Search billions of records on Ancestry.com

PENNOD VII.

EGLWYSI DOSBARTH PENLLYN - LLANDDERFEL

CYN myned yn mlaen i roddi hanes ymuniad y Parch. Simon Lloyd, B.A., a’r Cyfundeb, na gwneyd unrhyw nodiadau am y pregethwyr a godasant yn y Sir yn rhan olaf y ddeunawfed ganrif a dechreu y ganrif ddilynol, rhoddwn yn y fan yma fyr hanes am eglwysi eraill y Cyfarfod Misol, gan ddechreu gydag eglwysi Dosbarth Penllyn. Nid ydym yn dweyd nad yw rhai o eglwysi y dosbarthiadau eraill yn hynach nag odid un o eglwysi Penllyn, oddieithr y Bala. Yr oedd pellder rhai lleoedd o’r Bala ynddo ei hun yn gymhelliad i ffurfio cymdeithasau eglwysig ynddynt yn gynt nag y buasid yn gwneyd pe buasent yn nes i’r Bala Anrhydeddwyd Penllyn ag eglwys a dynai iddi ei hun am dymhor maith y rhai a broffesent enw Crist o holl ranau y Sir bron; ac wedi i’r Bala beidio a bod y man i’r saint ymgynull ynddo i gael cymdeithas a’u gilydd yn yr Arglwydd, fe barhaodd i fod felly yn llawer hwy i ardaloedd Penllyn, gan y ffurfia y cymydogaethau hyn “amgylchoedd y Bala.” 

LLANDDERFEL

Un o ardaloedd prydferthaf Sir Feirionydd yw ardal Llandderfel. Saif y pentref yn nghŵr dyffryn tlws yn cael ei amgylchynu gan amryw balasau heirdd. I lawr y dyffryn tua haner y ffordd i Landrillo saif palas y Crogen, lle y trigai gynt Bell Lloyd, Ysw., yr hwn, er yr ofnid iddo wybod am symudiadau cyntaf y Methodistiaid tuag at gael pregethu i’r ardal, a osododd wedi hyny dŷ iddynt dan ardreth i bregethu a chynal moddion crefyddol ynddo. Yn y golwg o’r pentref y mae palas godidog y Palau. Trwy briodas Evan Lloyd, mab Geoffrey Lloyd, o Ddyffryn Erethlyn, â Margaret, merch ac unig etifeddes Maurice, Arglwydd y Palau, unwyd teulu henafol y Palau â changen o deulu pendefigaidd Hafod Unos. Cymerodd y briodas hon le ar y 12fed o Orphenaf, 1591. Y mab hynaf o’r briodas hono oedd Geoffrey Lloyd, yr hwn pan yn llanc ugain oed a lofruddiwyd yfl greulawn ar Ddol y Clettwr, ar y 23ain o Fehefin, yn y flwyddyn 1626, gan ddau o weision Rhiwaedog. Parodd y llofruddiaeth gyffro mawr a theimladau chwerw ar y pryd. Ond ar y cyfan bu teulu y Palau a phobl Llandderfel ar delerau da a’u gilydd hyd oni werthwyd yr etifeddiaeth i Henry Robertson, Ysw., tad y meddianydd presenol, Syr Henry Beyer Robertson, yn amser yr hwny mae y Palau wedi gwneyd mwy nag adferu ei ogoniant cyntefig. Bu ein Grasusaf Frenhines, ein diweddar. Frenhines erbyn hyn, yn aros am amryw ddyddiau yn y palas prydferth hwn tua deuddeng mlynedd yn ol.

Ond y Fronheulog, y palasdy acw yn y coed, am yr afon a chyferbyn a’r Palau, oedd y prif balasdy yn nheimlad trigolion yr ardal am haner cyntaf y ganrif ddiweddaf. Acw y treuliodd Mr. a Mrs. Davies, Fronheulog, eu hoes, am y rhai y cawn aml i achlysur i goffau eto.

Anwybodaeth, anystyriaeth, a difaterwch mawr a deyrnasai yn yr ardal hon, fel mewn ardaloedd eraill, tua chant a haner o flynyddoedd yn ol. Deuai nifer da i’r Eglwys ar fore Sabbothau, a rhai o honynt o filldiroedd o bellder, ond amcan lliaws ohonynt yn dyfod fyddai cael gweled eu gilydd, cael cyfle i drefnu y chwareuyddiaethau am y rhan arall o’r dydd, a gwrando ar Mathew y clochydd yn cyhoeddi arwerthiadau a digwyddiadau eraill oedd i gymeryd lle yn ystod yr wythnos. Yr oedd ychwareuon ar y Sabbotlh yn gyffredin iawn mor ddiweddar a dechreu y ganrif ddiweddaf. Dechreuwyd pregethu yma gan y Methodistiaid yn fuan wedi i’r diwygiad ymdreiddio yn y Bala, ac i bregethwyr godi yn yr eglwys. Y mae traddodiad i bregeth y rhoddwyd hysbysiad cyfrinachol am dani, gael ei thraddodi’n Tyddyn Barwn, yn y flwyddyn 1756. Y mae tystiolaeth na ellir ameu ei chywirdeb fod pregeth yn y Derwgoed, amaethdy yr ochr ogleddol i’r Llan, yn y flwyddyn 1757. Dywedai Cadwaladr Jones, gwniedydd, a ddaeth ar ol hyny yn flaenor yr eglwys yn Llandderfel, ei fod yn cofio myned gyda’i fani pan yn naw mlwydd oed i wrando pregeth yn y Derwgoed, ond nid oedd yn gallu dweyd enw y pregethwr. Yn y blynyddoedd dilynol ceid pregethau achlysurol mewn amryw dai yn y gymydogaeth. Yn eu mysg yr oedd Bodweni, Tyddyn Barwn, yn nghwr de orllewinol yr ardal, Llanerch a Derwgoed yn y cwr gogleddol iddi, ac mewn ty yn y Llan neu y pentref. Fel hyn yr oedd pob cwr o’r ardal yn cael ei lefeinio gan weinidogaeth yr hen bregethwyr a geid yn y Bala. Yn un o’r tai hyn mae yn dra thebygol yr oedd Sion Moses yn pregethu pan y cyfansoddodd Hugh Ty’n y fawnog y rhigwm adnabyddus fel esgus am beidio dyfod i’w wrando.

Dichon mai y distadlaf o’r holl dai y pregethid ynddynt oedd y Tŷ yn y llan y sonir am dano fel yr un y ceid pregeth ynddo yn achlysurol; ond y mae dyddordeb neillduol yn perthyn i’r ty hwn yn y llan, oblegid yn hwn oherwydd ei sefyllfa ganolog y daeth yr achos mewn amser i gymeryd gwedd fwy sefydlog. Buwyd yn pregethu ac yn cynal cyfarfodydd gweddiau fel hyn mewn gwahanol fanau yn yr ardal am tuag ugain mlynedd cyn ffurfio un gymdeithas eglwysig reolaidd yma. Ond yn y flwyddyn 1777 sefydlwyd yma eglwys, neu yn ngeiriau addas awdwr Methodistiaeth Cymru, dechreuwyd yn y flwyddyn hon “ymgrynhoi yn gymdeithas eglwysig.” Gallwn gymeryd y gair “ymgrynhoi” fel yn awgrymu fod rhai o honynt eisoes yn mwynhau breintiau aelodau eglwysig yn y Bala, ond eu bod yn awr oddiar awydd gwneyd lles i eraill yn gystal a’u hadeiladaeth eu hunain, yn ymffurfio yn gymdeithas eglwysig.

