PENOD
IX
YCHYDIG O GYNYRCHION
ROWLAND EVANS
|
NID ydym yn gwybod i Humphrey Davies ysgrifenu llinell erioed, oddieithr ei lythyrau; ond byddai Rowland Evans yn dodi i lawr yn lled fynych ffrwyth ei fyfyrdodau. Ysgrifenodd i’r Drysorfa gofiant byr i Morris Jones a Mary Davies, Abercorris, os nad ychwaneg. Ac nid afnawdd, hwyrach, fuasai casglu nifer lled dda o’i ddywediadau yn y gymydogaeth pe cawsid cyfleusdra i hyny. Dyma engreifftiau Nac edrychwch ar y rhai fyddo mewn gwell amgylchiadau, ond yn hytrach ar rai mewn gwaeth amgylchiadau na chwi. Dyma y ffordd i gynyrchu ynom y teimlad priodol. Os digwydd i Ragluniaeth wasgu arnoch, na phrinhewch yn eich cyfraniadau at achos crefydd yn gyntaf oll. Dylem brinhau ymhob man cyn prinhau yn ein cyfraniadau i’r Hwn sydd yn rhoddi i ni bob peth. Powsi ydyw crefydd, a phob blodeuyn rhinweddol wedi ei gasglu iddo. Mae rhai blodeu yn fwy amlwg weithiau nau gilydd, ffydd yn Abraham, amynedd yn Job, zêl yn Pedr, cariad yn Ioan; ond chwiliwch yn fanwl, chwi gewch nad oes yr un rhinwedd ar ol. Bwrw dy faich ar yr Arglwydd, ac efe ath gynal di. Nid yw yn addaw cymeryd ymaith y baich, ond y mae yn addaw dy gynal dan y baich, yr hyn sydd lawn cystal phe symudid y baich. Yr ydym wedi cymeryd yr hyn a ganlyn ol lawysgrif ef ei hun, oddigerth y ddau Fater Ysgol ; ac nid oes genym amheuaeth na bydd llawer o’r sylwadau yn brofion eglur i lawer nad adnabuant R. E. erioed o wirionedd yr hyn a ddywedwn am ei alluoedd. Dodwn i Iawr yn gyntaf amrywiol areithiau a draddodwyd ganddo ar achlysuron cysylltiedig a’r Ysgol Sabbothol.
MYFYRDOD AR YR YSGOL SABBOTHOL.
Offeryn ydyw ysgol i ddringo yn uwch, i weled yn mhellach, a gwneyd gorchwyl yn hawddach. A dyma yw yr Ysgol Sabbothol; Bum yn meddwl y gallasai un anghyfarwydd â hi dybio mai y ffordd a fabwysiedid ynddi i ddysgu darllen a fyddai dysgu un adnod i ddechreu, ac un arall, ac un arall drachefn, nes dysgu yr holl Feibl Ond nid felly; Ysgol ydyw. y peth cyntaf a ddysgir ynddi yw yr Egwyddor, yr A B C. Marciau yw y llythyrenau i adnabod seiniau penodol. Dyna A, y mae yn wahanol ei ffurf i B, ac yn wahanol ei sain; ac y mae C yn wahanol i’r ddwy mewn furf a sain. Wedi dysgu yr Egwyddor, dechreuir cysylltu y llythyrenau bob yn ddwy, yna bob yn dair, nes y gellir, bob yn ronyn, ffurfio geiriau o honynt gyda’r hwylusder mwyaf. Fel hyn y mae Duw megis wedi trefnu temtasiwn er ein dysgu i ddarllen ei Air sanctaidd. Heb ryw gynllun fel hwn, buasai dysgu darllen bron yn anmhosibl; ond wedi ei gael y mae yn hawdd a hwylus. Mae grisiau yr ysgol mor hynod fanaidd, fel y mae yn hawdd i bawb ei dringo. Ar syndod yw, nid fod cymaint yn dysgu darllen, ond fod neb o gwbl heb ddysgu. Moddion celfyddgar yw cynllun yr ysgol, i ddysgu i dlodion uniaith ddarllen meddwl Duw yn eu hiaith eu hun yn yr hon yn ganed. Diolch am yr Ysgol Sabbothol. Gan ei bod yn foddion mor ragorol i gyraedd ei hamcan, A ydyw hi yn debyg o bara yn hir? Ydyw, canys nid pren crin a phwdr yw yr ysgol hon, ond pren byw, yn tyfu yn uwch, ac yn magu ceinciau newyddion o flwyddyn i flwyddyn. A mwyaf o ddringo fyddo arno mwyaf oll y tyfa. Nid oes dim tebyg y derfydd yr Ysgol Sul, oblegid y mae ei phendefigion a’i llywiawdwyr yn dyfod o’i mysg ei hun. Nid oes nemawr un mewn swdd ynddi na all ddywedyd am dano mai un o’r plant a fagodd ac a feithrinodd ydyw. Gall ddweyd am ei holl swyddogion, Y bobl hyn a luniais i mi fy hun, fy moliant a fynegant. Mae y meibion yn dyfod yn lle y tadau, y rhai a wneir yn dywysogion yn yr holl dir. Ac y mae ei swyddwyr y rhai goleuaf, duwiolaf, a ffyddlonaf o’i phlant. Byddwn galonog a gweithgar gyda’r ysgol, nid yw yn debyg yr arafa , yn ei gwaith. Mae llawer ysgol dda wedi arafu, am fod cyflog yr athraw wedi ei atal; ond ni ddigwydd hyny