Sefyllfa Foesol a Chrefyddol y rhan hon o Gymru cyn dyfodiad Methodistiaeth.
|
UN o dadau Methodistiaid Sir Feirionydd, ac un a dreuliodd oes faith o fewn terfynau Dwyrain Meirionydd, yw y tyst egluraf sydd genym or hyn oedd cyflwr y rhan hon or wlad gant a haner o flynyddoedd yn ol, sef yr Hybarch Mr. John Evans o’r Bala. Cawn dystiolaeth i’r un perwyl am y rhan hon a rhanau eraill o Gymru gan amryw eraill, megis Mr. Robert Jones, Rhoslan; Mr. Lewis Morris, Mr. Lewis Williams, Llanfachreth, a lliaws eraill, ond yr hynaf o honynt oll, ac nid gormod yw dweyd yr enwocaf o honynt oll, oedd John Evans y Bala. Adlais, i raddau, o’i eiriau ef yw yr hyn a geir gan y lleill a enwyd, a chan awdwr parchedig Methodistiaeth Cymru. A chan mai yn naear Dwyrain Meirionydd y mae llwch y sant hwn yn gorphwys, teg yw i ni roi ei dystiolaeth i lawr yn y fan yma ar y pwnc hwn, er ei bod wedi ei rhoi i lawr lawer gwaith or blaen mewn rhyw gysylltiad neu gilydd. Trwy feddylgarwch Mr. Charles, caed y dystiolaeth eglur hon o enau John Evans pan oedd yn agos i bedwar ugain oed, eto ddwy flynedd ar bymtheg cyn ei farwolaeth, a chyn iw gyneddfau mewn un modd fyned yn wywedig. Cofnodwyd ei eiriau yn ofalus gan Mr. Charles, a chawsant ymddangos yn y rhifyn cyntaf o’r Drysorfa Ysbrydol a gyhoeddwyd Ebrill, 1799. Dyma y dystiolaeth :— Scrutator (sef Mr. Charles): Dydd da i chwi, fy hen gyfaill. Eisteddwch. Beth yw eich oedran? Senex (sef Mr John Evans): Yr wyf yn tynu at bedwar ugain. Scrutator: Pa bryd y daethoch gyntaf i’r parthau hyn ? Senex: Mi a ddaethuni yma yn y flwyddyn 1742. Scrutator: Y mae cryn gyfnewidiad o ran crefydd a moesau iw weled yma, wrth gofio agwedd y wlad y pryd hyny, onid oes? Senex: O ryfedd son oes goeliaf fi, gyfnewidiad mawr iawn. Scrutator: Llawer o anwybodaeth ac afreolaeth oedd yr amser hwnw, tebygol, ac or hyn y mae gormod hyd heddyw, ysywaeth. Senex: Ië, yr oedd tywyllwch mawr yn y wlad. Beiblau oeddynt dra anaml; ychydig iawn o’r bobl gyffredin a fedrent air ar lyfr, ac arferion y wlad oeddynt dra llygredig ac anfoesol. Yr oedd bonedd a gwreng, gwy^r llên a gwy^r lley^g yn o gyffelyb iw gilydd! Y rhan fwyaf yn byw yn anghymedrol, yn ddibarch i orch¬ymynion sanctaidd Duw; ac yn dra esgeulus o’i addoliad. Glyth¬neb, meddwdod, ac anlladrwydd, oeddynt fel ffrydiau llifeiriol wedi gorchuddio y wlad. Ac nid oedd yr athrawiaeth ar addysgiadau Yn y llanau, yn gyffredin, ond yn dywyll a dirym iawn i wrthsefyll a diwygiaw oddiwrth y pechodau gwaeddfawr hyn. Nid oedd ynddynt nemawr o son am drueni gwreiddiol dyn, am ffydd yn Nghrist er cyfiawnhad pechadur, nac adnewyddiad gan yr Ysbryd Glan. - Mewn atebiad i gwestiwn arall yn gofyn iddo fynegi iddo