Search billions of records on Ancestry.com

PENNOD VII.

EGLWYSI DOSBARTH PENLLYN - GLYNGOWER

Ardal fechan o ran poblogaeth, ond nid un ddibwys nac amddifad o ddyddordeb yw ardal y Glyn. Erbyn hyn y mae tri chapel yn Nwyrain Meirionydd y gellid trwy dalfyru eu henwau eu galw yn Glyn, ond pe dywedasid wrth un o hen bregethwyr y sir hon neu unrhyw sir arall fod ei gyhoeddiad yn y Glyn, ni feddyliasai am fyned i unlle ond Glyngower. Cyn bod Glynceiriog na Glyndyfrdwy Fethodistaidd yr oedd Glyngower. Saif y capel yn ngwaelod cwm dwfn, a chraig serth y Clipiau un ochr iddo, a chraig y Geifr yr ochr arall iddo. Ychydig o latheni islaw y capel ymuna dwy o afonydd bychain â'u gilydd, a chydreda eu dyfroedd yn gyfeillgar am tua haner milldir nes ymarllwys i Lyn Tegid, gerllaw Llangower.

Golygir mai tua dechreu y ganrif ddiweddaf y dechreuwyd yr achos yn yr ardal hon yn y wedd sydd arno yn awr. Yr oedd agosrwydd yr ardal i’r Bala ar un llaw, ac i Lanuwchllyn ar y llaw arall, yn peri nad oedd raid i drigolion y cwm hwn fod yn amddifaid o foddion tra yr oedd rhai i’w cael yn y manau hyny; ond y mae lle i gredu y ceid pregethu yn yr ardal hon yn achlysurol o leiaf er yn foreu. yn Nghofiant y Parch. John Roberts, Abergynolwyn, a ysgrifenwyd gan y Parch. Evan Jones, Adwyrclawdd, yr hwn fel y mae yn wybyddus sydd frodor o’r ardal, ceir y nodiadau canlynol ar hanes boreuol y lle hwn: Y mae traddodiad yn y gymydogaeth fod y Parch. Peter Williams wedi bod yn pregethu yn y ffermdy a elwir y Glyn. Y mae genym sail i feddwl iddo fod yno fwy nag unwaith. Dywed traddodiad ei fod un tro yn sefyllfa ar ben grisiau ceryg yn ymyl ffermdy y Glyn. Tybir fod cyfeiriad at ymweliad arall o’i eiddo yn ngeiriau Tudur Llwyd, dyfynedig yn y Traethodydd am 1877 mewn ysgrif o eiddo Ioan Pedr ar Henafiaethau Penllyn: “Gwelodd fy nain 1 hefyd Peter Williams yn tynu tuag adref yn llesg ¡awn wedi ei faeddu yn greulawn gan yr hen Syr Watkin, yn nghyda haid o'i ganlynwyr o'r un egwyddorion ag yntau.


Tudur Llwyd oedd fardd cywrain a hynafiaethydd cyfarwydd. Ei enw priodol oedd John Jones, Weirgloddgilfach. Claddwyd ef tua’r flwyddyu 1847

Ymddengys oddiwrth grybwylliadau a geir yn ysgrif Tudur Llwyd mai enw ei nain ef oedd Margaret Sion Ifan, ac mai enw ei gŵr (yr hwn nid yw yn cael ei alw yn daid gan Tudur Llwyd) oedd Sion Wmphre o Gwmffynon. Gwelodd Rowlands o Langeitho y tro cyntaf ar y ffordd wrth Langower. Yr oedd hi yn hogen yn canlyn ei thaid W. Jones, yr hwn a weinyddai yn eglwysi Llangower a Llanuwchllyn.

Bydd yn naturiol i ni gyfeirio at yr ymddiddan a fu rhwng Rowlands a’i thaid pan yn rhoddi hanes Llanuwchllyn. Yn ol Tudur Llwyd, yr oedd ei nain efo’i thaid yn Llangower pan y daeth Peter Williams yno. Ac fel rheswm am ei harosiad yno dywed Bu ei thaid yn orweddiog am naw mlynedd. Hyhi ac wyres arall iddo, Jane Jones, Glynuchaf, a dderbynient y degwm, ac a dalent i ddyn am ddarllen yn y ddwy eglwys. Yr oedd fy nain wedi cael agor ei llygaid trwy hen wraig dduwiol oedd yn y llan y cyrchu ati yn aml er mwyn cael ei chynghorion. Un o hen ddisgyblion Morgan Llwyd ydoedd hon. Byddai ei thaid yn hyll iawn os gwyddai ei bod yn myned yn agos ati, gan ei galw yn Rownden faw. Bu’n arfer ei chloi hi tra gallodd yn yn y lofft. Pan welai ei hen, gyfeillion o'r Bala, Owen Moses, John Evans, &c., yn myned i addoli i Weirgloddgilfach, dros y mynydd ni allai ond yn unig estyn ei llaw drwy’r ffenestr iddynt a dweyd “Cofiwch fi yn eich gweddiau.”


Aethant ag ef i dy tafarn yn Rhiwabon gan ei wneuthur yn wawd. Cymerwyd ei oriadur o'i logell, ac o'r braidd y diangodd ai fywyd. Daeth ei gyfeillion i'r Glyn, Llangower. Pregethodd . ychydig ar ei eistedd gan mor wan ydoedd; eisteddai ar y bwrdd, a chyda llais gwanaidd rhoddodd allan yr emyn

Os yw’m gofdiau yn y byd
I bara hyd y diwedd;
O fewn y nef fe dderfydd hyn,
Troi'r tristwch yn orfoledd.

