Search billions of records on Ancestry.com

PENNOD VII.

EGLWYSI DOSBARTH PENLLYN - CEFNDDWYGRAIG

Eglwys fechan yw hon rhwng y Glyn a Llwyneinion, a wneir i fyny o deuluoedd a berthynent gynt i'r Glyn neu Lwyneinion, ac ambell i deulu hwyrach o gyffiniau y Bala. Eglwys a sefydlwyd yn ddiweddar mewn cydmar¡aeth ydyw, ac un nad oes iddi oherwydd hyny lawer o hanes. Saif y capel ar uchelfan lai na dwy filldir i'r dehau o dref y Bala, a hyd yn ddiweddar deuai yr aelodau i'r Bala i'r cymundeb bob mis fel yr eglwysi bychain eraill sydd yn agos i'r dref, y rhai a barhasant am dymhor yn yr undeb hwn a’r fam-eglwys yn Mhenllyn wedi i'r rhai lliosocach a phellach o'r dref ymwahanu. Y mae y capel mewn lle amlwg ac agored iawn i ystormydd y gauaf; ond yn yr haf y mae yn lle dymunol, ac ychydig bellder oddiwrtho oddiar grib y bryn gellir gweled holl dref y Bala a’r dyffryn o'i hamgylch, a rhan helaeth os nad yr oll o Lyn Tegid yn gorwedd yn y dyffryn islaw. Gan fod hanes cryno am gychwyniad yr achos yma wedi ei ysgrifenu gan y diweddar Mr. Iorwerth Jones, Bryntirion, ŵyr i'r adnabyddus William Jones, Rhiwaedog, a blaenor ffyddlawn yn yr eglwys hon am amryw flynyddoedd, dodwn ef i mewn yn gyflawn yn y fan hon.

Fe sefydlwyd Ysgol Sabbothol Cefnddwygraig yn ysgubor Fachddeiliog o gwmpas y flwyddyn 1813, trwy offerynoliaeth y Parch. Thomas Charles, B.A., ar diweddar Mr. Robert Saunderson, Bala, oedd yn swyddogol gan Mr. Charles ac yn anfonedig yno i'w dechreu. Nid ydym yn cofio am neb arall yn gynorthwywr iddo; ond bu ef yn cerdded yno bob Sabboth yn ffyddlawn am dalm amser Yn mhen ysbaid fe symudwyd lle yr Arch i'r Cornelau, a bu yno am 20 mlynedd. Yr oedd yr Ysgol Sabbothol yn fwy llewyrchus nag unrhyw foddion arall y tymhor hwnw. Yn nghof yr ysgrifenydd, nid oedd yno ddim ond tri crefyddwr, sef John Williams, Ysbyddadog, a Grace Davies, Bryngwyn aelodau perthynol i Lwyneinion, a Grace Jones, Gors, a hono yn aelod o eglwys y Glyn Pantyronen y pryd hwnw, lle yr oedd Ysgol Sabbothol yn cael ei chadw. Ond disgynodd ysbryd Ysgol Sabbothol cyn hir ar bawb trwy yr ardal. Y rhai fyddai yn darllen yn well na’r lleill byddent yn cael eu dewis yn athrawon ac athrawesau, ar hen frawd Mr. Saunderson yn dyfod i'r Cornelau bob bore Sabboth. Ond yr oedd yr hen fam Sian Lewis, Cornelau, gyda chrefydd ac wedi ei meddianu gan sêl gyda'r ysgol. Aelod o seiat y Glyn ydoedd, ac yr oedd yn meddwl er ys tro. Yr oedd ei gwr duwiol Robert Evans wedi ei gladdu cyn sefydlu yr Ysgol Sabbothol. Yr oedd y gwr da hwn wedi rhoi ei ddylanwad ar yr ardal. I Eglwys Llangower y byddai yn arfer myned, am nad oedd yr un capel wedi ei adeiladu. Byddai yn myned o gwmpas i rybuddio dynion ieuainc a hen hefyd rhag tori y Sabboth ac yn gwneyd hyny yn fynych yn y fynwent bore Sabboth. Dylanwadodd ei gymdeithas ar ei briod Sian Lewis nes ei thueddu i agor ei thŷ i bob moddion o ras. Nain oedd hon i John Jones, Cornelau.