Fe gymerwyd y cam pwysig hwn mewn amser digon isel ar grefydd yn Sir Feirionydd, pan oedd gwg yr uchelwyr a rhagfarn y werin heb leddfu ond ychydig. Yr oedd yr eglwys yn Llandderfel yn cael ei ffurfio yn y flwyddyn yr adeiladwyd y capel cyntaf yn Penrhyndeudraeth, yr ail gapel yn y rhan hon o’r wlad. Ac medd y Parch. J. Hughes am hwnw: “Adeiladwyd y capel hwn mewn adeg isel, ac mewn amseroedd blinion ar grefydd.” Ac wedi hysbysu iddynt dderbyn ugain punt o’r Deheudir at ei adeiladu, ä yn mlaen i ddweyd am y gwrthwynebiad mawr oedd i’r adeilad hono gael ei chodi, a’r anhawsder a brofwyd i gael llechau i’w doi, am fod holl foneddwyr y gymydogaeth yn gwgu ar yr amcan. Yr oedd gradd o ofn y boneddwr a drigai yn y Crogen gerllaw ar y brodyr yn Llandderfel, ond y maent yn ymwroli i ymffurfio yn gymdeithas eglwysig yn yr adeg foreu hon, er iddynt foddloni i fod heb gapel teilwng o’r enw am flynyddoedd meithion ar ol hyn. Yr un a gymerai y llaw flaenaf yn sefydliad yr eglwys yn y lle hwn oedd John Owen, neu fel y gelwid ef weithiau Sion Owen Parry, a’r un a gydweithiai ag ef oedd Cadwaladr Jones, Clyttiau, yr hwn a äi ugain mlynedd yn gynt yn fachgen naw oed i’r Derwgoed gyda’i fam i wrando pregeth — un o’r pregethau cyntaf yn yr ardal.

Haedda y ddau hyn goffâd parchus fel sylfaenwyr yr achos Methodistaidd yn yr ardal. Yr oedd John Owen wedi cael braint nad oedd llawer o ieuenctyd y wlad y pryd hwnw yn ei chael, sef cael cynghorion ac esiamplau ei dad, Owen Parry. Daeth Owen Parry i fyw i Brynselwrn o ben gorllewinol y sir yn gynar yn y 18fed gan­rif. Yr oedd yn ŵr moesol a chrefyddol, ac yn aelod o Eglwys Loegr. Yn marn llawer yr oedd yn ddyn duwiol. Ei brofiad wrth’ farw oedd: “Nid oes genyf fi ond syrthio yn bechadur tlawd i ddwy­law trugaredd rad.” Ganwyd John Owen, ei fab, yn Brynselwrn yn y flwyddyn 1741. Pan yn fachgen bu yn ysgol Madam Bevan, a gynhelid yn Nhref Rhiwaedog, yn dysgu darllen Cymraeg. Ymgadwodd yn ei ieuenctid oddiwrth lawer o lygredigaethau ei oes. Yn y flwyddyn 1769, pan oedd yn 28ain oed, ymbriododd â Margaret, merch John Daniels, Plas Isa. Bu farw ei wraig cyn hir gan ei adael yn weddw gyda nifer o blant tra ieuainc. Yn y flwyddyn 1776, profodd oruchwyliaeth ddwys ar ei feddwl trwy wrando pregeth yn Rhydywernen gan un Mr. Davies, gweinidog gyda’r Ymneillduwyr, ar y geiriau — ”Y drygionus a yrir ymaith yn ei ddrygioni,” a phrofodd o hyny allan yn Gristion ymroddgar, hynod am ei ffyddlondeb a’i weithgarwch. Yn mhen blwyddyn ar ol profi nerth yr efengyl dan y bregeth uchod, ni a’i cawn yn un o’r rhai a ffurfient y gymdeithas eglwysig gyntaf yn Llandderfel. Y mae ei hanes o hyn allan yn gymhlethedig à hanes cynydd yr achos yn yr ardal, a chawn achlysur i gyfeirio ato yn fynych wrth fyned yn mlaen. Bu farw yn y flwyddyn 1818 yn 77 mlwydd oed, wedi gwele dyddeadell am rai blynyddoedd yn ymgynull mewn capel cyfleus.

Efe a Cadwaladr Jones, Clyttiau, oedd y ddau flaenor cyntaf. A oeddynt wedi eu dewis yn ol y drefn a sefydlodd Mr. Charles nis gwyddom. Gwelwn fod yr eglwys yma wedi ei sefydlu tuag wyth mlynedd cyn ymuniad Mr. Charles a’r Cyfundeb. Pa fodd bynag, ni phetrusai Mr. Charles mwy nag eraill eu cydnabod a’u parchu fel blaenoriaid o bwys, fel y cawn weled eto.

Ychydig sydd ar gael o hanes Cadwaladr Jones. Gwniedydd ydoedd wrth ei alwedigaeth, yn byw mewn tŷ bychan ar dir y Ty Isa, a elwid y Clyttiau, ac yr oedd iddo fab o’r un alwedigaeth a fu yn flaenor am flynyddoedd lawer yn Llandrillo. Cawn i Cadwaladr Jones gael ei eni yn 1749. Yr oedd felly wyth mlynedd yn ieuengach na John Owen, ond bu farw flwyddyn o’i flaen ef. Diweddodd ei yrfa yn y flwyddyn 1817, yn 68 mlwydd oed. Er mai cyffredin o ran ei amgylchiadau ydoedd, tystir ei fod yn ŵr o gyneddfau cryfion, ac iddo fod yn hynod o ymdrechgar gyda’r achos, yn enwedig gyda’r Ysgol Sabbothol. Araf fu y llwyddiant ar ol sefydlu y gymdeithas eglwysig hyd oni sefydlwyd hefyd Ysgol Sabbothol yn yr ardal. Ac megis yr aeth ugain mlynedd heibio rhwng y bregeth yn y Derwgoed a sefydliad y seiat mewn tŷ yn y llan, felly aeth ugain mlynedd arall heibio cyn sefydliad yr Ysgol Sabbothol, ac ugan mlynedd heb ryw gynydd mawr ar yr achos fu y rhai hyn. Yn yr ugain mlynedd hyn fe fu John Owen yn ffyddlawn iawn yn mhob dim ar a allai i hyrwyddo a chryfhau yr achos yn ei wendid. Nid oedd yn amaethwr mawr, ac yr oedd wedi claddu ei wraig, ond yr oedd ei blant yn grefyddol, a rhoddai lety cysurus yn siriol i’r pregethwyr a fyddent yn aros dros nos. Ond er dangos llawer o ffyddlondeb gan bregethiwyr a diaconiaid, nid llawer o lwyddiant a fu yn y Lle hyd nes y dechreuodd yr Ysgol Sabbothol ymwreiddio yn yr ardal.

Ymddengys i’r achos fod yn cartrefu mewn mwy nag un tŷ yn y pentref ar ol sefydlu seiat ac i’r achos wisgo gwedd sefydlog. Ylle cyntaf oedd ‘Tŷ yn y Llan,’ yn agos at y fan y bu Derfel Meirion yn byw ynddo, ac yr oedd ef yn byw yn y rhes sydd yn nghanol y pentref, yn gwynebu yr ysgoldy bychan a saif yn nghanol y lle agored a elwir gan y trigolion yn “maes y Llan.”

