Search billions of records on Ancestry.com

PENNOD VII.

EGLWYSI DOSBARTH PENLLYN - CAPEL CELYN

Ardal fynyddig, eang ei therfynau ond teneu ei thrigolion, yw ardal y Celyn. Saif mewn cyfeiriad gogledd-orllewinol o’r Bala, a dyma y gymydogaeth uwchaf ar y ffordd o’r Bala i Ffestiniog. Gwneir y gymydogaeth i fyny o dri o gymoedd (a) Cwm Amnodd yn nghesail yr Arenig; (b) Cwm y Tryweryn, ar hyd yr hwn y rhed yr afon o’r enw; (c) a Chwm Cyngefail, pen uchaf yr hwn sydd yn terfynu ag Ysbytty Ifan. Saif y capel ar fin y ffordd fawr o’r Bala. i Ffestiniog, tua saith milldir o’r lle blaenaf, ac yn agos i’r fan lle yr ymuna yr afon Celyn a red trwy Gwm Cyngefail ar afon Tryweryn.

Pa mor aml y cysegrid tai mynyddig yr ardal hon gan gyfarfodydd gweddiau a phregethau yn nghyfnod boreuaf Methodistiaeth, ni allwn ddweyd, ond y mae yn wybyddus i lawer llanerch o honi gael ei chysegru gan weddiau y pererinion a aent i Sasiwn y Bala yn rhan olaf y ddeunawfed ganrif, yn gystal a rhan flaenaf y ganrif ddiweddaf.

Nid oedd yma foddion sefydlog gan y Methodistiaid agos mor fore ag yn ardal Talybont; eto, cawn y byddai Hugh Roberts, Tynypant, un o flaenoriaid cyntaf eglwys Talybont, yn myned yn gynar iawn yn y ganrif ddiweddaf i Benbrynfawr i gadw seiat. Cynhelid seiat a moddion eraill o ras mewn gwahanol dai yn y gymydogaeth lawer blwyddyn cyn adeiladu capel ynddi. Y prif leoedd oeddynt Maesydail, yr amaethdy wrth odre yr Arenig Fach, ychydig uwch-law lle y saif y capel yn awr arno, a Phenbrynfawr, yr amaethdy henafol wrth odre mynydd Nodol, yr ochr ddeheuol neu dde-orllewinol i’r afon Tryweryn. Cynhelid Ysgol Sabbothol hefyd yn uwch yn y mynydddir yn Amnodd Wen ac Amnodd Newydd, yn y cwm amgauedig gan y mynyddoedd uchel rhwng ardaloedd Llanuwchllyn, Trawsfynydd, ar Celyn. Prin y mac angen dweyd y deuai y cymunwyr o’r ardal hon i’r Bala ar Sul pen mis, fel cymunwyr ardaloedd eraill Penllyn. Y mae 7 neu 8 milldir o’r Filldirgerrig yn rhan ddeheuol yr ardal hon i’r Bala, ac y mac yn hysbys y byddai Emwnt y Filldirgerrig yn mhob cymundeb bron, ac mewn lliaws o foddion eraill, er holl bellder y ffordd oedd ganddo i fyned i’r dref.

Wedi bod yn addoli am dymhor maith fel hyn mewn tai anedd, yn Mhenbrynfawr yn benaf, oherwydd yno yn raddol y daeth y moddion i fod yn sefydlog, symudwyd yn mlaen yn y flwyddyn 1820 tuag at gael capel i addoli ynddo. Cafwyd tir i’r amcan ar brydles o 99 o flynyddoedd am ardreth o 5/- yn y flwyddyn, gan deulu Dolgynlas. Robert Jones, Dolgynlas, & Jane Jones, Spinster, eldest daughter and Heir apparent, yw y desgrifiad a geir yn y brydles o’r Rhoddwyr. Yr ymddiriedolwyr oeddynt,_y Parch Simon Lloyd, Bala; Parch. John Roberts, Llangwm; Mri. Gabriel Davies, Bala, Shopkeeper; John Peters, Bala, Preacher; Robert Richards, Amnodd Farmer, Thomas Davies, Tynant; Robert Roberts, Pencelli.