Daeth gwr arall, Richard Piritchard, i fyw ¡’r Graigcenyn, o ardal Llanuwchllyn. Yr oedd wedi ei ddewis yn flaenor cyn dyfod o Lanuwchllyn, ac ail ddewiswyd ef yn flaenor yn y Glyn wedi ei symudiad i'r Graigcenyn, yn ol anogaeth Mr. Charles. Bu yn cydweithio a Mr. Saunderson am rai blynyddoedd, pryd y darfu i Saunderson beidio a dyfod i'r Cornelau a rhoi gofal yr ysgol i Richard Pritchard. Yr oedd ef yn cael pawb i ufuddhau iddo yn yr Ysgol Sabbothol. Enillodd ei ddylanwad trwy ei addfwynder; ond bu y gŵr da a defnyddiol hwn farw yn lled fuan, sef yn y flwyddyn 1817. Erbyn hyn, yr oedd yn lled dywyll am ddefnyddiau i gadw y moddion, neb i ddechreu a diweddu yr ysgol. Ond yr oedd un o'r enw David Jones, Tynybryn, wedi ymuno a’r eglwys fechan yn Llwyneinion, ac yn fwy blaenllaw nag eraill yn yr ardal, a disgwyliai rhai wasanaeth oddiwrtho. Y mae yn gof genym fod Ellis Evans y Cornelau, mab y Sian Lewis uchod a Peter Jones y Wenallt, tad y diweddar Parch. Evan Peters, yn dweyd eu profiad y naill i'r llall yr adeg hon. Yr oedd y ddau ar y pryd yn ddigrefydd, ond yn edmygwyr mawr o Richard Pritchard, Graigcenyn, oedd newydd eu gadael. Meddai Ellis Evans wrth Peter Jones y Wenallt: “Beth a wnawn ni fachgen, fe aiff yr ysgol i lawr o dan ein dwylaw ni”. “Na, mi swcraf fi Dafydd Tynybryn i dreio gweddio yn nechrea yr ysgol”, meddai Peter y Wenallt; “pw” meddai y llall, ni, wnawn ni yr un Richard y Graienyn rhyng ein tri”. Ond fe ddalwyd ati, am ychydig, ac yn mhen Sul neu ddau fe ddechreuodd diwygiad mawr, yr hwnw a elwid Diwygiad mawr Beddgelert. Yn mhen Tair wythnos, ar ol mawr Richard Pritchard, daeth y Parch. Ebenezer Morris, i'r Bala ar noson waith a phregethodd ar y geiriau, "Pa fodd y diangwn ni os esguluswn iachawdwriaeth gymaint." A'r noson hono fe dorodd yn Ddiwigiad anghyffredin y mwyaf a welsom erioed ac fe gyrhaeddodd y diwygiad ardal Cefnddwygraig, nes y daeth pawb i'r seiat yn y Cornelau ond tri. Bellach yr oedd yma ddigon o ddwylaw i fyned ar gwaith yn mlaen a digonol o weddiwyr. Ymunodd yr holl ardal âg eglwys Llwyneinion. Yr oedd yr ardal hon erbyn hyn dan ofal y brodyr annwyl William Jones, Rhiwaedog; John Jones, Gwernrewid a Dafydd Jones, Tytangraig. Byddai y tri yna yn dyfod yn ymwelwyr â'r ysgol yn y Cornelau yn eu tro, yn nghyd a a gŵr arall hynod Evan Jones, Gelligreen; yr oeddynt yn trystio y gŵr hwnw i ofalu am yr acho,. er ei fod ar y pryd hyny yn lled ieuenc.  Byddai yr ysgol yn yr haf yn ysgubor y Cornelau, ac yn y tŷ yn y gauaf. Byddai dysgu yr Hyfforddwr, y pryd hyny mewn bri neillduol gan hen ac ieuanc a byddai William Jones, Rhiwaedog, yn dyfod yno i holi yr Hyfforddwr, a chyfarfodydd iw cofio a geid yn fynych; llawer gwaith y bu yr holl Ysgol yn foddfa gan ddagrau.

Eir yn mlaen yn yr ysgrif fer  yr ydym yn rhoddir ei chynwys yma i ddweyd fel hyn :—

