A'u pur gynghorion, fel rhyw aur afalau
Yn nysgl ein cof yn. Nwylaw’n cydwybodau,
Mor newydd, iraidd, heddyw yn eu blas :
A phan y cawsom hwy yn nheymas gras,

Ah! WILLIAM RICHARD a’i blaenusrwydd fyddai
Yn codi n gwrid wrth nodi ein haml feiau!
Ac OWEN JONES yn codi gyda brys,
A thywel cariad, fel i sychu’n chwys;
A WILLIAM JONES, Tanrallt, ar lwybr uniondeb,
Yn cario n gyson faner wen ffyddlondeb.

Cynghorion GRIFFITH ELLIS o Bensarn,
Belydrant yn fy nghof drwy wawl y Farn!
A HOWELL JONES, bu yntau’n seren Iachau
Yn pefrio drwy ei fywyd diymhongar;
Bu RICHARD JONES a ROBERT LUMLEY, hefyd,
Yn ffyddlon fel dysgawdwyr ein hieuenctyd;
Ond heirdd frenhinoedd ydynt heddyw gyda’r Tad,
A Iesu’n Brawd yn haul a thestyn eu mwynhad.

A HUMPHREY DAFYDD a ROWLAND EVANS, fu
Yn beirdd gadbeniaid ar y tadau cu
Brenin Corris ! y gelwid Humphrey Dafydd,
Gyda hawliau y byd a hawliau crefydd
Gwnaeth ef y goreu’n gyson o’r ddangos fyd,
Cawr ar ei egni ydoedd ar bob pryd,
Yn sugno mêl o’r blodau heirdd amserol,
A thrwyddynt esgyn at y dillad dwyfol.

Mab ffawd fu Humphre Dafydd drwy ei oes,
Ond Rowland Evans yntau’n hollol groes;
Trwy ymdrech cadwai i ben uwchlaw y don,
Yn unig yn ei grefydd byddai’n llon;
Ei Dduw a’i deyrnas aeth a’i galon fawr,
Nes aeth yn ddiwerth bron at bethau’r llawr.
O! nefol wên a i hafaidd ymadroddion!
Am eu mwynhad. mae hiraeth ar fy nghalon
Cyfuniad o arafwch a doethineb;
Ireidd-dra ysbryd, drwy ei fawr dduwioldeb,
A fu ei fywyd, er pob croes a thrai,
Nes esgyn fry i wlad anfarwol Fai!

Tuedda’r hen i aros gyda’r hen, ar ol,
A chyfrif pob peth newydd braidd yn ffol;
Ond bu’r ddau dwysog yma’n hollol groes;
Cydweithient hwy â newydd ddull yr oes,
Credent fel eryrod yn eu blaen,
Gan gludo’u rhan, uchlaw pob tramgwydd-faen,
Ar eirch daionus Gymdeithasau’n gwlad;
Ar eu llwyfanau dawnsient mewn mwynhad.

Ac arnynt gwelsom un yn cael gwobrwyon
A’i ben yn wyn gan flodau y pren almon.
Roedd Humphrey Dafydd fel yr Aber loyw;
Ond Rowland Evans fel rhyw lyn y llynoedd,
Yn eang, dwfn, cyfoethog, o bur ddyfroedd;
Bu’r ddau’n cydfyw, fel law yn llaw, mewn hedd,
Cyd-farw bron, ac agos yw’r ddau fedd:
Teyrnasant eto oesoedd mewn adgofion,
A'u henwau hararoglant fel rhos Seion.
Heddwch i’w llwch ! Odidog gewri’r ffydd,
Nos angau iddynt aeth yn heulog ddydd.



ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD
GAN
E. W. EVANS, DOLGELLAU

 

hafan Llyfrau Fyny Diwethaf