Y wawr yn tori, ar Sir Feirionydd.
|
YR oedd y Diwygiad mawr Methodistaidd wedi dechreu yn Nghymru ac yn Lloegr er ys amryw flynyddoedd cyn sefydliad yr eglwys Fethodistaidd reolaidd gyntaf yn Sir Feirionydd, a buddiol fyddai rhoi un benod fer i ddesgrifio y goleuni yn dechreu ymdaenu ar ol aros cyhyd gyda’r tywyllwch a orchuddiai y wlad. Yr oedd y clwb sanctaidd, bywyd ac enaid yr hwn oedd John Wesley, wedi ei ffurfio yn Rhydychain yn y flwyddyn 1729, bymtheng mlynedd cyn ffurfiad yr eglwys gyntaf berthynol i ni yn Nwyrain Meirionydd. Ond nid gwreichionen o’r tân hwnw a enynodd yn mynwesau y Diwygwyr Cymreig, ac ni ellir cysylltu tân Rhydychain a thân Trefecca ond ar y tir fod awyrgylch ysbrydol Lloegr a Chymru yn dechrcu cynesu. Yr oedd un o aelodau y clwb sanctaidd yn frodor o Gymru, sef John Gambold, yr hwn a anwyd yn Puncheston, Swydd Benfro, Ebrill 10, 1711, ond gadawodd ef gymundeb Eglwys Loegr yn 1742, ac ymunodd â’r Morafiaid. Nid amcanwn roi hanes y gymdeithas fechan ond grymus ei dylanwad hon. Ceir crynhodad o hanes rhai o’i haelodau pwysicaf yn Y Tadau Methodistaidd Cyf I. Anesgusodol modd bynag fyddai peidio crybwyll am y Parch. Griffith Jones, Llanddowror, er na allwn ei hawlio ef fel Diwygiwr Methodistaidd. Yr oedd yn seren foreu y diwygiad crefyddol nerthol yn Nghymru, er mai o fewn yr Eglwys y perthynai iddi y profwyd ei ddylanwad yn benaf. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1684, yn mhlwyf Cilrhedyn, ar derfynau Siroedd Penfro a Chaerfyrddin, a bu farw yn nhŷ Madam Bevan, ar yr 8fed o Ebrill, 1761, yn 78 mlwydd oed, wedi cydoesi am chwarter canrif â’r rhai hynaf o’r Diwygwyr Methodistaidd. Y mae dau beth yn ei gysylltu yn uniongyrchol a’r Diwygiad. Un ydyw, yr ysgolion a sefydlodd, y rhai fuont o fendith ddirfawr i’r genedl. Y llall ydyw, y ffaith mai dan ei weinidogaeth ef y deffrowyd y Parch. Daniel Rowlands, Llangeitho, pan yr oedd yn pregethu yn Eglwys Llanddewibrefi. A gellir ychwanegu fod undeb ysbryd rhagorol rhwng y gŵr duwiol hwn a goreuon y Methodistiaid. Nid oedd yr esgobion yn cydymdeimlo o gwbl â’r ysgolion, er na feiddient eu gwarafun yn hollol. Yr oedd y ffaith fod yr ysgolion yn rhai Cymreig ac nid Seisnig, yn peri fod yr esgobion yn oer tuag atynt, ac hwyrach nad oedd y ffaith fod aml un o’r athrawon yn gweithio gydar Diwygiad yn cynyddu eu hoffder o honynt. Ysgolfeistr dan y Parch. G. Jones yn ardaloedd y Bala oedd Mr. Jenkin Morgan, y cawn achlysur eto i goffau yn helaethach amdano. Ni fydd hanes Methodistiaeth un sir yn gyflawn heb ryw amlinelliad byr o hanes y ddau ddiwygiwr enwog Harris a Rowlands. Ganwyd Daniel Rowlands yn 1713, a bu farw yn 1790. Ganwyd