Fel hyn y dywedir gan un o wyr yr ardal. “Y lle cyntaf y cynhaliwyd Ysgol Sabbothol ynddo oedd tŷ Dafydd Lewis y Bermo. Safai y tŷ hwn ychydig yn nes i’r Tanhouse na’r lle yr oedd Derfel Meirion yn byw, neu yn hytrach yn y gerddi sydd y tu ol i’r tai sydd i’w gweled yr adeg bresenol. Yr oedd ‘maes y Llan’ yn llawer mwy eang yr adeg hono nag ydyw yn awr. Dywedir y bu Mr. Charles yn pregethu amryw weithiau yn y tŷ hwn, ac o’r tu allan iddo pan y byddai y gynulleidfa yn rhy fawr i’r tŷ ei chynwys. Yr oedd amryw o hen feini o flaen ty Dafydd Lewis, ac ar ben un o’r meini, meddir, yr oedd Mr. Charles yn pregethu, pan y bu i un Jack Tomos y hetwr aflonyddu yr odfa trwy floeddio, ‘Y mae y dyn yn cyfeiliorni, tynwch ef i lawr.’ Yma, meddir, y dechreuwyd cynal yr Ysgol Sabbothol; os felly, buwyd yn ymgynull am amser maith yn y tŷ bychan hwn. Ond parodd y llwyddiant a ddilynodd sefydliad yr Ysgol Sabbothol i dŷ Dafydd Lewis fyned yn fuan yn rhy fychan. Symudwyd yr ysgol a’r moddion crefyddol, gan hyny, i’r ochr arall i brif heol y pentref, i hen dŷ pobty y Llan. Gelwir y ty hwn gan rai o drigolion yr ardal, yr ‘hen Gapel tô gwellt,’ ond gan y bydd yn gyfleus i ni er mwyn gochel amwysedd alw y Capel a adeiladwyd gan yr eglwys yn Gapel cyntaf, dichon y caniata y darllenydd i ni alw hwn yn ‘dy tô gwellt,’ neu y tŷ pobty, er ei fod yn neillduedig hollol at amcanion crefyddol, ac felly yn gwasanaethu yn lle capel i’r rhai a’i defnyddient. Yr oedd y tŷ hwn y drws nesaf i’r Shop isa, yr ochr uchaf iddi. Telid ardreth flynyddol am dano i Mr. Bell Lloyd, y Crogen, ac yr oedd wedi ei gofrestru yn ol y gyfraith yn lle i addoli ynddo. Yr oedd yr achos bellach yn dyfod yn fwy o ‘ddinas ar fryn,’ a’r nifer a fynychai y moddion yn tynu sylw. Byddai Mr. Davies, Person y Plwyf ar y pryd, yn brysur iawn ar y Sabbothau ar un cyfnod yn gwylio pwy elai i Gapel y Grog, fel y galwai efe ef mewn gwawd, a byddai ei gynulleidfa efei hun yn gorfod aros am dano weithiau am awr wedi i amser dechreu y gwasanaeth ddyfod, gan fel y byddai yn ymdroi i wylied pwy a elai i mewn i hwn. Amlwg yw fod cynulleidfa yr Eglwys yn teneuo braidd, fel yr oedd y ‘tŷ pobty’ yn llenwi, ac yr oedd Mathew y clochydd (Mathew bach, fel y gelwid hwn, mab i’r clochydd y cyfeiriwyd ato o’r blaen), yn teimlo anfantais o’r oherwydd i wneyd yr arwerthiadau a ymddiriedasid iddo yn hysbys i’r holl blwyf. Yr oedd lliosowgrwydd y dyrfa yn y ‘tŷ pobty’ yn demtasiwn i Mathew ddyfod i’w chyfarch weithiau. Un tro, yr oedd Lewis Morris yn pregethu yn y lle, a’r adeilad yn llawn, a lliaws y tu allan wedi methu myned i mewn. “Yn niwedd yr odfa,” medd ein hysbysdd,. “pwy ddaeth yno ond Mathew bach y clochydd. Yno y safai yn disgwyl i’r bobl ddyfod allan, a phan yr oeddynt yn canu, esgynodd i ben y wal yr ochr arall i’r ffordd, a gwnaeth ei hun yn barod i gyhoeddi ei liysbysiadau. Ond cyn gynted ag y clywyd ei floedd ragarweiniol arferol, yr oedd Lewis Morris wedi dyfod allan yn bennoeth, a than ymwybyddiaeth eu bod yn gynulledig mewn lle wedi ei gofrestru, archiodd i Mathew fyned ymaith heb oedi.”


Ar ol cofrestru y tŷ tô gwellt fel lle i addoli ynddo, ni wneid y defnydd arferol o’r pobty yn ei ben draw i bobi bara, eto gwnai rhai o’r athrawon ddefnyddd o hono er ceisio cadw y plant dan awdurdod. Dywedai Thomas Lloyd y llechdowr y byddai ei athraw ef yn bwgwth y’n aml ei roi yn y pobty pan yn anufudd, gan ei alw wrth yr enw awgrymiadol ‘y ffwrn dân,’
Bu sefydliad yr Ysgol Sabbothoi yn foddion i dynu allan amryw o weithwyr egniol gyda’r gwaith o ddysgu y plant ac eraill i ddarllen. Yn ychwanegol at John Owen a Cadwaladr Jones, cawn enw Robert Edwards, Ty’nybryn, yn mysg y gweithwyr ffyddlonaf. Nid oedd ef ond wyth mlynedd yn ieuengach na Cadwaladr Jones. Ganwyd ef yn 1757, blwyddyn y bregeth gyntaf yn y Derwgoed, ac yr oedd ef yn ugain oed pan y ffurfiwyd yma eglwys, ac felly yn ŵr deugain oed pan gychwynwyd yr Ysgol Sabbothol yn yr ardal. Tair blynedd ar ddeg ieuengach nag ef oedd Richard Roberts y teiliwr, un o’r gweithwyr mwyaf egniol a welodd Llandderfel. Ganwyd ef yn 1770, ac yr oedd tua 25ain oed pan gychwynwyd yr Ysgol Sabbothol yma. Deuai Mr. Charles i’r gymydogaeth i bregethu ac i ymweled a’r ysgol mor fynych ag y gallai, a chai yrathrawon a’r ysgolheigion eu sirioli a’u hadnewyddu mcwn sêl trwy ei ymweliadau bendithiol ef. Deuai amryw eraill o’r Bala, hynod am eu sêl i ymweled a’r ysgol hon fel ag ysgolion eraill cyfagos; a buont o gynorthwy mawr i frodyr Llandderfel i roi chwareuon Moel yr Henblas i lawr, ac i ennill y plant i ddyfod i’r ysgol. Tra yr oedd y chwareuon hyn heb eu darostwng, yr oedd yn anhawdd cadw y plant yn yr ysgol ar ol eu cael hwynt iddi. Byddent yn dianc o’r ysgol i weled os nad i gyfranogi yn y chwareuon, a byddai angen myned ar eu hol weithiau i’w cyrchu at eu hathrawon, a byddai rhai o frodyr parchus y Bala yn cynorthwyo hyd yn nod gyda hyn.