yma. Nid oes gŵr cyflog o’i mewn. Mae ei holl swyddogion yn llafurio yn rhad. Cerdda llawer o honynt ddwy a thair milldir bob Sabbath i’r ysgol; ond gofynwch iddynt pwy sydd yn talu iddynt, yr ateb fydd, y bydd bod ar gael yn y diwedd yn llawn ddigon o wobr, ar ystynaeth y bu y llafur yn rhywfaint o les, o dan fendith Duw, i ryw bechadur. Ond fe ddaw gwobr. Mae Duw yn hir ei ymaros. Ca yr athraw y cyfarchiad ryw ddydd oddiwrth ei ddisgybl mewn geiriau cyffelyb i’r eiddo Dafydd wrth Abigail, Bendigedig fyddo yr Arglwydd, a bendigedig fyddo dy gyngor; ti am hateliaist pan oeddwn yn ymyl syrthio dros y dibyn am byth. A naturiol fydd gofyn y dydd hwnw, Pa anrhydedd a wnaed i’r gŵr hwn? Ac yna y dywedir wrtho, Da was da a ffyddlon dos i mewn i lawenydd dy yr Arglwydd. Mae dibenion yr Ysgol Sabbothol yn ogoneddus. Cael y colledig at y Ceidwad, yr afiach at y meddyg, yr aflan at y ffynon, y marw at y bywyd. Cael Noah i’r arch rhag y diluw, Lot i Soar rhag y tân, ar llofrudd i’r noddfa cyn i’r dialydd ei ddal. Dyma brif amcan yr Ysgol Sabbothol; ond y mae yn gwneyd llawer o gymwynasau ar y ffordd wrth ymgyraedd at yr amcan hwy. Mae yn cymell i bob moesau da sydd yn harddwch i’r ddynoliaeth. Mae yn anog y plant i fod yn ufudd i’w rhieni. ac yn anog y rhieni i beidio cyffroi eu plant fel na ddigalonont. Mae yn anog y gweinidogion i fod yn ufudd a ffyddlon i’w meistriaid, ac yn anog y meistriaid i wneyd yr un peth tuag atynt hwythau. Mae yn dysgn yr is-radd i barchu eu hnwchradd, i’r ieuanc gyfodi o faen penwyni a pharchu wyneb henuriaid. Mae yn dysgu pawb i ymddwyn yn deilwng yn ei le ei hun. A phe cyrhaeddai ei hamcan, ni byddai y fath beth mewn bod a thyngu; ni byddai na godineb na lleidr ar y ddaear. Ei hamcan yw cael y byd yn gydffurf â deddf Duw a adroddir ynddi. Ac os na lwydda ni ddigalona, ac ni phaid a’i llafur. Pe llwyddai, ni byddai angen am y carcharau yn Mhrydain a manau eraill, ac ni fyddai y fath beth yn bod a chrogbren. Brysied y dyddiau hyfryd i ben. Peth mwyaf gweithfawr yr Ysgol yw ei Llyfr. Mae yn werthfawr fel corsen fesur, i ni wybod a ydym yn ddigon o hyd a lled i fod yn yr adeilad ysbrydol yn y nef ; fel clorian i ni i bwyso ein hunain cyn y bydd Duw yn ein pwyso yn y farn. Mae yn werthfawr fel y drych i dynn gwrthddrychau pell yn agos. Yma gwelwn Dduw yn creu y byd heb ddim defnydd ; Noah yn gwneyd ei arch, a Duw yn boddi y byd; dinystrio dinasoedd y gwastadedd, a Lot yn dianc am ei einioes ; gweled Israel yn myned trwy y Môr Coch, ar Aiphtiaid yn boddi ynddo; yn taro y graig â’i wialen, ar dyfroedd yn dilyn Israel yn afonydd yn yr anialwch; yr Iorddonen yn troi yn ol, ac yn rhedeg tua’r mynydd yn lle tua’r môr Gallwn yma weled y pethau hyn oll megis pe yn ein hymyl. Gallwn hefyd weled pethau yn y dyfodol yma. Gwelwn ddydd mawr y farn, pan y bydd y Barnwr yn dyfod ar gymylau y nef, ac Adda a’i holl had yn ymddangos ger ei fron, iw didoli yn ddwy dyrfa, a'u gwahanu am byth oddiwrth eu gilydd. Mae y Beibl hefyd yn werthfawr fel y drych i weled ein hunain ynddo. Dyma olwg yr ydym yn rhwym o’i chael yn rhywle. Gallai na welwn byth lawer man y clywsom am danynt; gallai na weli dy dad a’th fam, neu dy blant, ond byddi yn siwr o’th weled dy hun cyn bo hir. Ond gallwn gael hyn yn awr yn y Beibl. Gallwn yno weled y galon sydd fwy ei thwyll na dim, yr hon y mae holl fwriad ei meddylfryd yn unig yn ddrygionus bob amser, & gweled y canlyniadau ofnadwy o fyw yn ol y cnawd a gwasanaethu pechod. Gallwn yn y Beibl weled hefyd y dedwyddwch annhraethol o wasanaethu Duw a byw yn dduwiol. A gallwn ynddo ef weled Duw, yr hwn nis gwelodd dyn erioed ac nis gwêl byth. Y Beibl, sydd yn dangos y Tri yn un, ac yn dangos y môr, o gariad yn nghalon Duw at fyd colledig, a’r ffrydiau yn rhedeg o’r môr hwnw yn