Yr hyn a ddywed Ioan Pedr am yr hanesion a ddyry Tudur Llwyd yw mai eithaf peth yw cael adroddiad annibynol o ffeithiau a thraddodiad gwybyddus o'r blaen trwy ffynonellau eraill fod peth tywyllwch os nad camgymeriadau yn rhai rhanau o'r hanes a ddyry, ond ei fod yn gywir o ran sylwedd, gan ei fod yn cytuno a’r hyn a wyddom eisoes. Y mae yr hyn a ddigwyddodd i Mr. Peter Williams yn Ruabon yn hollol hysbys, ac yn ol y copi fac-simile o lythyr y Parch. Peter Williams ei hun a geir yn y Tadau Methiodistaidd, dirwywyd ef yn mhlas Syr Watkin i , £20, ddydd Llun, Ion. 4, 1747, ar ol pregethu y Sul blaenorol, y 3ydd o Ionawr, yn Adwyr Clawdd. Daeth y Prif Gwnstabl ac eraill ato am 10 o'r gloch nos Lun i ofyn yr 20 punt, a chan na thalai y pregethwr hwy, gwthiodd y swyddog ei law i'w logell a chymerodd yr holl arian oedd ganddo, sefpunt a dwy geiniog (Tadau Methoistaidd, Cymru I., 350 a 443.)

Nid oes amheuaeth chwaith na fu y Parch. Peter Williams, yn pregethu ac yn lletya yn y Glyn gyda Wm. Morgan fwy nag unwaith yn ystod ei fywyd. Ac y mae yn amlwg i nain Tudur Llwyd dreulio blynyddoedd o'i hoes yn Llangower gyda’i thaid, a’i bod yn un a gymerai ddyddordeb mewn crefydd ac yn y Diwygiad. Ond cyn credu mai i'r Glyn i dy Wm. Morgan y daeth Peter Williams, Ruabon yn 1747, eithaf peth fyddai cofio mai gwr ieuanc pump ar hugain oed, cryf o feddwl a chorff, oedd y gwr rhagorol hwn yr amser hwnw, ac y mae y desgrifiad o hono yn pregethu ar ei eistedd ar y bwrdd, a chyda llais gwanaidd yn rhoi allan y penill, yn cyfateb yn well i'r hyn ydoedd yn mhellach yn mlaen ar ei oes, yn llesg o herwydd anhwyldeb corfforol neu ludded os nad henaint hefyd.

Yr oedd Williams Pantycelyn wedi cael ei anog er ys pedair blynedd gan ei frodyr mewn Cymdeithasfa i ddwyn allan ffrwyth ei awen er hyrwyddo mawl y cynulleidfaoedd, a dichon fod y penill neillduol uchod yn y llyfr sydd yn awr yn meddiant Mrs. Jones, priod y Parch. Josiah Jones, Machynlleth, or-wyres i'r bardd ai cyfansoddodd, llyfr a orphenwyd fel y tybir oddiwrth ddyddiad sydd ar ei glawr Mawrth 25, 1745. O leiaf y mae yn bosibl fod y penill wedi ei gyfansoddi mor fore a 1747 Ond rhaid addef fod rhywbeth yn y penill yn peri i ni feddwl y gallai ei awdwr fod yn un wedi gweled aml a blin ofidiau. Dywedir hefyd fod tŷ Wm. Morgan wedi ei gofrestru i bregethu ynddo. Nid yw yn anmhosibl iddo gael y fraint o letya Peter Williams yn 1747, pan yn 24ain oed, ac iddo gael y fraint o wneyd hyny wedi hyny yn mhen agos i haner can mlynedd. Ond y mae yn dra anhebygol fod y tŷ wedi ei gofrestru yn 1747, o herwydd rhwng 1790 a 1800, ychydig o flynyddoedd cyn dechreu adeiladu capelau o ddifrif y deffrowyd y Methodistiaid i gofrestru y tai annedd yr arferid pregethu ynddynt. Ond cymerwn ninau fel Ioan Pedr fod yr hanes am Peter Williams yn ymweled a’r Glyn, ac am Wm. Morgan yn ei noddi a’i groesawu, yn hollol wir o ran sylwedd, er na allwn fod yn sicr am amseriad ei holl ymweliadau i’r ardal hon.


Bu William Morgan farw yn 1807, yn 84 mlwydd oed ; nid oedd ond blwyddyn o waharddiaeth oedran rhyngddo ar Parch. Peter Williams. Ganwyd ~eter Williams yn 1722, a William Morgan yn 1723
Ychydig sydd genym i'w ddweyd am yr hyn a wneid gan y Methodistiaid yn yr ardal nes y deuwn yn lled agos i ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Cyfeiria nain Tudur Llwyd at Evan Moses a John Evans yn myned heibio a thros y mynydd i'r Weirglodd Gilfach, ac am y gweddio mewn hen furddyn yn agos i'r Nantglas, wrth fyned a dyfod i'r Weirglodd Gilfach. i'r rhai awyddus am foddion gras heblaw yr hyn a geid yn Eglwys y plwyf gan offeiriad na wyddai fod dim mwy mewn ailenedigaeth na rhoi dwr ar y talcen, yr oeddynt i'w cael yn y Bala ar un llaw, neu yn rhyw gwr o blwyf Llanuwchllyn ar y llaw arall.

Gwnai Charles y telynwr ddefnydd mynych o enw un o dai yr ardal hon pan yn difyru boneddigion (?) erlidgar amgylchoedd y Bala, trwy ddynwared Howell Harris ac eraill yn pregethu. Ymddengys y byddai Morgan Llwyd yn ei ddydd yn arfer pregethu yn Brynhynod. Hyny mae yn debyg fu yn achlysur i Charles y telynwr ddifyru ei wrandawyr trwy dweyd ei fod yn cymeryd ei destyn yn y bumed benod o ysgubor Brynhynod, ar drydedd ystyllen yn y drws cefn. Ceir hanes diwedd trychunebys Charles y telynor yn ysgrif Tudur llwyd.


