PENNOD VII.

EGLWYSI DOSBARTH PENLLYN - PANTGLAS

Math o Fryn Misar yw eglwys Pantglas, un o eglwysi bychain y Cyfarfod Misol. Tre Benmaen y gelwir godreuon Moelemoel, ac fel rhan o gymydogaeth y Bala yr ystyriai John Evans y lle pan yn adrodd am bregeth ddylanwadol Mr. Jenkyn Morgan yn Tynant, Tre Benmaen, gerllaw y Bala. Ni ystyrid hyd y nod y tai uwchaf yn y parth hwn yn rhy bell i ddyfod i’r Bala i’r moddion, yn ol y symud am bellder oedd yn ffynu gynt. Eto byddai hen bobl dda y Bala yn ystyriol iawn o’r rhai yr oedd eu ffordd yn mhell, ac o’r rhai llesg a methedig, yn arfer cynal cyfarfodydd gweddio yn y tai yn amgylchoedd y dref, ac ni anghofid Tre Benmaen. Yn y Tai draw yn y parth hwn fel y cofia y darllenydd, y cynhelid y cyfarfod gweddio hwnw, tua chan mlynedd yn ol, pan y darfu i Richard Owen ar y diwedd gymeryd y cosyn iw law i daenu yr ymenyn arno yn lle y dorth, ac y dyedodd fel esgusawd dros ei drwstaneiddwch, na thâl ein crefydd ni ddim os na fydd hi yn ein dotio ni weithiau. Rhy anhawdd yn awr yw olrhain hanes y cyfarfodydd gweddiau hyn a gynhelid yn yr ardal hon a chyrion ardaloedd eraill yn amgylchoedd Llyn Tegid yn y dyddiau gynt. Dau beth sydd led sicr; un ydyw y deuai y crefyddwyr o’r fro hon i’r Bala bron bob Sabboth, yr oedd gan deuluoedd o Dre Benmaen eisteddleoedd yn nghapel y Bala lai na deugain mlynedd yn ol, a deuent iddynt yn amlach nag unwaith yn y mis; y llall ydyw, y mae moddion mwy neu lai cyson wedi cael eu cynal yma er yn foreu iawn yn hanes Methodistiaeth yn y Sir. Rhoddwn yma, dystiolaeth hynaf gŵr sydd yn awr yn fyw ond dros bedwar ugain mlwydd oed, am sefyllfa crefydd yn yr ardal pan oedd ef yn fachgen. Fel hyn yr ysgrifena Mr. John Hughes, Llanfechain (Brithdir gynt).

Yn Mai y flwyddyn 1827, y daeth fy rhien i ardal Pantglas. Yr oeddwn i y pryd hwnw yn saith mlwydd oed. Yr oedd yno y pryd hyny hen gapel tô brwyn a llawr pridd iddo. Byddent yn rhoi brwyn ar y llawr. Yn y gauaf mi fyddent weithau yn cadw moddion mewn tŷ ffarm o’r enw Gloig. Yr oedd yno hen wraig grefyddol yn byw efo ei mab a’i merch yn nghyfraith. Enw y gŵr (mab yr hen wraig a olyga mae yn debyg) oedd William Williams. Yr wyf yn cofio Dafydd Cadwaladr yn pregethu yno ryw nos Sabboth, a phan oedd yn gweddio yn y dechreu yr oedd dwy ffos o ddagrau yn rhedeg i lawr ei frest. Yr oedd yno hen ŵr o’r enw Llewelyn yn weddiwr hynod iawn; fe fyddai llyn o ddagrau yn y man y byddai ef yn gweddio braidd bob amser. Yr oedd yno ryw Edward Jones yn ymyl y capel, ac Edward Jones y saer hefyd. William Jones y Taidraw oedd y dyn blaenaf yno y pryd hwnw, ond nid oedd yn flaenor. Fe fu yn hir iawn yn gomedd mynd yn ddirwestwr, a bu am dymhor y pryd hwnw na wnai ef ddim yn gyhoeddus. Yr wyf yn meddwl ei fod wedi ei dderbyn yn flaenor wedi i mi fynd o’r ardal. Yn ol tystiolaeth Mr. Hughes, yr un fyddai yn dechreu canu yn y capel tô brwyn ydoedd Mr. Hugh Roberts, Maesyfedw, yr hwn oedd oruchwyliwr Mr. Price, Rhiwlas, ar ei ol ef daeth tad Mr. John Hughes, a thad hefyd i Mr. David Hughes, Llangollen, i arwain gyda’r canu, Rywbryd rhwng 1837 ac 1840 ail-adeiladwyd y capel. Arferai tad a mam Mr. J. Hughes fyned i gapel y Bala cyn y flwyddyn 1827, ond yn y flwyddyn hono symudasant i dŷ yn ymyl y ffarm a elwir Llwynyci, ac felly daethant i le yr oedd capel tô brwyn Tre Benmaen yn fwy cyfleus iddynt addoli ynddo ar adegau cyffredin na chapel mawr y Bala. Cysylltir enw Llwynyci a rhai pregethwyr a blaenoriaid eraill perthynol i’r Cyfundeb. Yr oedd unwaith efail gôf gerllaw Llwynyci, ac ymddengys i’r diweddar Barchedig Samuel Jones, Clawdd newydd yr hwn oedd ôf wrth ei alwedigaeth, fod yn gweithio gwaith gôf yn yr efail hon, Yn Llandrillo yr oedd Mr. Sanuel Jones yn byw yr amser cyntaf y mae Mr. Hughes, yn cofio am dano, ond dywed y gelwid ef weithiau gan drigolion Tre Benmaen yn Sam Llwynyci, a phryd arall yn Sam y gôf.

