PENNOD VII.

EGLWYSI DOSBARTH PENLLYN - CYNLLWYD a DOLHENDRE

Yn Talardd yn yr ardal hon, fel y mae y darllenydd yn cofio, y lletyodd Mr. Howell Harris yr ail noswaith ar ei ymweliad cyntaf a Sir Feirionydd, ond ni chawn iddo bregethu yma. Mr. Lewis Rees a bregethodd lawer yn yr ardal, oherwydd yn mlaen cwm yr Aran y mae y Weirglodd Gilfach, ac yn nghyfarfyddiad y ddau gwm a wnant i fyny ranau uchaf yr ardal y mae y capel, gerllaw tŷ henafol Talardd. Ac er mai yn nes i waelod y plwyf y cynhelid y moddion crefyddol yn benaf gan y ddau enwad, ymddengys na fu y rhan yma o’r plwyf yn amddifad o foddion mwy neu lai cyson gan y naill neu'r llall o’r ddau enwad sydd yn gryf yn y plwyf. Dywedir mai yn Tynyfedw yn y gymydogaeth hon, y cynhaliwyd yr Ysgol Sabbothol gyntaf yn yr holl blwyf, ac mae profion fod seiat wedi cael ei chynal yma oddeutu can mlynedd yn ol, pa un bynag a ellir ei hystyried yn eglwys a'i peidio. Dechreuodd Mr. Foulk Evans bregethu pan yn 22ain oed, sef tua'r flwyddyn 1804 neu 1805, ac yr oedd seiat yn Tynyfedw y pryd hyny, fel y gwelir oddiwrth y ffeithiau canlynol o Gofiant y Parch. Foulk Evans. Yr oedd cyfarfod gweddi yn cael ei gynal un boreu Sabboth mewn ffermdy o’r enw Dyfnant, ac ar ol y cyfarfod yr oeddynt yn myned y prydnawn dros Aran Benllyn i ymweled a brawd claf, yr hwn oedd yn byw yn Nantybarcut, ffermdy yn ardal Cynllwyd; ac ar y mynydd tra yn gorphwyso ychydig y cafodd nerth i hysbysu y cyfeillion oedd gydag ef fod arno awydd cryf i gynyg pregethu Crist yn Geidwad i bechaduriaid. Yr oedd seiat yn cael ei chynal yn fuan ar ol hyny yn Nhynyfedw. Aeth ef a brawd arall o Lanuwchllyn gydag ef i’r cyfarfod, ac yno y pregethodd Mr. Foulk Evans ei bregeth gyntaf. Yr un a flaenorai gyda’r seiat ar ysgol oedd David Edwards, gŵr y tŷ tad y Parch. David Edwards, Casnewydd. Cynorthwyid ef gyda’r Ysgol Sabbothol gan Mary Lewis, yr ysgolfeistres. tua'r flwyddyn 1823 yr adeiladwyd yma gapel gyntaf. Y pryd hwnw caed prydles am 99 o flynyddoedd am 5/- o ardreth flynyddol, gan Elizabeth Owen, Talardd, Evan Thomas Evans, a John Thomas Evans; dyddiad y weithred yw Medi 29, 1823 Yr enw cyntaf yn rhestr yr ymddiriedolwyr yw Richard Jones, Wern, ar enw olaf yw David Edwards, Tynyfedw. Bu Hugh Edwards, ei fab, yn cyflawni gwaith blaenor yma yn ddyfal am lawer o flynyddoedd, wedi ei ddewis gan yr eglwys i wneyd hyny, ond ni allwyd ei berswadio i ddyfod i’r Cyfarfod Misol i gael ei dderbyn fel blaenor. Yn y flwyddyn 1872, dewiswyd W. Jones, Tynant, yn flaenor, a gwasanaethodd ei swydd hyd ei farwolaeth yn 1886 Yn cydweithio ag ef am rai blynyddoedd yr oedd Robert Roberts, Brynmelyn, ac oddeutu adeg ei ymfudiad ef a'i deulu i Patagonia, symudodd Mr. David Edwards o Landrillo i’r ardal, ac yn 1887 dewiswyd Mr. Robert Morris, Tynycae, i flaenori. Bechan o ran rhif yw yr eglwys hon, ond gan y gwneir hi i fyny o ychydig o deuluoedd cefnog yn y byd, y mae yn gallu ar brydiau wneyd casgliadau lled rymus. Rhif yr eglwys yn y flwyddyn 1868 ydoedd 24; ei rhif yn 1898 oedd 38 Bu y Parch. Robert William, yn hynod o ffyddlon yn ei ddyddiau goreu yn dyfod yma i gynal cyfarfod eglwysig, a phan oedd yn heneiddio, ymgymerodd y Parch T. Foulk Roberts, yn awr o Fachynlleth, a dyfod yma i gynal cyfarfodydd gyda'r bobl ieuainc yn gystal a chyfarfodydd eglwysig. Er pan gaed brodyr i fugeilio yr eglwys yn Llanuwchllyn, y mae y gangen hon yn cael rhan o lafur y bugail. Unwaith yn y pythefnos ceir pregethwr perthynol i’r Methodistiaid yma ar y Sabboth, bob yn ail a phregethwr yr Annibynwyr. Ar un Sabboth bydd trigolion yr holl ardal fynyddig hon yn nghapel y Methodistiaid yn gwrando neu yn cymuno, ac ar y Sabboth dilynol bydd yr holl drigolion yr un modd yn nghapel yr Annibynwyr yr ochr arall i’r ffordd fawr, yn gwrando yr efengyl o enau pregethwr o’r enwad hwnw, a cheir profiad mynych mor ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o frodyr yn nghyd. Y mae yn digwydd fod y teuluoedd yn y cwm sydd yn terfynu yn Bwlchygroes yn Fethodistiaid yn benaf a rhai cesail yr Aran, gan gynwys Weirgloddgilfach, yn Annibynwyr yn benaf. Annibynwyr oedd yn Talardd yn amser Howell Harris, ac Annibynwyr sydd yno yn awr. Ond bu teulu Methodistaidd yno yn y cyfrwng am ddegau o flynyddoedd.