Ond eu hamcan penaf oedd cyfarwyddo pa fodd i fyned a gwaith yr ysgol yn mlaen. Yn mysg y rhai a ddeuent ar y genhadaeth hon o’r Bala, enwir Mr. Roger Edwards, taid Proff. Ellis Edwards, M.A., a David Edwards, a symudodd ar ol hyny i Ddinbych, a Mr. Jacob Jones, tad y gwr parchus o’r un enw sydd yn awr yn byw yn Rhyl. Sylwent pa fodd y dygai yr athrawon eu gwaith yn mlaen yn y dosbarthiadau yn gystal a holwyddori yr ysgol yn y diwedd. Yn  mysg y rhai a dalent ymweliad a’r ysgol yr oedd yr hen bregethwr nodedig Enoch Evans, a byddai yntau, fel y lleill a enwyd, yn ymweled a’r dosbarthiadau, ac weithiau yn rhoi gair o gynghor i’r athrawon. Daeth un tro i ddosbarth Robert Edwards, Ty’nybryn,  yr hwn a geid bob amser yn dysgu y llythyrenau i’r rhai fyddent yn ngris cyntaf eu haddysg. Wedi i amryw o’r plant dan ofal Robert Edwards roi prawf boddhaol i Enoch Evans eu bod yn medru y llythyrenau yn gywir, daeth at fachgen a elwid Ned y Wernol, a gosododd ef dan y prawf trwy ddodi ei fys ar y llythyren gyntafyn llyfr y bachgen, a gofyn iddo pa lythyren ydoedd. Atebodd y bachgen yn ddibetrus mai camdda ydoedd. Beth? meddai Enoch Evans, yn sarug braidd. Camdda, meddai y bachgen eilwaith. Na, meddai yr hen bregethwr, cofiwch machgen i mai A y gelwir hon. Ond nid hawdd oedd siglo ymddiried Ned yn ei athraw. Edrychodd yn syn yn ngwyneb yr ymwelwr, a dywedodd wrtho mai Robert Edwards oedd wedi dweyd wrtho ef am iddo gofio bob amser fod A yr un fath a chamdda, B yr un fath a Steel daro tân, C yr un fath a phedol ceffyl, a D yr un fath ag aerwy buwch. Dull Enoch Evans o roi cynghor i’r athraw y tro hwn oedd dweyd wrth ei ysgolhaig, “Rhaid i ti ddysgu rhywbeth amgen na dweyd rhyw lol fel yna.” 

Yr oedd llwyddiant yr achos yn mlynyddoedd cyntaf y ganrif o’r blaen yn galw yn uchel am le mwy a gwell i ymgynull ynddo, a mawr oedd awydd y brodyr, yn enwedig John Owen, i gael capel yn Llandderfel. Yr oedd amryw o ardaloedd eraill y sir yn cael capel yn y cyfnod hwn, ond yr oedd yr anhawsder i gael tir yn peri fod cynulleidfa fawr yn ymgynull am flynyddoedd mewn adeilad fechan yn yr ardal hon. Yr oedd Mr. Charles yr un mor awyddus am iddynt gael capel, a phan yr amlygai John Owen iddo ei fawr awydd i gael capel, anogai Mr. Charles ef i weddio llawer yn yr achos, a sicrhai iddo y ceid lle gan rywun cyn hir iawn. Gwnaed ymdrech egniol i sicrhau tir i’r amcan hwn. Yr oedd David Roberts, Ty’nddol, yn berchen y tyddyn yr oedd yn byw ynddo, a bariiwyd y buasai congl un o’i gaeau ef yn lle cyfleus iawn i godi capel arno; ond pan aeth Mr. Charles a John Owen at yr un a ystyrid yn berchenog, i ofyn iddo werthu darn o’r tir, cafwyd ei fod yn gofyn pris a ystyrid yn afresymol o uchel. Cynygiodd Mr. Charles yr hyn a ystyriai ef ei lawn werth, ond bu gwrthodiad y perchenog o’i gynygiad yn achos o oediad o rai blynyddoedd heb gael capel. Ond cyn hir iawn, cyn diwedd oes Mr. Charles, aeth tyddyn Ty’nddol ar werth, a phrynwyd ef gan deulu Mr. Davies, Fronheulog, yr hwn oedd tua’r adeg hon yn ffurfio ei berthynas a’r ardal. Cafwyd tir ar brydles o 99 mlynedd am ardreth flynyddol o bum’ swllt. Adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1813, er mai Hydref 2il, 1815, yw dyddiad y brydles. Rhoddid y brydles gan John Jones, Ty’nddol, David Anwyl, Bala, a Gabriel Davies, Bala. Yr ymddiriedolwyr oeddynt, — y Parch. Simon Lloyd, B.A., Bala; John Davies, Fronheulog; William Jones, Rhiwaedog; Owen Jones, Tynewydd; John Jones, Llandderfel; Parch. John Roberts, Llangwm, a David Edwards, Bala. Mawr oedd llawenydd John Owen o gael y capel hwn. Er nad oedd ond amaethwr lled fychan cyfranodd ddeg gini at y draul, a rhoddodd ei wedd i gludo y rhan fwyaf o’r defnyddiau. Gorphenwyd y capel tua mis Ebrill 1814, ychydig fisoedd cyn marwolaeth Mr. Charles. Yr oedd y ddau flaenor cyntaf wedi gweithio eu diwrnod gyda’r achos yn y tai anedd a’r ty cofrestredig yn y llan, ac ni chaniatawyd iddynt hwy dymhor hir i wasanaethu yn y capel newydd, oherwydd bu farw Cadwaladr Jones yn Mai 1817, yn 68 mlwydd oed, ac yn mhen tua blwyddyn a haner ar ei ol, Hyd. 25, 1818, bu farw John Owen. Ond tuag adeg marwolaeth y ddau flaenor cyntaf hyn cafodd rhanau helaeth o Gymru eu hysgwyd gan y Diwygiad grymus a elwir yn gyffredin Diwygiad Beddgelert, a chafodd Llandderfel fel ardaloedd eraill brofi ei effeithiau.

Y Sabboth olaf i John Owen fod yn y capel oedd Medi 27, 1818, a’r bore Sabboth hwnw yr oedd yn cael yr hyfrydwch o weled wyth ar hugain yn cyfranogi o Swper yr Arglwydd am y tro cyntaf. Y blaenor hynaf bellach yn y lle oedd Robert Edwards, Ty’nybryn, yr hwn oedd wedi cydweithio a’r ddau flaenor hynaf am flynyddoedd cyn codi y capel, ac er ei fod yn ŵr 60 oed ar farwolaeth John Owen, cafodd gydwasanaethu ar ol hyn am dymhor maith gyda brodyr ieuengach.

Ar adeg marwolaeth John Owen, yr oeddid yn disgwyl y buasai ei fab Owen Jones, yr hwn oedd ŵr tra chrefyddol, yn gwneyd llawer tuag at lanw y bwlch a wnaed trwy ei farwolaeth, ond er tristwch cyffredinol bu yntau farw trwy ddamwain yn Chwef. 1819, yn mhen ychydig fisoedd ar ol ei dad, yn 40 mlwydd oed. Yr oedd yn athraw gweithgar a llwyddianus. Efe oedd tad Mrs. Margaret Jones, gwraig Mr. David Jones, St. James’ Road, Liverpool, a Bryndedwydd.