Yn mhen llawer o flynyddoedd. prynwyd y tir hiwn yn rhydd-feddiant, yn nghyd a thir ychwanegol i wneyd mynwent, am y swm o £50, gan Mr. Watkins, i’r hwn erbyn hyn yr oedd y lle wedi dyfod yn feddiant.

Yr oedd adeiladu capel yn y fath gymydogaeth bedwar ugain mlynedd yn ol yn anturiaeth led fawr, ond ymddengys i’r brodyr yn y lle hwn gael cymhorth sylweddol at ei adeiladu gan y Cyfundeb. Yr oedd y casgliad a gychwynasid flynyddoedd pell yn ol, ar anog-Mr. John Evans y Bala, heb gael ei roi i fyny yr adeg hono, yn unig yr oedd wedi dyfod er ys amser maith yn un sirol ac nid yn un cyfundebol i holl Ogledd Cymru. Bu y Parch. John Roberts, Llangwm, yn hynod o eginol gyda’r casgliad hwn yn y ddwy ffurf a fu arno, a chafodd y cyfeillion yn Capel Celyn brofi budd oddiwrth y casgliad cyn iddo gael ei roddi heibio. Cafwyd cymhorth hefyd oddiwrth frawd o’r ardal, yr hwn fel Dafydd gynt oedd a’i fryd ar gael teml i’r Arglwydd yma, ond a gymerwyd ymaith gan angau cyn i’r bwriad gael ei gwblhau. Fel hyn y ceir mewn cofnod-lythr o eiddo Mr. John Evans, Penbrynfawr, yr hwn oedd a’i ysgwydd dan y baich mor fore ag 1820: “Chwef 21, 1821. Coffadwriaeth fod Thomas Davies, Tynant, wedi talu arian a adawodd John Hughes, Penbryn, at gynorthwyo achos yr Arglwydd, sef helpu society Pen-bryn, a chodi capel y Celyn swm o £6/0/0”. Addas yw i goffadwriaeth y John Hughes hwn fod yn barchus gan yr ardalwyr am rodd mor helaeth at amcan mor glodwiw. Cafwyd yn lled helaeth hefyd o’r casgliad chwarterol y cyfeiriwyd ato. Yn Nghyfarfod Misol y Bala, Rhag. 31, 1821, derbyniwyd o’r casgliad chwarterol at gapel y Celyn y swm o £7/8/7½. Eto, derbyniwyd yn Cerrigydruidion, Hydref 18, 1822, y swm o £10/1/0. Derbyniwyd yn Nghyfarfod Misol y Bala, Rhagfyr 27, 1824, y swm £10/1/0. Derbyniwyd yn Nghyfarfod Misol Llanuwchllyn, Hydref 5 1825 y swm o £5. Wedi hyny, Meh. 6, 1827, derbyniwyd yn Nghyfarfod Misol Maentwrog y swm o £30 at gapel y Celyn. Gwelir felly i dros £60 ddyfod o’r sir mewn chwe blynedd o amser at draul y capel cyntaf yn yr ardal hon.

Caed cyfarfod pregethu ar agoriad y capel Gorphenaf 22, 1821, pryd y pregethwyd gan y brodyr canlynol :—Am 10, Lewis Williams ar Ioan xvi., 13; a John. Roberts, Llangwm, ar Math. viii, 2. Am 2, David Williams, Talsarnau, ar i Pedr iv.,17; a John Roberts, Llangwm, ar Salm iv., 2. Am 6, David Williams, Talsarnau, ar Rhuf. xv., 3. Dichon y dywed rhywun nad oedd yno ond un pregethwr poblogaidd yn y cyfarfod, ond yr hyn a ysgrifenwyd am dano ar y pryd ydyw ei fod yn gyfarfod lliosog iawn, ac fod graddau helaeth iawn o arddeliad a chymorth yr Ysbryd Glan wedi ei roddi trwy y gwasanaeth.