Byddai boneddwyr amgylchoedd y Bala medd Tudur Llwyd, yn arferol o fynu Charles i ganu telynyn yn eu gwleddodd, ac ar ol blino yn canu a dawnsio, codent Charles i ben cadair i ddynwared y pregethwr. Un diwrnod yn y gauaf yr oedd Charles yn dyfod o Rhiwgoch, Trawsfynydd, dros y Defeidiog wedi bod yno yn canu telyu; trodd o'r ffordd i Blaenlliw isaf i geisio tamaid. canys mynych y galwai yno “mae yn rhaid i mi fyned”, meddai, “dros y llyn i'r Fachddeiliog y mai y boneddigion yn disgwyl am danaf i ganu”. Yr oedd y llyn wedi rhewi drosto, ond trodd Charles i dafarn oedd yn ymyl y ffordd gyferbyn a Brynhynod, ac wedi canu ac yfed yn helaeth ar gais amrai oeddynt yno aeth i ddynwared y pregethwr, ac i goroni ei ryfyg aeth i'w ddynwared yn gweinyddu yr Ordinhad o Swper yr Arglwydd. trwy roddi bara a gwin i gŵn. Ond gweddill cynddaredd a waherddir. Cychwynodd dros y llyn, a phan o gylch haner y ffordd aeth i dwll yn y rhew. Clywid ef yn gwaeddi o bob ochr i'r llyn, “Dygwch raffau, yr wyf at fy haner,” &c. Boddodd er ei fod y nofiedydd goreu yn y wlad. Yr oedd boneddigion Fachddeiliog yn ei glywed o lofft y plas, ond nid oedd help i w gael oddiyno.
Erbyn y deuwn i'r flwyddyn 1791, yr ydym yn cael ein hunain ar dir hanesyddol lled gadarn, oherwydd yn y flwyddyn hono yr oedd Edward Jones, tad y diweddar John Jones Rhydfudr (a fu yn pregethu) a thad Edward Jones, Argraffydd, y Bala, yn was yn y Glyn gyda William Morgan. Yr oedd yn sicr mai dyna y flwyddyn, o herwydd yr oedd yno bum mlynedd cyn priodi, ac yr oedd yn priodi yn y flwyddyn y bu farw y Parch. Peter Williams, sef yn 1796

Yn ol tystiolaeth Edward Jones ymddengys yr arferai Peter Williams ddyfod i bregethu i ardal. y Glyn, ac i werthu ei esboniad, ai fod efe wedi dyfod yn dra chydnabyddus ar esboniwr haeddbarch am y byddai yn cael y fraint o'i anfon ol a blaen pan y deuai i'r ardal, ac ymddifyrai Edward Jones yn fawr mewn adrodd mewn hasnesion a wyddai am dano. Dechreuodd y Parch. Peter Williams gyhoeddi ei weithiau yn 1770, sef un mlynedd ar hugain cyn i Edward Jones fyned yn was i'r Glyn at Wm. Morgan, ac yr oedd wedi ei ddiarddel er ys oddeutu blwyddyn yr adeg yr oedd Edward Jones yn ei arwain yma a thraw. Ond dywed awdwyr y Tadau Methodistaidd, fel hyn, “Gwedi ei ddiarddel elai yr hen esboniwr o gwmpas i bregethu fel cynt, eithr cadwai ei hen gyfeillion i ffwrdd oddiwrtho. Agorai yr enwadau eraill eu capelau iddo, ond ni dangosodd efe yr awydd lleiaf am ymuno a chyfundeb crefyddol arall; yn wir nid yw yn ymddangos i'r syniad ddyfod i'w feddwl. Eithr gwnaeth apel drosodd a throsodd at ei frodyr yn y Gymdeithasfa am ail driniaeth ar yr achos. Cafodd ei demtio i fyned i Gymdeithasfa y Bala, a gosod ei hun a’i hen gyfeillion mewn profedigaeth chwerw. Dywed ei fywgraffydd iddo gael ei wahodd i bregethu ar y platforni. Yr ydym yn amheus iddo geisio; os gwnaeth gais dylasai wybod mai ei wrthod a gawsai. Modd bynag, rhwng yr odfaon, pan oedd yr heolydd yn llawn dynion, safodd Peter Williams ar ganol heol i bregethu. Rhaid mai enyn tosturi tuag ato ei hun, a thaflu gwaradwydd ar y Methodistiaid oedd ei amcan. Ar yr un pryd gweddus hysbysu na ddywedodd air yn anmharchus am neb. Tadau Methoistaidd, Cyfrol I., tudal 453

Os oedd y Cyfundeb fel y cyfryw yn gorfod ymbellhau i ryw raddau oddiwrth yr hen Esboniwr, nid oedd raid i gyfeillion personol ymbellhau llawer oddiwrtho, ac y mae yn bosibl os nad yn debygol iddo gael ei groesawu yn y Glyn gan W. Morgan ar adeg ei ymweliad a Chymdeithasfa y Bala Ond pa un bynag a fu Peter Williams yn aros ac yn lletya yn y Glyn yn y flwyddyn neillduol yr oedd Edward Jones yn was yno ai peidio, y mae y ffaith fod Edward Jones yn cael cymdeithas a W. Morgan, ac yn aros yn yr ardal ar amser yr oedd ei ddiarddeliad yn tynu cymaint o sylw yn peri ei fod yn dyst gwerthfawr ar ymweliadau mynych Peter Williams ag ardal y Glyn.