Dau weithiwr rhagorol a ddaethant i’r golwg tuag adeg adeiladu y capel oeddynt John Davies, Ysw., Fronheulog, a David Edwards, Tyisa. Gweithiasant hwy eu diwrnod bron yn gwbl yn y capel newydd. Gŵr ieuanc gweithgar oedd David Edwards yn nyddiau ieuenctid yr Ysgol Sabbothol yn y tŷ pobty.

Ar agoriad y capel ac ymsefydliad Mr. Davies yn Fronheulog, dewiswyd Mr. Davies yn arolygwr yr Ysgol Sabbothol gyda Mr. David Edwards; ac y mae wedi bod yn arferiad er hyny hyd yn awr gael dau arolygwr i ddwyn yr ysgol yn mlaen yn Llandderfel. Daeth yr ysgol yn nwylaw y ddau hyn, yn cael eu cynorthwyo gan amryw o ysbryd cyffelyb, i sefyllfa mor lewyrchus fel na cheid ei thebyg y pryd hwnw yn yr holl ardaloedd oddieithr yn y Bala. Ffrwyth llafur mawr oedd hyn.

Yn y flwyddyn 1823, ymgymerodd Mr Davies a chael nifer ac enwau holl drigolion yr ardal a chael allan pa nifer o honynt oedd yn dyfod i’r ysgol, a’r rheswm paham na ddeuai y rhai a esgeulusent ddyfod. Y mae yn y llyfr sydd yn awr o’n blaen, ar ol pob enw ynddo, hysbysrwydd pa un a ydyw yn medru darllen a’i nad ydyw, a dywedir pwy o’r rhai nad oeddynt yn ddeiliaid yr ysgol oedd yn addaw dyfod iddi, a phwy oedd yn gwrthod addaw. Anaml y gwelir gwaith o’r natur yma wedi ei wneyd yn fwy trwyadl. Dengys ymroddiad mawr mewn gŵr o safle Mr. Davies ei fod yn ymgymeryd yn bersonol âg ymweled â holl dai yr ardal gyda’r amcan o enill eu preswylwyr i ddyfod yn ddeiliaid o’r Ysgol Sabbothol.

Yr oedd Mr. Davies yn y cyfnod hwn hefyd yn dra  wasanaethgar gydag achosion y Cyfundeb yn gyffredinol. Y mae yn wybyddus fod ei dad, Mr. Gabriel Davies, yn ei ddydd yn un o flaenoriaid pwysicaf Gogledd Cymru, ac ar y blaen i’w holl frodyr gyda materion arianol tua diwedd oes Mr. Charles, ac am flynyddoedd wedi hyny. Yr oedd ei fab, gan hyny, yn hyddysg yn amgylchiadau y Cyfundeb er yn foreu, a daeth ei dŷ, y Fronheulog, yn raddol yn brif gyrchle dynion blaenaf y Cyfundeb. Yno y lletyai Mr. Elias ac eraill, gan amlaf, ar eu dyfodiad i’r Gymdeithasfa bob blwyddyn i’r Bala. Yn amser tynu allan y Weithred Gyfansoddiadol, yn ngherbyd Mr. Davies, gyda’i was ef yn ei yru, y byddai Mr. Elias neu Mr. Michael Roberts yn teithio De a Gogledd i gael yr enwau angenrheidiol wrthi. Yn ddiweddarach, yn ei dŷ ef y byddai Mri. Lewis Edwards a John Phillips yn cael eu croesawu pan ar ymweliadau a’r rhan hon o’r wlad yr adeg yr oeddynt yn efrydwyr yn Edinburgh, a’u dysg a’u doniau yn dechreu tynu sylw y wlad. Yr un modd dangosai garedigrwydd i dô ieuengach o enwogion* ar gychwyniad eu gyrfa fel efrydwyr yn y Bala ar sefydliad yr Athrofa.


Dr. Owen Thomas, Wm. Charles, Dr. Parry; John Jones, Capel Dewi, &c..
Oherwydd y croesaw anrhydeddus ellid roddi i enwogion y siroedd oll yn y Fronheulog, cai Llandderfel ei rhan yn helaeth o weinidogaeth gwyr enwog y Cyfundeb am flynyddoedd lawer. Ond yn ychwanegol at y rhai y byddai ef yn foddion i’w cael i’r ardal, yr oedd ef a’i briod yn nodedig o weithgar gyda’r achos gartref yn ei holl gysylltiadau. Y mae traddodiad ddarfod i’r gweinidog ar Sul Cymundeb yn lled fuan wedi i Mr. Davies a Mrs. Davies ymsefydlu yn eu plith wneyd y sylw, fod wrth Fwrdd yr Arglwydd yr un croesaw i’r boneddig ac i’r tlawd, ac iddi dori allan yn orfoledd mawr yno, a Robert Edwards, Tynybryn, yn gwaeddi Bendigedig, y mae Mr. Davies a minau ar yr un tir yn y fan yma. Dywedir y byddid yn cynal cyfarfod darllen yn nhŷ y Fronheulog ar adegau ar nosweithiau yn yr wythnos. Mr. Edwards, Penygeulan, yn ei ysgrif yn y Cronicl am 1882, a ddywed y byddai y gynulleidfa yn neillduol o barchus yn Llandderfel pan y byddai yn ymweled a’i berthynasau yno pan yn fachgen ieuanc. Tair neu bedair sêt gan y Fronheulog, un neu ddwy gan Caepant, Tynewydd, Brynmelyn, &c.

Yr oedd Mr. Davies hefyd yn un or blaenoriaid hyny a roddasant eu dylanwad o blaid cynal y weinidogaeth yn fwy anrhydeddus yn holl gylch y Cyfarfod Misol. Nid heb ymdrech y cafwydy diwygiad a gafwyd eisoes yn y mater hwn, ac nid oedd pawb or blaenoriaid yr ydym yn parchu eu coffadwriaeth yn gweled angen symud nemawr yn mlaen. Ond yr oedd Mr. Davies felly, yn gystal ag yn lletygar a charedig yn ei dŷ. Cawn esiampl nodedig o hono yn sefyll dros wella y gydnabyddiaeth i’r pregethwyr mewn ysgrif o eiddo y diweddar Barch. John Evans ar Mr. Richard Morris. Wedi dweyd fod Richard Morris yn siaradwr grymus, a’i fod yn meddu dawn neillduol i osod ei faterion allan mewn dull cyrhaeddgar ac argyhoeddiadol, dywed Mr. Evans: Traddododd un anerchiad ar Gynaliaeth y Weinidogaeth, a fu yn foddion i ddyblu y gydnabyddiaeth yn Sir Feirionydd mewn ychydig amser, er nad oedd ef y pryd hwnw ond ieuanc, ac er fod gŵr o rymusder William Jones, Rhiwaedog, yn ei wrthwynebu. Yr oedd wedi bod yn cyfrif, ac wedi cael allan fod y casgliad at y weinidogaeth yn y Sir yn dyfod i ychydig gyda thri swllt yn yr wythnos ar gyfer pob pregethwr, a gofynai a oedd yn bosibl i’r gweinidogion fyw ar yr hyn oeddynt yn dderbyn?

“Byw, byw, beth ydych yn ei feddwl wrth fyw”, meddai William Jones, Rhiwaedog. “Y mae rhagor rhwng byw a byw”.

“Ie, byw a ddywedais i”, meddai R. Morris, “ac yr wyf yn teimlo nad oes angen am newid y gair. A allant hwy fyw ar y peth y maent yn gael genym?”