Y blaenor a wasanaethai yr eglwys yn y cyfnod boreuaf yn ei hanes ydoedd Thomas Davies, Tynant. Y mae yr hyn a goffawyd yn barod am John Hughes, Penbryn, yn dangos fod ei gariad at yr achos yn fawr, er na ddywedir ei fod ef yn flaenor. Llawer seiat wresog a nefolaidd oedd y rhai a symudent i’r capel newydd hwn wedi gael yn Penbryn fawr yn y blynyddoedd blaenorol. Yn nhy Penbryn fawr y cynelid y moddion ar adeg Diwygiad mawr Beddgelert yn 1818, pan oedd phiolau y saint yn llawn o lawenydd yn yr ardal hon fel yn yr ardaloedd cylchynol Yr. oedd Emwnt y Filldir gerrig wedi yfed yn helaeth o farilau y Cyfamod Gras, ys dywedai John Williams, Dolyddelen. Aeth ef a Dafydd Rolant, yn ŵr ieuanc newydd ddechreu pregethu, mor bell a Maentwrog os nad i Feddgelert i weled y diwygiad hwn, ar hyn a ddywedai pobl Maentwrog am y ddau ydoedd, — Y mae yr hen ddyn yma o’i go yn sicr ddigon, os nad ydyw y bachgen sydd hefo fo o’i go hefyd. Dywedai Dafydd Rolant ar ol dyfod i fyw i’r ochr arall i fynydd Nodol, am y terfyn ar ardal hon, fod y rhai sydd yn cloddio am y graig yn ffond iawn o gael cwmpeini. Pan oeddwn i yn ŵr ieuanc yr oedd yn dda iawn gen i gael rhai i gyd-gloddio â nhw, ac mi darewais wrth hen gloddiwrs braf tua Waen y Bala acw mhobol i, ac mi roedd ganddyn nhw geibiau da, mi aent trwy fynyddoedd o hunan-gyfiawnder fel trwy hen fawnog.

Yr oeddynt yn symud eu pabell o Benbryn i’r capel cyn i wres diwygiad Beddgelert oeri, ohcrwydd fe barhaodd dylanwad yr adfywiad hwnw am rai blynyddoedd, ac yr oedd addolwyr gwresog yn ymgynull yn y capel pan yr agorwyd ef.

Ar ol agor y capel, daeth Mr. Robert Roberts, a ddewisasid yn flaenor yr un adeg a Mri. John Evans, Penbryn, a Robert Richards, Gwerndelwau, i fyw i dŷ’r capel. Unig fab i Robert Richards, Cyngefail, oedd Robert Roberts, ac anfonwyd ef i’r ysgol i’r Amwythig pan yn fachgen, yr hyn barai ei fod yn well ysgolor na’r cyffredin o feibion amaethwyr yr ardal. Bu yn arolygu gweithiau mwyn yn amgylchoedd ei gartref am rai blynyddoedd, ac aeth i wlad Lleyn i ddilyn yr un alwedigaeth. Ond pan yn Lleyn, ar anogaeth ei gyfaill John Evans, Penbryn, ymgeisiodd am y swydd o Relieving Officer yn Mhenllyn. I weinyddu y swydd hon, symudodd i’r Bala i fyw, lle y treuliodd y rhan ddiweddaf o’i oes. Ond bu am amryw flynyddoedd yn gwasanaethu fel blaenor yn Capel Celyn cyn ei symudiad i’r Bala.

Yr oedd John Evans yn flaenor amlwg, o ymddiried mawr gan ei frodyr yn y Sir, ac yn dywysog ac arweinydd yn ei ardal ei hun. Bu yn ffyddlon iawn gyda’r achos yn ei holl ranau, a’i dŷ yn llety clyd a chroesawgar i fwy nag un genhedlaeth o bregethwyr. Pan oedd Sassiwn y Bala yn ei phoblogrwydd mwyaf, deuai llawer o Leyn ac Eifionydd, a rhanau eraill o Sir Gaernarfon, drwy yr ardal hon iddi, a chan mai dyma y lle cyntaf a gaent ar ol croesi y mynydd mawr, byddai pregeth yn Capel Celyn yn adfywiad iw hysbryd, ac yn orphwysdra iw cyrff, ac hefyd yn feithriniad i letygarwch yn nheuluoedd yr ardal. Llawer teithiwr erioed gafodd adfywiad iw natur yn Penbrynfawr yn gystal ag yn hen westy cynes Rhydyfen, yr hwn y mae yn anhawdd edrych arno fel tafarn, am ei fod bob amscr mor wahanol i dafarnau cyffredin.