Teilynga William Morgan goffad parchus iawn genym fel y gwr dylanwadol cyntaf a roddes achles i achos y Methodistiaid yn y Glyn Efe oedd perchenog y ffarm a enwir y Glyn a rhai. o ffermydd cyfagos ar y pryd, fel nad oedd raid iddo ef ofni gwg ei feistr tir fel rhai. A chyn terfynu ein sylw am dano ef, gallwn ddweyd i'w hiliogaeth ar ei ol fod yn golofnau dan yr achos yma ac mewn rhanau eraill o'r wlad. Bu iddo bedair o ferched, Gaenor, Catherine, Barbara, a Magdalen, ac y mae i'r hynaf ar ieuengaf le yn hanes Methodistiaeth yn Mhenllyn. Gaenor, yr hynaf, a ddaeth yn wraig i Dd. Hughes, Caerfotty, a fu yn byw wedi hyny yn Brynhynod, ac yn niwedd ei hoes yr oedd hi yn byw yn Pentre, Cwmtirmynach. Yr oedd hi yn fam Edward Hughes, a fu yn flaenor ffyddlawn am flynyddoedd yn Nghwmtirmynach, ac yn fam hefyd i Elizabeth Edwards, priod David Edwards, Tyisa, Llandderfel, ac felly yn nain i'r diweddar Barchedig Robert Edwards. Priododd Magdalen, yr ieuengaf, ag Evan Jones un o meibion Pantyronen. Wedi ail briodi a merch y Cornelau daeth yn adnabyddus fel Evan Jones Cornelau. Mab iddo ef o Magdalen ei wraig gyntaf oedd William Jones, Llangower, a mab iddo ef o'r ail wraig oedd Jones Jones Cornelau, blaenor da yn Cefnddwygraig.

Ond i ddychwelyd at amgylchiadau boreuach. Amlwg yw mai pregethu achlysurol a dim mwy a geid yn y gymydogaeth hon am ddeugain o flynyddoedd ar ol sefydlu eglwys yn y Bala. Ymddengys fod rhai teuluoedd o'r ardal. hon yn aelodau gyda'r Annibynwyr yn Llanuwchllyn. Aelodau yn eglwys Dr. Lewis oedd taid a nain y Parchn. T. Jones, Kassia, ac E. Jones Adwyr Clawdd, a dywedir mai Annibynwyr oedd rhieni y Parchn. R. Evans, Llanidloes, a Daniel Evans, Harlech. Gwahaniaethai

yn hyn, am eu bod o'r dechreu gyda'r Methodistiaid. Pregethid yn fynych yn nhy William Morgan, a chedwid society hefyd yma am dymhor, ond symudol oedd hono meddir. Ymddengys ei bod yn cael ei mynychu lle bynag y cynhelid hi gan y crefyddwyr y tu allan i'r Bala, yr ochr ddeheuol i Lyn Tegid, ac hefyd yn mhlwyf Llanuwchllyn. Cedwid seiat yn y flwyddyn 1791 yn y Gwndwn ar dir Coedladur, yn yr hon yr oedd pump o aelodau, sef Richard Pritchard, Graienyn; Edward Rowland,Madog; Elizabeth Edwards, Rhydfudr; Robert Thomas, Coedladur ac Owen Edwards, Penygeulan.

O'r Gwndwn symudodd i Dynypistyll, ac oddi yno i'r Glyn, ac oddiyno i'r Pandy.” Yn y pum enw a wnaent i fyny y seiat yn y Gwndwn rhai o Lanuwchllyn yn benaf ydynt (yr oedd hyd yn nod Richard Pritchard yr adeg hono yn byw yn Llanuwchllyn).


Ymddengys mai o Lanuwchllyn y symudodd Richard Pritchard i'r Graienyn, a hyny yn ddiweddarach nar adeg hon.
Edrychir ar yr hyn a wnaed yn niwedd y ddeunawfed ganrif a dechreu yr un ddiweddaf fel ail-ddechreuad yr achos yn y Glyn.

Cymerodd hyn le trwy i Ysgol Sabbothol gael ei chychwyn yn Ysgubor Pantyronen. Cafwyd yr ysgubor i'r amcan hwn gan Evan Jones, yr hwn fel y crybwyllwyd oedd wedi priodi Magdalen, merch William Morgan y Glyn. Deuai amryw o'r Bala i gynorthwyo yn nygiad yn mlaen yr ysgol. Yn mysg y plant a ddysgai ddarllen ynddi yr oedd y Parchn Robert Evans, Llanidloes, a Daniel Evans, Harlech, y rhai a anwyd mewn tŷ nad yw i'w gael yn awr, yn agos i Bryntirion ar y ffordd o'r Bala i Langower. Llawer o rai eraill a ddysgasant ddarllen yn dda yn Ysgubor Pantyronen. Cynyddodd y Seiat hefyd, ac enillwyd yr ardal i wrando yr efengyl.

Yn y flwyddyn 1813 adeiladwyd y capel cyntaf yn y gweinydogaeth ar waelod caeau y Glyn, ar dir a roddwyd gan David Hughes, Brynhynod, yr hwn trwy briodi Gaenor, merch y Glyn, oedd erbyn hyn wedi dyfod yn berchenog y ffarm. Ar ddydd ei agoriad pregetliwyd gan y Parchn. T. Charles, B.A., John Evans o'r Bala, ac yn ol pob tebyg, medd y Parch. Evan Jones, gan Dafydd Cadwaladr hefyd. Ar ei agoriad, bedyddiodd Mr. Charles Robert, mab Evan Jones, Cornelau.