Y cyntaf i gymeryd ei blaid oedd Mr. Davies, Fronheulog, ar canlyniad fu cychwyn symudiad a roddodd symbyliad grymus i’r eglwysi yn y cyfeiriad hwn. (Gwel Traethodydd am 1878, tudal. 25.)

Y mae cyhoeddusrwydd mawr wedi ei roddi yn Nghofiant y Parch. John Jones, Talsarn, i’r cyfeiriad a wnaed at Mr. Davies gan y Parch. Michael Roberts, pan oedd ei feddwl wedi ei amharu. “Nid yw o un budd i chwi ymresymu ag ef,” meddai Dr. Hughes, Pwllheli, wrth Lywydd y Gymdeithasfa ar y pryd, y Parch. J. Hughes, Pontrobert, Nag ydyw, a ydyw Dr. Hughes, fe wyddoch chwi am danaf fi, nad ydyw o un use i’r un o honyn nhw ddechreu ymresymu a mi. Nid ydwyf fi yn malio dim yn yr un Pab o Fo^n, na Chardinal o Fronheulog chwaith.” Dywed Dr. O. Thomas fod y lle yn gyffro drwyddo. Yr oedd pawb yn teimlo yn ddwys pan y dywedodd y pregethwr enwog “Ffarwel” wrth ei frodyr, a thynu y drws yn ddychrynllyd ar ei ol, oddieithr Mr. Evans, New Inn, yr oedd efe yn chwerthin ei oreu. Yr oedd y cyfeiriad at y Pab ar Cardinal wedi effeithio arno, fel y gallesid tybied nad oedd wedi gweled na chlywed dim arall. Y mae yn amlwg fod cyfeillgarwch Mr. Davies a Mr. Elias, ac eraill, ar mynych gyfletisderau a gai i gymdeithasu a hwy yn ei dŷ, yn rhoi safle o ddylanwad iddo yn mysg ei frodyr, a digon tebyg nad oedd pawb yn teimlo yn esmwyth bob amser dan yr iau. Ond bydd yn dda gan lawer adgofio ei fod yn fwy haelfrydig ac eang ei feddwl na rhai o’i frodyr, ar bynciau yn dwyn perthynas a llwyddiant crefydd yn y wlad. Bu farw, Mehefin 12 1848, yn 67 mlwydd oed. Gwel sylwadau Dr. Edwards ar y gŵr rhagorol hwn yn mhellach yn mlaen.

David Edwards, Tyisa. — Un o golofnau cryfaf yr achos yn Llandderfel am dymhor maith fu Dafydd Edwards. Yr oedd yn ieuengach mewn dyddiau na John Davies, Fronheulog, ond am ei fod yn frodor o’r ardal ac wedi ymaflyd mewn crefydd yn fore, yr oedd wedi dechreu gweithio gyda’r achos yn Llandderfel  o’i flaen, a bu fyw saith neu wyth mlynedd ar hugain ar ei ol. Ganwyd ef yn 1788, a bu farw yn 1875, yn 87 mlwydd oed. Ni a’i cawn yn athraw gweithgar yn y tŷ tô gwellt, yn arolygwr yr ysgol ac yn rflaenor yr eglwys yn fuan ar ol adeiladu y capel cyntaf, a bu yn gwasanaethu ei swydd am amryw flynyddoedd yn niwedd ei oes yn y capel newydd presenol. Er nad oedd yn ŵr ymadroddus, cydnabyddir fod ynddo allu tu hwnt i’r cyffredin, a nerth cymeriad a’i gwnai yn allu ac yn ddylanwad mawr yn yr ardal. Tystir ei fod yn meddu holl nodweddion athraw da yn yr ysgol, ac yn weithiwr cyson fel blaenor yn yr eglwys. Un o brif gewri Cristionogol yr ardal y gelwir ef gan un. Dichon ei fod wedi cyfyngu ei lafur yn fwy i’w ardal ei hun nai gymydog  o’r Fronheulog, ac nad oedd mor hysbys yn y Cyfarfod Misol ar Gymdeithasfa ag ef, ond oherwydd ei wybodaeth a’i brofiad o bethau ysbrydol yr oedd yn un yr edrychai pawb i fyny ato, ac y teimlai pawb rym ei ddylanwad.

Blaenor arall a fu yn cydoesi ac yn weithio ar pum blaenor arall a grybwyllwyd genym eisoes oedd John Jones, Tyddyn Isaf, a elwid hefyd John Jones, Slater. Bu ef yn flaenor ac yn ddechreuwr canu am flynyddoedd. Nid yn wybyddus pa bryd y dewiswyd ef i’r swydd. Meibion iddo ef oedd Moses Jones a ddaeth yn ddechreuwr canu ar ei ol, a Robert Jones yr hwn a ddechreuodd bregethu ac a fu farw yn ieuanc ac hefyd Samuel Jones, yr hwn a fu am dymhor yn Ngholeg y Bala ar feddwl cyflwyno ei hun i’r weinidogaeth, ond a fu farw yn ieuanc  o’r darfodedigaeth. Yr oedd Mary Jones, gwraig gyntaf John Jones, mam y meibion y coffawyd eu henwau, yn ferch i’r hen bregethwr Griffith Sion y Sarnau, Ynys y Pandy cyn hyny. Symudodd John Jones gyda’i ail wraig i ardal Llidiardau, ac oddi yno i Tynant goed, yn ardal Llawrybettws, ac yno y bu farw.

Ar ol y rhai hyn dewiswyd y pum brawd canlynol yr un amser Richard Roberts, Evan Lloyd, Hafotty Wen; John Roberts, Henblas; John Jones, Lodge, Fronheulog, a David Jones, Caepant. Gwnaed y dewisiad hwn tuar flwyddyn 1840. Yr oedd Richard Roberts yn henafgwr deg a thriugain oed pan y dewiswyd ef yn flaenor, ond ni a welsom ei fod yn gweithio yn egniol gyda’rYsgol pan oedd yn y tŷ pobty. Gwniedydd ydoedd, ac yn ol arfer y dyddiau hyny ai o amgylch yr ardal, a rhai ardaloedd eraill, i wneud  ei waith. Pan yn gweithio yn Nghwm Rhiwarth, yn un  o’r tai yrno, daeth i wybod am Mr. Joseph Thomas fel areithiwr dirwestol cyn i’w glod gyrhaedd i Sir Feirionydd, ac fel y ceir yr hanes yn Nghofiant y Parch. Joseph Thomas, gan y Parch. Evan Davies. Llwyddodd i’w gael i Gymanfa Ddirwestol Llwyneinion, ac yr oedd Richard Roberts wedi gofalu am i Dr. Edwards gael gwybod ei fod yno fel y caffai gyfle i’w glywed a barnu ei ddawn a’i athrylith. Yr oedd yr yni hwn a nodweddai yr henafgwr yn nodweddiadol ohonno pan yn ieuengach yn y tŷ pobty, ac yn y capel cyntaf. Y mae iddo ŵyr yn weinidog yn ein plith, sef y Parch. G. Ceidiog Robert.

Yr oedd John Roberts yr Henblas hefyd yn ŵr mewn oed pan y dewiswyd ef yn flaenor. Cofir am dano fel hen wr selog, a barhaodd yn ffyddlon hyd y diwedd. Yr oedd efe yn hen daid i’r Prifathraw Roberts, Aberystwyth.