Gwelir fod enw Robert Richards, Gwerndelwau, iw gael yn mysg yr ymddiriedolwyr cyntaf, fel R. Richards, Amnodd, ond ychydig o’i hanes sydd ar gael. Yn y flwyddyn 1841, gallem feddwl, y dewiswyd Mr. David Williams, Coedymynach, ac oddeutu yr un amser y dewiswyd rhai eraill, sef Edward Jones, Maesydail, ac Ellis Jones, Filldirgerrig. Yr ydym wedi cyfeirio eisoes at David Williams yn hanes Llwyneinion, ond yn yr eglwys hon y dewiswyd ef gyntaf a bu yn flaenor yma am un mlynedd ar bymtheg, tymhor ddigon maith i ddyn o yni ac ymroddiad fel efe i ddyfod i sylw a dylanwad Yma yr oedd yn mlodau ei ddyddiau, yn ŵr37 mlwydd oed pan alwyd ef yn flaenor, ac nid oedd ond 53 rnlwydd oed pan ymadawodd i Lwyneinion yn 1857. Teimlid fod y golled yn fawr ar ei ymadawiad o’r ardal, er nad oedd yn ymadael o Ddosbarth Penllyn.

Pedwar o flaenoriaid llawn hynach mewn dyddiau na David Williams oedd yn aros ar ol i arwain yr eglwys yn nghyfnod effro diwygiad y flwyddyn 1859. Cafodd Robert Richards fyw i weled hwn, ar tri arall, J. Evans, Edward Jones, ac Ellis Jones, fyw gryn lawer yn hwy. Cafodd yr eglwys hon brofi yn helaeth o’r adfywiad nerthol hwnw, ac nid yn fuan yr aeth ei wres heibio. Yn y Cyfarfod Misol a gynelid yma yn 1862, sylwid gan un o’r brodyr fod y diwygiad yn parhau yn hwy yn ei wres gyda hwy yno nag yn un man arall yn y wlad, pan yr atebodd un o’r blaenoriaid ei fod yn meddwl mai yr achos fod yr Arglwydd yn rhoddi mwy iddynt oedd, ei fod ef yn eu gweled yn bethau mor wael. Dynion iselfrydig eu meddwl oeddynt, a’u duwioldeb yn enill iddynt barch diffuant.

Parhaodd Mr. John Evans, Penbryn, yn ŵr lled rymus o gorffyn gystal a meddwl pan yr oedd rhai o’i frodyr yn llesgau gan henaint.

Ond yn 1874, dewiswyd Mr. John Roberts, Weirgloddwen, a Mr. Hugh Williams, Tynant, yn flaenoriaid Symudodd Mr. Hugh Williams i Sir Ddinbych ond y mae Mr. John Roberts yn aros hyd y dydd hwn. Yn 1880, gwnaed dewisiad drachefn, am fod yr hen frodyr bellach wedi huno. Y pryd hwn, dewiswyd Mr. Cadwaladr Evans, Penbrynfawr, a Mr. John Hughes, Tycapel. Y tri hyn yw y blaenoriaid yn bresenol.

Yn 1887, ymgymerodd yr eglwys hon mewn undeb âg eglwys y Llidiardau i roi galwad i fugail.

Byddai Dafydd Rolant ac Evan Peters yn ffyddlon iawn yn y blynyddoedd blaenorol i ddyfod i gynorthwyo gyda’r cyfarfod eglwysig, ond yn awr y mae gan yr eglwysi hyn fugail yn gofalu yn fwy cyson am danynt. Wedi ymadawiad Mr. Hughes yn rhan olaf 1889, rloddwyd galwad i Mr. Robert Jones, B.A., o Gyffylliog, yr hwn a ymryddhaodd yn mhen oddeutu dwy flynedd, er mwyn myned allan i’r maes cenhadol, fel y coffawyd yn yr hanes am Llidiardau. Ymunodd yr eglwys hon gydag eglwys y Llidiardau eto i roddi galwad i Mr. Thos. Jones, brodor o’r Bertheigron, Sir Fflint, i ddyfod iw bugeilio. Ar ol tair blynedd o wasanaeth cymeradwy, symudodd yn 1897, fel y dywedwyd, i gymeryd gofal eglwys Coed-llai yn ei sir enedigol. Rhaid addef fod y mynydd uchel, mynydd Nodol, sydd iw groesi o’r Celyn i’r Llidiardau ar bob hin yn gwneyd yr ofalaeth hon yn un y gofynir llawer o hunan-ymwadiad mewn bugail i aros yma yn hir, os bydd yn cael cynyg myned i le mwy cyfleus. Y mae yr eglwys hon yn cyd-symud âg eglwys y Llidiardau ar achos y fugeiliaeth, ac felly wedi mynd trwy gyfnewidiadau cyffelyb i’r eglwys hono yn y mater hwn.