Yn mhen ychydig o flynyddoedd wedi adeiladu y capel cafwyd diwygiad nerthol yn yr ardal hon ac mewn amryw o ardaloedd cymydogaethol, yr hwn a fu yn foddion nid yn unig i lanw y capel bychan a gwrandawyr, ond hefyd i enill lliaws i broffesu enw Crist, ac i drwytho yr ardal ag ysbryd crefydd. Llawer o sôn a glywyd am y canu yn yr awyr a glywid mewn manau yn adeg diwygiadau crefyddol ac y mae sôn am hyny yn nglyn a’r diwygiad yn y Glyn. Fel y gallo y darllenydd synied ar ba seiliau yr honid fod canu felly i'w glywed, rhoddwn dystiolaeth Elizabeth Roberts, tŷ uchaf, Tre Rhiwaedog, mam y diweddar Mr. Roberts, N. & S. W. Bank, Portmadoc, a blaenor ,yn un o'r eglwysi yno. Er nad oedd hi ond wyth neu naw oed yn amser y diwygiad yr oedd yn ei gofio yn dda. Yr wyf yn cofio yn dda, meddai, pan oeddwn oddeutu wyth oed, fy mod yn myned gyda fy mam o'r Glyn, lle yr oedd fy nhad yn byw ar y pryd, i'r capel ryw noson i'r oedfa, ac wrth i ni fyned i lawr at y capel, clywem ryw ganu anghyffredin, a meddyliasom ar y pryd ein bod ,yn ddiweddar a bod y moddion wedi dechreu. Yr wyf yn cofio y canu yn dda eto, yr oedd y dôn yn debyg i un a genid ar eiriau oedd yn boblogaidd iawn yr adeg hono. Erbyn cyrhaedd y Capel nid oedd y moddion wedi dechreu. Nid oedd neb ond ei thad hi yn y capel, a gwadai y bechgyn o amgylch y drws nad oeddynt hwy wedi bod yn canu. Pan feddylier mor hawdd yw clywed canu neu adsain canu o bell mewn cwm dwfn a chul, ni ymddengys y ffaith nad oes hwyrach un ddadl am ei gwirionedd yn rhyw sail gref i'r adeiladaeth a godwyd arni. Ond ar seiliau tebyg i hyna y dywedir yn aml gan rai eu bod yn clywed canu yn yr awyr ar amserau y bydd ysbryd canu ac ymbyncio wedi meddianu lliaws, ar creigiau yn ewyllysgar yn adsain eu cân yn llawn melodedd, am fod pob anghydsain wedi ei llyncu gan y graig a roddai yr adsain; nid yw y dirgelwch mor fawr hwyrach. Yr hyn a ddywedir am yr achos yn adeg y diwygiad yw: Ymunodd llawer ar achos yn y lle.

Deuai amryw o'r Bala yr amseroedd hyn i roddi eu cymorthwy i'r eglwys fechan i gynal ei gwahanol gyfarfodydd, ac un o'r rhai yr hoffid fwyaf ei weled yn dyfod oedd Evan Davies y gwehydd. Un tro wedi i'r brawd hwnw ddechreu gweddio torodd allan ,yn orfoledd mawr yn y lle, aeth yntau i neidio gyda hwynt heb orphen ei weddi.

Oherwydd anamledd y trigolion yn yr ardal, a’u bod yn lleihau yn hytrach nag amlhau y blynyddoedd hyn, nid yw rhif y gwrandawyr wedi cynyddu llawer er pan adeiladwyd y capel cyntaf, na rhif yr aelodau wedi cynyddu llawer er amser y diwygiad y cyfeiriwyd ato. Eto ni a gawn i'r achos wreiddio ac ymgadarnhau fel y treiglai amser yn mlaen, a chynyrchwyd yn yr eglwys fechan hon ddynion disglaer a defnyddiol, y rhai y bwriadwn wneyd byr grybwylliad am danynt cyn diwedd ein hanes am y Glyn.

Trwy ei hagosrwydd i'r Bala, ac nad yw y capel ond prin haner milldir o'r ffordd fawr o Fachynlleth i'r Bala, cafodd yr ardal hon ei rhan o weinidogaeth enwogion y Cyfundeb am lawer blwyddyn, ac ar ol sefydliad yr Athrofa yn y Bala gymaint ag odid un eglwys o weinidogaeth athrawon parchus y Bala, a gweinidogaeth tô ar ol tô o efrydwyr o'r rhai y caed enwogion yr haner can mlynedd diweddaf.

Yr oedd y Glyn am y blynyddoedd cyntaf ar ol adeiladu y capel yn daith Sabboth gyda Llanuwchllyn ar Parc. Yr oedd felly tua’r amser yr oedd Dafydd Rolant yn dechreu pregethu. Yn Nghofiant y Parch. D. Rowiands, tudal. 29, ceir y dystiolaeth ganlynol gan John Thomas, Ceunant, un o flaenoriaid y Parc am lawer blwyddyn. “yr oedd tuedd ynddo (sef yn D. R.) i fod ai feddwl yn isel y pryd hwnw, yr oedd ei feddwl ar lawr yn lan yn y dechreu. Bum gydag ef fel cyfaill a chydymaith iddo i godi tipyn ar ei feddwl amryw weithiau, nes yr aeth y bobl i ddweyd mai clochydd Dafydd Rolant oeddwn i. Y tro cyntaf i mi fynd hefo fo oedd i'r Pentrepiod, Llangower. Pregethodd yno nos Sadwrn ar y geiriau Er mwyn Seion ni thawaf. Yr oedd yn y Glyn boreu Sul, yn Llanuwchllyn am ddau, ac yn y Parc y nos.”

Pan adeiladwyd capel Cefnddwygraig yn 1830, gwaed y Glyn a Chefnddwygraig yn daith Sabboth Ond y flwyddyn 1854 gwnaed cyfnewidiad yn nheithiau SabbotholPenllyn a arweiniodd i osod y Glyn wrtho ei hun. Yn nghofnodau Cyfarfod Misol Cefnddwysarn, a gynaliwyd yn Chwefror y flwyddyn hono, ceir a ganlyn: “Gwnaed sylw ar daith Llwyneinion. Yr oedd y brodyr yn Llwyneinion am ymuno a Chefnddwygraig. Penderfynwyd i hyny gymeryd lle, a bod y Glyn i gael y pregethwr fydd yn y Bala i gadw yr odfa am 2 o'r gloch am ddau Sabboth yn y mis.” Tra y parhaodd y trefniad yna mewn grym wasanaethid ar y Sabbothau eraill gan y Myfyrwyr yn benf a chan ambell un o bregethyr y sir a roddent eu gwsanaeth iddynt am yr oll o'r Sabboth. Pan y daeth ngen am i'r pregethwr yn y Bala fyned yn fwy cyson i Lanfor, a phan adeiladwyd capel yn Rhosygwaliau yn 1881, i'w uno a Llwyneinion, daeth yn gyfleus i uno drachefn y Glyn a Chefnddwygraig yn daith Sabboth a dyna ydyw y trefniad ar hyn o bryd.