Un arall o weinidogion y Cyfundeb a gysylltir ar lle hwn yw y diweddar Barch. Richard Isaac, Lime Spring, Talaeth Iowa, yr America, a brawd i Mrs. Roberts, gweddw y dweddar Barch. Owen Roberts Llanfachreth, Bu ei dad ef yn ôf yn y lle hwn ac yn efail Llwynyci y ganwyd Richard Isaac, ac nid yn Gwyddelwern, fel y dywedir yn Nyddiadur y flwyddyn 1893, yn y coffâd am dano. O Gwyddelwern yr ymfudodd i America, yr hyn a barodd iw gyfellnoi yn America dybied mai yno y ganwyd ef, Y mae un o flaenoriaid cyfrifol ein Cyfarfod Misol hefyd, Mr. John Hughes, Brynselwin, yn fab y ffarm a elwir Llwynyci, ac fel un a dreuliodd fore Ei oes yn y gymydogaeth, gall dystio am sefyllfa yr achos yn Pantglas mewn cyfnod diweddarach na'r un y cyfeiria ei gyfenw o Lanfechain ato. Dywed ef mai isel iawn oedd yr achos yn Pantglas cyn i Mr. John Davies, yr Oror wedi hyny, ddyfod i fyw i Dynllwyn yn yr ardal hon. Bu ei ddyfodiad ef yma i fyw oddeutu y flwyddyn 1850, yn fywyd o feirw i’r achos bychan. Meddai ef gyflawnder o yni, ac fe gyhyrchodd fywyd a sêl yn mhlith y bobl ieuanc. Symbylodd yr eglwys i roi galwad fwy ffurfiol i William Jones, Taidraw i flaenori, er mai efe ei hun oedd yn blaenori mewn gwirionedd. Colled fawr gafodd yr achos yn Pantglas trwy ei droad ef allan o Dynllwyn, oherwydd iddo wrthod rhoi ei bleidlais i Geidwadwr yn etholiad 1859.

