Search billions of records on Ancestry.com

PENNOD VII.

EGLWYSI DOSBARTH PENLLYN - LLANUWCHLLYN

Yn y plwyf hwn y pregethwyd y bregeth gyntaf gan Fethodist yn Sir Feirionydd (os caniateir i ni alw Mr. Howell Harris yn Fethodist), eto ni chawn fod yma achos rheolaidd gan y Methodistiaid am dros haner can mlynedd ar ol ymweliad Howell Harris â'r lle. Y mae hanes yr Annibynwyr yn y plwyf yn wahanol. Cofrestrodd Meuric Dafydd ei dtŷ i bregethu ynddo yn fuan wedi ymweliad y Diwigiwr â'r ardal, a buwyd yn addoli yn Weirgloddgilfach a Nantydeiliau bob yn ail am ddwy neu dair blynedd cyn i’r capel cyntaf, ar dir a roddwyd gan Dafydd Stephen, Nantydeiliau, gael ei adeiladu yn y flwyddyn 1745. Yr oedd ganddynt weinidog hefyd cyn cael capel, oherwydd ceir fod un o’r enw Thomas Evans yn derbyn o Drysorfa y Presbyteriaid fel gweinidog yn Llanuwchllyn yn y flwyddyn 1744 er ymweliadau achlysurol y Diwygwyr, a lafur mwy cyson yr Ymneillduwyr, parhaodd y plwyf yn ddiofal a difater i raddau helaeth nes y deuir i ugan mlynedd olaf y ddeunawfed ganrif.

Yr oedd dau hen ŵr yn byw yn y plwyf yn 1851, meddir yn Methodistiaeth Cymru, oeddynt yn cofio y byddai y clochydd ar ol gwasanaeth y llan ar y Sabboth, yn myned i ben clawdd y fynwent i gyhoeddi cocyn chwareu yn Mhantyceubren ddydd Llun, ac y byddai yr offeiriad ei hun ychydig cyn hyny yn chwareu tennis ar dô yr Eglwys, ac ar ol chwareu yn myned gyda’r chwareuwyr i’r dafarn i ddiota.

Y mae sail i ddweyd mai difaterwch a diofalwch a nodweddai offeiriad Llanuwchllyn gant a haner o flynyddoedd yn ol yn hytrach na gelyniaeth gref at y Methodistiaid. Yr oedd offeiriad Llangower o ysbryd gwahanol ac yn llawer mwy gelynol, fel y dengys yr hanes canlynol. Tua diwedd y flwyddyn 1740, yn ol ysgrif o eiddo J Evans o’r Bala, daeth y Parch. Daniel Rowlands, Llangeitho, i Lanuwchllyn, a gofynodd ganiatad yr offeiriad i bregethu yn y Llan, a chafodd hyny. Ymddengys nad oedd waeth gan yr hen offeiriad pwy a bregethai, na pha beth a bregethid. Aeth yn ymddiddan rhyngddo a Mr. Rowlands yn nghylch ailenedigaeth, ond cyfaddefai yr offeiriad na wyddai ef ddim oll am y pwnc hwn.

Beth”, ebe Rowlands, “a wyt ti yn ddysgawdwr yn Israel ac ni wyddost y pethau hyn?” Digwyddodd Rowland Lloyd, periglor Llangower, fod yn y pentref ar y pryd, a phan glywodd fod un o’r Methodistiaid wedi cael caniatad i bregethu yn Eglwys y plwyf, cyffrodd drwyddo. Ymaith ag ef ar ffrwst i’r Eglwys. Yr oedd y gwasanaeth wedi dechreu. Darllenai Mr. Rowlands ar y pryd benod y melldithion yn llyfr Deuterononium. Dechreuodd offeiriad Llangower derfysgu. Beth, meddai, a ydyw Stephen Glanllyn yn felldigedig? Ydyw, meddai Rowlands, os yw y gŵr yn ddyn annuwiol. Aeth y terfysg yn fwy, a rhwng swn offeiriad Llangower yn siarad a thinc cloch hen wraig oedd yn bresenol, rhwystrwyd yr odfa, a bu raid i Rowlands fyned ymaith y tro hwnw heb bregethu.


Nid yw hyn yn ymddangos yn hollol gyson ar hyn a geir yn Hanes Esgobaeth Llanelwy, gan yr Archddiacon Thomas. Yn ol y llyfr hwnw, Rheithor Llangower o 1701—1752 oedd William Jones, B.A., ac os ydym yn deall yr arwyddnodau yn gywir, yr oedd ef yn gurad parhaol Llanuwchllyn ar yr un pryd. Ond crybwyllwyd o’r blaen i offeiriad Llangower fod am dymhor hir yn orweddog, neu o leiaf yn fethedig. Yr oedd un David Lloyd, B.A., yn Rector Llanycil yn 1753, yr hwn oedd cyn hyny yn Rector Gwytherin. Bu Rheithor Llangower am ddegau o flynyddoedd yn gurad parhaol Llanuwchllyn yr un pryd. Bu W. Jones, B.A., yn Rheithor Llangower am dros 50 mlynedd, ac am nifer mawr o’r blynyddoedd hyny yn methedig. Y mae y 10 mlynedd ola o’i oes ef, blynyddoedd. ei fethiantwch, yn cyfateb i’r deng mlynedd rhwng dyfodiad Howell Harris i’r sir a’r Ymraniad. Pwy oedd mewn awdurdod yn y ddau blwyf yr adeg, hon nid yw yn hawdd dweyd.
Ond er hyn oll, cafodd Llanuwchllyn y fraint o glywed yr efengylwr enwog o Langeitho wedi hyn. Yr ail dro, safai i bregethu ar gareg farch y Felindre, ffermdy ar derfyn plwyfydd Llanuwchllyn a Llangower. Ei destyn ydoedd: “Wele ef yn dyfod yn neidio ar y mynyddoedd ac yn llamu ar y bryniau” (Can. ii. 8.) Parodd swn y geiriau i rai o’r bobl edrych ar y mynyddoedd o’u hamgylch, gan dybied y caent weled rhyw weledigaeth hynod. Diau i’r gymydogaeth hon gael aml i bregeth gan rai o’r diwygwyr a chynghorwyr boreuaf y Methodistiaid yn ystod y deugain neu haner can mlynedd o hyn i sefydliad y seiat gyntaf gan y Methodistiaid yn y plwyf, oherwydd fe saif y lle ar y brifffordd o Fachynlleth, i’r Bala, pa un bynag a'i trwy Fawddwy a'i trwy Ddolgellau y deuir i’r Bala. Yr oedd yma hefyd weinidog mwy neu lai llwyddianus trwy y blynyddoedd hyn yn bugeilio eglwys yr Annibynwyr cyn dyfodiad Dr. Lewis i’r ardal. Fel rhwng pobpeth, ni fu Llanuwchllyn o ddyddiau Meuric Dafydd hyd yn awr heb wtŷr crefyddol ynddo perthynol i’r Ymneillduwyr yn yr ystyr roddir i’r gair yn y dyddiau hyn. Ond dichon mai ychydig O honynt allesid ystyried yn Fethodistiaid

Coffa Mr. Edward Edwards yn Nghronicl yr Ysgol Sabbothl am 1851, am un cynghorwr o’r enw Thomas Roberts, Tynyfron, Cynllwyd, a lafuriai yn ol dull cynghorwyr y Methodistiaid, ond a arferai fyned i’r cymun yn gyson i’r llan. Nid yw yr hyn a grybwyllwyd ddiweddaf ynddo ei hun yn dangos nad ellid ei gyfrif yn gynghorwr Methodistaidd, oherwydd cynghorai yr arweinwyr yn y dechreu i aelodau y cymdeithasau yma a thraw fyned i Eglwys Loegr i dderbyn y cymun ac i fedyddio eu plant, yn hytrach nag at weinidogion ymneillduol. Eto, y traddodiad yn yr ardal am Thomas Roberts yw ei fod yn fwy o Eglwyswr nag o Fethodist; ac Evan Moses sydd wedi cael ei ystyried bob amser fel y pregethwr cyntaf yn Sir Feirionydd gyda’r Methodistiaid. Ond beth bynag sydd gywir am ei broffes yr oedd ei weithredoedd, rai o honynt o leiaf yn hynod o Fethodistaidd. Bu o leiaf ddwy waith yn Llangeitho yn gwrando Rowlands, yn ol arfer plant y Diwygiad. Bu yn cynghori llawer ar y Sabbothau ar hyd tai anedd Llanuwchllyn a Llanymawddwy. Clywodd Owen Edwards, Penygeulan, ef yn pregethu yn y Bryn ar fore Sabboth ar y testyn: “Ewch chwithau hefyd i’r winllan”, a chofiai ef yn dweyd ar y diwedd wrth ei dad ef, “Wel, f’ewythr Edward, y mae yn bryd i chwithau fynd i’r winllan.” Y mae hanes am dano yn pregethu yn Pentrepiod i nifer o rai oedd wedi eu gwahodd yno i wau, yn ol arfer yr amseroedd hyny. Yr oedd ganddo gorff lluniaidd, ond pell ydoedd o wneyd tegwch â’r corff lluniaidd roddwyd iddo. Torai ei farf a gwellaif ac nid ag ellyn, ac yr oedd ei wisg o wlanen gartref yn peri iddo edrych yn hynod o wladaidd.

