PENOD IV
HUMPHREY DAVIES, ABERCORRIS

Crybwyllwyd eisoes mai mab i Dafydd Humphrey, Abercorris, ac Elisabeth ei wraig, ac ŵyr i Jane Roberts, Rugog, ydoedd gwrthddrych y benod hon. A chrybwyllwyd yn mhellach mai efe ydoedd eu hunig fab, er fod iddynt dair o ferched. Yn 1790 y ganwyd ef. O’i febyd yr oedd o duedd fywiog a chwareus; ac ymdaflai i chwareuon plant y gymydogaeth yn y modd mwyaf egniol. Rhagorai ddigon ar y cyffredin o honynt i fod yn fath o frenin ac arweinydd iddynt. Cyflawnodd wedi tyfu i fyny rai gorchestion gyda’r bêl droed ar Fawnog Ystradgwyn; ac yr oedd ‘hela y llwynog’ yn demtasiwn iddo wedi cyraedd addfedrwydd oedran. Yn Nghadair Idris un tro yr oedd y cwn yn rhy luddedig i neidio dros gagendor fechan er cyraedd at y cadnaw; a gwnaeth H. D. bont iddynt drosti ei gorff ei hun.

Ond er mor chwareus, yr oedd bob amser yn ŵr ieuanc bucheddol; a dechreuodd fod dan argraffiadau crefyddol yn lled foreu. Pan oedd tua phum’ mlwydd oed, torodd diwygiad crefyddol allan ymysg y plant; ac yn yr oedran tyner hwnw bu rhyw bethau hynod ar ei feddwl. Adgofion am y diwygiad hwn oeddynt y rhai boreuaf a arosasant gydag ef ar hyd ei oes am gyfnod ei febyd. Ymhen blynyddoedd ar ol hyn y bu yn gwrando pregeth gan John Elias yn Machynlleth, oddiar y geiriau, “Dan yr afallen y’th gyfodais,” &c. (Caniad Solomon viii. 5). Mor fawr fu effaith y bregeth hono ar ei natur fywiog, fel y gwaeddodd allan; a dyfnhawyd yn fawr yr argraffiadau boreuol ar ei feddwl. Edrychai yn wastad ar yr odfa hon fel amgylchiad pwysig yn hanes ei fywyd. Mynych y dywedai wrth gyfeirio ati :—“ Bum yn ddigon drwg lawer gwaith wedi hyny, ond nid anghofiais byth yr odfa hono, a’r hyn a deimlais ynddi.”

Heblaw yr addysg a gafodd yn yr ysgol gyda Lewis William, ymddengys iddo fod am ryw dymor mewn ysgol yn Kerry, Swydd Drefaldwyn; a thrwy wneuthur defnydd da o’i fanteision, daeth yn ysgolhaig lled wych yn ol safon addysg yn yr oes hono. Bu am beth amser yn dysgu galwedigaeth lledrwr gydag ewythr iddo, yr hwn, meddir, oedd yn byw ar y pryd yn Penygareg Fach, gerllaw y Rugog, ond anfonwyd ef, pan oedd tua 17 mlwydd oed, i Dremadog, i ymberffeithio yn yr alwedigaeth Arosodd yn y lle hwnw am oddeutu dwy flynedd a haner Nid ymddengys iddo ef, mwy na phlant eraill yn yr oes hono, er yr argraffiadau crefyddol dwysion ar ei feddwl, gael ei ddwyn i fyny yn yr eglwys; ac un o’r camgymeriadau mwyaf difrifol y syrthiodd yr hen Fethodistiaid iddo ydoedd cau y plant allan o’r cyfarfodydd eglwysig. Pwy a ddichon draethu y colledion a gafodd Methodistiaeth a chrefydd ein gwlad trwy hyn! Trwy ei amddifadu o’r fraint hono yn blentyn cawn H. D. yn llanc ieuanc, 17 mlwydd oed, yn troi oddicartref i ardal ddieithr, heb fod mewn cysylltiad â eglwys Dduw; ond ymddengys iddo barhau yno yn gwbl ffyddlon i foddion gras, a derbyn llawer o garedigrwydd oddiar law y brodyr crefyddol yn y lle, ac yn enwedig oddiwrth y Parchedig John Jones. Siaradai yn barchus hyd ddiwedd ei oes am sirioldeb y gŵr da hwn.

Wedi dychwelyd i Gorris bu yn dilyn yr alwedigaeth uchod am nifer o flynyddoedd mewn adeilad yn Penybont.

Pan oedd tua 25 mlwydd oed, cymerodd yn wraig iddo Mary, merch Richard Edwards, Aberllefenni. Dydd ei briodas ydoedd Hydref 8fed, 1815 Yr oedd teulu Jane Jones erbyn hyn wedi ymadael o’r hen balasdy, ac R. E. a'i deulu wedi cymeryd eu lle. Yr oedd iddo naw o blant, — pedwar o feibion, a phump o ferched. Y meibion oeddynt, Edward, yr hwn a dreuliodd y rhan fwyaf o’i oes yn Aberllefenni, ond a symudodd oddiyno i Ddyffryn-glyn-cul, gerllaw Aberdyfi, ac a fu farw yn yr Ogof Fawr, gerllaw Machynlleth; Evan, yr hwn y crybwyllwyd am dano mewn penod flaenorol yn byw yn Ffynonbadarn, ond a symudodd wedi hyny i ardal Llanwnog, yn Swydd Drefaldwyn;. William, a fu yn byw am oes faith yn Minffordd, yn yr hwn le hefyd y bu farw; a Richard, a fu farw gwpl o flynyddoedd yn ol yn Nolgellau. Y merched oeddynt Mary, priod H. Davies Elisabeth, priod Lewis Roberts, Tanycoed, gerllaw Abergynolwyn; Anne, priod John Williams, goruchwyliwr Chwarel Aberllefenni; Jane, priod Samuel Williams, Rugog; ac Ellen, priod Richard Edwards, Ceinws. O’r naw nid oes yn awr yn fyw ond Jane yn unig.