rywfaint o’u dull a’u harferion, dywed Senex: Yr oedd y bobl gyffredin yn fwy am fyned i’r llanau y bore Sabboth nag oedd y boneddigion; ond brydnawniau Sabbothau rhedeg y byddent hwythau at eu chwareuyddiaethau. Nid oedd odid Sul brydnawn na byddai y peth a elwid chwaryddfa gampau yn rhyw fan yn y wlad. Yn y rhain y byddai gwyr ieuainc yn dangos eu grymusder, a llawer iawn o bobl y cymydogaethau yn dyfod i edrych arnynt. Ar nos Sadyrnau, yn enwedig yn yr haf, y byddai ieuenctyd, meibion a merched, yn cadw y pethau a elwid Nosweithiau Canu, ac yn difyru eu hunain wrth ganu efo y delyn a’r ddawns hyd doriad y wawr ddydd Sabboth. Yn y dref yma (Bala,) hwy fyddent ar brydnawniau Sabbothau yn canu ac yn dawnsio yn y tafarndai, yn chwareu tennis ar yr Hall, yn hobian, &c. Yn mhob cwr or dref byddai rhyw chwareuyddiaeth yn myned yn mlaen tra y parhai goleu dydd Sul. Yn yr haf, byddai Interludiau yn cael eu chwareu ar fwrdd yr Hall ar brydnawniau Sabbothau, a boneddigion a chyffredin yn cyd-ymddifyru yn y modd hwn i halogi dydd yr Arglwydd. Yr oedd hefyd finteioedd or rhai a elwid Y Bobl Gerdded yn dyfod i’r dref yma ar amserau; crwydriaid oedd y rhain, yn tramwy y wlad i gardota, os nad pethau gwaeth na hyny. Yr oeddynt o fucheddau llygredig ac anifeilaidd, yn ormes ar y wlad, ac yn gywilydd i’r swyddogion am eu goddef. Dyma beth o ddull ein gwlad o ran ei moesau yn y flwyddyn 1742, ac y rhawg wedi hyny. Am wir grefydd a duwioldeb, os wrth y ffrwythau yr adwaenir hwynt, nid oedd yma nemawr or hyn lleiaf i’m golwg i. Cyn sylwi yn fanylach ar gynwys y dystiolaeth, gellir sylwi ar y dull neillduol o gymedrol a diduedd yn yr hwn y rhoddir hi. Hynafgwr pwyllog, hynod o gywir ei farn ar bethau yn gyffredinol, ac un na ddangosodd erioed yn ei oes faith duedd at ysbryd dadleu-gar, sydd yn rhoddi y dystiolaeth, ac amlwg yw fod ei chywirdeb uwchlaw amheuaeth yn meddwl Mr. Charles, yr hwn oedd ei hunan yn ŵr coeth a llednais, hynod am ei bwyll, ei fwyneidd-dra brawdol, ai ysbryd di-ragfarn. Ceir yn y geiriau a ddyfynwyd dystiolaeth hynod o bendant o’r ddau beth, —1: Fod tywyllwch, difaterwch, ac anfoesoldeb dybryd yn ffynu yn y rhan hon or wlad fel mewn rhanau eraill o Gymru, yn y ddeunawfed ganrif, yn enwedig yn y rhan gyntaf o honi. 2: Mai eiddil ac aneffeithiol iawn oedd yr ymdrechion a wneid i ymlid y tywyllwch ac i wrthweithio y llygredigaethau hyd nes y caed y Diwygiad a roes gychwyn i Fethodistiaeth a meithriniad i eglwysi Ymneillduol Cymru. Y mae awdwr parchedig Methodistiaeth Cymru yn galw sylw at dystiolaeth Mr. John Evans, ac yn ychwanegu tystiolaethau lawer a gafwyd gan eraill nad oeddynt yn gallu myned mor bell yn ol, hwyrach, a’r hynafgwr o’r