Howell Harris yn 1714, a bu farw yn 1773. Yn mhen ychydig o flynyddoedd ar eu hol, ganwyd Williams, Pant y Celyn, sef yn y flwyddyn 1717, a bu farw Ion. 11, 1791, yn mhen ychydig fisoedd ar ol Daniel Rowlands, ac yn yr ychydig fisoedd hyny cyfansoddodd ei Farwnad odidog i’r enwocaf o’r Diwygwyr. Yr oedd y Parch. Howell Davies oddeutu yr un oed a Williams. Nid oes sicrwydd perffaith pa un ai Rowlands ai Harris dorodd allan gyntaf i lafurio fel Diwygwyr, ond y mae sicrwydd i’r ddau gyfarfod yn Eglwys Defynog yn y flwyddyn 1737 ac i Williams a Howell Davies ddyfod allan yn mhen ryw dair blynedd ar eu holau. Felly, yr oedd y ddau benaf o’r Diwygwyr ar y maes wyth mlynedd cyn sefydlu eglwys reolaidd yn Sir Feirionydd berthynol i’r Methodistiaid. Dyma yr wyth mlynedd cyntaf y Diwygiad y gwnaed cymaint o waith ynddynt, ac am bump o’r wyth yna yr oedd y pedwar gŵr grymus a enwyd yn llafurio yn egniol a llwyddianus. Yr oedd tair blynedd o’r wyth mlynedd nodedig hyn wedi myned heibio cyn i draed Rowlands a Harris sangu daear Sir Feirionydd. Mewn ysgrif yn y Traethodydd am lonawr, 1900, dengys Mr. Richard Bennett, Llanbrynmair, i Mr. Howell Harris ymweled a Sir Drefaldwyn fwy nag unwaith cyn diwedd y flwyddyn 1738. Seílir hyny ar (i) lythyr oddiwrth Henry a Jane Thomas, o ger Llanidloes, dyddiedig Rhag. 23, 1735, at Mr. Howell Harris, yn dymuno cael gwybod pa bryd y deuai efe y ffordd hono drachefn, a chynwysa gyfeiriad at amgylchiad a gymerodd le yn Mochdre y tro diweddaf y bu yn y wlad. (2) Ar lythyr Mr. Howell Harris at y Parch. George Whitfield, a ysgrifenwyd yn Rhagfyr 1738, ond a ddaeth i law Whitfield y Sul cyntaf o Ionawr, 1739, ar ol crwydro am dair wythnos. (3) Ar ddyfyniadau o Ddyddlyfr Mr. Howell Harris, yn dangos iddo gychwyn o Drefecca, Awst 19, a chyrhaedd Llanidloes ddydd Mawrth, Awst 22, 1738. Ond os golygir pen uchaf Sir Drefaldwyn fel yn perthyn i’r Deheubarth, y mae yr hyn a ysgrifenwyd cyn gweled hyn am ei ymweliad cyntaf â’r Gogledd yn aros yn gywir. Os mynir ei wneyd yn fwy llythyrenol gywir, cymerer ef i olygu ei ymweliad cyntaf â Sir Feirionydd. Nid oes dim wedi ei gael allan eto wrth chwilio y Dyddlyfr sydd yn galw am newid dyddiad ei ymweliad cyntaf â Llanuwchllyn ar Bala. Ond yn nechreu y flwyddyn 1740, y mae Howell Harris yn ymweled am y tro cyntaf a Gogledd Cymru, ac yn pregethu yn Llanuwchllyn ar Bala. (Trysorfa Ysbrydol, Cyf. I., tudalen 35.) Priodol yw ystyried yr amgylchiad hwn yn gychwyniad Methodistiaeth yn Ngogledd Cymru, oherwydd ystyrid cymdeithasau pen uchaf Sir Drefaldwyn y pryd hwnw yn perthyn i’r Deheubarth yn fwy nag i’r Gogledd, ac yn ddiamheuol, dyma gychwyniad