Ar adeg eu priodas nid oedd H. D. na’i wraig yn aelodau eglwysig, er eu bod ill dau yn grefyddol. Y noson gyntaf wedi dyfodiad y wraig ieuanc i Abercorris. Diolchai Dafydd Humphrey yn gynes yn y weddi deuluaidd am i’r Arglwydd roddi iddynt fel teulu drysor mor werthfawr. Ymhen tua thair blynedd ar ol eu priodas, sef yn 1818, yr ymunasant ill dau a’r eglwys. Dywedir mai 13 oedd nifer yr aelodau eglwysig y pryd hwnw; ond yn 1819, trwy y diwygiad grymus a gafwyd, ychwanegwyd at yr eglwys o 60 i 70 o aelodau. Yr oedd yn fyw hyd yn ddiweddar un chwaer a ddaeth i mewn yr adeg hono, sef Jane Roberts, Shop Newydd, yr hon a fu farw yn nhy ei merch yn Liverpool y flwyddyn ddiweddaf. Ymdaflodd H. D. ar unwaith yn egniol i waith crefydd; ac ymhen tua 18 mis wedi ei ymuniad â’r eglwys, dewiswyd ef yn flaenor ynddi. Ac yr ydym yn credu mai dyma y rhodd fwyaf estynwyd gan Dduw i Fethodistiaeth Corris o hyny hyd yn awr. Bychain iawn oedd galluoedd a doniau y ddau swyddog oeddynt yno o’i flaen, sef ei dad, Dafydd Humphrey, a Richard Anthony, ac i’w law ef o ganlyniad y disgynodd ar unwaith y gorchwyl o borthi y praidd. Ac nid ydym yn credu y bu o’r dechreuad hyd yn awr adeg mor bwysig ar yr eglwys Fethodistaidd yn Nghorris a’r adeg hono, pan yr oedd ynddi uwchlaw triugain o ddychweledigion newyddion, oll yn edrych i fyny at H. D. am ymgeledd ac arweiniad. Ond yr oedd ei gymhwysderau mor amlwg i’r gwaith, a'i ymroddiad iddo mor fawr, fel y dyrchafwyd yr eglwys yn fuan i dir cwbl wahanol i ddim a gyrhaeddasid ganddi erioed o’r blaen. Ac nid ydym yn credu i neb lanw mewn unrhyw eglwys le pwysicach nag a lanwyd ganddo ef yn eglwys Corris o 1820 i 1850.

Bu ei sefyllfa fydol yn llawer o fantais i’w ddylanwad. Yr oedd yn ŵr llygadog, llawn o yni a medrusrwydd; a gellir edrych yn briodol arno ef fel tad masnach yn yr ardaloedd hyn. Adeiladodd factory i drin gwlan, a chymerodd Felin Aberllefenni hefyd; ac nid oedd neb braidd o’r preswylwyr heb fod yn masnachu âg ef, ac yn gyffredin yn ei ddyled. Ond y mae yn rhaid i ni yn y fan hon frysio i wneyd y crybwylliad mai tystiolaeth unfrydol yr ardalwyr ydoedd na chafwyd ef erioed yn ceisio cymeryd unrhyw fantais ar neb yn yr eglwys oherwydd ei gysylltiadau bydol â hwynt. Yr oedd ei uniondeb perffaith yn ei fasnach yn adnabyddus i bawb, a’r ymddiried ynddo braidd yn ddiderfyn. Ac ar adegau o brinder yn enwedig dangosai lawer o dynerwch a goddefgarwch tuag at ei gymydogion. Wrth ystyried gan hyny y manteision hyn, y galluoedd cryfion yr oedd yn feddianol arnynt, ynghyd â’r swydd a lanwai yn yr eglwys, hawdd ydyw gweled y gallasai fod yn frenin yn yr eglwys a’r gymydogaeth. Ac felly mewn rhyw ystyr yr ydoedd; ond ni welwyd ynddo ar yr un pryd un duedd erioed i dra-awdurdodi. Dylanwad yn hytrach nag awdurdod oedd ganddo.

Wedi i Rowland Evans ddyfod i Felin Aberllefenni (fel y cawn sylwi eto), gwas i H. D. ydoedd; ond derbynnwyd ef ar unwaith yn flaenor yn eglwys Corris. Ac nid oedd neb yn gwerthfawrogi ei alluoedd yn fwy na H. D., nac yn fwy awyddus i roddi y lle blaenaf iddo yn y gwaith o ymgeleddu yr eglwys. Arferai R. E. ei gyfarch yn y Felin fel ‘Meistr;’ ac yr oedd iaith y Felin yn bur naturiol iddo yn yr eglwys; ond buan y gelwid ef i gyfrif gan H. D. “Tewch, Rowland, ‘does yma neb yn feistr na gwas; pawb yn frodyr ydyw hi yma.”

Trwy ei yni a'i ymroddiad ymledodd ei fasnach yn gyflym, a daeth yn fuan yn adnabyddus ac yn barchus ymhell y tu allan i derfynau ei ardal enedigol; ond ni effeithiodd changiad ei fasnach na pharchusrwydd ei sefyllfa i leihau dim ar ei ffyddlondeb i achos crefydd. Byddai bob amser yn gwneuthur pa beth bynag yr ymaflai ei law ynddo â’i holl egni. Yn yr ystyr oreu i’r gair, yr oedd wedi deall pa fodd i “wneyd y goreu o’r ddau fyd.” Ar un olwg nid oedd neb yn fwy bydol; ac eto nid oedd neb yn fwy crefyddol. Medrai daflu ei holl natur i’w orchwyl, a chyda rhyw sydynrwydd rhyfedd ac anealladwy i lawer, medrai wneuthur yr un peth drachefn yn ebrwydd gyda gorchwyl arall.

Yn yr addoliad ni byddai neb yn fwy bywiog nag efe, yn enwedig yn ei flynyddoedd goreu; ond y foment y byddai allan o’r addoliad (os dydd gwaith fyddai) byddai wrthi â’i holl egni gyda rhyw orchwyl yn y maes, neu tua’r adeiladau, cyn i bobl eraill gael hamdden braidd i gyfarch gwell i’w gilydd ar derfyn y gwasanaeth. Un tro, pan yn dyfod trwy ddrws y capel, gwelai y gwartheg yn yr ŷd, a rhoddodd floedd gyffroes yn y fan, nes peri brawychdod i’r gynulleidfa oedd eto haner wneuthur ei ffordd allan o’r capel. Adroddwyd wrthym gan y diweddar Barchedig John Jones, Brynteg, ei fod yn myned ryw dro i’r Cyfarfod Misol i Fryncrug. Goddiweddwyd ef ar y ffordd gan H. D. ar ei geffyl. Disgynodd yn y fan er mwyn i’w gyfaill gael marchogaeth am ychydig. Yr oeddynt ar y pryd gerllaw Nantmynach. “Aroswch chwi yna,” meddai H. D. wrth J. J., “mae arna’ i eisio picio i’r fan yma am fynyd.” Yn fuan daeth i’w gyfarfod ar hyd llwybr a arweiniai o’r ffarm hono i’r ffordd. “Mi brynais y gwlan yn Nantmynach yrwan,” meddai; “mae arna’ i eisio picio eto i’r ffarm yma;” ac yn fuan dychwelodd wedi prynu y gwenith yn y lle hwnw; Wedi cyraedd i Fryncrug, efe a alwyd i lywyddu y Cyfarfod Misol; ac ymdaflai i waith y swydd hono drachefn mor egniol a phe na buasai wedi gwneuthur dim arall erioed. Fel y dywedai Mr. Jones, “Nid oedd blewyn o’r gwlan wedi glynu wrtho.”

Gan mai yn ardal ei enedigaeth y treuliodd H. D. ei holl oes, mae yn amlwg nad oes rhyw lawer o symudiadau na digwyddiadau allan o’r ffordd gyffredin i’w cofnodi yn ei hanes.