Blaenoriaid Cynllwyd. David Edwards, Tynyfedw; Hugh Edwards, Tynyfedw; William Jones, Tynant ; Robert Roberts, Brynmelyn; Robert Morris, Tynycae.


DOLHENDRE.

Eglwys fechan a sefydlwyd yn ddiweddarach na'r un yn Nghynllwyd, yw Dolhendre. Saif y capel ar lan yr afon Lliw, agos i ddwy filldir i’r gogledd-orllewin o Glanaber, ac y mae yn sefyll rhwng Rhosyfedwen, prif gapel yr Annibynwyr yn y plwyf, a chapel bychan Carmel, perthynol i’r Annibynwyr, yn uwch i fyny ar yr afon Lliw. Agorwyd y capel cyntaf gan y Methodistiaid yn y rhan yma o’r plwyf tua'r flwyddyn 1840 neu 1841. Gwneir y gynulleidfa i fyny o ychydig deuluoedd ffyddlon, ac yn eu plith ambell deulu lled gefnog yn y byd. Er fod gan y Methodistiaid a’r Annibynwyr gapelau yn y cwr hwn o’r plwyf y mae y fath bellder i ben uchaf y plwyf yn nghyfeiriad Trawsfynydd, fel y cedwir moddion yn fynych ar y Sabboth yn un o ffermdai Blaenlliw, neu Hendre Blaenlliw, yn mhen uchaf y cwm.

Gan mai cynulleidfa gymysg ydyw hono, ceir pregethwyr perthynol i’r naill ar llall o’r enwadau hyn i bregethu yno yn achlysurol yn eu tro, a chedwir Ysgol Sabbothol a chyfarfodydd gweddiau yno yn fynych. Y mae hyn yn angenrheidiol, gan fod i drigolion y parth hwnw o dair i bedair milldir i’r capelau bychain agosaf atynt, a phump neu chwe milldir i’r prif gapelau yn ngwaelod y plwyf. Aelodau yn Dolhendre yw teulu Hendre, Blaenlliw, os nad rhai eraill yn y fro fynyddig hon, ac er eu bod fel y teuluoedd cyfagos yn dwyn traul y pregethau achlysurol a gânt yno, gwnaent eu rhan yn ffyddlon at gynal yr achos yn Dolhendre, trwy gyfranu at ei dreuliau yn gystal a rhoddi eu presenoldeb yn y moddion yn y capel yn rheolaidd, er hwyrach yn anaml.

Gerllaw y capel bychan hwn y mae y Wernddu, lle y trigai yr Hybarch Robert William. Aelod yn yr eglwys hon oedd ei chwaer, a gofalai yntau am y cyfarfod eglwysig yma yn gystal ag yn y Pandy neu Glanaber.