Methodistiaeth Sir Feirionydd. Er y dywed John Evans mai oddeutu y flwyddyn 1739 y cymerodd hyn le, ac y dywed y Parch. John Hughes, (Methodistiaeth Cymru, Cyf. I., tudalen 97) fod dyddlyfr Howell Harris yn cytuno a hyn, eto dengys awdwyr Y Tadau Methodistaidd, (Y Tadau Methodistaidd, Cyf. I., tudalen 97 )mai camgymeriad yw hyny wedi codi o arferiad Howell Harris ar y pryd o ddilyn yr hen galendar, ac ysgrifenu yr hen flwyddyn ar flwyddyn newydd ar y llythyrau a ysgrifenai yn ystod wythnosau cyntaf y flwyddyn. Felly y ceir yn y llythyr cyntaf a ysgrifenodd o Lanfairmuallt, ar y daith hon i’r Gogledd: Builth, Feb. 1, 1739—40. Daeth i’r Gogledd y tro hwn ar wahoddiad y Parch. Lewis Rees, gweinidog yr Ymneillduwyr yn Llanbrynmair. Gan fod Sir Feirionydd yn gystal a Sir Drefaldwyn, wedi derbyn budd ysbrydol mawr trwy lafur y gŵr duwiol hwn, teg yw rhoi ychydig eiriau o goffâd am dano ef yn gystal ag am Jenkyn Morgan, cyn rhoi hanes llawnach am ymweliad Howell Harris. Ganwyd Mr. Lewis Rees yn Glynllwydrew, Cwm Nedd, Sir Forganwg, yn y flwyddyn 1710, felly, yr oedd ychydig yn hynach na Rowlands a Harris. Yr oedd ei rieni yn aelodau yn yr Eglwys Ymneillduol yn Blaengwrach. Bu dan addysg yn Ysgol Ramadegol Abertawe, ac ar ol hyny gyda y Parch. Vavasor Griffith, yn Sir Faesyfed. Yn ol anogaeth y Parch. Edmund Jones, Pontypool, yr hwn, ar ol taith a wnaethai trwy Ogledd Cymru, a deimlai oherwydd ei chyflwr gresynol, ymsefydlodd yn Llanbrynmair i ofalu am y ddeadell fechan yno. Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1734, chwe blynedd cyn taith cyntaf Howell Harris i Feirionydd, a blwyddyn cyn iddo ddechreu ar ei waith yn Sir Frycheiniog a Sir Faesyfed. Yr oedd cyflwr ysbrydol Gogledd Cymru yn dra gresynus yr adeg hono. Ymroddai Mr. Rees i bregethu yn y manau y rhoddid derbyniad iddo; elai i Bwllheli mor aml ag y gallai, a deuai i’r Bala unwaith yn y chwarter. Daeth i wybod am y deffroad yn y Deheubarth yn fuan wedi iddo ddechreu, a soniai am dano yn ei ymweliadau pregethwrol, yr hwn a grëai awydd yn mhobl Meirion ac Arfon am gael clywed Howell Harris. Teithiodd y ffordd faith ac anhygyrch o Lanbrynmair i Lanuwchllyn ar Bala trwy hin ystormus yn aml, ac heb gymeryd ei ddychrynu gan erlidwyr Dinas a Llanymawddwy, gydag amcan i wir lesoli trigolion Penllyn. Yn ol tystiolaeth John Evans, yn gystal ar hyn sydd hysbys am dano o ffynonellau eraill, yr oedd wedi ei gynysgaethu a doniau helaeth, yn enwedig mewn gweddi. Ar ryw dro pan ydoedd yn y Bala, medd J. E., digwyddodd fod Meiric Dafydd, o’r Weirglodd Gilfach yn nghwm Cynllwyd, yn gwrando arno. Cafodd y bregeth effaith arno, a bu daer arno ddyfod iw dŷ yntau, i