Bu ei fywyd, fel yr awgrymwyd, yn llwyddianus; ond cafodd er hyny brofedigaethau mawrion yn ei ddydd. Un o honynt, a’r chwerwaf yn ddiau ydoedd marwolaeth ei anwyl briod, Medi 8, 1849 Mewn Cofiant byr a chynwysfawr yn y ‘Drysorfa,’ Mai, 1850, wedi ei ysgrifenu gan Rowland Evans, gosodir allan mewn modd hapus iawn brif linellau ei chymeriad, a hyny mewn rhan trwy ddyfyniadau o anerchiad y Parchedig Humphrey Evans, y pryd hwnw o’r Ystradgwyn, yn ei chladdedigaeth. Yn ei theulu yr oedd yn wraig serchog a charedig, yn ddiwyd a chynil, yn ddirodres a diwastraff. Wrth weini ar weinidogion yr efengyl, yr oedd yn nodedig am ei charedigrwydd a'i doethineb. Cyfunai yn dra dedwydd yn ei chymeriad rinweddau Martha a Mair. Buasai ei mam-yn-nghyfraith yn hynod yn ei gofal am weision yr Arglwydd am lawer o flynyddoedd, ond gosodwyd y ferch-yn-nghyfraith mewn amgylchiadau mwy cysurus, fel y bu y Tynewydd, yn ystod ei dydd hi, ac wedi hyny, yn un o’r lleoedd mwyaf dedwydd i bregethwyr alw ynddo. Yr oedd Mrs. Davies yn nodedig hefyd am ei charedigrwydd tuag at dlodion a chleifion. Yn wir, nid yn fynych y gwelwyd mewn gwraig gyfuniad prydferthach o rinweddau Cristionogol.

Ychydig, erbyn hyn, yw y rhai sydd yn ei chofio; ond yn nghalonau y rhai hyny y mae ei choffadwriaeth byth yn fendigedig.

Bu hefyd yn fam wir ofalus. Yn ei chladdedigaeth, sylwai y Parchedig H. Evans iddi adael wyth o blant ar ei hol, heb weled yr un o honynt wedi gadael gwinllan Crist, a golwg obeithiol y byddant yn golofnau yn nhŷ Dduw tra y byddant ar y ddaear. Erbyn hyn y mae pump o honynt wedi dilyn eu mam, heb fod erioed allan o eglwys Dduw, a rhai o honynt wedi arwain bywyd nodedig o grefyddol. Y pump hyn oeddynt Mr. David Davies, Abercorris; Mrs. Elisabeth Evans, Penllwyn; Mrs. Mary Jones, Pimlico, Llundain; Mrs. Eleanor Edwards, Llundain; a Miss Hannah Davies, Abercorris. Y tri sydd eto yn aros ydynt Mr. Richard Davies, Llundain; Mr. Humphrey Davies, Abercorris; a Mrs. Jane Jones, Bryngoronwy, Llanwrin.

Yn ei chystudd diweddaf, bu am beth amser yn lled dywyll ar ei meddwl, ond gwawriodd arni er hyny cyn hir. Pan ymwelodd un brawd â hi, cyn iddo ef agor ei enau, dywedodd, Wel, John bach, mae cadarn sail Duw yn sefyll o hyd yn ddi-gryn. Gwyddoch na bum i erioed yn meddu ar brofiadau uchel; llin yn mygu, na wyddech chwi na minau beth oeddwn ar y goreu; ond heddyw y mae yn ddigon goleu. Mae’r afael sicraf fry. Diolch iddo byth am gofio llwch y llawr, o’m bath i.

Yn nesaf at y brofedigaeth uchod, o golli ei anwyl briod, rhaid crybwyll marwolaeth Hannah, merrch ieuangaf H. D., yr hon wedi marwolaeth ei mam a phriodas ei chwaer Eleanor, a ofalai am ei dŷ. Adeg hynod o ystormus ar y teulu a fu dechre’r haf 186O. Mai 7, bu farw Elisabeth Davies, merch henaf David Davies, Abercorris, yn 22 mlwydd oed; a Mehefin 6, bu farw ei modryb, Hannah Davies, yn 26 mlwydd oed. Cymerwyd y ddwy ymaith gan dwymyn boeth, a bu Humphrey Davies, ieu., mewn enbydrwydd mawr am ei einioes yntau. Yr oedd y ddwy chwaer ieuanc uchod yn nodedig o grefyddol. Parai cysondeb eu hymarweddiad, gweddeidd-dra eu holl ymddygiadau, ynghyd â sirioldeb a gwastadrwydd eu tymherau, iddynt fod yn anwyl yn ngolwg yr holl gymydogaeth; ac yn y diwygiad yn 1859—60 cawsent ill dwy adnewyddiad amlwg iawn yn eu crefydd. Erioed ni chollwyd o'r ardaloedd hyn ddwy chwaer ieuainc fwy crefyddol a dymunol; a chwerw iawn i H. D. oedd eu hymadawiad, gan eu bod yn ei olwg yn wastad ymron fel canwyll ei lygad. Ceir coffio am danynt yn y Drysorfa, Hydref 1861.

Am y deng mlynedd ar hugain cyntaf o'i fywyd fel blaenor, yr oedd H. D. yn weithiwr digyffelyb; ond am yr ugain mlynedd diweddaf, ei brif orchwyl ydoedd cael eraill i weithio. Gadawodd yr Ysgol Sabbothol i fesur mawr yn ystod y cyfnod hwn yn nwylaw brodyr ieuangach, gan fyned ei hun ar adeg yr ysgol gyda'r pregethwr i Aberllefenni, Esgairgeiliog, neu Bethania. Ni leihaodd ei yni na’i ffyddlondeb gyda'r achos mawr; parhaodd i lanw cylch nas gallai neb ei lanw ond efe, ac eto ei awydd mawr oedd dwyn eraill i weithio yn hytrach na gweithio ei hun. Yn yr eglwys parhaodd i arwain hyd y diwedd. Efe fyddai yn cyfodi ar nos Sabbath bob amser i ofyn y cwestiwn, A oes yma neb wedi aros o'r newydd gyda ni heno! Ychwanegai yn wastad ryw sylw byr, yr hwn ni byddai yn gyffredin ond cyfeiriad cynes at brif wirionedd y bregeth a draddodasid. Rhagarweiniad yn unig fyddai y sylw ganddo ef i adolygiad helaethach ar weinidogaeth y dydd gan Owen Jones, cyn galw ar y pregethwr i wneyd ychydig sylwadau wrth yr eglwys. Llawenydd calon H. D. oedd gweled o'i amgylch ddynion o alluoedd a chymwysderau amlwg i ddwyn ymlaen waith yr eglwys; ac yr oedd bob amser yn gwbl rydd oddiwrth bob teimlad eiddigeddus tuag atynt.