Bala, ond oeddynt mor gredadwy; ac am eu bod yn byw mewn rhanau gwahanol o’r wlad, y mae eu tystiolaethau yn profi fod y wlad yn gyffredinol yn debyg i’r hyn oedd y Bala ar amgylchoedd. Tuedd ysgrifenwyr eglwysig yr oes hon, a rhai perthynol i enwadau Ymneillduol, yw dweyd fod y Diwygwyr Methodistaidd wedi tynu darlun rhy dywyll a phruddaidd o agwedd anfoesol ac anghrefyddol Cymru cyn y Diwygid y cawsant hwy law yn ei ddygiad oddiamgylch. Amharod yw rhai Eglwyswyr i gydnabod fod y chwareuyddiaethau oeddynt mewn bri mor dra niweidiol i grefydd a moesau y wlad ag yr honir eu bod, ac nid yw pawb o haneswyr yr enwadau hyny sydd yn gallu olrhain eu tarddiad i’r hen Anghydffurfwyr yn barod i addef fod yr Eglwysi Anghydffurfiol mor ychydig o rifedi ac mor amddifad o nerth ysbrydol ag y dywedir eu bod gan rai or Diwygwyr Methodistaidd. Gyda’r amcan o gael allan yn eglurach wir sefyllfa y wlad ar y pryd yr ydym yn cyfeirio ato yn awr, ac hefyd er mwyn amddiffyn geirwiredd a chywirdeb y rhai hyny or Tadau a roddasant eu tystiolaeth am yr hyn a welsant yn eu dydd, y mae awdwyr Y Tadau Methodistaidd, yn y benod gyntaf o’r llyfr tra rhagorol hwnw, yn gwneyd sylwadau gwerthfawr y cymerwn ganiatad i’w dyfynu yn y fan hon. Cynwysiad y benod y cyfeiriwn ati yw Sefyllfa foesol Prydain yn isel adeg cyfodiad Methodistiaeth— cyflwr Cymru o angenrheidrwydd yn gyffelyb. 0 dan y penawd yna, eir yn mlaen i ddweyd :— Y mae yn amheus a fu crefydd ysbrydol erioed yn îs yn Mhrydain er pan y pregethwyd yr efengyl gyntaf yn yr ynys, nag adeg dechreuad Methodistiaeth. Yr oedd y Puritaniaid gyda’u bywyd a’u harferion personol a theuluaidd dy-syml, eu gwrthnaws at bob rhodres, gwag ymddangosiad a balchder, eu difrifwch angerddol a’u cydnabyddiaeth eang â Gair yr Arglwydd wedi eu rhifo i’r bedd, ac ar eu hol cyfodasai oes arall hollol wahanol o ran ysbryd, arferion, a moes, yr hon oedd wedi ymroddi i bob math o chwareu, a phob math o lygredigaeth. Gellir olrhain y cyfnewidiad mewn rhan i wrth-weithiad naturiol yn erbyn yr ysbryd Puritanaidd, yr hwn oedd o bosibl yn rhy lym; mewn rhan i ddylanwad llygredig Llys Siarl yr Ail, yn yr hwn y gwawdid rhinwedd a phob math o ddifrifwch; ond yn benaf i lygredigaeth y galon ddynol, yr hon sydd yn unig yn ddrygionus bob amser. Nid oedd prinder dynion galluog yr adeg hon, ond nid yw talent bob amser yn esgor ar ddaioni. Wedi hyny, dyfynir yr hyn a ddywedwyd yn y North British Review am 1847 :— Ni wawriodd canrif erioed ar Loegr Gristionogol mor amddifad o enaid ac o ffydd a’r hon a gychwynodd gyda theyrnasiad y Frenhines Ann, ac a gyrhaeddodd ei chanolddydd dan Sioryr Ail (1702—1760.) Athronydd yr oes oedd Bolingbroke, ei haddysgydd mewn moesoldeb