Pa nifer a ddeuai o Lanuwchllyn i’r Bala yn ystod y blynyddoedd hyn i fwynhau y breintiau a geid gyda’r Methodistiaid yn y dref nid oes hysbysrwydd. Diau y deuai rhai, ac fod pregethau a chyfarfodydd gweddiau yn y tai yn yr ardal hon er yn fore. Ond bu dyfodiad Mr. Charles i’r Bala yn symbyliad i weithgarwch crefyddol yn yr holl amgylchoedd, ac yr oedd ef am i’r crefyddwyr ddangos eu hyni a’u sêl mewn gweithio mwy yn eu cartrefi. Yn nechreu deng mlynedd olaf y ddeunawfed ganrif bendithiwyd rhanau helaeth o’r wlad âg adfywiad nerthol. Felly, ar ol cryn oediad, y mae cymdeithas eglwysig Fethodistaidd yn cael ei sefydlu yn Llanuwchllyn. Yn y flwyddyn 1791 y bu hyny, yn mhen chwe blynedd ar ol i Mr. Charles ymuno â’r Cyfundeb, a thair blynedd cyn i Dr. Lewis ymsefydlu yn Llanuwchllyn yn weinidog yr Annibynwyr. Cynhelid y seiat ar y cyntaf yn y Gwndwn, ttŷ ar dyddyn Coediadur, ar y ffordd o Lanuwchllyn i Gynllwyd. Nid oes nemawr ddim o olion y ttŷ i'w weled yn awr. Safai unwaith led cae islaw y ffordd rhwng Coedladur ar Afonfechan. Gwneid hi i fyny o bump o aelodau, sef Richard Pritchard, Graienyn (wedi hyny); Edward Rowland, Madog; Elizabeth Edwards, Rhydfudr; Robert Thomas, Coedladur, ac Owen Edwards, Penygeulan. Oherwydd ryw amgylchiadau neu gilydd, byddai y cynulliad eglwysig ar y dechreu yn cael ei symud o le i le. Symudwyd ef o’r Gwndwn i Dynypistyll; oddiyno i’r Glyn, Llangower, ac yn ol drachefn i’r Pandy, i dtŷ Evan Foulk, yr hwn er ei fagu gyda’r Annibynwyr gan mwyaf oedd erbyn hyn wedi dyfod at y Methodistiaid. Pan y dechreuwyd cael pregethu lled gyson, byddai y pregethu yn nhtŷ Rolant, fel y gelwid ef. Yr oedd yr Ysgol Sabbothol wedi ei sefydlu er ys amryw flynyddoedd cyn adeiladu capel cyntaf y Methodistiaid, a dywedir mai yn Tynyfedw y dechreuwyd cadw Ysgol Sabbothol gyntaf yn y plwyf, ac i’r ysgol hon dyfu allan o ysgol ddyddiol a gedwid ar y pryd yn Tynyfedw, gan Mary Lewis. David Edwards, Tynyfedw, tad y diweddar Barch. D. Edwards, Casnewydd, a hithau, oedd y prif golofnau dani.

Y rhai a ystyrir y tri blaenor cyntaf ar yr eglwys hon ydynt Thomas Foulk, Ddolbach; Edward Rowland, Madog, ac Owen Edwards, Penygeulan, a gwelir fod y ddau olaf yn mhlith y pump a wnaent i fyny aelodau y seiat yn y Gwndwn ar ei sefydliad. Y mae ansicrwydd a oedd Richard Pritchard yn flaenor yn Llanuwchllyn cyn ei symudiad oddi yno. Brodor o Lanuwchllyn ydoedd. Gwehydd wrth ei alwedigaeth, fel ei feibion adnabyddus yn eu dydd, sef Rowland Hugh Pritchard, dechreuwr canu yn Bala am lawer blwyddyn, a Richard Pritchard, Talybont, a fu farw yn ddiweddar mewn oedran teg, wedi gwasanaethu swydd blaenor am tua 60 mlynedd. Gwelir fod ei enw yn gyntaf o’r pump a ffurfient y seiat yn y Gwndwn, ac y mae pob lle i feddwl ei fod yn ŵr rhagorol. Yr ydym eisoes wedi cofnodi y syniad uchel oedd gan y gwyr a bryderent am yr Ysgol yn y Cornelau am dano ar adeg ei farwolaeth. “Ni wnawn ni yr un Richard Graienyn rhyngom ein tri,” meddai Ellias Evans, Cornelau, wrth Peter Jones y Wenallt, gan gymeryd Dafydd Tynybryn i mewn i wneyd trydydd. Y mae y coffad am dano yn rhoi ei ysgwydd yn bulpud i Dafydd Rolant yn Pentrepiod, ar calondid a roddai iddo pan yn dechreu pregethu, yn dangos ei fod yn un o brif ddynion yr ardaloedd pan yn byw yn y Graienyn Ac yn yr ysgrif a gafwyd trwy law y diweddar Mr. Iorwerth Jones, dywedir ei fod yn flaenor yn Llanuwchllyn cyn ei symudiad, ac iddo gael ei alw i flaenori gan eglwys y Cornelau neu Cefnddwygraig ar ei ddyfodiad i’r ardal.

Ond oherwydd ei symudiad o Lanuwchllyn yn fuan wedi codi y capel, y mae traddodiad wedi gadael iddo lithro o blith y blaenoriaid cyntaf ac i’r tri a enwyd y rhoddir yr anrhydedd hwn. Yr oedd i’r tri hyn eu neillduolion. Thomas Foulk oedd y cryfaf ei ddeall ar mwyaf athrawaidd o’r tri. Yr oedd ef yn frawd i daid y gweinidogion adnabyddus, y Parchn. T. F. Roberts, Machynlleth, a Hugh Roberts, Rhydymain, ac yn berthynas. i’r diweddar Barch. Foulk Parry, Croesoswallt.

Y mwyaf cefnog ei amgylchiadau o’r tri oedd Edward Rowland, Madog, ac efe fyddai yn gwneyd mwyaf at gynhaliaeth yr achos cyn belled ag yr oedd cyfranu ol arian yn myned.

Owen Edwards, Perygeulan. Yr oedd ef fel ei fab Edward Edwards, yn ddyn hynod o siriol a chyfeillgar. Yr oedd ei fab Edward Edwards yn lled debyg iddo mewn amryw bethau, meddir, ond fod y mab wedi cael mwy o addysg na’r tad. Arno ef yn benaf y digynai lletya y pregethwyr, yr hyn a wnai ef a'i briod gydag ewyllysgarwch mawr. Yr oedd ei wraig yn ferch i Owen Parry, Brynmelyn, ac yn chwaer i John Owen, Tynewydd, a Henry Owen, Tyddynbarwn, y soniwyd am danynt yn hanes Llandderfel a Llwyneinion. Wtŷr i’r Owen Edwards hwn oedd y diweddar Barch. . Edwards, B.A., fu farw yn Melbourne. Ac wtŷr arall iddo yw yr athraw hyglod Owen Morgan Edwards, yr aelod seneddol dros Sir Feirionydd am y blynyddoedd 1899—1900. Yr oedd y diweddar Barch. Owen Jones, B.A., Llansantffraid, hefyd yn wtŷr iddo, sef mab i ferch iddo. Y mae iddo wyrion eraill hefyd o fri a defnyddioldeb, yn mhersonau Proff. Ed. Edwards, Aberystwyth, a John M. Edwards ei frawd, a J. J. Edwards, un o flaenoriaid presenol Llanuwchllyn. Bu farw yn niwedd haf y flwyddyn 1844, ac amlwg yw oddiwrth y sylw a dalwyd iddo yn ei farwolaeth mai nid blaenor cyffredin yr ystyrid ef.


Temtir ni i roi i mewn yr hanesyn canlynol am y ddau frawd hyn allan o’r Cyfrol Methoditiaeth Cymru, am ei fod yn taflu goleu ychwanegol ar eu nodweddiad. “Yr oedd y ddau yn cydlafiro yn egniol gyda’r achos wedi dechreu proffesi tua’r un amser, ar ddau wedi dangos ysbryd rhagorol mewn llafur a ffyddlondeb o blaid efengyl Mab Duw. Yr oedd Edward Rowland yn gogwyddo yn un gryf tuag at uwch-Galfiniaeth, a ffydd oedd pobpeth ganddo ymron. Yr oedd Thomas Foulk yn ymofyn cryn lawer am ffrwythau ffydd, a thraethai lawer ar yr angenrheidrwdd o ufudd-dod cyson i orchymynion Duw. Digwyddodd i Thomas Foulk, gae ei gymeryd yn glaf iawn, ac yn ol yr argoelion a ymddangosai arno, nid yn mhell iawn oddiwrth angau. Daeth Edward Rowland i edrych am dano. ac ar e ddychweliad yn ol efe a gyfarfu a brawd arall yn myned tua’r Ddolbach, ac ebe y brawd wrth Edward :—A fuost ti yn y Ddolbach? Do ebe Edward. A oes tebyg o wella ar Twm Foulk, O nag oes, ebe Edward. A afynaist ti ddim sut yr oedd hi ar ei feddwl? Do, ebe y llall yn bur drist, a chyda chryn bryder, ac nis gwn pa beth i feddwl o hono. Y mae yn Armin ofnadwy, dyn a'i helpo; y mae o yn weithredoedd i gyd. Y mae yn arw gan i ei fod yn parhu felly yn min marw.

Aeth Edward Rowland tuag adref, ac aeth y disgybl arall yn mlaen i edrych am y claf, ac wedi cyfarch eu gilydd a chal ymddiddan, gofynai y claf i'w gyfaill, A welaist ti Ned Rowland yn dy gyfarfod, dywed?

Do, ebe yntau. A fyddi di ddim yn gwneyd cydwybod weithiau, meddai y claf, i'w rybuddio yn nghylch ei olygiadau Fe ymddengys i mi ar lwybr peryglus iawn. Pa berygl, Thomas, a weli yn ei lwybr? Wel, y mae o ynddyn Antinomaidd a phenrydd, druan oedd o! Y mae o yn ffydd i gyd. Chwi gewch, mae arno i ofn, lawer o boen oddi wrtho


Traddodwyd pregeth angladdol iddo am ddeg o’r gloch yn y Cyfarfod Misol, gan Mr., ar ol hyny, Dr. Lewis Edwards. Yn nghofnodau Cyfarfod Misol y Parc, a gynhalwyd Hydref 16 a 17, 1844, ceir y cofnodiad canlynol :— Yn olaf coffawyd am farwolaeth ein ffyddlon frawd Owen, Edwards, Llanuwchllyn. Am 10, traddodwyd pregeth angladdol Owen Edwards, gan Mr. Edwards ar y geiriau, “Hen ddisgybl gyda’r hwn y llettyem”, yn rhagorol iawn.

Ar ol cael cartref yn y naill dtŷ anedd ar ol y llall, am dair neu bedair blynedd ar ddeg, y mae yr eglwys yn symud yn mlaen at gael capel. Adeiladwyd ef yn ol Methodistiaeth Cymru, yn y flwyddyn 1804, rhydd Mr. Edward Edwards yn Nghronicl yr Ysgol Sabothol yr amseriad flwyddyn yn ddiweddarach. Disgwylid y cawsid tir i'w adeiladu yn y Llan, lle y byddid arferol o gynal y moddion ers tro, ond yn hyn siomwyd y brodyr, a Mr. John Jones, hynaf Plasdeon, yn garedig a roddes dir i'w adeiladu. Un o’r canlyniadau pwysicaf o gael capel fu cael Ysgol Sabbothol lewyrchus cyn hir iawn yn yr ardal.