Wrth roddi yr amlinelliad uchod o brif ddigwyddiadau bywyd H. D. yr ydym o angenrheidrwydd wedi gwneuthur amryw grybwyllion am ei gymeriad fel dyn a Christion, ac am y lle mawr a lenwid ganddo yn y gymydogaeth, ac yn enwedig ymysg y Methodistiaid. Ond dymunem, be gallem, gyflwyno i’n darllenwyr ddisgrifiad mwy cyfiawn a manwl o hono yn y gwahanol gylchoedd. Am ei gysylltiadau masnachol nid oes angen ychwanegu dim. Yr oedd yn y rhai hyn yn llawn llygaid, yn llawn yni, ond yn gwbl uniawn ac anrhydeddus. Er fod ei natur yn wresog a thanbaid, yr oedd er hyny yn dyner a charedig.

Gŵr doeth ydoedd hefyd, heb fod mewn un modd yn dueddol at fyrbwylldra. Byddai yn dra gofalus am deimladau y rhai yr ymwnelai â hwynt. Wrth gwrs, yr oedd yn awyddus am i eraill fod yn onest ac anrhydeddus yn gystal a bod felly ei hun; ond yr oedd yn dra gwyliadwrus rhag iddo trwy unrhyw air brysiog roddi archoll i deimladau. Trwy yr holl nodweddau hyn bu yn hynod lwyddianus gyda gwahanol ganghenau ei fasnach; a dyrchafwyd ef i safle mewn canlyniad yn y gymydogaeth na chyrhaeddwyd gan neb o'i flaen. Ond gofalodd am fod crefydd yn manteisio o flaen pob peth ar ei lwyddiant; ac yr oedd yn amlwg i bawb ai hadwaenai ei fod yn wastad yn awyddus am wneuthur ei sefyllfa yn y byd yn wasanaethgar i ddyrchafiad achos Mab Duw.

Cymerwyd olwg arno yn gyntaf— Fel Swyddog Eglwysig. Dewiswyd ef yn flaenor, fel y dywedwyd eisoes, ymhen y deunaw mis wedi iddo ymuno â'r eglwys, sef tua'r flwyddyn 1819. Nid oedd ar y pryd ond ei dad a Richard Anthony yn swyddogion yn yr eglwys; a chan ei fod ef, er nad oedd eto yn llawn 30 mlwydd oed, wedi derbyn manteision addysg llawer helaethach na hwy, yn ehangach ei wybodaeth, yn gryfach ei alluoedd, ac yn arbenig yn meddu ar yni digyffelyb, llithrodd yr arweiniad yn fuan ac yn gwbl naturiol iw ddwylaw. Anhawdd ydyw gwybod pa beth a ddaethai o'r eglwys yn 1819 oni buasai fod Duw wedi ei godi ef yn brydlawn i gymeryd yr arweinyddiaeth ynddi.

Nid ydym yn deall iddo erioed fod yn euog o chwenych y blaen, na dangos unrhyw ddiystyrwch o'r hen swyddogion; ac nid oes hanes iddynt hwythau ar y llaw arall wneuthur dim ond diolch i Dduw am estyn iddynt y fath gydweithiwr rhagorol, a gwneuthur eu goreu i roddi pob cefnogaeth iddo yn ei waith. Pa fodd bynag, aeth pob peth ymlaen yn heddychol a llwyddianus; ac ymhen ychydig flynyddau, trwy agoriad y chwarelau, ychwanegwyd llawer at boblogaeth yr ardaloedd, a da oedd fod H. D. wedi cael bellach amryw flynyddoedd o brofiad yn ei swydd, ac wedi enill safle o ddylanwad yn y gymydogaeth er bod yn arweinydd doeth yn y blynyddoedd pwysig a ddilynasant.

Y blaenoriaid, y pryd hwnw, oeddynt yn gwneuthur pob gwaith a berthyn i swydd gweinidog yr efengyl ond pregethu a gweinyddu yr Ordinhadau o Fedydd a Swper yr Arglwydd. Ac nid oedd nifer y gweinidogion ar pregethwyr yn Ngorllewin Meirionydd yn 1820 ond bychan iawn. Anhawdd ydoedd cael pregethu cyson ar y Sabbothau; a thuag at ei sicrhau yr oedd, yn ol trefniadau y dyddiau hyny o roddi cyhoeddiadau yn unig am fis ymlaen, aberth mawr yn angenrheidiol ar du blaenoriaid eglwysig mewn lle neillduedig fel Corris i fyned i'r Cyfarfodydd Misol gyda chysondeb. Ymddengys y cynhelid weithiau y Cyfarfod Eglwysig ar nos Sadwrn, er mwyn cael presenoldeb ynddo y pregethwr a ddisgwylid at y Sabbath. Ond beth cwbl acchlysurol ydoedd hyn; ac felly ar y blaenoriaid, ac ar H. D. yn arbenig, y disgynai gofalu am y cyfarfodydd hyn yn wythnosol. Wrth wneyd hyny dangosai fedrusrwydd neillduol. Nid oedd un amser yn siaradwr mawr ei hun, ond yr oedd ganddo ddawn arbenig i gael gafael ar brofiad y brodyr ar chwiorydd crefyddol. Yr oedd yn wastad mor fywiog ei ysbryd, mor siriol ei dymer, ac mor hoew yn ei holl ysgogiadau, fel y byddai ei bresenoldeb yn taflu bywyd i pob cyfarfod; ac yr oedd yn hynod barod gyda'i gwestiynau, a chyflym hefyd yn ei sylwadau, fel nad oedd un amser gyfarfod marwaidd yn bosibl yn y man lle y byddai.

Gyda golwg ar ddisgyblaeth eglwysig yr oedd yn wastad yn wir ofalus. Nid oedd yn llym nac yn erwin; ond yr oedd goddef y rhai drwg er hyny yn beth na ddymunai. Byddai yn dra chydwybodol i athrawiaethu a chynghori yn yr eglwys, i gyfarwyddo yr ieuenctyd yn arbenig pa fodd i ymddwyn, ac yn hynod sylwgar ar eu hymddygiadau ymhob lle, fel y rhoddai iddynt bob cymorth yn ei allu er eu cadw o afael disgyblaeth eglwysig; ond os gwelid angen am y wialen gwyddai yn dda pa fodd iw defnyddio. Cyn y ffeiriau yn Machynlleth a Dolgellau, neu ryw achlysuron eraill y byddai ieuenctyd mewn temtasiynau arbenig arnynt, ni esgeulusai un amser roddi gair prydlawn o rybudd iddynt; gan eu cymell yn wastad i ystyried yr Enw mawr oedd arnynt, ar bwys o fod yn wyliadwrus rhag iddynt mewn un man na thrwy unrhyw ymddygiad dynu dianrhydedd arno. Gwyliwr effro ydoedd ar y mur; gwyliwr na chafwyd un amser yn hepian; a dydd y farn yn unig a ddengys y daioni a wnaethpwyd trwy ei gynghorion ai rybuddion caredig ac amserol.