drugaredd a gras i galon y pechadur ar y ddaear. Llyfr y rhyfeddodau yw y Beibl. Yma y darllenwn am y Duw - a wnaeth y bydoedd â'i air wedi dyfod heb le i roddi ei ben i lawr ; y Gwr â greodd yr holl ffynhonau dyfroedd yn cael cynyg iddo y finegr a’r bustl yn ei syched; Creawdwr natur yn sugno bronau ei greadur. Ac y mae y Beibl yn werthfawr fel mynegbost i ddangos y ffordd i drafaelwyr. Mae y Beibl wedi cyfarwyddo miloedd o Gymry i’r ddinas ag iddi sylfeini, saer ac adeiladydd yr hon yw Duw. A diolch i Dduw, y mae y mynegbost yn aros ar y ffordd i ddangos y ffordd i ninau yn yr oes hon. Gwnawn sylw mawr o hono. Dychymygaf weled Cymro yn y nief yn gofyn i rai o drigolion New Zeland, Pa fodd y daethoch chwi yma? An hateb fydd, mai y llyfr da a anfonwyd iddynt o Brydain a'u cyfarwyddodd hwythau yno. .~ Bydd eu gweled eu hnnain a gweled eu gilydd yn y nef yn adgoffa i’r saint am byth werth y Beibl. A dyma Lyfr yr Ysgol Sul. Mae yr Ysgol Sabbothol yn debyg iawn i’r llyn yn Jerusalem, yr hwn yr oedd angel ar amserau yn disgyn iddo ac yn cynhyrfu y dwfr. y neb a ddisgynai i’r llyn hwnw yn gyntaf, ar ol cynhyrfiad y dwfr, ai yn iach o ba glefyd bynag a fyddai arno. Mae Ysbryd Duw yn fynych yn disgyn i lyn yr Ysgol Sabbothol, ac y mae aml un wedi dechreu myned yn iach ynddo. Anwyl enaid, gochel aros gartref pan y gelli fyned i’r Ysgol, rhag mai y tro hwnw y bydd yr ysbryd yn disgyn, a’th gymydog yn myned adref yn iach, a thithau yn marw yn dy glefyd. MYFYRDOD AR YR YSGOL SABBOTHOL. Mae pwysigrwydd mawr yn perthyn i’r gwaith o ymdrin â holl osodiadau Duw; ac felly y mae i’r gwaith o ymwneyd â'i Air Sanctaidd. Nid yr un effaith sydd i’r haul naturiol ar bob peth. Mae yn caledu y clai, ond yn toddi yr ymenyn; yn peri i’r llysiau dymunol yn yr ardd arogli yn fwy peraidd, ond yn peri i’r domen fod yn fwy drewedig a ffiaidd. Felly am y Beibl. Nid yr un effaith y mae yn ei gael ar bawb. Mae rhai yn cael bendith arno i fod yn lles iddynt, ond y mae eraill yn myned yn fwy caled wrth ei ddarllen. Mae o bwys i ni i ystyried pa effaith y mae yn ei gael arnom. Nid chwareu plant yw ymwneyd â’r Beibl. Mae canlyniadau tragwyddol iddo. Bydd yn arogl marwolaeth i farwolaeth i ni, oddieithr iddo fod yn arogl bywyd i fywyd. Ac y mae hyn yn dangos y mawr, bwys a berthyn i swydd a gwaith athraw yn yr Ysgol Sabbothol. Bum yn meddwl lawer gwaith yn y cysylltiad hwn, Hyfforddia blentyn ymhen ei ffordd ; a phan heneiddio nid ymedy i hi. Am y plentyn, ffol ac ynfyd heb ddeall ac heb synwyr ydyw ef, wedi ei eni fel llwdn asen wyllt. Gan hyny angenrhaid ydyw ei ddysgu am ei gyfrifoldeb i Dduw. Mae ei ogwydd at ddrwg hefyd bob amser. Mae holl fwriad meddylfryd ei galon yn unig yn ddrygionus bob amser; ac felly rhaid ei hyfforddio at yr hyn sydd dda. O ran ei gyflwr, drachefn, y mae dan gollfarn deddf Duw, ac yn rhwym i farw yn dragwyddol. Teithiwr ydyw dyn yn y byd, yn myned trwyddo unwaith, trwy yr ysgol unwaith, trwy bob odfa unwaith, i fyw am byth yn y byd ysbrydol. Bydd cyfrifoldeb mawr yn gorphwys arnom pa fodd yr ymddygwn tuag ato. Mae Duw yn galw arnom i waredu y rhai a lusgir i angau. A dylem gofli fod y plentyn. yn werth gwaed. Yr oedd yr Iuddewon yn methu gwybod pa beth a wnaent â’r arian a daflodd Judas iddynt. Er caleted oeddynt, ystyrient nad oeddynt i ymddwyn tuag at werth gwaed fel tuag at beth cyffredin. Gwerth gwaed Iesu Grist yw, y plant; a difrifol fydd esgeuluso rhoddi iddynt hyfforddiant priodol. At hyn oll ychwaneger yr ystyriaeth nad yw y plentyn nai athraw yn gwybod eu hamser. Fel y pysgod a ddelir yn y rhwyd, ac fel yr adar a ddelir yn y delm, felly hwythau,heddyw yn yr ysgol, ar Sabbath nesaf yn y farn. Cof genyf fy mod unwaith mewn ysgol gyda dosbarth o blant,: bach. Pan yn adrodd eu hadnodau, adroddodd un