Rhoddwn y dyfyniad canlynol eto o Gronicl yr Ysgol Sabbothol, am 1881, er dangos nad oedd Edward Rowland mor Antinomaidd. tua diwedd ei oes ag yr ofnai ei hen gyfaill Thomas Foulk ei fod, credai mewn ymdrechu o blaid ei ffydd a'i enwad.

Yn y dyddiau hyny, dyddiau bore oes Edward Edwards, byddai yr hen gewri Methodistaidd yn dyfod heibio yn fynych i bregethu, , a byddai yr holl wlad o bob enwad yn dyfod i wrando arnynt, a mawr fyddai yr effeithiau ar y gynulleidfa Cofus genym am yr hen flaenor hynaf yma Edward Rowland, Madog (hen lanc syth, corffol, wedi colli ei wallt ar ei goryn), yn sefyll yn syth yn ngwyneb y gynulleidfa pan y byddai yn dechreu tywallt o’r pulpud, ac yn dal sylw manwl pwy a welai ef heb fod yn Proffesu ar deigryn ar eu grudd, oherwydd a'i i siarad ar rhai hyny pan y caffai gyfle, ond yn aniffodus iddo ef, yr oedd hen ddiacon gyda’r Annibynwyr, sef Cadwaladr Richards, yn watchio, ar bwy y byddai y dylanwadau nefol yn disgyn. Felly byddai y ddau am y cyntaf yn enlistio at ei enwad. Collais ugeiniau, meddai Edward Rowland, am y byddai Cadwaladr wedi fy mlaenu a thaflu ei fraich drostynt, a dywedid yr aent yn bengam yn sicr os aent yn Fethodistiaid; nid ydynt ond newydd ddechreu yn y byd, ac ychydig yw eu nifer, pan yr ydym ni yr hen Buritaniaid yn hen a lliosog. Cronicl yr Ysgol Sabbothol, 1881, tudal 181


Sonir am 1785, fel adeg cychwyniad yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru. Os yw hyna yn gywir, rhaid cofi mai cychwyniad ydoedd ac nid dim arall. Nid oedd Ysgol Sabbothol reolaidd a grymus yn Llanuwchllyn am dros ugain mlynedd ar ol yr adeg hono, er fod y lle o fewn pum milldir i dref y Bala. Araf fu cynydd yr Ysgol Sabbothol, fel y mae cynydd rhai sefydliadau daionus a gychwynwyd yn yr oes hon yn hynod o araf. Yr oedd gwrthwynebiad cryf i’r sefydliad mewn aml i fan, mor gryf yn Llanuwchllyn ag odid un lle. Y mae yn hysbys iawn fod y Parch. J. R. Jones, Ramoth, un o’r gwyr grymus a gododd o Lanuwchllyn yn dra gwrthwynebol i’r sefydliad hwn, ac fe ddywedir nad oedd Dr. Lewis yn bleidiol iawn iddo. Dywedai Gwen Humphreys, yr hon oedd fyw yn 1881, ac yn 90 mlwydd oed, ei bod hi yn aelod yn eglwys Dr. Lewis, ac nad oedd yr un Ysgol Sabbothol yn ei gapel ef ac mai trwy lawer o wrthwynebiad y llwyddodd ei olynydd, Mr. Michael Jones, i sefydlu un yn nghapel Rhosyfedwen. Yr oedd rhai o hen Fethodistiaid Llanuwchllyn yn cyfranogi o’r teimlad gwrthwynebol hwn. Yr oedd Edward Rowland, Madog, yn erbyn yr ysgol yn y dechreu, ond daeth yn bleidiwr iddi bob yn dipyn.

Yn mhen dwy neu dair blynedd wedi agoriad y capel, sef yn 1807, dechreuwyd cynal Ysgol Sabbothol yn y capel newydd, a dyma yr Ysgol Sabbothol gyntaf erioed a gynhaliwyd yn nghanol neu waelod plwyf Llanuwchllyn. Nid oedd yn gyfoethog mewn athrawon medrus ar y cyntaf. Nid oedd E. Rowlands yn medru darllen, ond fe gaed athrawon da mewn amser. Nid yw Edward Edwards wedi ein hysbysu at ba adeg yn hanes yr ysgol y cyfeirir yn y frawddeg ganlynol, “Yr oedd yma dri o athrawon rhagorol, John Morris, Pantysaer, oedd yn ddarllenwr iawn, ac yn deall athrawiaeth yr efengyl yn dda. Thomas Foulk oedd y goreu a welais erioed i gychwyn plant bach; John Jones y Shop, mab yr enwog William Jones, Rhiwaedog, yr oedd yntau yn ddarllenwr nodedig.” Gwel y cyfarwydd fod yr enw diweddaf yn ein dwyn i lawr i gyfnod llawer diweddarach nag adeg sefydliad yr ysgol. Yr un modd y mae cyfeiriad at yr athrawesau rhagorol, Elzabeth Edwards, Penygeulan, ac Elizabeth Jones, merch i William Jones, Rhiwaedog, yn lled anmhenodol o ran amseriad, ond hwy sydd ar ben y rhestr o ran henafiaeth, os nad hefyd o ran ymroddiad. Ar eu hol daw Jane Jones yr Hendre, Mary Jones, Lôn, ac Elizabeth Edwards, Rhydfudr. Byddai gan y rhai hyn gyfarfod gweddi wrthynt eu hunain, ac yr oedd rhai ohonynt yn ddoniol tu hwnt i’r cyffredin mewn gweddi. Y mae enwau rhai chwiorydd wedi dyfod i lawr hyd atom fel rhai hynod am ddysgu penodau allan a’u hadrodd ar goedd. Bu Gwen Humphreys, y crybwyllwyd ei henw, ac Ann Williams, oedd wyres i Thomas Roberts, Tynyfron, y sonwyd am dano yn dysgu llyfrau cyfain o’r Beibl, ac yn eu hadrodd i Mr. Charles. Enwir Elizabeth Williams, Llan, Elizabeth Williams, Tynycae, dwy ferch Owen Edwards (mam y diweddar Barch. O. Jones, B.A., oedd un o honynt), a Catherine Jones, Tynewydd, fel rhai hynod am ddysgu'r Beibl a’r Hyfforddwr.

Y mae y ffeithiau a grybwyllwyd yn awr yn dangos y ffrwyth lawer ddaeth o’r ymdrech mawr a wnaed i sefydlu a dwyn yn mlaen ysgol lwyddianus yn yr ardal. I fyned yn ol yn nes i gychwyniad yr ysgol dylid dweyd y caed cymhorth gwerthfawr i ddwyn yr ysgol i sefyllfa lwyddianus gan frodyr a ddeuent o’r Bala i ymweled a hi. Enwir Mr. Gabriel Davies a mab hynaf Mr. Charles yn mysg y rhai cyntaf a ddeuent, a Mr. Richard Edwards a Robert Griffith, yn mysg y rhai a ddeuent yn ddiweddarach. Gan nad oedd yr enwadau eraill yn bleidiol i Ysgol Sabbothol, deuai rhai plant o enwadau eraill iddi, a chaent ynddi ddeffroad i'w meddyliau. Wrth edrych ar un o’r rhai hyn oedd heb fod yn neillduol o drwsiadus ei wisg, gofynai Mr. Gabriel Davies pwy oedd y llanc. Daliwch chwi sylw, meddai, y daw rhywbeth o’r bachgen yma. Felly y daeth ; efe oedd y Parch. Ellis Evans, D.D., Cefnmawr. Pan y byddai Mr. Charles yn Llanuwchllyn. am Sabboth, cynhelid ysgol ddwy waith neu dair y Sabboth hwnw.

Yn gydamserol a dylanwad iachus a grymus yr Ysgol Sabbothol, yr oedd dylanwad pregethu cyson a nerthol yn gwneyd ei ran er cryfhau a chynyddu yr achos. Gan fod eglwysi ieuainc yr ardaloedd cylchynol yn cyd-dyfu âr eglwys hon, daethant yn gyfryw ag y gallwyd eu huno yn Daith Sabboth yn rhywle rhwng 1805 ac 1815. Tua’r flwyddyn ddiweddaf a enwyd, yr oedd y pregethwr nodedig Dafydd Rolant yn dechreu ar ei weinidogaeth, a chan y byddai ar adegau yn isel ei feddwl, byddai John Thomas y Ceunant, un o flaenoriaid y Parc, yn myned gydag ef i amryw o’r ardaloedd cylchynol. Y tro cyntaf i mi fod hefo fo, medd J. T., oedd i’r Pentrepiod, Llangower. Pregethodd yno nos Sadwrn. Yr oedd yn y Glyn boreu Sul, yn Llanuwchllyn am ddau, ac yn y Parc y nos (gwel Cofiant D. Rolant tudal. 30.) Y mae y dystiolaeth yna yn profi fod y tri lle yn Daith Sabboth gydau gilydd yr adeg hono, os nag oeddynt felly flynyddoedd lawer yn gynt. Y mae yn dra thebyg hefyd o herwydd safle ddaearyddol y lle mai am 2 y ceid yr odfa amlaf yma.

Y mae y crybwylliad am y bregeth nos Sadwrn yn Pentrepiod yn ein harwain i sylwi y byddai lliaws o bregethau yn cael eu rhoddi mewn tai anedd yn ardaloedd Penllyn, ac yn enwedig yn ardal Llanuwchllyn, ar nosweithiau yr wythnos am dymhor maith ar ol adeiladu capelau yn yr ardaloedd, yn debyg i fel y gwneid mewn amser boreuach. Gwnaed llawer o hyn gan bregethwyr cartrefol yn Llanuwchllyn, o ddyddiau Thomas Roberts, Tynyfron, hyd yn agos i ddiwedd oes y Parch. Robert William, os nag ydyw yn cael ei wneyd yn achlysurol yn y blynyddoedd hyn hefyd.