Cafodd y dosbarth ieuanc ei sylw manylaf ar hyd ei oes. Bu yn hynod ymdrechgar i gael y blant i ymddwyn yn briodol yn nhŷ yr Arglwydd. Nid ydym yn gwybod a oedd plant yr ardal hon yn fwy direidus na phlant ardaloedd eraill; ond gwyddom iddo ef orfod llafurio yn galed iw cael i ymddwyn yn weddus yn yr addoliad. Adwaenai hwynt bob un, a chymerai sylw o honynt ymhob man. Gwyliai hwynt yn yr addoliad, ac os gwelai ddau o honynt yn siarad â'u gilydd yn ystod y gwasanaeth, cymerai fenthyg ffon Hugh Humphrey, y Pentre, ac un atynt yn ddistaw a diarwybod iddynt i weinyddu iddynt gerydd byr ac effeithiol gyda'r ffon; neu ynte os na byddai y ffon wrth law tarawai ben y ddau hogyn gyda pheth cydynrwydd y naill wrth y llall, a dychwelai yn ol i'r sêdd fawr yr un mor ddistaw. Yn raddol daeth y plant i wylio H. D., ac os gweled ef yn edrych trwy ei fysedd i ryw gyfeiriad deallid fod ystorm yn ymgasglu, a allai esgor ar ganlyniadau annymunol i droseddwyr. Weithiau, galwai ar y plant i gilio oddiwrth ryw un drwg yn eu mysg, gan ei adael wrtho ei hun yn ei ddrygioni. Bryd arall galwai ar un o honynt ato ar ei ffordd allan o'r gwasanaeth fel pe buasai ganddo rywbeth o bwys iw ddywedyd wrtho; ond y cyfan a ddywedai wrtho fyddai Drwg wyt ti, gydag ysgydwad awgrymiadol ar ei ddwrn. Bu yn bygwth troi y rhai drygionus allan, ac nid ydym yn sicr na chariwyd y bygythiad i weithrediad rai adegau. Un tro, pan yr oedd hogyn dan yr oruchwyliaeth hon, erfyniai am gael aros, gan ddywedyd, “Mi ddysga allan faint fynoch chi, os ca i aros”. Siaradai wrth y plant, a rhybuddiai hwynt pa le bynag y cyfarfyddai hwynt. Wel, meddai wrth hogyn direidus un-waith, pa un ai wedi bod yn gwneyd drwg ai ynte yn mynd iw wneyd yr wyt yrwan? Ac ychwanegai y gellid yn hawdd ei geryddu pa bryd bynag y cyfarfyddid âg ef am y naill reswm neu y llall. Ond o'r diwedd, llwyddocld H. D. i gael cynulleidfa Rehoboth yn un o'r rhai mwyaf astud, a gobeithiwn na bydd iddi byth golli y goron brydferth hon.

Bu yn ymdrechgar hefyd i roddi i lawr arferion llygredig ymhlith y bobl ieuainc. Buasai ei hunan yn enwog yn ei ddydd gyda'r bêl droed; ond wrth weled y gwastraff ar amser, ar drygau eraill oeddynt yn cyfodi o'r arferiad, gwnaeth y cwbl a allai iw rhoddi i lawr. Ymlithrai i blith y chwareuwyr, y rhai a chwareuent yn gyffredin wrth oleu y lloer, a rhedai gyda hwynt nes cael gafael ar y bêl; ac yna byddai y chwareu dros­odd am y noson hono. Yr oedd ei arswyd ar ieuenctyd yr ardaloedd, ac er hyny yr oedd iddo barch gwirioneddol yn mynwes pawb o honynt. Rhoddai ei wyneb yn erbyn pob arfer lygredig; ac ni orphwysai nes gwneuthur pob peth yn ei allu ef at ei rhoddi i lawr. Blinid ei ysbryd gan segurwyr, y rhai a ymgasglent ar y groesffordd gerllaw ei dŷ i chwedleua a chellwair, a mynych yr aflonyddai ar eu heddwch os na lwyddai iw cael i roddi heibio eu harferiad ffol.

Fel swyddog eglwysig bu yn dra gofalus i gyfodi crefydd yn y teulu. Galwai sylw yn fynych at yr angenrheidrwydd am lywodraeth deuluaidd, ac am y pwys o fod yn gyson gyda'r addoliad teuluaidd. Perthynai i'r hen ysgol o grefyddwyr a swyddogion; ond yr oedd yn hynod rydd oddiwrth ei diffygion ac yn dra amlwg yn ei rhinweddau. Ni feddyliodd neb erioed am ddywedyd ei fod yn gul mewn syniad na theimlad; ond yr oedd yn ddibetrus yn ei wrthwynebiad i bob drwg, ac yn ei gefnogaeth i bob daioni. Ac er perthyn ei hun i'r hen ysgol, nid oedd un amser yn anmharod i fyned ymlaen gyda symud-iadau newyddion o duedd ddaionus.

Bu yn gwneuthur gwaith bugail ei hun am lawer o flynyddoedd; ond nid oedd neb yn fwy parod nag efe i gofleidio Bugeiliaeth eglwysig pan y daeth. Yr oedd, yn wir, yn hynod ystwyth yn wastad, ac yn llithro rywfodd yn arweinydd pob symudiad, er i'r symudiad gychwyn yn meddyliau brodyr eraill. Rhoddodd y derbyniad siriolaf i'r Parchedig Evan Jones yn awr o Gaernarfon, y bugail cyntaf a alwyd gan yr eglwys, yn 1867; ac wedi hyny ychydig misoedd cyn ei farwolaeth i'r Parchedig William Williams. A bu yn , cydweithio hefyd yn hapus am flynyddoedd âg amryw frodyr eraill — un yn weinidog a phump yn bregethwr sef Mr. Corris Jones (at yr hwn y gelwir sylw eto); Mr. John Jones, Cwm celli (wedi hyny o Brynteg); Mr. Thomas Williams, wedi hyny o'r Dyffryn; y Parchedig Ebenezer Jones, wedi hyny o Abergynolwyn; Mr. David Davies, Geuwern; a Mr. Hugh Roberts. Ni theimlai un amser fod neb yn myned ai le; ac ni lochesodd erioed am foment deimladau eiddigeddus tuag at neb o'i frodyr. Gormod fyddai dywedyd iddo ar hyd ei fywyd gydweled â hwynt oll; ond parai pob anghydwelediad ofid calon iddo, a bu ar bob amgylchiad yn llawn ystwythder a maddeugarwch.