Weirglodd Gilfach, i bregethu. Addawodd fyned, a chyflawnodd ei addewid, a dyma yr odfa nodedig y mae yr hanes am dani yn lled hysbys, pan yr oedd y merched yn parhau i wau eu hosanau, nes i weddi Mr. Lewis Rees beri iddynt ollwng eu hosanau o’u dwylaw. Dywed Mr. John Evans, yn bendant, mai ar ol yr odfa hono yn y Weirglodd Gilfach, yr aeth Mr. Rees i’r Deheudir ac y llwyddodd i gael gan Howell Harris ymweled a’r Gogledd. Yn ychwanegol at holl lafur beadithiol Mr. Lewis Rees ei hunan yn y weinidogaeth, yr oedd ei waith yn croesi y mynyddoedd i gyrchu Howell Harris i’r ardaloedd hyn, yn un o weithredoedd penaf ei oes. Yr oedd hyn ynddo ei hun yn un arwydd o angerddoldeb ei awydd am achubiaeth trigolion Gwynedd. Mynych y ceir peth cyffelyb yn hanes gweinidogion enwog. Cyfarfyddodd Mr. Ebenezer Morris, pan ar ei daith yn Sir Fôn, â Mr. John Elias, yr hwn ar unwaith a deimlodd ei fod wedi cyfarfod a phregethwr digyffelyb, ac nid oedd boddloni arno heb iddo addaw cyhoeddiad trwy siroedd y Deheudir. Yn Nolgellau, yn y flwyddyn 1822, y clywodd Mr. John Elias, Mr. Henry Rees, am y tro cyntaf ac ni foddlonai yntau heb i Fôn gael clywed Henry Rees. Cwynai cyfeillion crefyddol yn Mhwllheli eu bod yn isel a digalon, nad oedd yn mron neb o newydd yn dyfod atynt, a bod y gwrandawyr yn lieihau. Yn lle cymeryd hyna fel condemniad ar aneffeithiolrwydd ei weinidogaeth ef a ddeuai atynt mor aml ag y gallai, atebai Lewis Rees mewn ysbryd anhunangar: Na lwfrhewch yn ormodol, ac nac ymollyngwch, y mae y wawr nefol yn dechreu tori gyda ni yn y Deheudir. Y mae acw ryw ddyn hynod iawn wedi codi yn ddiweddar, o’r enw Howell Harris, yr hwn sydd yn myned oddiamgylch i’r trefydd a’r pentrefydd — y prifffyrdd a’r caeau, ac fel ôg fawr y mae yn rhwygo y ffordd yr elo. O, meddant hwythau, na chaem ni ef yma i’n plith ni. Fe allai y daw ef ebe yntau, a’i gormod yw tybied fod ambell un yn Llanuwchllyn a’r Bala o’r un dymuniad a phobl Pwllheli? Bron na roem ein gair dros Meiric Dafydd, ei fod ef yn cymhell Lewis Rees i geisio cael y dyn hynod hwn i Llanuwchllyn. Ond nid oedd raid wrth gymhelliadau lawer oddi allan i Lewis Rees wneyd hyn. Dywed John Evans i Mr. Rees, ar ol odfa’r Weirglodd Gilfach fyned i’r Deheudir. Yno yn rhywle y cyfarfu a Mr. Howell Harris, ac ni orphwysodd Harris, ar ol clywed hanes Gwynedd o enau Mr. Rees nes dyfod i Llanuwchllyn. (Trysorfa Ysbrydol, Cyf. I. tudalen 32) Dywedir yn Y Tadau Methodistaida iddo fyned dros y mynyddoedd cribog o Lanbrynmair yn un swydd i’w gyrchu. (Y Tadau Methodistaidd, Cyf. I. tudalen 97)