Trwy y cwbl, yn ngwyneb yr holl anhawsderau, y mae yr eglwys hon wedi bod yn un uchel ei breintiau. Yn llyfr trysorydd yr eglwys, yr hwn sydd yn cyrhedd o 1838 hyd 1873, ceir enwau cannoedd o bregethwyr a fu yn ei gwasanaethu, a swm y gydnabyddiaeth a roddid iddynt. Dyma yr enwau am y chwarter cyntafyn y flwyddyn 1838

£

s

d

Ionawr 21

Thos. Edwards, Bala (T. E., Penllwyn)

0

1

6

24

Lewis Jones, Bala seiat

0

1

6

24

Richard Jones, Bala, seiat

0

2

0

25

Foulk Evans, Machynlleth

0

1

6

28

Daniel Jones, Bala (D. J., Rhaiadr)

0

1

6

Chwef 4

Hugh Roberts, Bala (H. R., Bangor)

0

1

6

11

Henri Davies, Glanrafon

0

1

6

18

Richard Jones, Bala

0

2

0

25

Thomas, Jones, Bala (T. J, y cyntaf)

0

1

6

27

William Jones, Rhuddlan

0

1

6

Mawrth 4

David Charles Bala

0

1

6

11

Mr. Edwards, Bala

0

1

6

18

Owen Williams, Towyn

0

1

6

25

Thos. Hughes. Bala (T. H., Caernarvon)

0

1

0

Y mae yr uchod yn enghraifft deg o'r hyn geir yn y misoedd eraill Gwelir y rhoddid yr un gydnabyddiaeth i'r Myfyrwyr ag i'r Athrawon a gweinidogion eraill y Sir, ac fod Richard Jones, Bala, .yn cael cydnabyddiaeth ychydig helaethach. Symudwn ddeunaw mis yn mlaen, i haf 1839, tuag adeg Sassiwn y Bala.

Meh. 1

Harri Davies, Glanrafon

0

1

6

9

Daniel Evans, Harlech

0

1

6

10

ditto

0

1

6

11

Jenkin Jones. Sir Aberteifi

0

1

6

11

John Jenkin, ditto

0

1

6

11

Edward Jones, Aberystwyth

0

1

6

11

Edward Hughes, Llanidloes

0

1

6

13

Edward Mason, Rhiwbwys

0

1

6

13

Rees Jones, Lledrod

0

1

6

30

John Thomas, Bala (2)

0

2

0

Yn gyffredin yn mis Mehefin ceir Sabboth neu ddau heb bregethwr (ni cheir i neb bregethu yma ar ol y 13eg hyd y 30ain), am mae yn ddiameu yr arferid myned i'r Bala ar y Sabboth o flaen y Sassiwn ar un ar ei hol, i wrando enwogion a bregethent yn y dref. Symudwn eto ddeng mlynedd yn mlaen, a rhoddwn y cyfrif am fisodd Mawrth a Mehefin 1849.

Mawrth 2

Evan Roberts Seion

0

2

6

4

William Evans Bala (2)

0

3

6

18

Mr. Edwards, Bala

0

2

6

20

Mr. Parry, Bala

0

2

6

Meh. 1

John Davies, Nerquis

0

2

0

3

David Roberts, Bala

0

1

6

10

John Hughes, Bont

0

2

6

10

John Hughes, Bala (Dr. Hughes)

0

1

6

12

Robert Evans, Llanidloes

0

2

0

12

Cadwaladr Owen

0

2

0

17

David Edwards (2)

0

2

0

24

Mr, Edwards, Bala

0

2

6

25

Joseph Thomas, Llangynog

0

1

6

29

John James, Tabor

0

1

6

29

Daniel Davies, Aberporth

0

1

6

Dyddorol fuasai nodi yn fanwl mor aml y pregethai Lewis Jones, Mr. Edwards, Bala, a Mr. Parry, Bala, yn ystod y 10 mlynedd rhwng 1850 ac 1860, ac fel y mae y gydnabyddiaeth yn ychwanegu i iddynt hwy ac i eraill, ac fel y mae enwau gwyr y mae eu coffadwriaeth yn anwyl yn y rhan hon o'r wlad yn dyfod i'r golwg am y waith gyntaf. Ar Hydref 2, 1853, ceir enw Owen Jones, Llidiardau, yn pregethu yn y Glyn, a H. Jones (ieu), Llanerchymedd, y Sul dilynol. Ar y 18fed o Ionawr, ac ar y 10fed o Fai, 1857, ceir enw T. C. Edwards i lawr, ac arwyddion mai pregethu ar brawf yr ydoedd. Y mae yn hysbys mai yn y Glyn y pregethodd y Prifathraw enwog ei bregeth gyntaf, iddo ddewis hyny yn hytrach na phregethu yn y Bala y tro cyntaf ac i Mr. G. Jones fyned gydag ef i'r Glyn. Ceir ei enw ef yn lled fynych am y tair neu bedair blynedd dilynol yn mysg y rhai a bregethent yn y lle hwn.

