EGLWYSI DOSBARTH PENLLYN - MOELYGARNEDD
|
Eglwys gydmarol ieuanc, eglwys fechan, ac un na ellir disgwyl iddi fod ond bechan o ran rhif yw Moelygarnedd. Saif y capel oddeutu milldir a haner o’r Bala, ar y ffordd i’r Parc, ychydig uwch law eglwys henafol Llanycil. Hyd yn ddiweddar arferai y teuluoedd a wnaent fyny y gynulleidfa ddyfod i’r Bala ar Suliau Cymundeb, a diau y deuent yno i bob moddion o ras flynyddoedd lawer yn ol. Ymddengys i Ysgol Sabbothol gael ei sefydlu yma mor fore a’r flwyddyn 1812, trwy ymdrechion Mri. David Edwards a William Jones, dau o swyddogion yn eglwys y Bala, y rhai y mae eu clod yn uchel am eu llafur gyda’r Ysgol Sabbothol yn amgylchoedd y dref. Cynhelid hi ar y cyntaf yn Moelygarnedd isa, yn yr ysgubor yn misoedd yr haf, ac yn y tŷ yn y gauaf. Enwir y rhai canlynol fel y prif weithwyr gyda’r ysgol yn y blynyddoedd boreuaf: Morris Evans, Fedw; David Ellis, Hendre du; Robert Roberts, Brynmoel isa; Evan Lloyd, Moelygarnedd, a Wm. Llwyd o’r Bala. Nid ydym eto wedi cael sicrwydd pa bryd y ffurfiwyd y gynulleidfa yn eglwys reolaidd ar wahan i eglwys y Bala. O fewn cof llawer sydd yn awr yn fyw, fel y crybwyllwyd, deuai yr holl aelodau i’r Bala i gymuno, ond yr oedd yma eglwys er hyny ers cryn amser, a blaenoriaid ffyddlon yn gofalu am dani. Yblaenor cyntaf, mae yn ymddangos, oedd Mr. David Ellis, Hendre du, er nad yw yn hysbys i ni yr adeg y dewiswyd ef. Rhoddir cymeriad uchel iddo am ei ffyddlondeb, fel un hallt yn erbyn pechod, a hynod ar yr un pryd am gynorthwyo y gweiniaid. Tua’r flwyddyn 1824 symudwyd yr achos o Moelygarnedd i Brynmoel isa, lle y cafodd groesaw cynes am wyth mlynedd ar hugain gan Mr. Robert Roberts a’i fam dduwiol, yr hon a gafodd fyw i fyned i oedran teg. Coffeir gyda pharch enwau y brodyr canlynol fel rhai a fuont yn wasanaethgar a ffyddlon gyda’r achos yn y lle Sion Hugh, Brynmoel ucha; Dafydd Sion, Penlan, a Robert Ellis, Hendre du. Bu dyfodiad Mr. Humphrey Williams i’r ardal i fyw yn gyfnerthiad nid bychan i’r achos. Brodor o Faentwrog, mab ffarm o’r enw Gyfynys yn y plwyf hwnw, oedd Mr. Williams. Symudodd i fyw i Gefnbodig yn y flwyddyn 1835, a dewiswyd ef yn flaenor yn y flwyddyn 1838, yn mhen tair blynedd wedi ei ddyfodiad yma i fyw. Yr oedd Mr. Williams yn ŵr llednais a thra chrefyddol, a bu yn hynod o ffyddlon yn gofalu am yr achos yn y lle hwn am dymhor maith. Byddai ei dŷ yn agored bob amser, ar croesaw ynddo yn gynes i bregethwyr ac eraill o deulu y ffydd. Yr oedd yn hynod am ei ffyddlondeb i foddion gras, ac am ei gysondeb gyda’r ddyledswydd deuluaidd. Bu farw Tachwedd 14eg, 1885, yn 87 mlwydd oed, ac wedi gwasanaethu fel blaenor am 47 mlynedd. Er nad oedd yn un amlwg yn y Cyfarfod Misol, cymerai ddyddordeb dwfn yn yr achos tu allan i gylch ei ardal, fel y dengys ei waith yn cofio am achosion Cyfundebol yn ei ewyllys ddiweddaf. Yn rhestr y rhai a adawsant gymunroddion at y Genhadaeth Dramor, ceir ei enw ef am £25. Anrneg o Gapel. Wedi dwyn yn mlaen yr achos fel hyn