Y prif deuluoedd yn nglyn ar achos bychan hwn ydynt, teulu Bryngwyn; teulu Blaenlliw; teulu Dolhendre; teulu y Deildre, ac ar un adeg yr oedd teulu y Trawsgoed yn mhlith y colofnau. Y blaenoriaid cyntaf oeddynt,—John Jones, Wern, Hugh Roberts, Bryngwyn, a Griffith Jones, Blaenlliw. Gellir dweyd am Mr. Hugh Roberts iddo fod yn golofn gref dan yr achos. Nid oedd neb mwy croesawgar i weinidogion y gair nag ef a'i briod yn eu dydd.

Ar ol ei farwolaeth, dewiswyd ei unig fab, Mr. R. P. Roberts, yn flaenor. Dechreuodd ar waith ei swydd yn ffurfiol pan y dewiswyd ef yn 1885, er ei fod er yn fachgen yn gweini yn y babell ac yn gofalu am yr arch. Ychydig yw y cynydd sydd wedi bod yma yn ystod y 40 mlynedd diweddaf ac nid oedd cynydd mawr iw ddisgwyl Yr oedd rhifyr aelodau yn 1868 yn 30, ac nid oeddynt ond 31 yn 1899 Teimlir ei fod yn gryfhad nid bychan i Fethodistiaeth yn y plwyf fod genym ddwy eglwys fechan fel hyn, o 30 40 o aelodau bob un yn nghyrion y plwyf yn hytrach na disgwyl iddynt oll ddyfod i’r un lle i wneyd i fyny eglwys o agos i 250. Caniateir i’r canghenau hyn freintiau crefyddol eglwysi rheolaidd. Yr ydym yn deall mai y fam eglwys gyda’r Annibynwyr sydd yn dewis blaenoriaid i’r canghenau — blaenoriaid y fam eglwys yw blaenoriaid y canghenau gyda hwynt. Yn hyn o beth y mae Methodistiaid Llanuwchllyn yn fwy gwerinol, ac yn caniatau i’r canghenau ddewis eu blaenoriaid eu hunain. Bydd y canghenau o’r tu arall ar bob achlysur o bwys, megis adeiladu capel newydd, fel yn anghofio mai canghenau ydynt, ac yn cydweithredu ar fam eglwys i sicrhau teml deilwng o’r Cyfundeb yn y plwyf

Yr un modd gyda’r casgliadau mawrion cyfundebol, megis casgliadau at yr Athrofa, ac at Jubili y Genhadaeth, nid yw y teulu cefnog yn ymesgusodi yma rhag rhoddi yn helaeth, am fod eu hachos hwy yn wan. Yn y casgliad cyntaf at Athrofa y Bala gan y Parch. Edward Morgan, ceir Cynllwyd wrtho ei hun a dwy rodd o£5 yn mhilth y cyfraniadau. Gwnaeth Dolhendre y casgliad hwnw mewn undeb a Llanuwchllyn, ond y mae un o’r rhoddion £5 a geir yn y rhestr yn dyfod o Dolhendre. Yn y casgliad at Jubili y Genhadaeth, ceir Dolhendre wrtho ei hun gyda chasgliad £11/14/6, tra y mae Cynllwyd i amcan y casgliad hwn fel wedi ymdoddi yn y fam eglwys. Gall fod gwahaniaeth barn pa un yw y cynllun goreu, cynllun y Methodistiaid ai cynllun yr Annibynwyr yn Llanuwchllyn, rhoddi caniatad yn rhwydd i’r canghenau fyned yn eglwysi ar wahan, ynte eu hanog i ddal eu hundeb ar fam eglwys, gan foddloni ar gael pregethau ac Ysgol Sabbothol yn eu lleoedd eu hunain. Diau fod i bob cynllun ei fantais ai anfantais. Wrth eu ffrwythau y maent iw hadnabod. Teg yw dweyd fod eglwysi bychain Penllyn ar y cyfan wedi cyfiawnhau doethineb y cam a gymerwyd wrth roddi iddynt bob braint fel yr eglwysi mawrion. Hyderir y bydd i’r hanes yn niwedd y ganrif sydd yn dechreu yn awr dystiolaethu yr un peth.

Blaenoriaid. John Jones, Wern; Hugh Roberts, fu farw yn 1885; Griffith Jones; R. P. Roberts; David Davies Parry, yr olaf wedi ei ddewis gan yr eglwys, ond heb ddyfod i’r Cyfarfod Misol i gael ei dderbyn.

hafan Llyfrau Fyny Diwethaf Nesaf