eneth fechan yr adnod, Gwir yw y gair, ac yn haeddu pob derbyniad, &c Gofynaia iddi beth ydyw pechaduriaid. Yr ateb oedd, Dwn i ddim Disgwyliwn gael digon o Sabbothau i’w hegwyddori yn fanylach;:, ond dyna y Sabbath olaf am byth iddi fod yn yr ysgol. Bum yn teimio lawer gwaith wedi hyny y dylai pob athraw roddi i’r plant dan ei ofal ddigon o addysg bob Sabbath i’w cyfarwyddo pa fodd fod yn gadwedig. Mae yr araeth hon yn anorphenol. Nid yw yr uchod ond y sylw -. adau ar y plentyn Y rhaniadau eraill ydynt : Yr anogaeth neu cyngor, hyfforddia ef. Y Rheol, ymhen ei ffordd. Y ffrwyth neu y fendith, a phan heneiddio nid ymedy â hi. Dyma ddernyn arall heb ei orphen. Byddai yn resyn iddo fyned ar goll. MYFYRDOD AR YR YSGOL
SABBOTHOL. Ond dichon fod ambell un yn barod i ddweyd nad yw ef yn cael dim gwaith i'w wneyd, onite y byddai yn dda ganddo ei wneyd. Wel, fy nghyfaill, byddai yn dda i ti ystyried pa un a’i y winllan sydd heb ddim gwaith, a’i ynte ti sydd heb lygaid i’w weled. Fe welodd y wraig yn nhy Sinion waith nad oedd neb arall yn y ty yn ei ganfod, sef golchi traed yr Iesu. A golchodd hwyy â’i dagrau, a sychodd hwy â gwallt ei phen. Pe buasai yno goron i'w gosod ar ei ben, yr oedd yno ddigon o rai eraill fuasai yn gweled gorchwyl felly, ac yn bur barod i’w wneyd; ond yr oedd digon o gariad yn y wraig i blygu at ei draed i wneyd cymwynas iddo. MYFYRDOD AR DDYLANWAD
ADDYSG. 1 Addysg gelfyddydol. Yr oedd yn ddiareb ymysg yr Iuddewon fod pwy bynag na ddysgai gelfyddyd i’w fab yn ei ddwyn i fyny yn lleidr. Cof genyf glywed hen fodryb yn dweyd wrth ei nai y byddai yn ddwy ar bymtlleg oed y dydd cyntaf o Ebrill; ac nad oedd ganddo ond blwyddyn wedi hyny nes y byddai yn ddeunaw mlwydd oed, yr oedran i fyned at y militia. Ac os na byddai yn medru cyflawni pob gorchwyl y pryd hwnw y cyfrifid ef yn ffol. Gwelais hanes am foneddwr, yn berchen etifeddiaeth o amryw ganoedd o bunau yn y flwyddyn, wedi ymserchu mewn boneddiges ieuanc, yr hon y dymunai ei chael yn wraig iddo. Pan yn gofyn cydsyniad ei thad, dywedodd yr hen foneddwr call fod yn rhaid i’r neb a gaffai ei ferch ef yn wraig iddo fod yn medrn rhyw gelfyddyd,. Ffromodd y boneddwr ieuanc yn aruthr, a dywedodd fod ganddo ef etifeddiaeth eang, fel nad oedd yn rhaid iddo wrth unrhyw gelfyddyd. Mae ystad yn burion, meddai yr hen foneddwr, os bydd; ond y mae celfyddyd yn well. Yr oedd serch y gŵr ieuanc wedi ymglymu yn gryf am y foneddiges, ac ar unwaith ymroddodd i ddysgu y gelfyddyd o wneuthur basgedi. Wedi dysgu, cymerodd fasged o i waith ei hun at yr hen foneddwr, i ail ofyn ei gydsyniai. Cafodd y foneddiges ienanc yn wraig; ond yn gynar yn ei oes collodd ei etifeddiaeth, a da oedd iddo bellach wrth ei gelfyddyd i ddwyn ei blant i fyny. Dyledswydd rhieni ydyw dysgu i'w plant ryw alwedigaeth fuddiol, fel y gallont dybynu arnynt eu hunain wedi eu colli hwy. Hawdd iawn yw i nyth glyd gael ei chwalu, Dywedir y bydd yr eryr yn chwalu ei nyth er mwyn gorfodi ei gywion i ehedeg eu hunain. Dysgais gelfyddyd, ac os bydd modd, dysgwch wybod rhywbeth am fwy nag un gelfyddyd, canys y mae dull y byd hwn yn myned heibio. Mae anibell gelfyddyd yn myned yn lled ddiwerth trwy gyfnewidiad amgylchiadau. Yr oedd Abraham, yn dysgu ei deulu yn rhyfelwyr, Pwy fuasai yn tybio fod angen am i’r hen ffarmwr wneyd hyny? Onid digon oedd iddo amaethu ei dir? Ond gwr synwyrol oedd ef. Da iawn, erbyn caethgludo Lot, ei nai, gan y brenhinoedd, oedd fod ganddo 318 o wyr yn medru trin arfau. Da yw darpar ar gyfer yr hyn nad yw yn y golwg. Mae y rhyw fenywaidd yn derbyn cam mawr yn fynych yn y peth hwn, Mae yr eneth yn hynaf o chwech o blant, rhaid iddi siglo y cryd, a gofalu am y plant lleiaf, nes ydyw yn amser iddi droi allan i’w gwasanaeth; ac y mae yn dyfod yn wraig ac yn fam ei hun cyn iddi gael cyfleusdra i ddysgu gwneuthur y gorchwylion angenrheidiol iddi yn ei theulu. Er myned i’r sefyllfa briodasol yn eithaf anrhydeddus, bydd hi a’i theulu yn dioddef oherwydd yr anfantais hon.: Rhaid talu o enillion prinion ei gwr am wneuthur gorchwylion y dylasai fod wedi cael ei dysgu i’w cyflawni ei hunan. 