Un arall  o’r pump a ddewiswyd yr un adeg oedd Evan Lloyd, Hafotty Wen. Yr oedd ef yn ŵr  craff ei feddwl, a chadarn yn yr athrawiaeth. Collodd ei olwg flyyddoedd cyn ei farwolaeth, a daeth yn un nodedig ar gyfrif nerth ei gof. Bu yn ffyddlon dros ben yn ngwyneb ei ddallineb a phellder y ffordd oedd ganddo i ddyfod i foddion gras. Bu farw yn 1877, yn 73 mlwydd oed.

John Jones, Lodge, Fronheulog, wedi hynny Caewlff oedd un arall ohonynt. Dyn galluog, a threfniedydd da ond hebeb lawer o ddawn fel siaradwr. Bu yn ysgrifenydd yr eglwys am flynyddoedd.

Yr olaf o’r pump oedd David Jones, Caepant. Yr oedd ef yn un wedi cael addysg dda, ac yn fedrus iawn gyda gwahanol ranau y gwaith. Symudodd i fyw i’r Tŷ ucha’, gerllaw Capel Llwyneinion, a bu yn gwasanaethu swydd blaenor yno am amryw flynyddoedd. Diweddodd ei ddyddiau yn Liverpool. Yn y cyfnod hwn symudodd dau i’r ardal oeddynt wedi eu dewis mewn ardaloedd eraill, ond a alwyd i weinyddu y swydd yn Llandderfel wedi eu sefydliad yno. Un ydoedd David Jones, y garddwr, fel y gelwid ef. Bu am flynyddoedd yn planu y coed ac yn gofalu am danynt yn y Fronheulog, ac yn byw a gwasanaethu ei swydd yn Llandrillo. Ond yn agos i ddiwedd ei oes symudodd i fyw i Lan­dderfel, a gafwyd ef i gyflawni y swydd yma hefyd. Y llall ydoedd Edward Lloyd, Llanercheryr, a ddewiswyd yn flaenor yn gyntaf yn eglwys Cefnddwysarn, ond ar ei ddychweliad i’w ardal ened­igol, a alwyd i’r swydd yn Llandderfel, lle y bu yn ei chyflawni yn ffyddlon am amryw flynyddoedd. Dyn tyner, addfwyn, oedd y brawd hwn, er nad oedd mor gryf ei feddwl a’i frawd Evan Lloyd, y coffawyd am dano o’r blaen. Bu farw Mehefin 9fed, 1874, yn 73 mlwydd oed.

Ar ol dewisiad y pump uchod, a dyfodiad y ddau frawd hyn i fyw i’r ardal, y cyntaf a ddewiswyd i’r swydd oedd Mr. David Jones, Shop, a ddaeth ar ol ei symudiad i Liverpool yn flaenor yn eglwys Prince’s Road, ac yn dra adnabyddus fel masnachwr llwyddianus wrth yr enw Mr. D. Jones, St. James’s Road. Yr oedd yn nodedig am ei weithgarwch a’i haelioni. Gadawodd filoedd o bunau i’r Cyfun­deb yn ei ewyllys, a chofiodd am yr holl eglwysi y bu mewn cysylltiad a hwy yn Nghymru. Gadawodd, a chyfrif y gymunrodd o bedair mil o bunau i’r Genhadaeth Dramor a dalwyd ar farwolaeth ei fab, dros ddeuddeng mil o bunau at achosion crefyddol, heblaw y symiau anrhydeddus a gyfranasai yn ei fywyd at wahanol achosion. Bu farw yn Bryndedwydd, ar ol cystudd maith a phoenus, Meh. 7, 1885, yn 63 mlwydd oed, a chofir am dano fel un o brif gymwynas­wyr y Cyfundeb y perthynai iddo.

Gofod a ballai i ni gymaint a chrybwyll enwau amryw a fu yn ffyddlawn iawn gyda’r achos yn ystod y tri ugain mlynedd agos y buwyd yn addoli yn y capel cyntaf. Coffawyd eisoes am Owen Jones, Tynewydd, yr hwn fel yr ymddengys, a fu farw cyn i’r eglwys ei alw i’r swydd o flaenor. Coffeir yn barchus am Moses Jones, Tyddyn isa, John Jones, Llan, a John Williams, y teiliwr, fel rhai fu yn ffyddlon gyda’r canu; am Thomas Jones, Brynmelyn, y Gob

cyn hyny, a Phenybont yn niwedd ei oes, fel un a fu yn Arolygwr, adran y plant yn benaf, yn yr Ysgol Sabbothol, o farwolaeth Mr. Davies, Fronheulog, pan y daeth David Edwards i le Mr. Davies fel prif Arolygwr; am David Davies, y teiliwr, a’i fab  o’r un enw, fel athrawon y plant bach, ac olynwyr yn hyny o waith i Robert Edwards, Tynybryn, Saif enw Edward Ellis, Brynbwlan, hefyd yn uchel fel gweithiwr gyda’r Ysgol yn y Capel cyntaf ar ail. Yn mysg y chwiorydd, cofir am Mrs. Davies, Fronheulog, fel athrawes ffyddlon, ac fel un a roddai gefnogaeth i’r canu yn gystal a dangos haeloni a charedigrwydd i’r achos mawr mewn modd na allai pawb o’i chwiorydd wneyd, ac yn yr un dosbarth o chwiorydd ffyddlon, rhoddir Eliz. Edwards, Tyisa (wyres i Wm. Morgan y Glyn,a mam y Parch. R. Edwards), Jennet Jones, Brynmelyn, a’i merch yn nghyfraith Margaret Jones, Tynewydd, priod Mr. D. Jones, a ddiwddodd ei dyddiau yn Bryndedwydd. Ac y mae i Elizabeth Jones a Jane Thomas, y Llan, a Margaret Ellis, Brynbwlan, le anrhydeddus yn mysg y gwragedd ffyddlawn. Dylid cofnodi i Mrs. Davies, Fronheulog, yn mhlith y chwiorydd oedranus, a Mr. Thomas Jones, Brymelyn, yn mihlith y brodyr oedranus, hynodi eu hunain trwy eu hymdrech a’u haelioni yn nglyn ag adeiladu yr ail Gapel y  symudwn yn mlaen yn awr i roi gair o’i hanes. 

Yn y flwyddyn 1868 y dechreuwyd symud tuag gael Capel newydd Yr oedd llwyddiant yr achos am y pedwar ugain a deg o flynyddoedd oedd wedi myned heibio er adeg sefydliad y seiat yn 1777 yn galw am Gapel mwy a gwell na’r un a agorwyd yn 1814. Ychydig cyn hyn, yn 1866, yn fuan ar ol ymadawiad Mr. D. Jones i Lerpwl, dewiswyd tri o flaenoriaid newyddion, sefWilliam T. Owen, Plasisa, Hugh Jones, Saer, a Robert Thomas, Shop, y rhai a gydweithiasant yn egniol ar rhai oedd yn y swydd o’u blaen er cael Capel newydd. Cafwyd helaethrwydd o dir at y Capel trwy garedigrwydd Mrs.

Davies, Fronheulog, a rhoddi yr hen Gapel yn gyfnewid am dir a chyfleusderau chwanegol. Cafwyd hefyd le i adeiladu tŷ gweinidog ar ol hyny, a Festri gyfleus, ac yr oedd ganddynt yn y diwedd ychydig o dir yn weddill i’w werthu. Agorwyd y Capel yn 1869.