Fe sefydlwyd yn fuan ganghen, o eglwys yn y Cornelau dan ofal y tri brawd o Lwyneinio ac yn mhen ychydig ar ol hyny fe ddewiswyd dau flaenor o'r ardal ei hunan i arwain yn yr eglwys ac yn Yr Ysgol Sabbothol, sef David Jones, Tynybryn, ac Evan Jones, Cornelau, a buont yn cydweithio am lawer o flynyddoedd. Amaethdy, yw y Cornelau yn agos i ben uchaf y cwm bychan. y mae ei ddyffrynoedd yn ymarllwys i gwm mwy Aberhirnant wrth bentref Rhosygwaliau. Saif wrth odreu y mynydd sydd yn gwahanu y cwm hwn oddiwrth ardal y Glyn. Bu hen bregethwyr enwog yn pregethu ar lechweddau ac yn nghilfachau y mynydd hwn cyn sefydlu moddion rheolaidd yn y Cornelau. Yr oedd careg, rai blynyddoedd yn ol i'w chael rhwng y lle yma a Llangower a elwid pulpud careg Howell Harris, a bu y diweddar Dr. Parry, Bala, ar Parch. David Davies, Cowarch, yn cynal cyfarfod pregethu un haf ar y mynydd rhwng yr amaethdy a elwir Tyntwll a Brynhynod, er cof am enwogion fu yn pregethu yn y lle hwnw yn y dyddiau gynt.

Melus oedd yr adgof gan dduwiolion oedd yn fyw lai na deugain mlynedd yn ol, am y cyfarfodydd hyfryd a gafwyd lawer gwaith yn y Cornelau. Un Sabboth yr oedd dosbarth o wragedd yn darllen yn llyfr y Prophwyd Esaiah, pan y daeth rhywbeth hynod i ymwneyd a’u meddyliau. Cawsant y fath olwg ar Grist eu Ceidwad trwy ddrych geiriau y prophwyd, fel y gorfu iddynt gau eu Beiblau gan fel yr oeddynt yn cael eu gwlychu gan eu dagrau. Gan fod enwau y gwragedd a wnaent i fyny y dosbarth ar gael, dodwn hwy i lawr yma, Sian Lewis, a Sian Jones, Cornelau, Sian Jones, Brynbedwog; Grace Davies, Bryngwyn; Beti, Gelligreen; Mary Evans

Gilrhos, &c.

Wedi bod am rai blynyddoedd yn addoli ac yn cadw seiat yn y tŷ ffarm a enwyd, teimlwyd awydd adeiladu capel. Adeiladwyd ef yn y flwyddyn 1830, a galwyd ef Cefnddwygraig. Yn mhen 13 o flynyddoedd ar ol adeiladu y capel, dewiswyd Henry Jones, ac Edward Jones, Wenallt, yn flaenoriaid, i gydweithredu a David Jones, Tynybryn.


Oddiwrth gofnodau y Cyfarfod Misol, nad oeddynt wrth law pan yn ysgrifenu yr uchod, ceir yr hyn a ganlyn yn rhoi goleuni ar yr amser y dewiswyd Edward Jones, .— Cyfarfod Misol a gynalïwyd yn Capel Celyn, Gorphenaf 24 a’r 25, 1843, Mr. Humphreys, Dyffryn, yn llywydd. “Yn olaf, anogwyd Mr. Humphreys a L. Jones i fyned i Gefnddwygraig i gynorthwyo i ddewis blaenoriaid”
Eto yn hanes Cyfarfod Misol, Llidiardau, Hydref 18 a 19, ceir, “4. Ymddiddanwyd a Henry Jones, Cefnddwygraig, a derbyniwyd ef yn aelod o’r Cyfarfod Misol.”
Eto yn hanes Cyfarfod Misol Llwyneinion, yn Chwefror 28 ar 29, ceir y cofnodiad hwn, “Ymddiddanwyd ag Edward Jones, Cefnddwygraig, a derbyniwyd ef yn aelod o’r Cyfarfod Misol.”
Y casgliad y deuir iddo yw, i Henry Jones ac Edward Jones gael eu dewis yr un pryd, yn haf 1843, ac i Henry Jones gael ei dderbyn yn Hydref y flwyddyn hono, ac Edward Jones yn Chwefror y flwyddyn ddilynol, 1844
Yr oedd Edward Jones yn gymeriad dyddorol a gwreiddiol iawn. Byddai athrawon parchus yr Athrofa a’r Myfyrwyr yn hoff iawn o’i gwmni, a bu degau o’r hen fyfyrwyr yn cael eu croesawu yn y Wenallt ar ddyddiau yr wythnos, yn benaf am y byddai y pregethwyr yn myned ar y Sabboth i Dynybryn neu y tŷ mawr lawn mor fynych. Bychan yw y capel, ac ychydig yw rhif yr aelodau yn y lle hwn, am mai bechan yw yr ardal. Rhif yr aelodau tua deugain mlynedd yn ol, yn 1856, oedd 23, a gwelir nad yw eu rhif yn 1898 ond 25, dau yn fwy nag ydoedd 42 o flynyddoedd yn ol.