2 Addysg foesol. Mae Llyfr y Diarhebion yn frith o gymhellioin at rinweddau moesol. Dysgir i ni yma foesgarwch mewn amgylchiadau cyffredin, yr hyn sydd yn harddwch i ddynoliaeth ac yn ogoniant i grefydd. Dysgir ni i beidio diystyru y tlawd, i beidio troi ein llygaid oddiwrth yr anghenus. Gelwir arnom i gyfodi gerbron penwyni a pharchu wyneb yr henuriaid, ar cyffelyb. Mae yn y Llyfr hefyd gymhellion cryfion at y Rhinwedd prydferth o ddiweirdeb, yr, hwn y mae ein diffyg ni o hono wedi ein darostwng fel gwlad. Mae hyn yn sefyll i raddau wrth ddrysau y rhieni. Yr oedd Solomon yn rhoddi addysg fel tad, ac yn dywedyd fod y fami yn gwnenthur hyn yn gyfraith. Diau fod rhy fychan o godi ar y rhinwedd hwn gartref ar yr aelwyd, trwy ei ddangos yn ddymunol ynddo ei hun, ac yn dwyn hefyd gydag ef fendith ac amddiffyn yr Arglwydd. Ond gallai yr athraw wneyd llawer er meithrin y rhinwedd hwn yn ei ddosbarth, pe bai yn arfer ei ddylanwad gydai ddisgyblion. Gallai ddangos iddynt mor ddyniunol ydyw myned i’r sefyllfa briodasol yn anrhydeddus, yn annibynol ar bob ystyraethau crefyddol. Mae anniweirdeb yn drygu y wlad ymhob ystyr; er nad oes angen cadw o’r golwg y canlyniadau eithaf “Y neb a becho yn fy erbyn a wna gam â’i enaid ei hun. Deffroed Ysbryd yr Arglwydd rieni, athrawon, a gweinidogion yr efengyl i godi eu llef yn y dyddiau hyn yn erbyn yr anwiredd hwn. 3 Addysg grefyddol. hyfforddia blentyn ymhen ei ffordd, a phan heneiddio nid ymedy â hi. Mae y plentyn yn fwy ei werth na chun o aur dilin, ie, na’r holl fyd, pe buasai pob llwchyn o hono yn aur. Nid oedd dim yn ddigon o werth i brynu plentyn ond y Duw a wnaeth y byd â'i air, a hyny wedi ymuno â natur y plentyn, a marw yn y natur hono. Er gwerth ych prynwyd; gan hyny gogoneddwch Dduw yn eich corff ac yn eich ysbryd. Mae yn gwaredwr tragwyddol ei barhad. Pe rhifld sêr y nef, tywod y môr, wellt y ddaear, dail y coed, a phob blewyn ar gefn pob anifail ar wvneb y ddaear, a rhoddi blwyddyn, ie, mil o flynyddoedd am bob un o honynt, ni byddai y cwbl yn ddim yn ymyl oes y plentyn. o greadur rhyfedd ac ofnadwy Hyfforddia ef ymhen ei ffordd. Pa le y mae y ffordd? Yn y Beibl. Map ydyw’r Beibl, ac y mae ffordd y plentyn yn line trwyddo yn gwbl eglur. Pa le y mae yn dechreu? Yn y man y mae y plentyn yn dechreu bod ; ac y mae yn dibenu yn nef y gogoniant. Ffordd y bywyd sydd fry i’r synwyrol, i ochel uffern obry. Gan ei fod ef yn synwyrol, gall fyned y ffordd a fyno? Na, rhaid iddo fyned ar i fyny bob cam. Er gweled lluoedd yn treiglo i lawr i'w gyfarfod bob dydd tua cholledigaeth, rhaid iddo gadw ei olwg i fyny. A oes perygl iddo golli y ffordd? Nac oes, ond cadw ei olwg ar y mynegbyst. Ac y mae y rhai hyn mor aml. Na ddilyn liaws i wneuthur drwg. Na fydd ymysg y rhai sydd yn meddwi ar win. Nac edrych ar y gwin pan fyddo coch. Cadw yn bell oddiwrthi hi. Na nesaf at ddrws ei thŷ hi. Ac y mae y manau peryglus yn cael eu dangos yn y llyfr. Fel y light house yn dangos i’r morwr y graig yr aeth llawer llong i lawr arni; felly y mae y manau peryglus wedi eu nodi allan yn y Beibl gan gwymp a dinystr y rhai a syrthiasant ynddynt. Ac y mae yr Iesu yn esiampl berffaith, “Gan edrych ar Iesu.” A phan heneiddio nid ymedy â hi. Edrychwch ar y plant a gawsant hyfforddiant priodol, megis Moses, Samuel, Jeremiah, IoaN Fedyddiwr, a Timotheus Trwy hyfforddiant boreu y mae gochelyd codymau peryglus, ac yn enwedig y mae gobaitH dyfod yn ddefnyddiol iawn gyda chrefydd.