Evan Foulk a'i frawd Edward Foulk. Bu y ddau frawd hyn ar y maes am dymhor hynod o faith, a phregethasant lawer yn yr awyr agored ac mewn tai anedd ar hyd ardaloedd mynyddig y sir hon a siroedd eraill. Yr oedd y ddau yn enedigol o Lanuwchllyn, ond ar ol symud i Lanfachreth i fyw pan oedd yn 26ain oed y dechreuodd Edward Foulk bregethu. Ganwyd efyn 1763, a bu farw yn yn 92ain mlwydd oed, wedi bod yn pregethu am 66ain o flynyddoedd, yn hwy o ddwy flynedd na L. Morris.

Ei frawd hynach, Evan Foulk, ellir ystyried y pregethwr cyntaf a gododd gyda’r Methodistiaid yn Llanuwchllyn ar ol sefydlu achos rheolaidd yn y lle; a chan mai yma y dechreuodd bregethu ac iddo dreulio ei holl oes i'w therfyn yma, perthyna ei hanes ef yn briodol i Lanuwchllyn a Dwyrain Meirionydd. Cafodd ei fagu gan mwyaf gyda’r Annibynwyr, ond ymunodd âr Methodistiaid yn fuan wedi sefydlu y seiat, oherwydd yn ei dtŷ ef yn y Pandy y cynhelid y seiat rai blynyddoedd cyn adeiladu y capel. Cyfeirir yn Methodistiaeth Cymru at y gwrthwynebiad a gafodd oddiwrth ei wraig yn nechreu ei grefydd. Cafodd lawer o dywydd garw yn nechreu ei grefydd oddiwrth ei wraig, yr hon oedd wrthwynebol iawn iddo ymwneyd dim a chrefydd. Ond wrth wrando ar bregethwr yn darllen ei destyn ar foreu ryw Gymdeithasfa yn y Bala, “Y mae genyf beth yn dy erbyn”, profodd yr hyn a'i gwnaeth yn fwy llariaidd. Ond am dano ef ei hun, yr hyn a ddywed yr awdwr a fu yn cydoesi llawer ag ef ydyw, Mae enw Evan Foulk yn adnabyddus iawn yn y Gogledd ar De fel Cristion cywir a diddichell, pregethwr gwlithog a rhyfeddol mewn gweddi. Cyferbynir y ddau frawd yn Nghoflant y Parch. Foulk Evans, mab Evan Foulk, fel hyn :— Brawd i Evan Foulk ydoedd Edward Foulk, Dolgellau, yr hwn oedd yntau yn bregethwr, ac a fu fyw flynyddoedd ar ol ei frawd. Yr oedd gwahaniaeth mawr rhwng y wedd allanol ar y ddau frawd; Edward, yr hwn oedd ieuengach nag Evan, a byrach o faint, ac yn ddilledydd o ran ei alwedigaeth gyntaf, ydoedd lawer hoewach ac ystwythach ei gorff nai frawd, ac yn fwy ffraethbert ei barabl, megis hefyd yr oedd yn fwy dillynwiw yn ei wisg. Yr oedd golwg wledig ar Evan, ond cyfrifid ef yn ireiddiach ei ysbryd nag Edward.

Adroddai y diweddar Barch. John Jones, Tremadog, fod y ddan frawd ryw dro neu gilydd ar gyhoeddiad trwy sir Gaernarfon, ac i hen ŵr oedd yn yr oedfa yn gwrando arnynt, yr hwn a arferai fyned i’r Eglwys Sefydledig, ddywedyd wrtho ef (Mr. Jones), Y mae yn debyg mai offeiriad oedd y gŵr lleiaf o’r ddau; felly yr oeddwn i yn barnu oddiwrth yr olwg foneddigaidd arno; ond sut. yr aeth ef yn bartner ar creadur afrosgo oedd gydag ef? A mawr oedd syndod yr hen ŵr pan y deallodd mai dau frawd undad unfam oeddynt, a bod Mr. Jones yn cyfrif y creadur afrosgo yn weithiwr difefl, ac yn un wedi ei ddysgu i deyrnas nefoedd. Gadawn i’r darllenydd dynu darlun o hono fel gweddiwr oddiwrth yr hyn a ddywedwyd gan ei fab, y Parch Foulk Evans. Tair gweddi fawr a glywais yn fy mywyd, sef gweddi fawr John Elias, gweddi fawr John Jones o Dreffynon, a gweddi fawr fy nhad; ac un gair hynod oedd yn mhob un o honynt.

1. Gweddi John Elias yn Machynlleth pan yn cadw dyledswydd yn nhtŷ Mr. Jones, Druggist

2 Gweddi John Jones, Treffynon, ar y Green yr amser yr oedd brwydr Waterloo yn cael ei hymladd. Y gair mawr yn y weddi ydoedd, “Ac os rhaid ymladd, dyro y fuddugoliaeth in pobl ni.”

3 Fy nhad yn amser y drudaniaeth, ar ol dau neu dri haf poeth. Y gair mawr yn hon ydoedd, “Gad i ni fyned i’r llwch, a diolch am y llwch i fyned iddo”. Yn y teulu y gweddiodd hi.

Ni chaniata gofod i ni roi i lawr yr hyn oll sydd ar gael am yr hen bregethwr adeiladol hwn. Ceir hanes am dano yn Nghofiant Dafydd Rolant ar daith gydag ef pan oedd Dafydd Rolant yn bregethwr lled ieuanc, am yr i ti oedd ganddo yn niwedd ei frawddegau, ac am yr anhawsder a deimlai y Saeson i ddeall yr i ti yn ei bregethau Saesneg. Pan ar daith fel hyn yn 1822, teimlai Dafydd Rolant yn ddigalon, a dywedai wrth ei gyd deithydd, “Mi af fi adref, os gallaf fyned adref hefyd oddi rhwng y mynyddoedd yma”. “O, Dafydd bach”, meddai Evan Ffowc i'w galonogi, “paid di a thori dy galon; yr ydym ni hefo gwaith, i ti, y mae hi yn siwr o ddod yn ddydd arno fo, i ti.” Yr oedd E. Ffowc mor gymeradwy gan y Deheuwyr a John Elias; tra mai “y bachgen ifanc hefo E. Ffowc” oedd Dafydd Rolant. Dywedai y diweddar Mr. Charles, Caerfyrddin, ac Ebenezer Morris, eu bod wedi eu synu wrth dduwinyddiaeth bur a chyflawn E. Ffowc. (Gwel Cofiant D. Rolant, tudal 76.)

Yr oedd ei fab, y Parch. Foulk Evans, ar y maes hefyd fel pregethwr yn foreu iawn, ac ar y cyfan yn rhagori ar ei dad fel. pregethwr, oherwydd yr oedd yn ddywediad mynych yn Llanuwchllyn wrth gymharu y tad ar mab, Evan Ffowc ydyw y gweddiwr, a Ffowc Evan y pregethwr. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1783 ar y 4ydd o Chwefror, ac yr oedd yn dechreu pregethu pan tua 22ain oed, sef oddeutu yr amser yr adeiladwyd y capel. Arferai fyned i’r seiat pan yn ieuanc gyda’i dad, ond pan oedd tua 18 mlwydd oed ymollyngodd i raddau gyda chwmni ysgafn a gwag, a bu mewn perygl o gael ei lithio i hollol wrthgiliad. Yr oedd wedi myned yn ol arfer ieuenctyd i ffair ganol y Bala, ac wedi aros yn y dref hyd onid oedd yn bur hwyr y noson hono yn mhlith cyfeillion ofer. Un o wragedd duwiol y Bala a'i gwelodd, ac a ofynodd yn ddifrifol a thyner iddo, A'i bachgen Evan Ffowc sydd yn y fan yma gyda’r fath gwmni? Aeth y geiriau fel saeth i'w galon. Penderfynodd newid ei lwybr ac ymunodd â’r seiat yn Llanuwchllyn. Cyn hir, daeth awydd pregethu arno. Un diwrnod, y mae yn mynd gydag amryw o’r cyfeillion crefyddol i gadw cyfarfod gweddi mewn ttŷ ffarm o’r enw Dyfnant. Bore Sabboth ydoedd, ac ar ol y cyfarfod hwnw yr oeddynt yn myned y prydnawn dros Aran Benllyn; i ymweled a brawd claf, yr hwn oedd yn byw yn Nantybarcut, ardal Cynllwyd; ac ar y mynydd tra yn gorphwys ychydig cafodd ddigon o nerth i hysbysu i’r cyfeillion fod arno awydd cryf i gynyg am bregethu Crist yn Geidwad i bechaduriaid. Aeth i Society a gynhelid yn Tynyfedw, Cynllwyd, cyn hir gyda brawd o Lanuwchllyn, ac yno y dechreuodd bregethu, a pharhaodd i bregethu gyda chymeradwyaeth mawr am 61 o flynyddoedd, sef hyd ei farwolaeth yn Machynlleth, Mawrth 8, 1866, yn 83 mlwydd oed.

Treuliodd y 18 mlynedd neu 20 cyntaf o’i oes gyhoeddus yn Llanuwchllyn. Dyma fel y dywedir yn ei Gofiant: Ar ol hym, sef ar ol ei bregeth gyntaf yn Tynyfedw, ymroddes a'i holl egni i ddarllen, myfyrio, a gweddio. Treuliodd lawer noswaith gyfan mewn gweddi a myfyrdod yn llofft y Pandy, a chyfansoddodd lawer pregeth wrth gerdded gyda ffos y Felin. Ymroddodd i bregethu yn y tai yma a thraw ar hyd yr ardal, yr hyn a wnaeth gyda chymeradwyaeth mawr. Gwnai hyn pan ydoedd dan angenrheidrwydd i helpu ei dad gydai alwedigaeth, a gweithio hefyd ar y fferm. Parhaodd i bregethu fel hyn yn yr ardal fel nad oedd odid dtŷ yn ardal Llanuwchllyn lle ni chlywyd ei lais ef yn cymhell pechaduraid i ddyfod at Grist. Cyfrifai ef ei hun iddo bregethu dros fil o bregethau yn Llanuwchllyn yn ystod y blynyddoedd hyn, ac mai chwarter o siwgr i fyned adref i'w fam oedd y gydnabyddiaeth a dderbyniodd gan ddynion am ei lafur. Dywedai y diweddar Barch. Daniel Evans, ei fod yn cofio yn dda glywed hen wragedd Llangower, wedi ei glywed yn pregethu ar ei doriad cyntaf allan, yn dweyd, fod Evan Ffowc yn magu bachgen sydd yn debyg o ddyfod yn ddyn mawr, ac y mae llawer erbyn hyn yn barod i addef fod eu dyfaliad yn gywir. Pan o fewn ychydig i ddeugain mlwydd oed, ac wedi pregethu gyda llawer o gymeradwyaeth am 18 mlynedd, y mae yn teimlo fod arno eisiau rhywbeth tuag at bregethu i fuddioldeb ychwanegol at yr hyn a gai trwy weddi a myfyrdod yn llofft y Pandy pan y byddai eraill yn cysgu, ac at yr hyn a gai wrth gerdded gyda ffos y Felin, ac y mae yn penderfynu mlyned i’r ysgol i Wrexham at y Parch. John Hughes, sef i Athrofa Gogledd Cymru y pryd hwnw. Ar ei ymadawiad o’r ysgol pan yn 41 mlwydd oed, y mae yn priodi, ac yn myned i fyw i’r Bala, ac yn mhen blwyddyn arall y mae yn symud i Fachynlleth, lle y theuliodd weddill ei oes. Y mae felly yn gadael Sir Feirionydd pan yn 42 mlwydd oed; ond cafodd Llanuwchllyn a Sir Feirionydd lawer o’i weinidogaeth fuddiol ar ol hyny.