Ond er y cyfnewidiadau mynych hyn, ni fu y tair blynedd ar ddeg diweddaf, cyfnod y fugeiliaeth, yn un diffrwyth a diwaith yn hanes yr eglwys hon. Yn y cyfnod rhwng ymadawiad Mr. R. Jones, B.A., a galwad Mr. T. Jones, symudwyd yn mlaen at adeiladu capel newydd. Y cynllunydd ydoedd Mr. Robert Lloyd Jones, Bala, ar adeiladydd oedd Mri. D. Roberts a’i fab, Bala. Dechreuwyd ei adeiladu yn 1892, a gorphenwyd yn 1893. Mae yr adeilad yn werth £800. Agorwyd ef ar amser y cyfarfod misol yno yn Mehefin, 1893. Pregethwyd ar ei agoriad gan y Parchn. J. Puleston Jones, M.A., J. Williams, Brynsiencyn, E. J. Williams, Llandrillo, J. Wïllians, Corwen, a J. Howell Hughes, Ysbytty.

Tua’r amser yr adeiladwyd y capel newydd, dechreuwyd hefyd gynal Ysgol Sabbothol yn ardal Arenig, yn nes i gwm uchaf y gymydogaeth. Wedi dechreu cadw ysgol yn y Filldirgerrig yn 1889, symudwyd yn fuan i adeilad cyfleus yn nglyn a Bodrenig, anedd Evan Jones, Ysw., Y. H., ac y mae teulu Bodrenig wedi gwneyd eu rhan yn helaeth at gynal y moddion yn y fan hon. Ceir pregethwr i bregethu yma yn lled fynych ar nos Sabboth, a hyny heb ychwanegu at draul yr eglwys yn Capel Celyn.

Ymddengys y bu cangen ysgol yn cael ei chynal ar un cyfnod yn Tyucha, yn agos i Giltalgarth. Dyma yr hyn geir mewn hen ysgrif am yr ysgol hono :—

1. Fod Ysgol Sabbothol y Tyncha iw hystyried yn ganghen o ysgol Capel Celyn.
2. Ei bod dan nodded ysgol y Celyn.
3. Fod yr athrawon a anfonr yn genhadwyr o ysgol y Tyucha i’r Celyn iw hystyried yn aelodau o gyfarfod athrawon y Celyn.
4. Fod llafur ysgol y Tyucha iw symio yn nghyd a llafur y Celyn.
5. Fod y penderfyniadau hyn yn agored iw newid.
Anaml y mae cangen ysgol yn cael ei chychwyn gyda mwy o drefn, ond ni wyddis dros ba hyd y parhaodd y ganghen hon.

Gan nad oes cynydd, eithr yn hytrach lleilad, yn rhif y trigolion yn yr ardal fynyddig hon, ni ellir disgwyl llawer o gynydd yn rhif y gwrandawyr ar aelodau yn y fath le. Dyma y cyfrif:--­

Gwrandawyr   Aelodau   Deiliaid yr Ysgol.
Yn 1868    124    82   75
Yn 1899    277   88   108

Blaenoriaid capel Celyn. Thomas Davies, Tynant; John Evans, Penbryn; Robert Roberts; Robert Richards; David Williams; Edward Jones; Ellis Jones; John Roberts, Weirgloddwen, 1874; Hugh Williams, 1874; Cadwaladr Evans, 1880; John Hugles, 1880

hafan Llyfrau Fyny Diwethaf Nesaf