Bu Edward Jones y Wenallt yn gwasanaethu am rai blynyddoedd ar ol marw David Jones, Tynybryn, heb un swyddog ond efe. Ond yn y flwyddyn 1877 dewiswyd John Jones, Cornelau, a Griffith Evans, Brynbedwog. Yn mhen 2 Flynedd drachefn, dewiswyd Iorwerth Jones, Bryntirion, sef yn y flwyddyn 1879 Ac yn y flwyddyn 1880, gwnaed cyfnewidiad trwyadl yn y capel, y cyfryw fel y gellir dweyd ei fod wedi ei adeiladu yn hollol o newydd ar sylfaeni y capel cyntaf. Dylem hysbysu mai enw y diweddar Iorwerth Jones sydd wrth yr ysgrif a gynwysa y ffeithiau a gofnodwyd. Ceir profion mewnol yn fynych ynddi ei bod wedi ei hysgrifenu gan rywun llawer hynach, un oedd yn llygad dyst o’r hyn a elai yn mlaen, yr hyn sydd yn gosod gwerth chwanegol i’r yr ysgrif. Oni buasai i Mr. Iorwerth Jones gael ei gymeryd ymaith yn gydmarol ieuanc cyn cael gwasanaethu am ugain mlynedd yn ei swydd, diau y cawsid chwaneg o gymorth ganddo ef i wneyd yr hanes yn fwy cyflawn, oherwydd yr oedd ei dad ef a'i daid cyn hyny yn llawn gweithgarwch crefyddol, ac yn troi yn nghylchloedd uchaf Methodistiaeth yn Sir Feirionydd.

Yn y flwyddyn 1893, bu farw John Jones, Cornelau, ac yn yr un flwyddyn dewiswyd Mr. Hugh Roberts, Tyntwll, yn flaenor yn yr eglwys hon, a thrwy farwolaeth ei gyd swyddog Mr Iorwerth Jones yn 1896, a symudiad Mr. Griffith Evans, Brynbedwog, i ardal Moelygarnedd, gadawyd ef wrtho ei hun yn swyddog nes y dewiswyd Mri. J Evans, Brynbedwog; Griffith Jones, Bryngwyn; a John Richards, Gelligron, yn 1899. Wrth hysbysu am sefydliad yr eglwys hon yn amaethdy mynyddig y Cornelau, dywedid mai canghen eglwys oeddid yn sefydlu. Gellir gofyn canghen o ba eglwys yr ystyrid hi ar y pryd? Yn yr ystyr fwyaf uniongyrchol canghen o Lwyneinion, oherwydd blaenoriaid Llwyneinion gymerent y blaen yn ei sefydliad ac mewn gofalu am dani ar ol ei sefydlu, heblaw mai aelodau yn Llwyneinion oedd aelodau Ysgol Sabbothol y Cornelau cyn ffurfiad y seiat yn lle. Ond dylid cofio fod eglwys Llwyneinion ei hun y pryd hwnw yn arfer myned i’r Bala i’r Cymundeb ar y Sul olaf o’r mis. Ac ar ol i Sacrament Swper yr Arglwydd ddechreu cael ei gweinyddu yn Llwyneinion, ni chawn fod aelodau Cefnddwygraig yn myned i’r Cymundeb i Lwyneinion, ond yn hytrach i’r Bala. Yr oedd yr. ychydig aelodau yn Cefnddwygraig, fel yr aelodau yn Moelygarnedd a Pantglas, yn arfer dyfod i’r Bala i gymuno hyd yn lled ddiweddar. Cyn belled ag yr oedd cydgymuno yn myned, yr oedd gan hyny yn ganghen o eglwys y Bala. Eto cedwid rhif yr aelodau ar wahan heb eu cyfrif gydag aelodau eglwys y dref.

Nid ydym yn cofio am un pregethwr a gododd o’r eglwys hon, ond y mae gennym amryw o flaenoriaid defnyddiol i'w cael mewn eglwysi eraill a feithrinwyd ar liniau yr eglwys fechan hon, ac a cyderbyniasant eu haddysg grefyddol yn Ysgol Sabbothol y lle hwn.

Blaenoriaid Cefnddwygraig. Richard Pritchard, Graienyn; David Jones, Tynybryn; Evan Jones, Cornelau; Edward Jones, Wenallt; Henry Jones, John Jones, Cornelau; Griffith Evans, Brynbedwog; Iorwerth Jones, Bryntirion; Hugh Roberts Tyntwll; John Evans, Brynbedwog; Griffith Jones, Bryngwyn; John Richards, Gelligron.

hafan Llyfrau Fyny Diwethaf Nesaf