mewn tŷ, neu yn hytrach dai anedd, am ddeugain mlynedd o amser, y mae capel yn cael ei adeiladu i’r ardalwyr i addoli ynddo. Fei cafwyd mewn modd gwahanol i’r modd y ceir capelau yn gyffredin. Y mae Moelygarnedd a’r tiroedd o’i amgylch yn rhan o etifeddiaeth hen deulu cyfrifol Plasyndre, ac y mae Miss Bridget Lloyd, merch y Parchedig S. Lloyd, yn cael ar ei meddwl, nid yn unig i roi tir i adeiladu capel arno, ond hefyd i adeiladu y capel ar y tir yn hollol ar ei thraul ei hun Mewn Cyfarfod Misol yn Rhydlydan, Ebrill 29, 1832, rhoddir yr hysbysrwydd fod capel newydd wedi ei adeiladu yn Brynmoel, trwy garedigrwydd Miss B. Lloyd o’r Bala, ei bod hi wedi ei adeiladu. ar ei chost ei hun, a’i bod hi yn ei roi am byth i’r Cyfarfod Misol. Cyfarwyddwyd ysgrifenydd y Cyfafod Misol ar y pryd, Mr. C. Lloyd, i ysgrifenu llythyr o ddiolchgarwch i’r foneddiges haelionus. am ei charedigrwydd. Ceir copi o’r llythyr, yr hwn a ysgnfenwyd. yn Saesneg, yn y cofnodau, wedi ei ddyddio Llanfihangel, Mai 20, 1852, a’i arwyddo gan yr ysgrifenydd. Yr oedd y caredigrwydd hwn “megis od yr haf neu wlaw y cynhauaf” i’r Cyfarfod Misol, yr hwn oedd ar y pryd mewn cryn drafferth gyda dyled y capelau yn y sir, ac yn galondid mawr i’r ychydig o frodyr a chwioiydd oeddynt au hysgwyddau dan yr achos yn y lle. Bychan oedd y capel, ond llenwid ef yn dda a gwrandawyr, a mynych y caent bregeth gan un o’r myfyrwyr o’r Bala yn ychwanegol at yr un a gaent. gan y pregethwr ygaent gan y pregethwr ar daith Yn y capel hwn y gwasanaethodd Mr. Humphrey Williams ei swydd fel blaenor gyda ffyddlondeb diball am y gweddill o’i oes. Yn y flwyddyn 1861, dewiswyd Mr.. Robert Roberts, Brynmoel, yn flaenor, yr hwn yntau a dynodd ei gwys yn uniawn i ben. Sonir amdano hyd y dydd hwn fel un o’r noddwyr mwyaf caredig i’r achos. Yn y flwyddyn 1881, adnewyddwyd y capel yn diwyadl. Gwnaed y fath gyfnewidiad ynddo, nes y mae yn ymddangos fel capel. newydd. Yr oedd traul y cyfnewidiad a wnaed arno, heblaw cludo y defnyddiau, yr hyn a gafwyd yn rhad, yn £116, a thalwyd y cwbl erbyn dydd yr ail-agoriad, fel na wyr yr eglwys fechan hon ddim beth ydyw addoli mewn capel a dyled arno. Yn mhen tair blynedd ar ol ail-adeiladu y capel, sef yn y flwyddyn 1884, dewiswyd Mr. William Williams, Cefnbodig, mab M r. Humphrey Williams o’r un lle, yn flaenor Yr oedd wedi bod yn dra gwasanaethgar gyda’r achos er ys amryw flynyddoedd cyn ei ddewis yn swyddog, a gwasanaethodd yr eglwys yn ffyddlon tra y bu yn aros yn y gymydogaeth. Gellir dweyd am y teulu hwn, a fu yn byw am dymhor maith yn Cefnbodig, iddo fod yn swcr mawr i’r achos yn Moelygarnedd. Y mae Mr William Williams wedi ei ddewis yn flaenor yn diweddar yn eglwys y Dyffryn Dyffryn Clwyd Ni ellir siarad yn rhy uchel am garedigrwydd teuluoedd y Fedw, Tir Stent, a Moelygarnedd (y ffarm o’r enw). Er nad oedd William Jones, y Fedw, yn flaenor nid oedd ty mwy croesawgar i weinidogion yr efengyl iw gael na’r Fedw, ac y mae mwy nag un erbyn hyn o’r bechgyn a