Ac nid gŵr o enwogrwydd dihafal Howel Harris oedd yr unig un a ganmolai Lewis Rees. Yn yr ymddiddan ar brodyr yn Mhwllheli dywedodd yn mhellach wrthynt. Y mae dyn hefyd gerllawy Bala, a elwir Jenkin Morgan, yn cadw yr ysgol rad dan y Parch Griffith Jones, yr hwn sydd yn arfer cynghori yn ddeffrous a llwyddianus iawn. A oes modd cael hwnw i’n plith, neu i’n glwad? meddent hwythau. Tan aden Eglwys Loegr y mae ef a’r ysgol, atebai Lewis Rees; ond pe gallech gael rhyw ŵr cyfrifol yn eich ardal yn caru crefydd, heb gymeryd arno yr enw o Ymneillduwr, fe allai y llwyddai hwnw gyda’r person i wneyd derbyniad o’r ysgol i’r llan. Trwy weithredu ar yr awgrym hwn cafwyd Jenkin Morgan o Benllyn i Leŷn, oherwydd, yn mhen rhyw gymaint o amser ar ol hyn, dywedir i ŵr o’r enw Francis Evans gymeryd ei daith i’r Bala, a llwyddodd i gael yr ysgolfeistr gydag ef adref. Er nad oedd y gŵr da hwn yn Fethodist yn ystyr allanol y gair, y mae yn un tra theilwng o goffàd fel un a fu yn digaregu y ffordd i Fethodistiaeth Sir Feirionydd. Nid oes llawer o’i hanes ar gael, ond y mae yr ychydig sydd ar gael yn haeddu cael ei gadw heb fyned ar ddifancoll. Dywed Mr. John Evans, (Trysorfa Ysbrydol, tudalen 33) mai gŵr o Sir Gaerfyrddin ydoedd, wedi ei anfon gan y gweinidog enwog hwnw, Mr. Griffith Jones, i gadw ysgol rad yn y wlad hon. Dywedir yn Hanes Eglwysi Anuibynwyr Cymru ei fod cyn ei ddyfodiad i’r Gogledd yn aelod yn Watford, ac iddo bregethu llawer o fan i fan yn y Gogledd, nes yr urddwyd ef yn Rhosymeirch, lle y llafuriodd am ugain mlynedd. Ond amlwg yw oddiwrth eiriau Mr. Lewis Rees, nad oedd yn udganu ei Ymneillduaeth pan yn cynal ei ysgol yn y llan. Bu yn cadw ysgol mewn amryw leoedd yn amgylchoedd y Bala, cyn dyfodiad Harris am y waith gyntaf i’r dref megys yn Nhre Rhiwaedog. Ac yr oedd yn feistr yr ysgol rad yn. Llanuwchllyn ar adeg ail ymweliad Howell Harris a’r fro, ac yn gyfranog yn yr amiharch a dderbyniodd y Diwygiwr enwog yr adeg hono. Tystiolaeth Mr. John Evans am dano yw — “Mr. Jenkin Morgan hefyd a fu yn dra defnyddiol yn y parthau hyn, yn yr amseroedd tywyll hyny. Byddai y gŵr hwn yn myned i dyau yn y gymydogaeth i bregethu. Ar un noswaith yn enwedigol bu i arddeliad tra neillduol ganlyn ei lafur ai weinidogaeth. Un o’r odfaon mwyaf hynod a glywais am dani erioed oedd hon: ac yn Tynynant, yn Nhre Benmaen, ger llaw y Bala, y cafodd ei chadw.” Perthyna hanes yr odfa hynod hon yn fwy i hanes ymdrechion yr Hen Ymneillduwyr yn y Bala nag i weithrediadau y Methodistiaid. Y mae bron yn sicr ei bod wedi cymeryd lle cyn dyfodiad John Evans i’r dref ac mai clywed am dani wnaeth ef,* oherwydd yr oedd Jenkin Morgan wedi symud i Sir Gaernarfon, yn ol pob tebyg cyn dyfodiad John Evans o Adwy’r Clawdd i’r Bala. Os ydyw yr hyn a ddywedir