Nid ydym yn petruso datgan ein syniad ei fod yn model o swyddog eglwysig; ac yr ydym yn credu yr edrychid arno felly gan y gwyr craffaf ai hadwaenent. Cofus genym glywed Mr. Morgan, o'r Dyffryn, un tro, pan yn dadleu yn y Cyfarfod Misol yn erbyn cydnabod yn flaenoriaid mewn eglwys flaenoriaid wedi symud iddi o eglwys arall, yn dywedyd, Pe bae Mr. Humphrey, Davies, Corris, yn dyfod i eglwys y Dyffryn acw; fe gai aros o leiaf am flwyddyn heb ei alw i fod yn flaenor, gyda ni. Dywedwyd wrthym iddo ar achlysur arall gyfeirio ato fel un o'r rhai mwyaf defnyddiol yn holl gylch y Cyfarfod Misol. Yn ei deimlad ef, ac yn wir yn nheimlad holl aelodau y Cyfarfod Misol, nid oedd flaenor perffeithiach na Humphrey Davies,

Edrychwu arno yn ail, Yn ei berthynas ar Ysgol Sabbothol.

Dywedwyd eisoes iddo gilio braidd yn llwyr o'r cysylltiad hwn yn ei flynyddoedd diweddaf. Yn ystod y blynyddoedd hyny gwnaeth wasanaeth gwerthfawr i'r achosion newyddiou yn Aberllefenni; Esgairgeiliog, a Bethania, trwy fyned i'r naill neu y llall o honynt yn gyson gyda'r pregethwr ar y Sabbothau. Ac yr oedd yr athrawon wedi lliosogi i'r fath raddau fel mai hawdd bellach oedd dwyn y gwaith ymlaen hebddo. Ond o 1820 hyd 1850 yr oedd ei weithgarwch gyda'r Ysgol Sabbothol yn dra nodedig. Dywedir fod ganddo ddawn neillduol i holwyddori, yn enwedig y plant; a bu am amser, yn un o'r gofalwyr am Gyfarfod Ysgolion Dosbarth y Ddwy Afon. Cynorthwyai fel holwyddorwr, a gwasanaethai hefyd fel ysgrifenydd y cyfarfod. Buasai ei dad o'i flaen yn dra ffyddlon, i'r Ysgol Sabbothol, a disgynodd deuparth o ysbryd y tad ar y mab, fel nad oedd lonydd i neb yn y gymydogaeth mewn esgeulusdra o'r ysgol, nac un llafur yn cael ei arbed er sicrhau ei heffeithiolrwydd.

Mae y Cyfarfod Ysgolion yn Nosbarth y Ddwy Afon wedi bod ers cenhedlaethau yn sefydliad pwysig, ac ysgolion Corris ar amgylchoedd wedi bod bob amser yn hynod ffyddlon iddo. Cafwyd gwasanaeth gwyr rhagorol fel gofalwyr am y cyfarfod, yr hyn yn ddiau sydd wedi bod yn un rheswm am ei bwysigrwydd ai ddylanwad; ac y mae ffyddlondeb yr ysgolion uchod iddo hefyd yn y lle cyntaf yn ddyledus i esiampl a dylanwad H. D. Y mae efe wedi marw bellach ers blynyddoedd, ac yr oedd wedi cilio cyn ei farwolaeth i roddi lle i eraill, ond y mae yr eglwysi ar ysgolion yn yr ardaloedd hyn yn myned ymlaen hyd y dydd heddyw yn y cyfeiriad a roddodd efe iddynt yn mlynyddoedd ei weithgarwch.

Edrycher arno eto, Yn ei berthynas a symudiadau cyhoeddus yn y gymydogaeth

Ni welwyd ef erioed yn wrthwynebydd unrhyw symudiad daionus; ei le yn wastad gyda phob un o honynt fyddai lle y pleidiwr mwyaf gwresog, ar arweinydd mwyaf medrus a gwrol. Cymerer, er engraifft, yr achos dirwestol. Mae yn amheus a oes yn Nghymru un gymydogaeth wedi bod ar y cyfan mor ffyddlon i'r achos hwn a chymydogaeth Corris. Dydd mawr y flwyddyn i ni, yn adeg mebyd, ydoedd dydd yr Wyl Ddirwestol,—dydd Iau y Dyrchafael. Sefydlwyd y Gymdeithas yno yn 1836, dyna y dyddiad ar y Faner Fawr, yr hon a ddygid allan yn wastad ar y dydd uchod, os byddai y tywydd yn caniatau; ac y mae yr wyl wedi ei chynal yno bob blwyddyn o'r adeg uchod hyd heddyw, oddigerth 1860, pryd y rhoddwyd hi heibio yn ngwres y diwygiad, er mwyn cynal yn ei lle gyfarfod Pregethu Undebol. Y dirwestwr cyntaf yn yr ardaloedd ydoedd Morris Jones, y pregethwr, yr ail ydoedd Humphrey Edward (Cwmcelli gynt); ar trydydd, ond y cyntaf i arwyddo yr ardystiad am ei oes, ydoedd Rowland Evans, Y Felin, Aberllefenni; ar pedwerydd ydoedd Richard Jones, y Saer, yn awr o Ddolffanog Fach, Ystradgwyn. Yr oedd brawd arall wedi arwyddo yn ail, ond bu yn anffyddlon iw ardystiad; ac nid ydym o ganlyniad yn crybwyll ei enw. Yr oedd y diweddar Barchedig John Jones, Brynteg, ond y pryd hwnw o Gwmcoch yn gynar ar y rhestr; a dywedai fod ganddo law gyda Morris Jones mewn cael cyfarfod cyhoeddus o blaid yr achos am y tro cyntaf. Yr oedd eraill, ac yn eu mysg yn arbenig y diweddar Mr. Hugh Roberts, yn foreu gyda'r gwaith, y rhai a barhasant yn ffyddlon hefyd hyd y diwedd. Lled gyndyn fu H. D. i ymuno â'r symudiad hwn ar y cyntaf. Heblaw yr anhawsderau oedd ar ffordd y cyffredin yn eu mysg y syniad fod byw, ac yn enwedig gweithio, yn amhosibl heb ryw gymaint o'r diodydd meddwol — yr oedd ei gysylltiadau masnachol yn peri iddo ef fod i fesur yn betrusgar. Gelwid arno i fyned yn fynych oddicartref, ac yn y tafarnau yn wastad y cyfarfyddai â'r rhai y masnachai â hwynt i ddwyn ymlaen ei drafodaethau, yr hyn a ystyrid yn gwbl anocheladwy; ac edrychid ar ymarferiad â'r diodydd meddwol uwchben y trafodaethau yr un mor anocheladwy; Ond wrth glywed un gŵr yn areithio yn Machynlleth, ac yn disgrifio y gareg fawr yn nghanol y llyn o dan ba un y llechai y pysgod, penderfynodd ar unwaith na chai neb lechu mwyach yn ei gysgod ef, ac arwyddodd yr ardystiad ar unwaith, a deuddeg ar hugain eraill; gydag ef yr un noswaith. O hyny allan bu yn llawn gwres gyda'r achos.