fagwyd yn y Fedw yn gwasanaethu fel blaenoriaid mewn gwahanol eglwysi, yn benaf yn Nyffryn Clwyd. Yn 1890, dewiswyd dau o frodyr lled ieuainc yn flaenoriaid, sef Mr. William Evans, Fedw, a Mr. John Jones, Cefnbodig. Symudodd y blaenaf yn lled fuan i un o ardaloedd Dyffryn Clwyd, ond daeth ei ewythr Mr. Griffith Evans, yn flaenor profedig, o Gefnddwygfaig i fyw i’r Fedw, a galwyd ef i wasanaethu swydd blaenor yno gyda Mr. John Jones, Cefnbodig, a hwy ill dau ydynt y biaenoriaid presenol. Yn y flwyddyn 1894, ymunodd yr eglwys hon ag eglwys y Parc, sydd yn daith Sabbath gyda hi, i alw Mr T. R. Jones o Lanelidan iw bugeilio. Arferai y Parch. R. Roberts, Parc,. ar Parch. Evan Peters, ddyfod yn achlysurol yma i gynal cyfarfod eglwysig flynyddoedd yn ol, a byddai ambell un o’r Myfyrwyr yn mynd ar wahoddiad i’r seiat i Moelygarnedd o bryd i bryd. Ond Mr. Jones oedd y bugail rheolaidd cyntaf a alwyd gan yr eglwys. Nid yw rhif yr eglwys ar hyn o bryd ond 33, ynghyd a thua dwsin o blant, ac nid oedd ychydig yn ol ond un mewn oed yn arfer gwrando nad oedd yn aelod eglwysig. Eto y mae yn un o’r eglwysi ffyddlonaf am wneyd casgliad at bob achos Cyfundebol, ac ni fydd yn arfer osgoi y casgliadau at achosion neillduol y gofynir i eglwysi y sir eu gwneyd. Cododd o’r eglwys hon un pregethwr cymeradwy, sef Mr. John Evans, Tynrhos. Dechreuodd bregethu yn 1887, ac ar ol treulio rhai blynyddoedd yn Athrofa y Bala, aeth drosodd i America. Y mae yn awr yn weinidog yr eglwys Gymraeg yn Philadelphia. Yn mysg y blaenoriaid a’r dynion cyhoeddus a godasant o’r eglwys hon y mae y rhai canlynol :—Mr. David Roberts, brawd Mr. R. Roberts, Brynmoel, oedd yn flaenor yn Llanbedr ger Rhuthyn. Mr. Evans, y Fedw gynt sydd flaenor. yn Gellifor. Mr. John Jones, Segrwyd, blaenor yn Peniel, ger Dinbych. Mr. H. J. Hughes, cerddor a chyhoeddwr, New York, merch yr hwn aeth yn ddiweddar i China i’r gwaith cenhadol tramor, oedd fab i Sion Hugh, Bryn-moel Ucha. Heblaw darparu moddion i’r ychydig deoluoeddyn yr ardal fechan, y mae yr eglwys hon yn anfon gweithwyr i leoedd eraill. Amrywia rhifedi yr aelodau yn ystod y 40 mlynedd diweddaf,o 30 i 33. Swm ei chasgliad yn 1863 oedd £15/17/8½ at y weinidogaeth; £3/10/3 at y genhadaeth a £11/5/0 at Yr Athrofa Eto yn 1890 £17/1/10 at y weinidogaeth; £6/0/0 Yr oedd ei chyfraniad at y casgliad ychwanegol at yr Athrofa, a Wnaed yn ddiweddar gan y Parch. R. H. Morgan yn £5.; ac y mae. ei chasgliad blynyddol at y Symudiad Ymosodol oddeutu £1. ar gyfartaledd. Blaenoriaid. Robert Ellis, Hendre du; Humphrey Williams, Cefnbodig; Robert Roberts, Brynmoel; William Williams, Cefnbodig; William Evans, Fedw; John Jones, Cefnbodig; Griffith Evans, Fedw. Pregethwr. John Evans, Philadelphia. Cymerodd tân difaol le yma yn ddiweddar, yr hwn a losgodd y ty capel bron yn llwyr. Llwyddwyd i achub y capel, er fod y ty yn gydiol wrtho. Gan fod y brodyr wedi yswirio yn Nghymdeithas Yswiriol y Cyfundeb, cawsant eu digolledu o’r ffynonell hono. |
|
|
|
|
|
|