Wedi cyrhaedd fel hyn tua phen deng mlynedd ar hugain er pan y sefydlwyd y seiat yn y Gwndwn, cawn fod yr amseroedd wedi newid. Y mae yr hen arweinwyr enwog yn y Sir wedi huno. Lle Mr. Charles, Mr. John Evans a Mr. D. Edwards yn wag yn y Bala. Dr. Lewis hefyd wedi ymadael o Llanuwchllyn ers deng mlynedd, a Michael Jones wedi ymsefydlu yn ei le ef yn weinidog yn Rhosyfedwen. Yr ydym yn casglu fod yr achos Methodistaidd yn graddol gynyddu a chryfhau — ymgryfhau mewn nerth hwyrach gymaint ag oedd yn gynyddu mewn rhif. Heb fod yn mhell oddi wrth y cyfnod hwn, daeth Mr. John Jones, Shop, mab Mr. William Jones, Rhiwaedog, i’r ardal, yr hwn fu yn gyfnerthiad nid bychan i’r ddiaconiaeth yn y lle. Yn yr amser hwn daeth ystorm gref i chwythu ar hen eglwys yr Annibynwyr yn y lle, yr hyn fu yn achlysur hwyrach i’r ddau enwad ddyfod o hyny allan yn fwy cyfartal mewn rhif a dylanwad yn yr ardal. Hyn, ynghyd ar ffaith fod a wnelo y gwrthweithiad yn erbyn uwch-Galfiniaeth, yr hwn a deimlid hefyd yn mysg y Methodistiaid newn lliaws o fanau ar sefyllfa crefydd, a bair nad yw yn hollol anaddas cyfeirio at yr amgylchiad yn y cysylltiad hwn. Os Sir Fflint oedd y maes brwydr yn benaf yn mhlith y Methodistiaid yn y dadleuon Duwinyddol, ymddenys mai Llanuwchllyn oedd y maes brwydr gyda’r Annibynwyr. Yr oedd eglwys yr Annibynwyr yn Llanuwchllyn yn gref a lliosog ers ugeiniau o flynyddoedd. Yn ol adroddiad Mr. Josiah Thompson, yr oedd cynulleidfa Llanuwchllyn, neu y rhai y pregethai Benjamin Evans y gweinidog iddynt mewn gwahanol fanau yn y flwyddyn 1773, yn rhifo 600. Yn 1794 daeth Dr. George Lewis yn weinidog iddi, a bu yn ei phorth a'i bugeilio am yn agos i ddeunaw mlynedd. Am dano ef, dywedir, “Dr. Lewis o bawb a fu yma a osododd fwyaf ol ddelw ar y wlad. Magwyd tô o ddynion dan ei weinidogaeth na welir eu cyffelyb ond anfynych mewn cymydogaeth”.—Hanes Eglwysi Annibynol Cymru. Awgrymir fod Dr. Lewis yn fwy enwog am gadarnhau yr eglwysi dan ei ofal nag am chwanegu at eu rhif, ond ychwanegwyd tua dau gant at rifedi eglwys Dr. Lewis yn yr adfywiad grymus a gaed yn 1809, dwy flynedd neu dair cyn ei ymadawiad, fel yr oedd yn eglwys llosog mae yn ddiameu pan yr oedd efe yn rhoi ei gofal i fyny. Yr oedd hynafiaid lliaws a fuont yn ddefnyddiol gyda’r Methodistiaid yn eu dydd yn aelodau yn yr eglwys hon—tad a mam y Parchn. Daniel Evans, Harlech, a Robert Evans, Llanidloes; taid a nain y Paich. Thos. Jones, Kassia, ac Evan Jones, Adwyr Clawdd; tad y Parch. O. Jones, B.A.

Ond yn amser olynydd Dr. Lewis, sef y Parch. Michael Jones, yn mhen o gylch saith mlynedd wedi ei sefydliad yma, torodd tymlestl fawr arno ef ar eglwys dan ei ofal. Rhoddir ar ddeall fod gan rai amrywiol gymhellion i wrthwynebu Mr. Jones, ond iddynt daflu pob peth arall dros y bwrdd a chyhuddo y gweinidog o gyfeiliornad mewn barn, yr hyn a barodd ddadleuon dychrynllyd drwy yr holl wlad. Safodd y gweinidog fel derwen gadan yn nghanol y dymhestl. Yn raddol ymddangosai ymraniad eglwysig fel yn anocheladwy. Ond cyn cyrhaedd y pwynt hwn, caed nifer o weinidogion parchusaf yr enwad i geisio heddychu y pleidiau. Cyfarfuasant i’r amcan hwnw ar ddydd gwaith, Rhagfyr 5, 1821, yn yr Hen Gapel. Ond methiant fu y cais at eu heddychu. Ar foreu Sabboth cymundeb, yn gynar yn y flwyddyn ddilyiol, cymerodd y rhwygiad le. Pregethodd Mr. Jones fel arferol, a daeth i lawr o’r areithfa at y bwrdd i weinyddu yr ordinhad. Ond cyn iddo ddechreu ar y gwasanaeth hwnw, cyfododd blanor y blaid wrthwynebol i fyny, a chyhoeddodd ei fod ef ar blaid oedd yn anghytuio ag athrawiaeth Mr. Jones yn ymnieillduo oddiwrtho ef a'i bleidwyr, ac aeth ef a'i blad i oriel yr addoldy. Mewn odfa ddilynol y dydd hwnw hysbysodd Mr. Jones fod y rhai a ymnieillduasant y bore wedi tori eu perthynas ar eglwys yn yr Hen Gapel. Gwiaed cynyg arall gan weinidogion yr enwad i ddwyn y pleidiau at eu gilydd, ond yn ofer. Wedi bod am ychydig yn addoli yn yr Hen Gapel ar Sabbothau a benodasid iddynt, a blino ar hyny, ymadawodd yr ymranwyr a’r capel yn gwbl, a chyfarfyddent a’u gilydd mewn ystafell eang yn mhentref Llanuwchllyn. Ond nid oedd fawr neb o weinidogion yr Annibynwyr a aent atynt i bregethu ac i weinyddu yr ordinhadau. Yn fuan cododd gwyr o'u plith hwy eu hunain i bregethu iddynt, a dynion o nodwedd ragorol oeddynt hefyd, a bu amryw o weinidogion y Methodistiaid Calfinaidd yn gweinyddu yr ordinhad o Swper yr Arglwydd yn eu plith.

Er mwyn cael adroddiad diduedd gan un yn gwybod holl hanes yr helynt hon, gofynwyd gan awdwyr Hanes Eglwysi Annibynol Cymru i’r Parch. R. Thomas (Ap Fychan) roi adroddiad am dani. Dyfynwn ranau o’r adroddiad hwn er rhoi golwg i’r darllenydd ar yr helynt o safle un o’r Annibynwyr ffyddlonaf,— Wedi dweyd fod tywydd tymhestlog Mr. Jones yn Llanuwchllyn. Yn arwach, ffyrnicach, a hŵy ei barhad na’r tywydd gerwin gafodd Jonathan Edwards yn Northampton, ä yn mlaep i ddweyd, Barniai llawer fod yr holl fai ar Mr. Jones. a barniai llawer eraill fod yr holl fai ar y gynilleidfa. Yr oedd Mr. Jones yn ŵr mawr cadarn yn yr ysgrythyrau, cryf ei feddwl, eang ei amgyffredion, manwl a threiddiol o ran ei wybodaeth dduwinyddol a philosophaidd Yr oedd yn hollol ddifrycheulyd o ran ei nodweddiad moesol. Ni chynygiodd neb erioed ei gyhuddo o anfoesoldeb. Yr oedd yn ddyn o dduwiddeb dwfn a diamheuol.