yn y Geiniogwerth, yn 1849. yn gywir, yn 1741 y cynlialiwyd yr odfa hon, ar ol ail ymweliad Howell Harris a’r Bala, ond Cyn dyfodiad John Evans i’r dref. Ond daeth amryw o’r rhai a argyhoeddwyd yn odfa Tynant yn flaenffrwyth Methodistiaid Penllyn ar ol hyny. Mi a adwaenwn, medd J. E., bump o’r bobl hyn a gawsant eu galw yn yr odfa hon, y rhai a barhasant yn syml a sylweddol yn eu proffes grefyddol hyd ddydd eu marwolaeth. Pa mor eiddil bynag oedd hen Eglwys Annibynol y Bala, yn ystod deugain mlynedd cyntaf y ddeunawfed ganrif, a pha mor araf bynag y dichon iw chynydd fod, hyd yn nod yn ystod triugain mlynedd olaf y ganrif hono, y mae Yimeillduaeth Sir Feirionydd, ac yn enwedig Dwyrain Meirionydd, yn ddyledus i iafur, sêl, a hunanymwadiad y ddau ŵr rhagorol hyn, Lewis Rees a Jenkin Morgan, ac i ffyddlondeb y rhai hyny llai adnabyddus, a gynaliasant eu breichiau, ac a agorasant eu tai iddynt yn moreu y Diwygiad Methodistaidd. Yr hyn a roddodd gychwyniad i Fethodistiaeth yn briodol yn y sir hon oedd ymweliadau y Diwygiwr nerthol o Drefecca, ac y mae pwysigrwydd ei ymweliadau cyntaf yn cyfiawnhau i ni roi i mewn rai o’r gwahanol adroddiadau am yr ymweliadau hyn, er iddynt fod yn feithion, ac yn cynwys i raddau ailadroddiadau mewn gwahanol agweddau o’r un amgylchiadau. Yr ydym wedi cyfeirio eisoes at y cywiriad a wnaed gan awdwyr Y Taadu Methodistaidd ar amseriad yr ymweliad cyntaf, nid oes amheuaeth bellach nad yn Chwefror, 1740, yr ymwelodd gyntaf âr rhan hon o Gymru. Caiff adroddiad syml a chynwysfawr John Evans yn y Drysorfa Ysbrydol, y flaenoriaeth genym. Adroddodd Mr. Rees iddo pa ddull tywyll a phaganaidd oedd ar drigolion yr ardaloedd hyn, ac wedi clywed yr hanes, ni orphwysodd Mr. Harris nes dyfod i Lanuwchllyn. Un o feibion tanllyd y daran oedd efe, a hynod mewn gwresogrwydd a gwroldeb ysbryd. Pan ddaeth, nid ymdrodd ond ychydig heb wneuthur dyben ei ddyfodiad yn hysbys i’r pentref a’r gymydogaeth. Pan ddaethant yn nghyd, traethodd ei neges iddynt oddiar ben clawdd wrth y tŷ y disgynasai efe ynddo. Dyma y bregeth gyntaf a bregethwyd gan neb o’r Methodistiaid yn Sir Feirionydd. Cafodd rhyw nifer bychan eu galw, dan y bregeth hon, i fod fel ysgub gwhwfan gwlad Penllyn. O Lanuwchllyn, daeth Mr. Harris i’r Bala; safodd wrth dalcen yr Hall, a chafodd lonyddwch y tro hwn i bregethu yma. Dyma y bregeth gyntaf a bregethwyd gan Fethodist yn y Bala. Y mae yr adroddiad gan y Parch. J. Hughes yn Methodistiaeth Cymru, yn ymddangos wedi ei gymeryd air am air o’r Drysofa Ysbrydol, ac felly, yr un fath a’r hwn a roddasom yn awr. Ond yn y Geiniogwerth am 1849, ceir ysgrif ar Ddechreuad Methodistiaeth yn y Bala, yn proffesu