Costiodd ar y pryd £1500, ac y mae holl draul yr adeiladau — y Capel, y Festri, tŷ y Gweinidog, ar Fynwent a sicrhawyd, yn cyrhedd £2,400; a hyfryd yw dweyd fod yr holl eiddo yn awr yn ddiddyled.

Yn mhen ychydig o flynyddoedd wedi agor y Capel newydd hardd hwn, bu farw David Edwards ar ddau frawd Evan ac Ed­ward Lloyd, yn gystal a Thomas Jones, Penybont, a Mrs. Davies, Fronheulog, ac yn y flwyddyn i88o, bu farw y Parch. Robert Edwards, yn 57 mlwydd oed, yn fuan wedi ei ordeinio i gyflawn waith y weinidogaeth. Yr oedd yr olaf yn ŵr crefyddol iawn, yn bregethwr sylweddol, hyddysg yn yr Ysgrythyr, a defnyddiol yn y cyfarfod eglwysig. Gŵr unplyg, gonest, a phawb yn gallu yniddiried ynddo, yw tystiolaeth un am dano. Gadawodd yn ei ewyllys £200 at gynal bugail yn Llandderfel, a £ 100 at gynhialiaeth efrydydd o Ddwyrain Meirionydd yn Athrofa’r Bala.

Yn fuan wedi marwolaeth y Parch. R. Edwards, symudodd yr eglwys tuag at roi galwad i frawd i’w bugeilio, a dewiswyd Mr. Isaac Jones Williams, o Dalsarnau, mab i’r diweddar Barch. G. Williams  o’r lle hwnw, yr hwn oedd yr adeg hono yn gorphen ei efrydiaeth yn y Bala. Dechreuodd Mr. Williains ar ei waith o fugeilio yr eglwys yn mis Awst, 1882, ac y mae ei gysylltiad yn parhau yn un cysurus hyd yn awr. Yr oedd y Parch. D. Davies, Abermaw, yn bresenol dros Gyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd ar adeg ei sefydliad.

Rhif yr aelodau yn 1882, oedd 153; eu rhif yn 1897, oedd 180. Yr oedd o ddyled yn aros ar y Capel yn 1882,

£400, ac nid oedd y festri na thŷ y gweinidog eto wedi eu hadeiladu. Meddyliwyd am gynllun i symud y 400 punau, ond cyu eu roi mewn gweithrediad, daeth Mr. Thomas Jones, Brynmelyn, (mab i’r un y soniwyd am dano  o’r blaen) a chynygiad yn mlaen. Yr oedd yn gallu sicrhau fod ei frawd, Mr. D. Jones, Liverpool, a Henry Robertson, Ysw., A.S., yn myned i roi £50 yr un, ar yr amod i’r eglwys dalu y gweddill. Erbyn 1888 yr oedd y capel yn ddiddyled. Penderfynwyd buddsoddi y waddoliad o £200 mewn tŷ gweinidog yn ymyl y capel, ac felly y mae y gweinidog yn cael y budd y bwriedid iddo ei gael gan y cymunroddwr caredig.

Yn 1886, dewiswyd yn flaenoriaid, — Hugh Ellis, John Hughes, a Griffith Evan Morris; a thrachefn yn 1893, dewiswyd Charles Jones, ac Evan F. Evans. Ac oddeutu yr un adeg, symudodd David Jones o Rhosygwaliau i Landderfel i fyw, yr hwn a eisteddai yn esmwyth gyda’r blaenoriaid yn y lle yn y set fawr, am y tymhor byr a estynwyd iddo ar ol ei ddyfodiad i’r ardal.  

O’r rhai a ddewiswyd yn 1866, y mae Hugh Jones, Griffith Evan Morris, a William Thos. Owen, yn gystal a D. Jones wedi huno. Y mae y gweddill yn awr yn fyw, ac yn llanw eu swydd yn yr eglwys.


Brodor o Dalysarn oedd Mr, W. T. Oven, Plas isa, a anwyd yn 1833, a daeth i’r ardal yn 1855. Dewiswyd ef yn flaenor yn 1866, a bu farw yn 1898, yn 65 mlwydd oed. Dyn gwir grefyddol heb duedd ynddo i ymwthio i gylchoedd cyhoeddus. Bu yn drysorydd yr eglwys am ysbaid maith. Teimlir colled ar ei ol. Brodor o Langwm oedd Mr. H. Jones. a daethai Mr. G. Evan Morris yma o Danygrisiau, lle y bu yn cadw y tŷ capel am flynyddoedd. Gwyr da a ffyddlon.
Blaenoriaid Llanddefel: John Owen, Ty newydd; Cadwaladr Jones, Clyttiau; Robert Edwards, Tynybryn; John Davies, Fronheulog; Robert Edwards,Ty isa; John Jones, Tyddyn isa; Richard Roberts, 1840; Evan Lloyd, Fotty wen, 1840; John Roberts, Henblas, 1840; John Jones, Lodge, Fronheulog, 1840; David Jones, Caepant, 1840; Edward Lloyd, Llanercheryr; David Jones, y Garddwr; David Jones, Shop; William Thomas Owen, Plas isa; Hugh Jones, Saer; Robert Thomas, Shop; Griffith Evan Morris, Tynycoed, 1886; John Hughes, Brynselwm, 1886; Hugh Ellis, 1886; Charles Jones, 1893 ; Evan Foulk Evans, 1893; yn nghyda David Jones, a ddaeth o Rosygwaliau yn agos i ddiwedd ei oes, ac a gydnabyddwyd fel blaenor am yr ychydig amser y bu byw.

Y Pregethwyr a godasant  o’r eglwys hon yw y rhai canlynol :- 1. Y Parch. Hugh Edwards, mab Llanercheryr. Symudodd i ddechreu i Ffestiniog, ac oddiyno i America. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy, a theithiodd lawer trwy siroedd Cymru yn y De ar Gogledd. 2. Robert Jones, Tyddyn isa; yr oedd yn Athrofa y Bala. 3. Samuel Jones, Tyddyn isa. 4. Y Parch. Robert Edwards, Ty isa, 1823—1880. 5m Parch. David Evan Jones, Brynmelyn, Cenhadwr yn awr yn Lushai, India. 

YSGOL Y CALETWR.

Bu y gangen Ysgol hon unwaith yn perthyn llawn cymaint i eglwys Llwyneinion ac ydoedd i eglwys Llandderfel, ac yr oedd amryw  o’r teuluoedd yn y Caletwr yn myned i Lwyneinion. Rhoddwyd yr Ysgol heibio am amryw flynyddoedd oherwydd rhyw reswm neu gilydd. Ond yn ystod y deugain mlynedd diweddaf, ail gychwynwyd hi, trwy ymdrechion brodyr yn y lle a chynorthwy brodyr o Landderfel. Bu yr Ysgol yn lluosog pan oedd y gwaith gerllaiw mewn sefyllfa lwyddianus. Cynheliryno Ysgol bob Sabboth. Ceir pregeth hefyd unwaith yn y mis, a chyfarfod eglwysig bob pythefnos. Ond aelodau eglwysig yn Llandderfel y cyfrifir y rhai sydd yno yn proffesu crefydd, ac i Landderfel y daw y gynulleidfa bob nos Sabboth.

hafan Llyfrau Fyny Diwethaf Nesaf