Yn Canlyn y mae dau Fater Ysgol a barotowyd ganddo : ATHRAWIAETH Y
CYFRIFIAD. I. GOFYNIAD. Pa bethau
a welir yn athrawiaeth y cyfrifiad? II. G. Pa beth a
ddeallir wrth gyfrifiad yn yr athrawiaeth hon? III. G - Pa beth yw
sail cyfrifiad? IV. G. A wnaeth Duw
gyfamod âg Adda? V.G. Tros bwy yr oedd
Adda yn rhwym yn y cyfamod hwn? VI G. Pa bethau sydd
yn profi fod y trosedd hwn yn gyfrifedi i’w holl had? VII. G. A ydyw yn
gyfiawn fod anufudd-dod Adda yn eael ei ei gyfrif i w hiliogaeth,
a hwythau heb ei ddewis yn gynrychiolydd iddynt VIII. G. A gyfrifwyd
pechodau ei bobl ar Grist? IX. G. Pa beth yw yr
achos o’r cyfrifiad hwn? X. G. Beth oedd
sefyllfa Crist yn y cyfamod hwn? XI. G.Pa beth yw
pencyfamodwr? XII. G. Pa beth yw
Meichionydd XIII. G. A atebodd
Crist i ofynion y Tad? XIV. G. A safodd Crist
rhwng y dyledwr ar gosb? XV. G. Pa bethau yn
mhellach sydd yn profi fod pechodau ei bobl ar Grist? XVI. G. Pechodau pwy a
roddwyd ar Grist? XVII. G. Pa beth a
olygwch wrth gyfrifiad o gyflawnder Crist i'w bobl? XVIII. G. Onid oes gan
y saint gyfiawnder o’r eiddynt eu hunaint XIX. G. Pa beth sydd
i’w ddeall wrth gyfiawnder Crist? XX. G. A ddichon
barnwyr mewn llysoedd gwladol gyfiawnhau yr anghyfiawn a bod yn
gyfiawn wrth hyny? XXI.G. A all Duw
gyfiawnhau yr euog, a bod yn gyfiawn wrth hyny? Mae rhanau o’r Mater uchod i’w cael yn llawysgrifeu R. E ei hun, wedi eu hysgrifenu bedair gwaith, gyda rhyw gyfnewid iadau bob tro; ond nid yn yr un o honynt yn y ffurf uchod yn hollol. Y tebyg yw i’r Mater, cyn ei osod o flaen yr Ysgol, gael ei ddwyn gerbron y brodyr Samuel Williams a Howell Jones, ac i ychydig gyfnewidiadau gael eu dwyn i mewn iddo ganddynt hwy. Yn ydym yn tybio mai yn llawysgrif H. J. y mae i lawr yn y llyfr. Yn un o lawysgrifau R. E., ceir y gofyniad canlynol ar atebiad fel hyn G.Pa beth yw
cyfrifiad? Ac mewn un arall, ceir y cwestiwn ar ateb canlynol : G.Am ba sawl math o
gyfrifiad y sonir yn y Beibl? Mewn un ysgrif hefyd, ychwanegir y geiriau canlynol at vii. 3, Ac ni buasai neb yn gweled hyny yn anghyfiawn mwy nag y gwelir yn anghyfiawn i fab etifeddu etifeddiaeth a berthynai i'w dad. AM FFYDDLONDEB GYDA GWAITH YR ARGLWYDD GOFYNIAD A ydyw yn
ddyledswydd arnom fod yn ffyddlawn gyda gwaith yr Arglwydd?
G. Beth yw
ffyddlondeb? G. Ymha bethau y mae
flyddlondeb y saint i'w weled? G. Pa bethau sydd yn
anogaethol i ffyddlondeb? G. A oes rhyw bethau
eraill yn anogaethol i ffyddlondeb? Wele eto un engraifft o’r Anerchiadau a draddodid ganddo ar nos Sabbothau. Yr ydym yn cofio yn dda y traddodiad o’r anerchiad hwn. Yr oedd ef ei hun dan deimlad dwys, yn enwedig wrth draddodi y darn olaf; ac yr ydym yn dra sicr fod yr ychydig sydd yn aros o’r rhai a’i gwrandawent yn cofio am ddwysder eu teimladau eu hunain. dano.
MYFYRDOD AR DIARHEBION
XIV:32. Mae yr adnod hon fel y golofn gynt, rhwng yr Aiphtiaid ar Israeliaid, un ochr dywyll ac un ochr oleu iddi. Cael ei yru y mae y drygionus o borth y geni i borth y marw. Mae ei chwantau pechadurus, a’r diafol yn ei yru trwy ei oes, fel nad oes iddo seibiant haf na gauaf, Sabbath nac wythnos, dydd na nos. Wedi cyflawni un pechod, mae yn cael ei yru i gyflawni pechod arall drachefn o’r un natur ddieflig a diystriol, ac felly ymlaen trwy ei oes. Mae yn was i’w chwant ei hun, yn was i’r diafol. Meistr caled iawn yw y chwant. Ni ddywed byth Digon mwy na’r bedd. Gresyn fod neb yn was i’w chwantau. A meistr ofnadwy o galed yw y diafol hefyd, hollol ddidrugaredd. Mae yn gyru ei weision o ddrwg i ddrwg, nes o’r diwedd y maent yn rhy ddrwg i fyw ar y ddaear. Mae miloedd o honynt yn marw cyn haner eu dyddiau, oherwydd eu llafur yn ngwasanaeth yr un drwg. Llawer meddwyn wedi lladd ei hun; llawer godinebwr wedi dinystrio ei gyfansoddiad cyn haner ei ddyddiau. O, y fath resyn fod y fath greadur, w-edi ei gynysgaeddu â rheswm a chydwybod, yn ymroddi gyda’r fath ffyddloudeb i wasanaethu un mor greulou ar diafol! Un nad oes ganddo le i roddi ei weision yn y diwedd ond llyn yn llosgi o dan a brwnistan. Ofnus