oedd Addison, ei phrydydd oedd Pope, ai phregethwr oedd Atterbury. Gwisgai y byd olwg segur anniddig, tranoeth dydd gwyl gwallgof. Cadarnheir y desgrifiad gan y rhai oedd yn byw ar y pryd. Dywed Esgob Lichfleld, Yn 1724, mewn pregeth o flaen y Gymdeithas er diwygio moesau: Dydd yr Arglwydd yn awr yw dydd marchnad y diafol. Ymroddir i fwy o anlladrwydd, i fwy o feddwdod, ac i fwy o gynhenau; cyflawnir mwy o fwrdradau a mwy o bechod ar y dydd hwn nag ar holl ddyddiau eraill yr wythnos. Y mae diodydd cryfion wedi dyfod yn haint yn y ddinas. Y mae mwy o bobl yn marw or gwahanol glefydau a gynyrchir gan ymarferiad cyson o frandy a gwin nag sydd o bob afiechyd arall o ba natur bynag. Cyfiawnheir anfoesoldeb oddiar egwyddor. Ca llyfrau aflan farchnad mor dda fel ag i gefnogi y fasnach o’u cyhoeddi. Nid oes un pechod nad yw wedi ffeindio ysgrifenydd i’w ddysgu a’i amddiffyn, a llyfrwerthwr a phedlar i’w daenu ar led. Yn Llundain yr oedd un tŷ o bob chwech yn wirottŷ. Ar eu sign-boards addawai y tafarnwyr y gwnaent ddyn yn feddw am geiniog, ac y ffeindient wellt iddo i orwedd arno nes y byddai wedi ad-feddianu ei synwyrau. Afradedd oedd trefn y dydd. Nid oedd un teulu o bob deg yn ymgais at dalu eu ffordd. Bob nos, goleuid y gerddi cyhoeddus â llusernau dirif, lle yr ymgynullai, wedi ymwisgo mewn sidan a phorphor, a chyda mwgwd ar eu hwynebau, ladron, oferwyr, hap-chwareuwyr a phuteiniaid yn gymysg â chyfoethogion a phendefigion o’r safle uchaf, a lle y carient yn mlaen ymddiddanion anniwair, ac y sibrydid athrod celwyddog. Rhaid oedd cael arian, ac nid oedd wahaniaeth yn y byd pa fodd y ceid hwynt. Dywed y Weekly Miscellany am fod y bobl wedi ymgladdu mewn pleser, fod ymgais at fyw yn dduwiol yn cael edrych arno mor hynod a phe yr ai dyn i’r heol wedi ymwisgo yn nillad ei daid, a bod clybiau anffyddol wedi eu ffurfio gyda’r amcan addefedig o wneyd y bobl yn genedl aflan. O’r diwedd, dychrynodd yr awdurdodau gwladol oblegid y llygredigaethau a’r anfoesoldeb. Apwyntiwyd Pwyllgor gan Dŷ’r Arglwyddi, i chwilio i mewn i achosion yr anfoesoldeb ar halogedigaeth rhemp presenol. Yn 1744 darfu i Uchel-reithwyr Middlesex gyflwyno y cwyn canlynol i’r Barnwr yn y Frawdlys: Fod y bobl yn cael eu llithio i foethusrwydd, afradedd, a segurdod; trwy hyn, fod teuluoedd yn cael eu dinystrio, ar deyrnas yn cael ei di-anrhydeddu, ac oni fyddai i rhyw awdurdod roddi terfyn ar y fath fywyd afradlon, eu bod yn ofni yr arweiniai i ddinystr y genedl. Mewn gwirionedd, yr oedd anwiredd yn prysur ddatod seiliau cymdeithas; wedi taflu rhinwedd a chrefydd dros y bwrdd, nid oedd gan y bobl nerth i ddim; bygythiai eu blysiau droi yn feddau iddynt. Am glerigwyr yr Eglwys Sefydledig, yr