Yr oedd lliaws hefyd o’i bleidwyr yn yr eglwys yn bobl ddeallus, nodedig felly, ac yn lân a difrycheulyd o ran eu bucheddau. O’r ochr arall, yr oedd llawer o’r blaid wrthwynebol i Mr. Jones, er yn amddifad o syniadau eang a philosophaidd ar bynciau crefydd, yn ysgrythyrwyr rhagorol, ac yn dra chydnabyddus a syniadau eu hathraw blaenorol, yr Hybarch Dr. Lewis. Yr oedd yn eu mysg lawer o bobl onest a duwiol, yn ofni Duw ac yn cilio oddiwrth ddrygioni. Gwrthwynebent olygiadau Duwinyddol Mr, Jones o gydwybod. Gwadu hyny fyddai cario pethau i eithafion, ac amlygu rhagfarn a chulni meddwl hollol anheilwng o hanesydd teg a gonest. Wedi dadgan ei farn fod Mr. Jones yn un o’r dynion goreu a manylaf a fagodd Cymru ond nad oedd yn rhydd oddiwrth wendidau, dywed Ap Vychan yn mhellach, Buasai y weinidogaeth yn yr Hen Gapel, fel yn y rhan fwyaf o leoedd eraill ers llawer o flynyddoedd, yn aros yn benaf ar athrawiaeth gras yn ei gwahanol ganghenau, gan esgeuluso,  efallai, yn ormodol y pethau a berthynant i lywodraeth foesol Duw a rhwymedigaethau dynion fel creaduriaid rhesymol a chyfrifol i’r llywodraeth hono. Wedi ei sefydliad yn yr ardal, troes Mr. Jones dros lawer o flynyddoedd holl nerth ei weinidogaeth i osod allan hawliau Duw fel llywydd, ac i gymlell ei wrandawyr i gyflawni eu dyledswydd fel deiliaid cyfrifol deddf ac efengyl. Chwalai au-noddfeydd dynion yn ddarnau o'u cylch, a malai eu hesgusodion yn llwch. Gallai ei fod wedi aros ar yr hwyaf ar yr ochr yma i Dduwinythiaeth heb ddwyn yr ochr gyferbyniol ond anfynych i olwg ei wrandawyr, a gwyr pawb mai cwm oer iawr i fyw ynddo am lawer o flynyddoedd ydyw tir gallu dyn a'i ddyledswyddau. Yr oedd pregethau o natur y rhai a draddodai Mr. Jones i bobl oeddynt yn Galfiniaid go dynion. yn disgyn braidd yn oer ac yn annymunol ar eu clustiau. Heblaw hyny yr oedd Mr. Jones yn amddifad o ddawn i ddenu ei wrandawyr. Yr oedd yn berffaith feistr ar wawdiaeth, ond ni allai doddi ei wrandawyr i ffurf ei feddwl ei hun. Yr oedd hefyd yn rhy dyn ac yn rhy benderfynol feallai am ei ffordd mewn pethau o ychydig bwys.

Yna rhydd Mr. Thomas fraslun o wrthwynebwyr Mr. Jones.

Yr oedd yn eu plith rai a anghymeradwyent yr ymdrechion egniol a wnai efe o blaid yr Ysgol Sabbothol. Rhyw ffordd respectable o dori y Sabboth yn ol eu barn hwy oedd cadw Ysgol Sabbothol, a thaflent lawer o rwystrau ar ffordd ei chynydd a'i llwyddant. Gwyddis hefyd fod llawer yn eu mysg yn anffafriol i weinidogaeth sefydlog yr efengyl. Rhyw ddrwg angenrheidiol (necessary evil), rhywbeth i'w goddef am na ellid bod hebddi oedd y weinidogaeth yn ol eu golygiad hwy. Yr oedd amryw o’r blaenoriaid wedi cael blas ar awdurdod, yn enwedig ar ol ymadawiad Dr. Lewis, a golygai yr henuriaid llywodraethol mai ganddynt hwy yr oedd hawl i ofalu am yr athrawiaeth a r ddysgyblaeth yn nhtŷ Dduw, ac mai cadeirydd eu cyfarfodydd yn unig oedd y gweinidog i fod. Arferent droi ymgeiswyr am aelodaeth eglwysig allan o’r capel tra fyddid yn ymddiddan yn eu cylch, a throseddwyr yr un modd, yna gollyngid hwy i mewn ar ddiwedd y cyfarfod i glywed dedfryd yr eglwys ar eu materion. Gwrthwynebai Mr. Jones yr arfer hono yn hollol. Tybient hwythau ei fod yn myned a mwy na’i ran o lywodraeth yr eglwys.

Ond teg yw dweyd fod y dosbarth lliosocaf o wrthwynebwyr Mr. Jones yn sefyll yn ei erbyn yn benderfynol, am eu bod yn credu yn gydwybodol ei fod yn cyfeiliorni mewn barn, ac yn gwyro oddiwrth y gwirionedd fel y mae yn yr Iesu. Credent nad oedd ei olygiadau ar bechod. sef mai diffyg ydyw yn ei natur, yn gyson ar pethau a ddywedir yn y Beibl am bechod. Credent nas gall dyn wneyd dim ond pechu nes y cyfnewidir ef trwy ras. Pan geisid dangos fod dau fath o allu, sef un naturiol ac un moesol, cyfarfyddent hyny ar geiriau, “Ni ddichon nas gall chwaith”, &c. Cyfytunent yr Iawn i gylch eglwys Dduw, ac ni allent wled fod amcan yn y byd yn deilwng o aberth Crist ond gweithredol gadwedigaeth dynion, a gogoniant Duw yn hyny. Gan, mai yr eglwys yn unig a gedwir yn y pen draw ni allent hwy weled nad yr eglwys yn unig yw y rhai bu Crist farw drostynt, a dywedent fod y rhai a ddalient fod Crist yn aberth dros holl ddynolryw, yn rhwym o ddal hefyd fod llawer o werth gwaed Crist yn myned i uffern yn barhaus. Yr oedd golygiad rhy fasnachol ar yn Iawn wedi eu niweidio a’u hanghymwyso i drin y mater yn deg. Barnent fod Mr. Jones yn Armin, pryd mewn gwirionedd Calfiniad cymedrol cryf ydoedd. (Hanes Eglwysi Annibyiol Cymru, Cyf. I., tudal 416—418).

Dywed Ap Fychan fod yr Hen Bobl, fel y gelwid hwy, yn dra chydnabyddus â syniadau eu hathraw blaenorol, yr Hybarch Ddr.Lewis. Gwarogaeth uchel i'w deilyngdod yw fod y diweddar Ddr. Lewis Edwards wedi ysgrifenu un oi ddarnau goreu a'i ddodi fel Rhaglith i'w Gorph o Dduwinyddiaeth ef. Yn agos i ddiwedd y Rhaglith ceir y sylwadau a ganlyn,— Y gofyniad nesaf ydyw, pa fodd yr effeithiodd y Diwygiad Methodistaidd ar Dduwinyddiaeth yn Nghymru? Gellid cymhwyso yr hyn a ddywedwyd eisoes am ansawdd y diwygiad yn gyffredinol fel atebiad. Ond y mae enghraifft i'w chael yn dwyn perthynas neillduol a Chymru, yn Nghorff Duwinyddiaeth Dr. Lewis. Y mae yn amlwg fod Dr. Lwis yn ddyn o feddwl cryf ei fod wedi darllen llawer ar weithiau y Puritaniaid, a'i fod yn deall yr hyn oedd yn ei ddarllen. Y mae wedi ffurfio ei dduwinyddiaeth ar gynllun yr awdwyr goreu, ac wedi ymgadw yn well na lawer yn yr oes o’i flaen oddiwrtla bob golygiad eithafol. Ond beth yw ei farn ef am ailenedigaeth? Mor bell ag y medraf weled ei feddwl, y mae yn cau allan offerynoliaeth y Gair, ac yn dal ailenedigaeth ddigyfrwng. Y mae hyn yn hollol groes i olygiadau yr hen Dadau Methodistaidd, Ni ddylid edrych ar Dr. Lewis fel cyfeiliornwr er hyny y mae yma wahaniaeth, ac y mae hwn yn gysylltiedig a gwahaniaeth arall gyda golwg ar y berthynas rhwng ailenedigaeth a ffydd. Y mae Dr. Lewis yn rhoi ailenedigaeth o flaen ffydd, ac felly y mae yn rhaid i ddyn aros nes cael ei aileni cyn y gall feddwl am gredu yn Nghrist, tra yr oedd yr hen Fethodistiaid yn galw ar bawb i fyned rhag mlaen at Grist, ac yn dweyd fod gan ddyn annuwiol hawl i gredu yn Nghrist, fel y mae yn cael ei ddatguddio yn y Gair yn Geidwad digonol i’r penaf o pechaduriaid. Mewn gair, yr effaith a gafodd Methodistiaeth ar Dduwinyddieth Cymru. oedd ei chodi i dir mwy rhydd, mwy eang, a mwy efengylaidd.

Yr oedd ymraniad trwyadl wedi cymeryd lle yn mysg yr Anghydffurfwyr yn Nghymru ac yn Lloegr. Yr oedd un blaid wedi gwyro at Neonomiaeth i ddechreu, yna at Arminiaeth, yna at Ariaeth, yr hyn a’u harweniodd o’r diwedd i Sociniaeth. Er mwyn cadw yn ddigon pell oddiwrth y corsydd hyn nesaodd y blaid arall at sychdiroedd uwch Galfiniaeth, ac aeth rhai ohonynt mor bell a rhoddi terfyn i werth yr Iawn, a gwadu dyledswydd dyn annuwiol i gredu yn Nghrist. Ac nd hyn yn unig, ond aethant o’r diwedd i ddadleu na ddylid pregethu yr efengyl ond i’r etholedigion ac nad yw yr etholedigion mewn cyflwr colledig cyn iddynt gredu. Y mae Dr. Lewis yn mhell oddiwrth yr eithafion hyn, ac y mae yn anhawdd cael corff duwinyddiaeth mwy rhydd oddiwrth ddiffygion na’r eiddo ef. Ar yr un pryd, y mae yn rhaid addef fod mwy o eangder yn athrawiaethau yr efengyl fel y dadblygwyd hwynt gan Rowlands, &c., a Jones o Ddinbych. Cyn y flwyddyn 1820, adeg marwolaeth Mr. Thomas Jones o Ddinbych, yr oedd gwrthdarawiad yn erbyn uwch-Galfiniaeth, wedi dechreu yn mysg yr Anghydffurfwyr, yr hwn aeth ar gynydd yn raddol, nes peri cyfnewidiad trwyadl yn eu barn. Tybiodd llawer o’r Methodistiaid fod eu brodyr Ymneillduol wrth ymwrthod ag uwch-Galfiniaeth, yn nesu gormod at Arminiaeth, a pharodd hyn wrthdarawiad yn rhai ohonynt hwythau, a gyrodd hwynt i adael hen safle y Methodistiaid, ac ochr i at syniadau uwch-Galflnaidd.