yw y bydd llawer Cymro yn barod i ddweyd wrth y diafol yn uffern, O greadur creulawn a melldigedig Ar ol i mi dy wasauaethu âm holl egni bob dydd om hoes, a’i dynia y lle sydd genyt i un yn y diwedd? A digon tebyg y bydd yntau yn barod i ateb fel yr archoffeiriaid gynt wrth Judas, Beth yw hyny i mi? edrych di. Ond nid gyru i bechu a olygir yn yr adnod hon, yn hytrach ei yru o’r byd i dragwyddoldeb. Bydd amser yn ei yru. O bob rhoddion a ddarfyddant, dyma y fwyaf o’r cwbl. Mae amser o fwy o werth na’r ffarm oreu yn y sir, yn well na’r gelfyddyd oreu, yn well na’r mwynglawdd cyfoethocaf yn yr holl fyd. Ond er cystal ydyw, y mae yn gyru y drygionus ymaith bob anadliad. Mae yn ei yru y dydd ar nos, yn effro ac yn nghwsg, yn glaf ac yn iach, heb aros, A buan cawn y bydd wedi ei yru dros y geulan, i’r byd lle y bydd yn medi ffrwyth ei lafur a’i fywyd annuwiol yn y fuchedd hon. Mae cystuddiau, croesau, profedigaethau, a damweiniau yn ei yru ymaith i dderbyn ei gyflog. Ac y mae deddf a chyfiawnder yn ei yru i’r carchar fel troseddwr A dyma sydd yn ofnadwy. Y mae yn myned yn ei ddrygioni. Os na ysgerir rhwng dyn a’i ddrygioni yn y byd hwn, ni bydd dim ysgar arnynt byth. Pan y dywed enaid y drygionus, Dyma fi yn myned at Dduw i farn, dywed ei ddrygioni, Mi ddof finau yno gyda thi- Pan y dywed y corff, Dyma fi yn myned i orwedd yn y bedd, fe ddywed ei ddrygioni, Mi ddof finau i orwedd ar dy esgyrn yn y pridd. Ac yn y boreu mawr, pan y dywed y corph Dyma fi yn myned i godi, i gael fy uno unwaith eto a’r enaid melldigedig hwnw, fe ddywed ei ddrygioni, Mi ddof finau gyda thi. Lle y lletyech di y lletyaf finau byth mwy. Y Duw sydd yn llawn o ras a dorro yr undeb rhwng y drygionus a’i ddrygioni yn y byd hwn. Gyrir ymaith y drygiouus yn ei ddiygioni, fel y troseddwr yn ei rwymau. Gwaith y drygiouus yw giwneyd rhwyniau iddo ei hun, gwau y rhwyd a gwneyd y rhaffau i’w ddal ei hun, casglu tanwydd iw losgi ei hun am byth. Ei amynedd ei hun a ddeil yr annuwiol, ac efe a ddelir â’i rhaffau ei bechod ei hun. Nid yw yr hyn a ganlyn ond engraifft o anerchiadau a draddodid ganddo yn achlysurol yn y Cyfarfodydd Eglwysig pan y byddai mater neillduol dan sylw. GWEDDI DELLUAIDD. Mae gan y chwiorydd fwy i’w wneyd, fe allai, nag a feddyliwn er hwyluso y ffordd gyda’r addoliad teuluaidd. Wedi boreufwyd, bydded iddynt oddef i fân orchwylion, megis golchi y llestri, crynhoi y te, &c., gael eu gadael nes y byddo yr addoliad drosodd, fel na choller amser y pen teulu ac aelodau eraill y teulu y byddo eu gorchwylion yn galw am danynt. Bydded y plant wedi eu gwisgo yn brydlon, a gofaler am berffaith dangnefedd. Dyrchafu dwylaw sanctaidd sydd i fod, heb na digter na dadl. Mae un gair chwerw a chyffrous yn ddigon i darfu ysbryd addoli o’r teulu am ddyddiau. Hefyd y mae yn ofynol i’r hwn fyddo yn cynal yr addoliad fod wedi derbyn yr eneiniad oddiwrth y sanctaidd hwnw, er ei gadw rhag. - myned yn ffurfiol a diflas. Yr oedd Moses yn myned o’r neilldu oddiwrth y bobl at yr Arglwydd; ac erbyn dychwelyd at y bobl yr oedd ei wyneb yn disgleiriio. Ac felly y mae yr Iesu yn ein dysgu. Dos i’th ystafell, ac wedi cau dy ddrws gweddia ar dy Dad yr hwn sydd yn y dirgel, a’th Dad yr hwn a wêl yn y dirgel a dâl i ti yn yr amlwg Nis gallwn lai na theimlo fod y ddau lythyr canlynol yn haeddu lle yn y fan hon; er mai nid heb beth petrusder yr ydym yn dodi i mewn y diweddaf. Ysgrifenwyd y llythyr hwn ganddo at ei ferch Jane, yn hâf y flwyddyn 1854, wedi iddo ddychwelyd o Landrindod. Bu am flynyddau yn myned i’r Ffynhonau, ac yn derbyn lles mawr yno. Nid oedd yn y byd ddim a wnaeth gymaint o les i’w iechyd a dyfroedd y Pistyll Bach. Anwyl Ferch, Clywsom ddydd Sadwm eich bod yn iach, a da oedd genym hyny. Gobeithio eich bod yn parhau felly eto a’r teulu yna oll. Yr ydym ninau yn debyg fel arferol Nid yw eich mam nemawr salach er pan y daethum adref. Mae y plant yn iach, ac wedi bod yn blant pur dda tra y bum i ffwrdd. Go wanaidd yr wyf fi yn teimlo fy hun hyd yn hyn ; ond yr wyf yn