oedd llu mawr o honynt yn arwain bywyd anfucheddol iawn. Gallent herio y cryfaf yn yr ardal am gryfder i yfed cwrw a gwirod; a medrent ymgystadlu a neb pwy bynag yn y gadair hirnos gauaf mewn adrodd ystoriau gogleisiol ac anweddaidd. Dywed Esgob Burnet, yn y flwyddyn 1713, fod y nifer fwyaf o’r rhai a ddeuent i’w hordeinio mor anwybodus, fel na allai neb gael syniad am faint eu hanwybodaeth ond y rhai y gorfodid hwy i wybod am dano. Ychydig, neu ddim gwell oedd pethau yn mysg yr Ymneillduwyr. Yr oedd difrawder cyffredinol ac oerni gauafaidd wedi ymdaenu dros eu cynulleidfaoedd, a chrefydd ysbrydol yn nodedig o isel yn eu plith, a llawer o’u gweinidogion yn esgeulus ac yn arwain bucheddau anfoesol. — Y Tadau Methodistaidd, Cyf 1., tud. 1— 3. Dywed awdwyr y Tadau Methodistaidd eu bod hwy wedi ymhelaethu ar sefyllfa crefydd a moesoldeb yn Lloegr, am fod yr unrhyw achosion i raddau ar waith yn Nghyinru. Sylwa y Parch. John Hughes, awdwr Methodistiaeth Cymru, mewn un man, fod yn fantais i breswylwyr y Dywysogaeth, ar ryw dymhorau, fod eu gwlad yn anghysbell ac anhygyrch, ond yn anfantais ar dymhorau eraill. Gwell oedd arnynt ar adegau o erledigaeth grefyddol, neu o derfysgoedd gwladol, gan y diangent o leiaf rhag blaen y gawod; ond gwaeth oedd arnynt pan fyddai gwybodaeth yn cynyddu, a manteision crefyddol yn amlhau, gan mor ychydig oedd iddynt hwy o ran na chyfran ynddynt. Yr oeddynt fel pobl Lais gynt, yn bobl lonydd a diofal, wedi eu neillduo gan eu hiaith a gerwinder eu gwlad oddiwrth y gweddill o’r deyrnas. Ac os mwynhaent, ar y cyfrifon hyn, fwy o heddwch fel cwr bychan o’r deyrnas, prin yn deilwng o sylw, dyoddefent oblegid hyny mewn ystyriaethau eraill. Mwy oedd eu heddwch, maen wir, ond mwy hefyd oedd eu hanwybodaeth. Nid oedd na llenyddiaeth na masnach y pryd hyny wedi cyffroi y Cymry o’u cwsg. Nid oedd ond ychydig iawn o lyfrau yn eu hiaith. Yr oedd medru darllen yn ris mor uchel, nad oedd ond nifer fechan iawn wedi ei chyrhaedd. Cyn dyddiau Mr. George a Stephen Hughes, yr oedd y Beiblau mor anaml a’r llanau, a’r rhai a’u darllenent ymron yn anamlach na hyny. Dan y fath amgylchiadau, nid rhyfedd ydoedd fod y genedl yn gyffredinol wedi disgyn i ddyfnderoedd ofergoeledd, a’i bod wedi ei gorchuddio â chaddug o anwybodaeth, ac fod arferion y genedl yn cydweddu ag ansawdd dywyll yr oes. — (Methodistiaeth Cymru, Cyf I., tudalen 45.) Cyfeiria Mr. Huglies, yn y sylwadau uchod, at yr holl gyfnod or Diwygiad Protestanaidd hyd y Diwygiad Methodistaidd. Creda Mr. Hughes, er yr hyn oll a ddywedodd yn yr adran a ddyfynwyd, na chafodd cenedl y Cymry un amser ei llyncu i fyny mor llwyr i ynfydrwydd anfad Pabyddiaeth a’u cymydogion y Saeson. Fe