Daeth Corris yn fuan yn enwog am ei zêl ddirwestol; ffurfwyd côr yno dan arweiniad Richard Williams, yr Hen Ffactri, o ba un yr oedd William Evans. yr hwn a fu yn arweinydd y canu yn Rehoboth am flynyddocdd wedi hyny, yn aelod pwysig a dylanwadol; a byddai y côr hwn yn myned yn fynych i Ddolgellau, Machynlleth, Dinas Mawddwy, a lleoedd eraill i ganu. Ar yr adegau hyn mawr fyddai y cynwrf; a chynhelid breichiau aelodau y côr gan frodyr ffyddlawn eraill o'r gymydogaeth. Ond ni byddai neb yn fwy ffyddlawn iddynt na H. D. Hir gofio am dano ar un achlysur yn Machynlleth pan yr oedd aelodau y Cymdeithasau Dirwestol o'r gwahanol ardaloedd yn cydgyfarfod i orymdeithio, yn brasgamu gyda'r faner, rhag i un gymdeithas arall gael y blaen ar gymdeithas Corris. Byddai gyda hwynt ymhob man, yn llawn bywyd a gwres. Ac anhawdd ydyw yn awr ffurfio syniad priodol, am y cyffro oedd yn y wlad y pryd hwnw gyda'r symudiad dirwestol. Codai yr holl boblogaeth allan i'r cyfarfodydd yn y gwahanol ardaloedd. Yn Nghorris un diwrnod, yr oedd gwraig y dafarn wedi colli yr ysgubell, ac meddai wrth y forwyn, Tybed fod yr ysgubell wedi myned i'r Cyfarfod Dirwestol ?

Un tro yr oedd Cymdeithas Corris yn myned i Ddolgellau; ac ar y Stryd Fawr, gan pan myned ymlaen ar ol eu baner, ar côr yn canu nes oedd y bryniau ar mynydd-oedd yn diaspedain gan y gerddoriaeth, daeth y gwrthwynebwyr allan i gicio y bêl droed yn eu canol. Ar y cyntaf ofnid terfysg; ond yr oedd Humphrey Hughes, y Pandy, yn eu plith, a thynodd ei gyllell o'i logell, gan ei dal yn agored i dderbyn y bêl, yr hon a ddisgynodd arni fel cadach llestri; ac yr oedd y chwareu ar unwaith drosodd. Yr oedd yn Nghorris lawer o frodyr zelog eraill, âc amryw yn llawer gwell siaradwyr na H. D.; ond nid oedd neb o honynt yn rhoddi y fath fywyd yn yr achos. Morris Jones ydoedd yr ymresymwr penaf yn mlynyddoedd cyntaf y symudiad: Hugh Roberts oedd un o'r ymadroddwyr mwyaf llithrig a gwresog; ond H. D. oedd yn rhoddi mynd yn yr holl wersyll, a pharhaodd yn gwbl ffyddlon hyd ddiwedd ei oes, sef am yn agos i ddeunaw mlynedd ar hugain.

Wedi i Demlyddiaeth Dda ddyfod i'r ardal, nid oedd neb yn fwy parod iw chroesawu nag efe. Ymunodd ar unwaith a’r Gyfrinfa, a bu yn ffyddlawn iw chynulliadau wythnosol, yn ol ei allu, hyd derfyn ei oes.

Yr oedd yn hynod amlwg hefyd gydag achos addysg Derbyniasai ei hun well addysg na neb o'i gyfoedion; rhoddodd addysg dda iw blant a gwnaeth bob peth yn ei allu o blaid addysg yn y gymydogaeth. Yr ydym yn ddigon hen ein hunain i gofio adeiladu yr ysgoldy cyntaf yn y Garnedd-wen, gan R. D. Pryce, Yswain, Cyfronydd, Arglwydd Raglaw Meirionydd yr hwn a adnabyddid y pryd hwnw fel R. D. Jones,-Yswain, Trefri; Aberdyfi. Cyn hyny cynhelid ysgol ddyddiol yn Mhenygraig, Corris,—mewn rhan o'r ystafell a fu wedi hyny yn gapel yr Annibynwyr am flnyddoedd; a thrachefn yn nghapel Pantymaes, Aberllefenni o'r hwn le, yn 1850, y symudwyd yr ysgol i'r Garnedd-wen, Mae amryw enwau eraill yn haeddu coffadwriaeth parchus am eu ffyddlondeb i achos addysg y pryd hwnw, ac am flynyddoedd wedi hyny, yn arbenig John Stephen, Aberllefenni, a Robert Jones, Machine; ond neb yn fwy na H. D. Ac yn y mater hwn, fel gyda phob gwaith da arall yr ymaflodd ei law ynddo, ni oerodd ei zêl hyd ddiwedd ei oes. Yn lled agos i'r diwedd, anrhegodd y gymydogaeth â thir i adeiladu Ysgoldy Brytanaidd arno.

Yr oedd yn Ymneillduwr cydwybodol, ac yn Rhyddfrydwr glew a chyson. Efe a roddodd dir at Fynwent Ymneillduol capel Rehoboth yn 1846, — llanerch sydd erbyn hyn yn dra chysegredig i deimladau braidd bob teulu yn y gymydogaeth. Yr oedd yn Rhyddfrydwr pan nad oedd Rhyddfrydiaeth yn boblogaidd; ac yr oedd yn un o'r ychydig a bleidient Syr William Wynn, pan nad oedd ei bleidwyr trwy yr holl sir ond o 60 i 70 Cafodd fyw i weled yr achos Rhyddfrydol wedi enill y fuddugoliaeth. Ond yr hyn ydoedd werthfawr ynddo gyda gwleidyddiaeth, fel gyda phob symudiad daionus arall, ydoedd y mynd a berthynai iddo. Gellid cyfrif arno yn wastad pan y byddai ymdrech gyda rhywbeth yn angenrheidiol

Yr ydym wedi taflu allan awgrymiadau amryw weithiau am ei haelioni. Yr oedd yn ddiau mewn amgylchiadau i gyfranu yn weddol helaeth at wahanol achosion; ond yr oedd er hyny yn llawn haeddu y cymeriad o fod yn ŵr haelionus. Yr oedd ei dŷ yn agored yn wastad i weinidogion a phregethwyr; ac am lawer o flynyddoedd yn ei ystabl ef hefyd y byddai eu ceffylau. Rhai o'r cyfeillion eraill a deimlasant y dylai yr eglwys gymeryd rhan o'r baich, ac a fynasant gymeryd y ceffylau i ystabl y capel, lle y gofalwyd am danynt o hyny allan gan ei gyd-swyddog, William Richard. Yr ydym yn cofio yn dda, er nad oeddym ond ieuanc, ein syndod pan gyhoeddwyd yn Aberllefenni gasgliad nad oeddym wedi clywed sôn am dano erioed yn Nghorris, sef Y Casgliad at Fwyd y Llefarwyr. Llefarwyr oedd yr enw arferol ar bregethwyr yn y ddau le. H. D. fyddai yn cyhoeddi bob amser yn Nghorris, ac felly y cyhoeddai: Hwn a Hwn i fod yma yn llefaru. Ond yr oedd y draul i letya y llefarwyr yn disgyn yn gyfan ar H. D.; ac am lawer o flynyddoedd, pan yr oedd y teithio yn ei ogoniant, nid bechan ydoedd. Pan ddaeth Mr. Morgan o gwmpas i gasglu at Athrofa y Bala, rhoddodd iddo dderbyniad croesawus, gan addaw yn y fan, rhyngddo ef ai fab, Mr. David Davies, haner cant o bunau. Pan yn adeiladu y capel presenol, addawodd gan punt os byddai i'r eglwys wneuthur pedwar cant; ac yr oedd wedi talu ei addewid cyn aros i weled pa beth a wnai yr eglwys.