dal i obeithio gwella peth fel y cerddo yr amser, os gwêl y Brenin mawr hyny yn oreu. Byddaf yn ceisio meddwl fod fy amserau yn ei law; am dyled am braint yw ymddiried ynddo byth. Ond pa bryd bynag y byddaf fil farw, mawr ddymunwn fod fy mhlant i gyd yn rhodio yn holl orchymynion a deddfau yr Arglwydd yn ddiargyhoedd. Bum yn meddwl llawer am y geiriau hyny yn y drydedd benod o’r Datguddiad, Dal yr hyn sydd genyt, fel na ddygo neb dy goron di. Y goron fwyaf o bob peth yw duwioldeb. Dyna yw prydferthwch mwyaf hen ac ieuauc, byw yn dduwiol ymhob peth. Bum yn meddwl am lawer o ieuenctyd wedi colli y goron hon duwioldeb. Cofia dithau y cyngor, Dal yr hyn sydd genyt, fel na ddygo neb dy goron di. Mae holl fywyd y Cristion yn fywyd o lafur ac ymdrech; a chofia na wna yr Arglwydd mo’th waith di a minau. Coroni yr ymdrech y mae Ef bob amser. Arglwydd y lluoedd a fyddo yn Dduw i ti byth. Dy rieni, ROWLAND & MARY EVANS. Melin Aberllefenni, Hyd. 28, 1865 Anwyl Frawd,- Dyma hir ei ddisgwyl wedi dyfod o’r diwedd. Gallaf ddweyd na fu fawr o ddyddiau er pan welais dy gefn yn myned heibio y Culyn na byddwn yn meddwl am danat; ac mi feddyliwn dy fod yn barod i ddweyd, “Drwg yw yr arwydd”. Nis gwn yn iawn beth i’w roddi i lawr yn mhellach; ond yn gyntaf oll yr wyf yn dra diolchgar am y llythyr a dderbyniais oddiwrthyt. Hysbysais yn yr eglwys am dani, a da oedd ganddynt oll glywed am danat. Yr ydym hyd yn hyn yn ceisio cofio am danat wrth orsedd gras. Hyderaf dy fod dithau yn cael blâs ar y busnes enillfawr o weddio. Y gweddiwr mawr yw y Cristion mawr. Gall un fod yn rhyw fath o bregethwr mawr, er bod yn weddiwr bychan; ond Cristion bach wedi y cwbl Yr oedd yn dda genyf dy glywed yn dweyd yn y society ddiweddaf cyn ein gadael, dy fod, os nad oeddit yn twyllo dy hun, wedi cyflwyno dy hun i wasanaeth Iesu Grist am byth. Ynglyn Ar ystynaeth yna, mi ddymunwn roddi darn o adnod i ti, a dyna hi, Tydi gwr Duw, gochel y pethau hyn; a dilyn gyfiawnder, duwioldeb, ffydd, cariad, amynedd, addfwyndra. Dymunwn i ti edrych arnat dy hun yn y nodwedd hwn bob amser. Cofia mai gwr Duw ydwyt, nad ydwyt yn eiddot dy hun, ond eiddo dy berchen. A chofia dy fod felly yn eiddo un gwell na thi dy hun, dy fod yn eiddo y goreu, yn eiddo yr hwn sydd yn ffynon pob daioni sydd mewn bod. Yr wyt yn well, Yr wyt
yn well, Oll yn gyfan, Oll yn
gyfan Mae yr Apostol Paul yn coffâu y teitl hwn ar y pregethwr ieuanc gyda golwg ar ysbryd ymgyfoethogi, caru arian, yr hyn a welai efe yn ffynu yn fawr yn y wlad y pryd hwnw. Tydi, gwr Duw, gochel. Mae llawer o’r un ysbryd yn y byd yn ein dyddiau ninau. Arian yw y peth mawr sydd yn ferw mewn byd ac eglwys. Ac feallai ei fod ymysg y gwyr ieuainc sydd yn yr Athrofa: os nad ydyw, goreu oll Ond tydi, gochel y pethau hyn. A dilyn gyfiawnder, dilyn dduwioldeb, dilyn ffydd, dilyn gariad, amynedd, addfwyndra. Mae y pethau hyn oll yn werth i redeg ar eu hol, ac nid yn unig i fyned i ben y gamfa i’w cyfarfod, ond dros y gamfa i ganol y cae er mwyn cael gafael ynddynt. Pe digwyddai i’r temtiwyr dy demtio i falchio, dywed wrtho mai gwr Duw ydwyt; ac nad oes genyt ddim ond a dderbyniais, mai Duw a roddodd i ti y ddawn sydd genyt er mwyn ei eglwys a bwrcaswyd â phriod waed ei Fab, tad ydyw y cwbl yn ddim i ti ond chwanegiad llafur corff a meddwl. Ie dywed mai baich yw y dalent a roddwyd arnat; ond cofia hefyd mai nid baich i’th lethu, ond baich a defnydd cynhaliaeth ynddo ydyw. Gochel i ddim o wynt Haman chwythn arnat. Os digwydd i ryw wynt drwg chwythu arnat saf bob amser yn ymyl y groes. Ar ei liniau, ac ar ei wyneb ar y ddaear yr oedd Iesu Grist yn ei gyfyngder. A dyna y fan i ti a minau i disgwyl goruchafiaeth. Yr wyf yn dra hyderus na thramgwyddi wrth y geiriau hyn, ond y cymeri hwynt yn ffrwytb caredigrwydd. Maent yn codi oddiar gariad atat, a gwir ofal am danat. Bendith y nefoedd ath ddilyno. Ni byddi byth yn fwy cysurus nag y dymunwn i ti fod. Yr ydym ni yma o drugaredd Yn. weddol iach. Llythyr yn fuan. Dy hen frawd R.EVANS |
|
|
|
|
|
|