Naturiol yw gofyn a aeth cydymdeimlad y Methodistiaid yn Llanuwchllyn yn fwy gydag un o’r pleidiau hyn nag a’r llall. Yr oedd fod gradd o wahaniaeth barn yn mysg y Methodistiaid eu hunain yn y cyfnod hwnw o ran eu golygiadau duwinyddol yn peri eu bod i raddau yn ganolog. Yr oedd y Parch. Thomas Jones, Dinbych, wedi pregethu ei bregeth fawr ar y geiriau “Efe yw yr iawn” am ddeg o’r gloch yn Sasiwn y Bala er y flwyddyn 1816, agos i chwe blynedd cyn rhwygiad eglwys Annibynol Llanuwchllyn, yn yr hon y condemniai yn y modd cryfaf athrawiaeth yr iawn cyd-bwys. Ni allai pregeth athrawiaethol rymus felly lai na lefeinio y wlad i raddau helaeth, ac y mae genym seliau i dybied fod crefyddwyr goreu Dwyrain Meirionydd y pryd hwnw yn ystyried Thomas Jones yn dduwinydd mwy diogel i'w ddilyn na John Elias, er cymaint oedd poblogrwydd y diweddaf fel pregethwr, ac ni allasai y mai hyny anghymeradwyo llawer ar waith y Parch. Michael Jones yn gochel sychdiroedd uwch-Galfiniaeth, ys dywed Dr. Edwards. Yr un pryd, y mae yn ddigon posibl fod yn Llanuwchllyn rai o’r llawer o’r Methodistiaid eu hunain a dybient fod eu brodyr Ymneillduol yn nesu gormod at Arminiaeth, Y mae yn ffaith i ryw nifer o blaid yr Hen Bobl ymuno âg enwadau eraill yn ystod yr amser yr oeddid yn ymgynull mewn ystafell yn y llan. Daeth rhai aelodau at y Methodistiaid, a dau bregethwr cymeradwy, sef John Jones, Afonfechan, yr hwn oedd yn pregethu cyn y rhwygiad ac a gydnabyddir gan yr Annibynwyr fel un a fu yn pregethu gyda hwy, a Robert William, yr hwn a ddechreuodd bregethu, mae yn ymddangos, yn mhlith yr Hen Bobl yn fuan wedi iddynt ymwahanu oddiwrth y blaid arall, ac a ymunodd ar Methodistiaid yn fuan wedi dechreu pregethu.


Y flwyddyn 1823, gwnaeth yr Hen Bobl gais trwy apel at y gyfraith am feddiant o’r Capel, ond methasant. Yn y flwyddyn ddilynol, 1824, y maent yn adnewyddu eu cais, ar tro hwn llwyddasant. Troed Mr. Jones a'i blaid allan o’r Capel, ac aeth yr Hen Bobl i mewn iddo. Buwyd yn cynal moddion ar wahan am tua 15 mlynedd, yr Hen Bobl yn y capel gyda ychydig o lwyddiant, a Mr. Jones a'i blaid mewn ysgubor a berthynai iddo ef, ac mewn tai ac ysgoldai ar hyd y gymydogaeth gyda mwy o lwyddiant. Yn y flwyddyn 1839, adunwyd, trwy i’r Hen Bobl wahodd Mr. Jones a'i blaid atynt i addoli yn y Capel. Cynhaliwyd cyfarfod pregethu i ddathlu yr uniad, ar y 29ain ar 30ain o Hydref, 1839.—(Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, Cyf. I., tud. 420,)
Rhydd y dyfyniad canlynol o’r hyn a ysgrifenodd Mr. Watkyn Jones i Gofiant y Parch. Robert William, heblaw hanes dyddorol am yr hen weinidog hybarch yn dechreu pregethu, gipolwg hefyd i’r craffus ar y modd yr edrychai rai o hen Fethodistiaid Llanuwchllyn ar y rhwygiad yn eglwys Rhosyfedwen.

Yn y Werddon (ttŷ bychan ar derfyn plwyfydd Llanuwchllyn a Llangower), y gwelais i Robert William gyntaf. Sefyll a'i gefn at y dresser yn llefnyn tal y gwelais i Robert William pan ddois i’r ttŷ Rhaid fod hyny tua’r flwyddyn 1821 Roedd llond y ttŷ o bobl a llond y ttŷ croes. Yr oedd yr hen Hugh Rhobert y teiliwr, pen diacon yr Annibynwyr yno. Hefo’r Annibynwyr yr oedd yn pregethu y noson hono wyddoch. Nid af fi ddim i ddweyd dim am yr ymrafael rhwng yr Hen Bobol a phlaid Michael Jones, mae on hanes anodd iawn i'w ddweyd. Ond heddychwr oedd Rhobert William yn y rhyfel hwnw. Y fo a'i gefnder, Deio Tynybryn, oedd cenhadon heddwch yr Hen Bobol. Teithiodd y ddau filldiroedd o eglwys i eglwys, at hwn ac at arall, i geisio cael gwenidogion y wlad i wneyd heddwch rhwng y ddwy blaid. Rydw i yn cofio tri chyfarfod yn y capel draw, ond methwyd setlo’r ymrafael. Aeth yn wasgarfa yn nghapel yr Annibynwyr. Cefnodd yr Hen Bobol ar Rosyfedwen, ac aethant i gynal gwasanaeth yn y Tyisa yn y Llan, ac yr oedd Robert William yn bregethwr, genyn nhw. Yr oedd hi yn gul iawn ar yr Hen Bobol am bregethwr, ni chaen nhw ddim gweinidogion i gyfranu'r Ordinhad o Swper yr Arglwydd iddyn nhw, a rhoisant gais at y Methodistiaid am i'w gweinidogion hwy ddod atynt. Byddai gweinidogion y Methodistiaid yn mynd atynt yn y bore, ac yn dod i gapel y Pandy yn y prydnawn. Dyna fyddai taith Robert Gruffydd, Dolgellau, a John Roberts, Llangwm, bob amser, a dyna daith llawer o rai eraill. Doi’r Hen Bobol i’r Pandy yn y prydnawn i wrandor pregethwyr fyddai wedi cyfranu yr Ordinhad iddynt, ac yr oeddynt ar delerau da iawn a phobol y Pandy. Yn y cyfwng yna yn rhywle daeth Rhobert William atom ni fel Methodistiaid, a chafodd ganiatad y Cyfarfod Misol i bregethu fel pregethwr hefo ni. (Cofiant Robert William, Wernddu, tudal 33). Ceir y crybwylliad canlynol am

Rhobert Wiliam Wern Ddu

RHOBET WILIAM, WERN DDU.

John Jones yn rhestr y rhai a gododd i bregethu gyda’r Annibynwyr yn Llanuwchllyn :—John Jones: Adnabyddid ef fel John Jones, Afonfechan, a symudodd wedi hyny i Hafodfawr. Ceir ei enw yn aml yn nglyn a llawer o’r eglwysi yn Sir Feirionydd a Sir Drefaldwyn. Yr oedd yn bregethwr defnyddiol a chymeradwy. Pregethai yn fisol yn Llanuwchllyn am dymhor maith. Ymunodd ar Methodistiaid Calfinaidd yn niwedd ei oes, o achos y terfysg ar ymraniad gymerodd le yn yr Hen Gapel. Gan i Robert William ymuno ar Methodistiaid yn fore ar ei oes, a threulio oes faith iawn yn y weinidogaeth gyda ni, i ni yr ymddiriedwyd ei goffadwriaeth. Y mae yn hawdd gweled oddiwrth ei Gofiant gan Mr. O. M. Edwards, M.A., ac eraill, ei fod oherwydd ei dduwioldeb personol, ei unplygrwydd a'i anrhydedd fel dyn, yn gystal a'i rym a'i ffyddlondeb yn y pulpud, yn un a berchid yn fawr yn ei oes, ac nid yn un lle yn fwy nag yn Llanuwchllyn. Ordeiniwyd ef yn 1838, ar ol bod yn pregethu, fel llawer eraill ar y pryd, am dros 15 mlynedd heb ei ordeinio. Parhaodd ei ddiwrnod saith mlynedd a deugain wedi hyny. Bu yntau fel Foulk Evans yn llafurus iawn gyda’r achos gartref — yn y Pandy yn benaf, ac hefyd mewn tai anedd, ac yn y capelydd bychain, Cynllwyd a Dolhendre yn y plwyf. Nid oeddwn i ond bachgen pedair-ar-ddeg oed yn ymadael a Chynllwyd, medd y Parch. D. Edwards, Casnewydd. Mae genyf gof da am ymweliadau Mr. Williams ar capel bach i bregethu, a chadw cyfarfodydd eglwysig achlysurol. O’r amser yr agorwyd y capel, Evan Foulk, John Jones y Fodfawr; David Davies, Bryncaled, a Robert William, weinyddai ynddo, ac yr wyf dan yr argraff mai yn gwbl râd y gwasanaethai pob un o honynt. Palla gofod i ni wneyd mwy na chrybwyll am ei lafur a'i ffyddlondeb yn teithio Sir Feirionydd ar ei draed i bregethu a mynychu Cyfarfodydd Misol am dros driugain. mlynedd. Efe a Dr. Edwards a fyddai yn llanw cadair y Cyfarfod Misol amlaf o bawb ar un cyfnod, — a phregethai yn nerthol ac efengylaidd ynddynt, a hyny yn fynych. Yn y Cofiant ceir adgofion diddan am dano gan rai oedd yn ei adnabod, yr hyn a wna yn afreidiol i ni helaethu am dano. Ar ol rhanu Sir Feirionydd yn ddau Gyfarfod Misol, yn ol tystiolaeth Mr. Edward Griffith, Dolgellau, efe a Dr. Edwards fyddai y rhai ffyddlonaf i ddyfod i’r cyfarfod chwarterol i’r pen Gorllewinol, a byddai yn gyffredin yn pregethu am ddau o’r gloch yn Nghyfarfod Misol Dolgellau.

Un o’r adgofion melusaf am dano gan y genhedlaeth hon o grefyddwyr yw y gefnogaeth galonog a roddai i Fugeiliaeth Eglwysig, pan nad oedd yn disgwyl y rhoddid galwad ffurfiol iddo ef. Cymerodd ran flaenllaw mewn sicrhau gwasanaeth y Parch. William Thomas yn fugail yn y flwyddyn 1875, yr hyn a gydnabyddir mewn llythyr ato gan y blaenor Mr. John Jones, llythyr a welir yn ei Gofiant, a chafodd Mr. Thomas a'i olynydd, Mr. Gwynoro Davies, ynddo ef noddwr a chyfaill yn y gwaith o fugeilio yr eglwys. Hunodd yn yr Iesu, Ebrill 23, 1885, yn 83 mlwydd oed. Dywed Golygydd y Drysorfa wrth goffau am dano. Dechreuodd bregethu pan yn 19 oed. Derbyniwyd ef gan Gyfarfod Misol Meirion, yn y flwyddyn 1826, ac nid yn 1822, fel yr hysbysir yn y Goleuad. Cofus genym ei fod yn pregethu y flwyddyn hono yn nghapel Salem, Dolgellau. Daeth yn Fethodist Calfinaidd trwyadl, ac yn bregethwr cymeradwy yn y Cyfundeb. Yr oedd yn was ffyddlon a doeth yn gwbl ddiargyhoedd yn ei holl rodiad, yn weddaidd yn mhob ymddygiad, yn fawr mewn gweddi, yn gyfaill cywir, ac yn amlwg yn weinidog da i Iesu Grist. Gweler hefyd dystiolaethau cryfion amryw frodyr yn ei Gofiant, yn enwedig eiddo Mr. Cadwaladr Lloyd, yr hwn oedd yn Ysgrifenydd y Cyfarfod Misol yn yr amser yr oedd mwyaf o bwys y gwaith yn y Sir ar ysgwyddau y Parch. Robert William.