Tystiolaetha merch Mr. William Jones, Taidraw, iw thad gael ei wneyd yn flaenor yn mhen blwyddyn ar ol marwolaeth merched Dr. Edwards y Bala. Nid yw hi yn cofio pa flwyddyn oedd hi ond dener amser. Yn awr wrth droi i Gofiant Dr. Lewis Edwards gwelir i Sara Maria farw Ionawr 26, 1854, ac i Margaret Jane farw Awst 4, 1854. Yr oedd y ddiweddaf yn ysgrifenu llythyr at ei thad i Lundan, Ebrill 15eg, ac yn dweyd ynddo nad aeth ei mam i’r Cyfarfod Llenyddol yn yr Hall, lle yr oedd T. C. Edwards wedi einll 10/- o wobr, ac E. D. 5/-, ond iddi fyned i Lanycil i weled bedd eu hanwylaf Sara Maria. O fel yr wyf yn teimlo hiraeth ar ei hol. Yn mhellach yn mlaen yn y llythyr dywed: Byddaf yn dair ar ddeg oed yfory os byddaf byw. Ond yn mhen llai na phedwar mis yr oedd hithau wedi myned ar ol ei chwaer i fyd yr ysbrydoedd, a bedd y ddwy chwaer bellach yn Llanycil. Dwfn iawn oedd galar Dr. L. Edwards ar ol y ddwy ferch hyn. Yn nyfnder ei alar ar eu hol y rhoddes olygiaeth y Traethodydd i fyny. ond yn yr adeg brofedigaethus hon byddai yn myned i gadw seiat i Pantglas; ac ymddengys y bu yn myned yno yn lled reolaidd, er nad yn fynych,. am amryw flynyddoedd. Dyma ddywed Mrs. Williams, Oror, merch William Jones, ar hyn :— Yr oedd yr achos yn wan iawn yr amser hono yn Pantglas, byddai (sef ei thad) yn dechreu yr ysgol ac yn ei diweddu, ar seiat yr un modd, ac mi fyddai Dr. Edwards a Robert Roberts o’r Bala yn dyfod ato i gadw seiat unwaith bob pythefnos. neu dair wythnos. Gellid tybied felly i Mr. Jones gael ei wneyd yn flaenor, ys dywed ei ferch, yn y flwyddyn 1855. Hawdd yw credu fod a fyno Mr. John Davies rywbeth a chael Dr. Edwards ar blaenor athrawaidd o’r Bala yma i gadw seiat. Ceir gweled oddiwrth hanes diweddar y Bala, i Mr. Roberts gael ei ddewis yn flaenor yn y Bala yn y flwyddyn 1857. Ymddengys y bu Dr. Edwards yn dyfod yna o bryd i bryd hyd amser y diwygiad yn 1859. Yr wyf yn ei gofio, medd Mrs. Williams, yn rhoi cynghor i’r bobl ieuainc amser y diwygiad yn y flwyddyn 1859, pan y byddent yn cerdded bob nos i’r cyfarfodydd gweddiau. Ei gynghor iddynt oedd, iddynt astudio dipyn ar bynciau sylfaenol crefydd — y deuai hi yn nos ar grefydd eto, na pharhai hi ddim yn Halelwia o hyd. Mi roedd:on dweyd wrthynt am astudio rhywbeth a barhai iddynt wedi i Halelwia y diwygiad ddarfod. Hynod fel y mae llawer yn cofio cynghorion y doethawr o’r Bala, ac onid oedd y cynghor yn werth ei gofio? Pa gynghor gwell allasai roi i eglwysi mwyaf y Cyfundeb? Ymddengys i William Jones, Taidraw, farw yn fuan wedi y dwygiad hwnw, sef yn Rhagfyr, 1860, yn 61 mlwydd oed.

Bu farw William Jones, ac ymadawodd John Davies oddeutu yr un amser, a bu yr achos yn wan iawn am rai blynyddoedd ar ol hyn, ac nid ffafriol yw y cyferbyniad rhwng 1860—1865, ar cofnod rhwng 1855—1860. Yr oedd y cyfnod hwnw, cyfnod blaenoriaeth reolaidd William Jones, cyfnod ymweliadau Dr. Edwards i gadw cyfarfodydd eglwysig, a chyfnod trigiad John Davies yn Tynllwyn, yn gyfnod cydmarol lewyrchus a ffrwythlawn ar yr eglwys fechan hon. Un arwydd o hyny yw y casgliad a wnaeth at Athrofa y Bala yn nyddiau y Parch. Ed. Morgan. Dyma y cyfraniadau :—

 

 

£

s

d

Mr. John Davies

Tynllwyn

5

0

0

Mr. William Evans

Tynant

5

0

0

Mr. William Jones

Taidraw

2

0

0

Miss Elinor Evans

Tynant

2

0

0

Miss Jane Jones,

Tynycoed

1

0

0

Miss Grace Roberts

Maesyfedw

1

0

0

Miss Elinor Roberts

Do

1

0

0

Mr. Owen Roberts

Do

1

0

0

Mr. Cadwaladr Jones

Gloig

1

0

0

Mr. R, Davies

Tydraw isaf

1

0

0

Symiau dan bunt

 

10

16

0

Cyfanswm

 