Ymddengys i Gyfarfod Misol Dwyrain Meirionydd gael ei gynal yn y Glyn rai gweithiau. Yr ydym yn casglu fod yma Gyfarfod Pregethu yn 1851, oherwydd ar gyfer Mai 4, y flwyddyn hono cawn

£

s

d

Mr Edwards, Bala

0

4

0

Mr Parry eto

0

4

0

Mr Lewys Jones

0

4

0

Dyna dri gwr enwog ar yr un Sabboth ar gydnabyddiaeth ychydig yn helaethach nag arferol. Ond y mae sicrwydd fod yma Gyfarfod Misol yn cael ei gynal ar y 1af o Dachwedd, 1854, y flwyddyn y cymerwyd Cefnddwygraig oddiwrth y Glyn. Dyma y cyfrif:

David Rowland, Pentre

0

8

0

Richard Roberts, Dolgellau

0

8

0

Mr. Edwards, Bala 

0

10

0

Richard Williams, Tymawr

0

8

0

John R. Hughes, Bala 

0

5

0

Robert Thomas, Llidiardau 

0

8

0

Henri Davies, Glanrafon 

0

7

6

Robert Roberts, Parc

0

6

0

John Thomas, Bala

0

5

0

Ellis Evans, Llandrillo

0

5

0

Evan Peters, Bala

0

5

0

John O. Jones, Bala

0

5

0

Cynaliwyd yma un arall yma yn niwedd y flwyddyn 1859

Mr Edwards

0

10

0

John Williams 

0

10

0

Richard Williams

0

10

0

David Rowland

0

8

0

Robert William

0

8

0

Ellis Evans 

0

6

0

Robert Roberts 

0

6

0

Robert Thomas 

0

6

0

Evan Peters

0

6

0

David Edwards 

0

2

6

William Jones, 

0

5

0

T. C. Edwards 

0

5

0

Y mae adgof byw yn yr ardal am y Cyfarfod Misol hwn adeg y diwygiad, yn enwedig am bregetliau dylanwadol y ddau wr ieuanc noswaith olaf y cyfarfod.

Bu capel y Glyn yn sefyll am tua 60 mlynedd heb nemawr o gyfnewidiad arno. Ond yn y flwyddyn 1873 gwnaed cyfnewidiad trwyadl ynddo, nes y mae yn awr yn gapel bychan hynod o ddestlus. Ar ei ail agoriad Medi 23, yn y flwyddyn hono, pregethwyd gan y Parchn. Dr. Edwards, Owen Edwards, B.A., Caernarfon, ac Evan Jones, Adwyrclawdd.

I derfynu ein hanes am yr eglwys hon gwnawn fyr grybwylliad am y blaenoriaid a fu’n gwasanaethu ynddi, ac am y pregethwyr a gododd o honi, gan wneyd defnydd o nodiadau y Parch. Evan Jones yn Nghofiant y Parch. John Roberts.

Y blaenoriaid cyntaf yma, meddir oedd Hugh Ellis, Tyntwll, ac Edward Ellis, Tycerrig. Gwr plaen, tlawd ei amgylchiadau ond tryloew ei gymeriad oedd Hugh Ellis Ystyrid ef yn un hynod o onest. Dywedir ei fod yn berthynas agos i'r diweddar Barchedig John Hughes, Pontrobert. Ni wyddis fod neb o'i hiliogaeth wedi ei oroesi. Yr oedd Edward Ellis yn fwy adnabyddus yn ei ddydd, ac y mae ei hiliogaeth ef yn lliosog ac yn adnabyddus iawn yn yr oes hon fab oedd ef i'r blaenor defnyddiol T. Ellis, Cynlas, a thaid i T. E. Ellis, y diweddar aelod seneddol dros Sir Feirionydd. Er nad oedd Edward Ellis yn un nodedig o alluog a doniol, yr oedd iddo safle uchel yn y Cyfarfod Misol, ac arferid ei anfon dros y Cyfarfod Misol i'r ardaloedd cylchynol pan fyddai achosion yn galw. Bu farw yn 1847, a theimlid colled fawr ar ei ol. Un arall a fu yn gweini swydd blaenor am dymhor yma gydag Edward Ellis oedd John Evans, Llangower, neu John Evans y garddwr, fel y gelwid ef. Yr oedd ef yn wr galluog a helaeth ei wybodaeth, ond symudodd i fyw i'r Bala cyn hir, ac er na alwyd ef i weinyddu swydd blaenor yn y Bala, bu yn flaenllaw yno gyda'r Ysgol Sabbothol ac yn llanw swydd athraw dymor lled faith. Bu farw yn ddisymwth ar y ffordd gerllaw Cerrigydrudion, trwy ddamwain a gymerodd le gyda'r cerbyd, yn yr hwn yr oedd ef ai briod yn myned i ymweled au merch, yr hon a drigai yn nhollborth y Cerniogau. Blaenor arall a weinyddai ei swydd yma rhwng 1840 ac 1860 oedd John Thomas, Llechwedd-du. Sonir am dano fel gwr duwiol, ond byr ei wybodaeth ai ddawn. Diweddodd ei oes gydai ferch yn agos i Ruthyn.

Yn 1854 dewiswyd Robert Roberts, Bwlchyfwlet, yn flaenor, a bu yn gweini am dymor maith. Bu farw yn 1894, yn 80 mlwydd oed. Yr oedd ef yn dad i'r Parch. John Roberts, Abergynolwyn. Yn fuan wedi dewisiad Robert Roberts, symudodd Jones Jones, Shop, Llanuwchllyn, i fyw i Bryntirion. Mab oedd ef i'r blaenor nodedig William Jones, Rhiwaedog. Yr oedd eisoes yn flaenor yn Llanuwchllyn, a galwyd arno i lanw swydd blaenor yn y Glyn. Yr oedd yn ei dymor yn un o flaenoriaid mwyaf selog y Cyfarfod Misol,

Cymerodd Mr. John Jones ran yn yr ysgogiadau cychwynol at gael bugeiliaeth eglwysig yn y rhan hon o'r wlad, ac yn niwedd ei oes cymerodd ran flaenllaw yn y symudiad er cael cof-golofn i Mr. Charles wrth gapel y Bala. Bu ef, fel ei fab, y diweddar lorwerth Jones, yn dra gwasanaethgar i'r achos yn mhlwyf Llangower. Yn 1873, dewiswyd Morris Peters a Robert Jones y Glyn yn flaenoriaid, y rhai a barhant yn ffyddlon gyda'r gwaith hyd y dydd hwn.