ddichon fod y dybiaeth yna yn wir, ond y mae yn wir hefyd na chafodd Cymru deimlo cymaint o ddeffroad nerthol y Diwygiad Protestanaidd, ac o rym ysbrydol y cyfnod Puritanaidd, ag a brofodd Lloegr ac Ysgotland. Cawsom y Beibl i’n hiaith yn nyddiau y Frenhines Elizabeth, eto nid oedd nifer y pregethwyr grymus yn lliosog y pryd hwnw. Ond y mae yn ddiameu fod yr ysbryd chwareu anfoesol ar halogi Sabboth cyhoeddus, a ddaeth i arferiad dan Siarl yr Ail, wedi cyrhaedd Cymru, ac wedi treiddio i bob ardal bron, nes eu lefenno ag ysgafnder halogedig ac amddifadrwydd o bob difrifwch crefyddol. Y mae gan y gair Twmpath y deuir ar ei draws yn hanes aml i ardal yn Nwyrain Meirionydd, ei chwedl iw hadrodd. Cyd-dystia ar hyn ddywedid gan yr hen bobl, am y modd anystyriol y treulid y Sabbothau yn ein gwiad yn ystod y ddeunawfed ganrif. Nid cyn dechreu y ganrif ddiweddaf y rhodd-wyd pen ar lawer o lygredigaethau cyhoeddus yn mhlwyfydd Sir Feirionydd. Heblaw fod yr anwybodaeth ar ofergoeledd yn fawr, ar llygredigaeth yn ysgeler, yr oedd rhyw ysbryd chwerw a gelynol iawn mewn rhyw nifer at y rhai a rybuddient y bobl, ac a geisient eu diwygio. Tra y dymunem gadw mewn cof, mai gwlad y bu Cristionogaeth yn ei lefeinio ac yn dyrchafu ei gwareiddiad am ganrifoedd lawer yw ein gwlad ni, a’i bod yn y cyflwr iselaf y bu ynddo yn yr oesoedd diweddaf hyn yn dra gwahanol i wlad baganaidd, eto ni a gawn olwg, yn agwedd y wlad yn yr amser yr ydym yn son am dano yn awr, ar yr hyn sydd iw ddisgwyl pan a yr eglwys yn gysglyd a difater, ac ysbryd y byd yn ei llywodraethu, ac nid Ysbryd Crist. Onid yw yn hynod fod bron holl offeiriaid yr Eglwys Wladol yn teimlo mwy dros unffurfiaeth arwynebol yr eglwys nag a deimlent o eiddigedd dros egwyddorion mawrion gwirionedd a sancteiddrwydd? Ac onid yw yn syndod fod cymaint o fân ynadon ac ysweiniaid Cymru yn dangos y fath elyniaeth at y gweinidog neu y crefyddwr difrifol pan y ceid ef, ac na allent oddef y rhai a godent eu llef yn erbyn llygredigaeth ac anfoesoldeb y wlad? Yr ydym i gofio fod gelyniaeth calon dyn at sancteiddrwydd yn gryf bob amser, ac i gofio fod addysg yn brin iawn yn y wlad, a bod llawer or offeiriaid ar uchelwyr yn anllythrenog. Ac er nad oedd y gagendor rhwng Cymru dawel a Lloegr annuwiol ac anffyddol mor lydan fel nad oedd y trigolion yn ymgymysgu llawer a’u gilydd, yn enwedig yr uchelwyr, nid oedd crefydd yn manteisio nemawr ar hyny. Pan yr oedd yr ysgolion yn ychydig yn Nghymru, ac ambell un o’r teuluoedd uwchaf yn myned i’r ysgol i Loegr, deuai y rhai hyny yn ol wedi ymlygru a llyncu syniadau anffyddol y lleoedd y buont ynddynt. Dall i bob rhinwedd, parod i erlid pob daioni, oedd llawer o uchelwyr Cymru. |
|
|
|
|
|
|