Rhaid edrych arno cyn terfynu, Yn ei berthgnas a’r Cyfarfod Misol. Daeth yn fuan yn aelod cyson a phwysig o hono. Gelwid ef yn fynych i'r gadair lywyddol, er nad oedd un amser yn chwenych y lle hwnw. Un tro, yn Llanegryn, dywedai wrth Mr. Humphreys, Dyffryn, fod yn rhaid iddo ef aros gartref os na adewid llonydd iddo heb ei wthio i'r gadair. Ydi hi yn galed iawn? meddai Mr. Humphreys, caledi go esmwyth ydi hwna, Wmffra bach. Ond teimlai pawb eraill ei fod yn llanw ei le yn dda; ac ar adegau dangosai ddeheurwydd neillduol gyda'r gwaith. Yn Llanelltyd, pan oedd yr Hybarch Lewis Morris yn ceryddu yn llym aelodau y Cyfarfod Misol am eu hanffyddlondeb iddo, dygodd ef, fel llywydd, bawb i natur dda ar cwbl i drefn trwy ofyn yn ysmala, A wyt ti, y Cyfarfod Misol, yn clywed beth y mae Lewis Morris yn ei ddweyd am danat? Mynych yr anfonid ef ar ymweliadau â gwahanol eglwysi; a bu rhai o'r ymweliadau hyny yn dra nodedig. Crybwyllir am un felly yn Ffestiniog gyda Lewis Morris, gyda golwg ar Ddyled y Capelau; ac un arall â chyfran o'r sir gyda Mr. John Jones, Ynysgain, a fu yn dra bendithiol. Ac y mae yn amlwg iddo ddyfod i safle uchel yn lled fuan, oblegid cyn ei fod ond cymharol ieuanc anfonwyd ef, gyda'r Parchedig Richard Jones, o'r Wern, i Ddolgellau, i gymeryd llais yr eglwys gyda golwg ar ŵr ieuanc oedd yno yn ymgeisydd am y weinidogaeth. Y gŵr ieuanc hwnw ydyw y Parchedig Roger Edwards, o'r Wyddgrug. Ar nos Sabbath yr oeddynt yno; a dywedai Mr. Edwards wrthym yn ddiweddar ei fod wedi cofio ar hyd ei oes yr ychydig eiriau a ddywedodd H. D. wrtho ar yr amgylchiad hwnw. Gofalwch, fy machgen, meddai, am wneyd y ffordd i fod yn gadwedig yn glir iawn i bechadur ymhob pregeth. Cofiwch bob amser y gall rhywun fod yn eich gwrando am y tro diweddaf cyn myned i'r farn. Byddwch yn siwr o ddweyd digon am fywyd ymhob pregeth. Anhawdd fuasai rhoddi gwell cyngor; ac anhawdd hefyd fuasai cael gwell esiampl o'r hyn a fyddai ei gynghorion ar hyd ei oes.

I ba raddau y mae Corris ar ardaloedd cylchynol yn ddyledus iw ddylanwad y mae yn anmhosibl, traethu. Amlwg yw oddiwrth yr hyn a ddywedwyd, er mor anmherffaith, y dylai ei enw gael ei gadw yno byth mewn coffadwriaeth bendigedig. Wedi treulio oes faith yn ei ardal enedigol, daeth o'r diwedd ddydd ei ymddatodiad, sef y 26ain o Ragfyr, 1873, pan oedd uwchlaw 83 mlwydd oed. Cafodd gladdedigaeth tywysogaidd; yn yr hwn y cymerwyd rhan gan y Parchedigion William Williams, Corris; Robert Owen M.A., Pennal; Griffith Evans. Bryncrug; John Foulkes Jones, B.A., Machynlleth; John Davies, Bont-ddu; Evan Jones, Dyffryn; David Evans, M.A., Dolgellau, a Hugh Roberts, Siloh. Terfynwn ein sylw arno gydag anerchiad y gŵr anwyl o Fachynlleth, sydd bellach, ers rhai blynyddoedd, wedi ei ddilyn i'r breswylfa lonydd, fel y ceir ef yn yr adroddiad yn y Goleuad, Ionawr 10, 1874 :— Yr oeddwn yn adnabod Mr. Humphrey Davies, yn dda, ac yn cario meddwl uchel am dano bob amser. Gŵr yn caru Duw ydoedd, — gŵr heddychol a thirion. Un wedi llywodraethu yn dda ydoedd; ac am hyny yn haeddu parch dau-ddyblyg. Mae yn ei gael yma heddyw, ac yn siwr o'i gael am dragwyddoldeb. Yr wyf fi yn teimlo yn gysurus yma heddyw. I ba le bynag yr edrychaf, y mae yr olwg yn siriol a hapus. Dyma hen dad wedi cael byw dros bedwar ugain mlyaedd; ac y mae yr olwg ar ei oes faith yn siriol a disglaer. Gweithiodd yn ffyddlawn gydag achos Iesu Grist. Ond ymlaen y mae yn ddisglaer iawn. Dylem fod yn falch a diolchgar am rai o'r fath yma; ond nid yn aml iawn y maent iw cael. Yr oeddwn yn meddwl wrth glywed canu y penill, Eu henwau'n perarogli sydd, fod yma dipyn o berarogl o gwmpas yr dor; a gallwn fentro llosgi perarogl,—y mae yma frenin wedi marw. Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig. Nid oes dim claddu ar ddyn fel ma. Priddwch chwi faint a fynoch ar Humphrey Davies, Abercorris, ni chleddir mo hono,—ni chleddir moi ddagrau, nai feddwl cryf. Mae wedi goddiweddyd llawenydd a hyfrydwch. Nis gellid bod yn ei gwmni am bum mynyd heb wybod fod achos Iesu Grist yn agos iawn at ei galon; Ie; fel canwyll ei lygad. Gwnai y peth lleiaf. Fel y disgyblion gynt yn cyrchu ebol i'r Arglwydd Iesu, gwnaeth yntau yr un peth lawer gwaith. Bydd yn myned yn ddydd baru arnom ninau, gyfeillion pan byddwn feirw. Bydd llawer iawn o remarks yn cael eu gwneyd arnom tybed y bydd yno dipyn o berarogl? Pa beth fydd ein cyfeillion agos yn ei ddweyd am danom? Ond yn fwy na’r cwbl, pa beth fydd Duw yn ei ddweyd?

hafan Llyfrau Fyny Diwethaf Nesaf