Y pregethwyr a godasant o'r eglwys hon. Yn yr ardal hon y ganwyd y Parchn. Robert Evans, Llanidloes, a Daniel Evans, Harlech, ac yn Ysgol Sabothol Pantyroneny dysgwyd hwy i ddarllen. Er mai aelodau gyda'r Annibynwyr yn Llanuwchllyn oedd eu rhieni, eto gan mai yn y Bala y dechreuasant bregethu, nid teg fyddai eu cyfrif yn mysg pregethwyr a gododd o'r Glyn. Yr un modd am y Parchn. Evan Peters, a Thomas, Jones y cenhadwr. Yn y Bala y cychwynodd y blaenaf ar waith y weinidogaeth, ac yn Mhenmachno y cychwynodd yr olaf ei yrfa fel pregethwr. Eto ar gyfrif y meithriniad a gawsant eu hunain yn yr eglwys fechan hon, ac ar gyfrif fod eu teuluoedd hwy yn barhaus yn yr ardal yn mhlith prif golofnau yr achos, yr oedd rhwymyn cryf yn cysylltu y brodyr hyn ar lle hyd ddiwedd eu hoes. Y pregethwr cyntaf, mae yn ymddangos, a gododd yn uniongyrchol o r eglwys hon oedd John Jones, Rhydfudr. Mab oedd ef i'r Edward Jones y crybwyllwyd am dano o'r blaen, oedd was gyda William Morgan y Glyn, dros gan mlynedd yn ol, a brawd i'r diweddar Edw. Jones, Argraffydd, Bala. Daeth ef at grefydd yn adeg y diwygiad a ymwelodd ar Glyn yn mhen ychydig o flynyddoedd wedi adeiladu y capel. Bu am dymor yn yr ysgol gyda'r Parch. John Hughes yn Ngwrecsam. Oddiyno aeth i Froncysyllte i gadw ysgol. Yr oedd yn ddyn nodedig o dduwiol, ac yn bregethwr sylweddol. Ar ol bod yn pregethu am tua saith mlynedd, bu farw, Gorphenaf 28, 1826, yn 29ain mlwydd oed. Genedigol o'r ardal hon yw y Parch. Evan Jones, Adwyrclawdd, ac yn yr eglwys hon y dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1864. Am nad yw ef eto wedi gorphen ei ddiwrnod nid yw yn addas dweyd dim yn mhellach am dano. Un arall o'r meibion a fagodd yr eglwys hon oedd y Parch. John Roberts, Abergynolwyn. Dechreuodd ef bregethu yn y flwyddyn 1868. Ber fu ei yrfa ef, ond hynod o ddisglaer. Trodd allan yn un o'r pregethwyr mwyaf difrifol, llafurus, a chymeradwy. Yr oedd ef yn fab i Robert Roberts, Bwlchyfwlet, un o'r blaenoriaid y coffawyd am danynt, ac yn nai fab chwaer i'r Parchn.T. Jones, Kassia, ac Evan Jones, Adwyrclawdd. Ar ol bod ar y maes am tua deng mlynedd, bu farw Tachwedd 27, 1878, cyn bod yn llawn 31ain mlwydd oed. Ceir ychwaneg o'i hanes, a nifer o'i bregethau yn y Cofiant a ysgrifenwyd am dano gan ei ewythr, y Parch. Evan Jones, Adwyrclawdd.

Glynmawr Llangower


Crybwyllir enwau amryw o frodyr nad oeddynt yn flaenoriaid a fuont yn hynod ffyddlon gyda'r achos, ac am nifer o chwiorydd amlwg iawn mewn duwioldeb a dreuliasant eu hoes yn y Glyn. Mae adgof melus yn y gymydogaeth am Robert Rowland y Gilwern. Gwr tal, garw yr olwg arno braidd oedd efe, ac yn ymfalchio, gallesid casglu, mewn cadw at hen ddull o wisgo. Yr oedd yn weddiwr nodedig, ac yn un a arferai waeddi yn uchel anarferol wrth weddio. Peter Jones, Rhydwen, hefyd oedd wr nodedig yn mysg ei frodyr. Robert Jones, Robert Sion y Glyn fel y gelwid ef tad y Parch. T. Jones, Kassia, &c., fu ai ysgwydd yn dyn dan yr arch am oes faith. Yr un modd Robert Roberts, Pantyronen, a fu hynod garedig i'r achos. Dyma gartref y pregethwyr am dymor hir Yn mysg y chwiorydd enwog, enwir Jane Jones, Rhydwen; Mary Thomas, Tynygwyllt; Margaret Jones, Penbriglas; a Sarah Jones, y Glyn. Deuai Margaret Jones, Penbriglas, wrth ei maglau am, agos i ddwy filldir o ffordd i'r capel yn rhan olaf ei hoes. Deuai yno felly ar bob tywydd. Nid gwraig gyffredin oedd Sarah Jones, y Glyn. Merch y ffarm nesaf Tynygwynt oedd hi, ac aelodau yn eglwys Dr. Lewis yn Llanuwchllyn oedd ei rhieni. Darllenai lawer a byddai ganddi brofiad uchel i'w ddweyd yn y seiat. Ganddi hi y ceid yr hyn roddai fywyd yn y seiat pan y byddai yn dechreu myned yn farwaidd. Ddwy flynedd neu dair cyn ei marwolaeth cafodd yr hyfrydwch o weled Thomas ei mab ar ymweliad ar wlad hon, wedi treulio deuddeng mlynedd fel cenhadwr yn India. Hyfryd yw gweled lliaws o ddisgynyddion y saint ffyddlon hyn yn cerdded eu llwybrau ac yn dilyn eu camrau yn yr oes hon. Rhif y cymunwyr yn y Glyn yn 1900 oedd 43 a rhif y gwrandawyr oedd 80.

Blaenoriaid y Glyn. Hugh Ellis, Tyntwll; Edward Ellis, Tycerrig; John Evans, Llangower; John Thomas, Llechwedd-du; Robert Roberts, Bwlchyfwlet; John Jones, Bryntirion; Morris Peters, Rhydwen; Robert Jones, Glyn.

hafan Llyfrau Fyny Diwethaf Nesaf