 Achos Addysg. Am y teimlwn fod i addysg gyffredinol ddylanwad cryf er tyfiant a grymusder bywyd ysbrydol unrhyw ardal, rhoddwn yn y fan yma grybwylliad byr am yr hyn a wnaed yma gyda’r achos hwn. yr olafo ysgrifau Mr. E. Edwards yn Nghronicl y Ysgol Sabbothol

Edward Edwards Penygeulan
EDWARD EDWARDS, PENYGEULAN.

am 1881, rhoddir hanes ganddo am yr hyn a wnaed ganddo ef yn y ffordd o ddysgu plant, ac ni allwn roi teyrnged well i goffadwriaeth y blaenor da hwn, na gadael iddo ddweyd yn ei eiriau ei hun sefyllfa Addysg yn Llanuwchllyn. driugain mlynedd yn ol. Ni ddechreuodd ysgol yr Eglwys yma hyd tua’r flwyddyn 1841, a diffoddodd lawer gwaith wedi hyny. Cafodd y plwyf hwn ei freintio ag ysgol ddyddiol dda er yn foreu. Yma y dygodd y Parch. Michael Jones lawer o wyr ieuainc i fyny yn ysgolheigion da; bum i dan ei addysg hyd yn 18 oed, a bum yn uchaf am flynyddoedd yn ei ysgol, ond fel y mae yn ofidus meddwl, bum am flynyddoedd meithion heb lyfr Saesneg. Mewn amser, symudodd y Parch. Michael Jones i’r Bala, a gwaddol yr ysgol i'w ganlyn, fel y bu y plwyf am beth amser heb ysgol yn y byd. Teimlwn yn fawr o’r herwydd, ac anogai Mr. Jones, Shop, fi i gadw dipyn o ysgol, am y meddwn dipyn o dalent at blant, ac anogai fi i fyned i’r Bala at Dr. Edwards a Dr. Charles i dynu rhwd oddiar fy Saesneg, ac felly y darfum am derm. Yna dechreuais gadw tipyn o ysgol yn y capel, ac yr oedd genyf tua 60 o blant. Y flwyddyn ddilynol dechreuwyd cadw ysgol ddyddiol yn y Llan, yn yr Ysgoldy newydd. Dywed Mr. Edwards nad oedd dadl yn ei feddwl na chawsai ei benodi yn athraw, ond am na chydsyniai i fyned i’r Eglwys ar y Sul, rhoddwyd y swydd i un arall. Credai fod Mr. Jones, (Parch Hugh Jones 1816-1861) Person Llangower, yn foddlawn o’i ran ei hun, iddo ef gael y swydd, ond fod y Deon neu yr Esgob yn mynu eu ffordd. Bu raid i Mr. Edwards fyned yn mlaen oreu gallai eto yn y capel.. Yr oeddwn yn bryderus iawn ar y pryd, rhag y buasai yn colli fy mhlant, yr hyn a wnaethum i raddau helaeth oherwydd y dylanwad oedd yn y Llan; ond er fod llawer yn fy ngadael, yr oedd llawer o rai newyddion yn dyfod ataf, fel yr oedd y ddwy ysgol yn rhifo 60 bob un. Yna cyfeiria at arholiad cyhoeddus hynod o lwyddianus a gaed ar y plant dan ei ofal, yn ngwydd llond y capel o bobl. Aeth son am y cyfarfod hwn i’r ardaloedd cylchynol. Dranoeth daeth llawer o ysgol y Llan yn ol ataf, ar dyddiau canlynol o ardaloedd y Parc, Glyn, Trawsfynydd, &c. Fel hyn yr ychwanegai yr ysgol ddydd ar ol dydd, hyd oni ddaeth yn 225 O nifer. Yn awr yr oeddynt wedi dyfod o ysgol y Llan ond dau, a rhieni y rhai hyny yn arfer y wialen fedw bob dydd. Yna rhoddwyd hi i fyny yn fethiant, a daeth y ddau blentyn hyny ataf fi, ac y mae un ohonynt yn awr (yn 1881) yn bregethwr cymeradwy yn, Sir Frycheiniog. Ar anogaeth y Parch. J. Phillips, yr hwn a ymwelai ar ysgol yn fynych, aeth Mr. Edwards i’r Borough Road, Llundain, am ychydig fisoedd i weled eu training hwy yno. Cafodd y plant wledd o de cyn iddo gychwyn. Tra yno, cafodd gynyg lle i gael £100 o gyflog, ond dewisodd ddyfod yn ol i ddysgu plant Llanuwchllyn am £30 yn y flwyddyn, ac ychydig o roddion a estynai cyfeillion iddo. Yn ei ysgol ef yr oedd y Parch. Thomas Jones, Cassia, yr hwn yr oedd ganddo dair milldir o ffordd i ddyfod bob bore. Erbyn hyn (1899), y mae Eglwyswyr ac Ymneillduwyr Llanuwchllyn yn cydweithio gydag addysg ddyddiol.

Ni ellir dilyn yr hanes o flwyddyn i flwyddyn, rhaid boddloni ar gofnodi y prif ddigwyddiadau. Erbyn y flwyddyn 1872, ar ol lafur dyfal am faith flynyddoedd a helaethu y capel yn y flwyddyn 1830, yr oeddid yn teimlo fod angen am gapel newydd, a symudwyd yn mlaen at ei gael. Adeiladwyd y capel newydd yn Glanaber, rhwng Plasdeon ar bont. Dangoswyd haelioni cyffredinol at yr amcan, a gallwyd agor y capel yn ddiddyled yn 1873, ac ni fuwyd yn hir heb dalu am y ttŷ hefyd. Yr oedd Llanuwchllyn. yn un o’r manau cyntaf i adeiladu ttŷ gweinidog yn Nwyrain Meirionydd. Y mae. yn amheus a oedd un lle heblaw Rhydlydan wedi cael y blaen arnynt, oddieithr fod Cerrigydrudion i'w gymeryd i’r cyfrif. Adeiladwyd yno dtŷ ar gyfer y Parch. D. Rees, yr hwn a fu farw cyn dyfod iddo i fyw.

Ar ol cael gwasanaeth ffyddlon y Parch. Foulk Evans am agos i ugain mlynedd, a gwasanaeth gwerthfawr y Parch. Robert William ac eraill, am haner can mlynedd chwanegol, heb ond ychydig o gydnabyddiaeth arianol, y mae yr eglwys yn mhen mwy na phedwar ugain mlynedd ar ol ei sefydliad yn symud yn mlaen dan arweiniad doeth y Parch. Robert William, fel y cyfeiriwyd eisoes, i sicrhau bugail cyflogedig. Ei bugail cyntaf yn y cymeriad hwn oedd y Parch. W. Thomas, yn awr o Lanrwst, yr hwn a sefydlwyd yma yn agos i ddiwedd y flwyddyn 1875 Ar ei ymadawiad, neu yn fuan wedi ei ymadawiad, dewiswyd y Parch. J. Gwynoro Davies, yn awr o’r Abermaw. Ar ei ymadawiad ef, syrthiodd dewisiad yr eglwys ar y Parch. H. O. Hughes, ac ar ol ei symudiad yntau i Henllan, dewiswyd y brawd ieuanc sydd yn awr yn eu bugeilio, sef y Parch. Owen Ellis, brodor o Ffestiniog. Megis ag y bu hynawsedd a doethineb yr hen weinidog hybarch yn help i’r rhai cyntaf fod yn ddefnyddiol a chysrus, y mae yr un hynawsedd ysbryd mewn eraill ar ei ol yn gwneyd y lle hwn yn faes hyfryd i lafurio ynddo.

Y Pregethwyr a godasant yn Llanuwchllyn. Evan Foulkes, 1763—1855; Foulk Evans, 1783—1866; J. Jones, Afonfechan; Robert Williams, 1802—1885; John Jones, Rhydfudr; John Hughes, Factory; a aeth i America; T. F. Roberts, dechreu pregethu yn 1864; H. Roberts, 1864 ; Owen Edwards, 1866; Richard Jones, 1877; Griffith Jones, 1879; Robert Jones, 1879; O. M. Edwards, 1880; Edward Edwards, 1882; John M. Edwards, 1889

Y mae amryw eraill allesid enwi fel rhai genedigol o’r ardal, ond a ddechreuasant bregethu mewn lleoedd eraill, megis Robt. Evans, a fu yn byw am dymhor yn Caergai; David Edwards, Casnewydd; Edward Jones, Abertilery, &c.

Y Bugeiliaid, amser eu sefydliad, ac amscr eu hymadawiad :— William Thomas, 1875—1879; J. Gwynoro Davies, 1880—1887; H. O. Hughes, 1888—1896; Owen Ellis, 1897

Blaenoriaid Llanuwchllyn.Thomas Foulk, Ddolbach; Edward Rowland, Madog; Owen Edwards, Penygeulan; John Jones, Shop; Edward Edwards, Pen y geulan, 1840; Owen Williams, Rhydfudr, 1840; John Jones, Plasdeon, 1840; Zechariah Jones, Pantymarch, a Robert Roberts, Glanaber, 1874; R. E. Roberts, Bro Aran, 1884; Thomas Jones, Glandwr, 1884; Rowland Davies, 1884; J. Jones Edwards, Penygeulan, 1892; Edward Roberts, Glanaber, 1892

hafan Llyfrau Fyny Diwethaf Nesaf