30

16

0

Ac ni a gawn i’r eglwys hon yn mhen amryw o flynyddoedd ar ol hyn, gyfranu drachefn £7 4s. 6c, at adeiladu yr Athrofa. Ond fel dywedwyd, cyfnod o wendid a gaed ar ol y colledion y crybwyllwyd am danynt i eglwysi hynod o fychain y mae marwolaeth ychydig o aelodau, neu symudiad ychydig o deuluoedd, yn ddyrnod trwm. Bu yr eglwys hon yr adeg yma am rai blynyddoedd heb flaenor rheolaidd iw harwain. Wrth graffu ar y rhestr uchod gwelir mai teuluoedd Tynant a Maesyfedw yw y prif deuluoedd sydd yn aros ar ol yr ysgydwad, a bu y teuluoedd hyn, teulu Tynant yn neillduol, yn nodedig o groesawgar i bregethwyr, ac yn fawr eu gofal am yr achos Ceid yma weinidogaeth Sabbothol gyson — pregeth yn y bore gan y pregethwr yn y daith, a phregeth yr hwyr gan un o’r Myfyrwyr yn achlysurol a gwelwyd cyn hyn un o’r athrawon parchus ar ol cynorthwyo gyda’r Cymundeb, yn y Bala yn y bore, yn myned i Bantglas yn y prydnawn i bregethu.

Tua’r flwyddyn 1863, bu y Parch. Owen Jones, B.A., yn gofalu y arbenig am yr eglwys hon yn ystod ei drigad yn y Bala, cyn iddo ymsefydlu yn Blaenau Ffestiniog. Ac ar ol ei ymadawiad ef, daeth y Parch Evan Peters yn fugail yr eglwys hon yr un modd a Chwmtirmynach, ac ni fu pall ar ffyddlondeb Mr. Peters yn ei ofal am y ddeadell fechan am dros ugain mlynedd. Yn y flwyddyn 1873, dewiswyd Mr. William Evans, Tynant, yn flaenor, wedi bod cyn hyny am amser maith yn cyflawni rhan o waith blaenor. Bu y brawd hwn yn gwasanaethu yr eglwys, wedi y dewisiad rheolaidd arno, am 26 o flynyddoedd, sef hyd ei farwolaeth yn y flwyddyn 1899.

Yn y flwyddyn 1899, daeth y ddeadell dan ofal bugeiliol y Parch Edward Edwards, ac oddeutu diwedd tymhor ei fugeiliaeth ef, sef yn 1898, a nerth Mr. William Evans yn llesgau, dewiswyd y tri brawd canlynol yn flaenoriaid, Mri. John Owen, Tynllwyn; David Thomas Tynant, a David Jones, Taidraw. Y mae y blaenaf a enwyd wedi symud eisoes i ardal Cefnddwysarn. Yn 1900, ymgymerodd y Parch. E. G. Jones a bugeiliaeth yr eglwys., yn nghyd a Chwmtirmynach.

Rhifyr aelodau yn 1868 oedd 27. Eu rhif yn awr ydyw 39. Nid mewn capel a thô brwyn iddo, a brwyn yn daenedig ar ei lawr pridd, yr addolir yma yn awr, ond mewn ail gapel sydd gryn lawer yn well, eto y mae yn mryd y brodyr er nad yw eu nifer ond ychydig gael addoldy mwy teilwng. A phwy a all eu beio? Pe gadewid ef fel y mae, byddai yn enghraifft ddigon tarawiadol o amryw o gapelau Dwyrain Meirionydd dri ugain mlynedd yn ol, ond gormod yw disgwyl i’r frawdoliaeth yn Pantglas foddloni iw tabernacl fod yn ddrych i oesoedd dyfodol o fywyd yr anialwch. Y mae Moelemoel fel yn disgwyl i amgenach teml gael ei Hadeiladu wrth ei godreu. Yn y dyddiau diweddaf y dywedir y bydd mynydd tŷ yr Arglwydd wedi ei barotoi yn mhen y mynyddoedd. Wrth edrych yn mlaen ar ddechreu canrif, gyda hyder dywedwn, Bydd dyrnaid o ŷd ar y ddaear yn mhen y mynyddoedd: ei ffrwyth a ysgwyd fel Libanus, a phobl y ddinas a flodeuant fel gwellt y ddaear.

Y blaenoriaid yma o’r dechreu ydynt,—William Jones, Taidraw;. William Evans, Tynant; John Owen, Tynllwyn, David Thomas, Tynant; David Jones, Taidraw.

hafan Llyfrau Fyny Diwethaf Nesaf