bod yn gopi o hen lyfr yn llawysgrifen John Evans, yn cynwys rhai manylion nad ydynt yn y Drysorfa Ysbrydol. Dyma baragraph cyntaf yr ysgrif: “Yn y flwyddyn 1740, rywbryd yn mis Mawrth, yn amser y rhew mawr, y daeth Mr. Howell Harris yn gyntaf i Lanuwchllyn i bregethu, ac a safodd i fyny wrth gefn tŷ un Ellis Owen yn y llan, lle yr oedd cynulleidfa fawr wedi dyfod i wrando amo. Y dydd nesaf, efe a aeth i waered i dref y Bala, a safodd i fyny i bregethu wrth dalcen y Tŷ Marchnad (neu yr Hall), a chynullodd llawer o bobl y dref ar wlad i wrando arno. Bu pawb yn llonydd tra y parhaodd i bregethu, a serchog a charedig wedi ei ddarfod, a chafodd ddychwel y tro hwn iw wlad ei hun mewn heddwch. Dyma yr amser cyntaf y pregethwyd gan neb o’r Methodistiaid yn Llanuwchllyn na’r Bala, nac un man arall yn Sir Feirionydd. Mae lle i feddwl i Dduw arddel hyn o ddechreuad; mae rhai yn fyw yn awr sydd yn cyfrif amser eu troedigaeth oddiwrth y pryd hyn. Ond er cael yr adroddiadau cryno yna, teimla y darllenydd ond odid ddyddordeb mewn adroddiad wedi ei gymeryd o ddyddlyfr Mr. Harris ei hun, yn cynwys gyda’i hanes agwedd ei feddwl yn y daith hon. Ceir adroddiad felly yn Y Tadau Methodistaidd, rhanau detholedig o ba un a roddwn yma yn ychwanegol. Ymddengys iddo fod mewn pryder cyn cychwyn, pa un a’i i Sir Feirionydd a’i i Sir Benfro yr ai yr adeg hono, ac y mae yn debyg mai cymhellion cryfion Mr. Lewis Rees o’u cofio a benderfynodd y ddadl yn ei feddwl. Y mae yn cychwyn yn llawn o ysbryd y gwaith. Cawn ef yn Llanfairmuallt, Chwef. 1, wedi cychwyn ar y daith am Ogledd Cymru; yn Rhaiadr, Chwef. 3 yn Cwmtyddwr, Chwef. 4, mewn gwyl lle y mentrodd y diafol ar ei dir ei hun, ac y cafodd ddiwrnod gogoneddus. Mewn lle o’r enw Llanybister, bedair milldir o Raiadr, ar y 5ed, y mae yn ysgrifenu llythyr, yn yr hwn y cyfeiria at y nerth a brofodd yn Cwmtyddwr y diwrnod cynt, ac iddo ddyfod oddiyno i le a elwir Lodge Llandinam. Llandinam, mae yn ymddangos, gafodd y fraint o wrando pregeth gyntaf Mr. Howell Harris yn y Gogledd. Fel hyn y dywedir yn y Tadau Methodistaidd, ond sylwer yma ar yr hyn a geir yn y Nodiad, tudalen 31, yn cynwys yr hyn a ddywed Mr. Richard Bennett, Llanbrynmair, yn y Traethodydd, am ymweliadau o’i eiddo â rhanau o Sir Drcfaldwyn ddwy flynedd yn gynt. Galluogwyd ef i lefaru gyda nerth yn Llandinam. Ar nos Sadwrn, y 9fed O Chwefror, 1740, y mae yn cyrhaedd Llanbrynmair. Yr oedd Mr. Lewis Rees wedi myned iw gyfarfod, y mae yn ymddangos, i Landinam, oherwydd fel hyn yr ysgrifena y nos Sadwrn hwn: Dydd Gwener, cyfarfyddais â Mr. Lewis Rees, ac ni chefais yn ystod fy holl deithiau y fath nerth ag a ges neithiwr wrth lefaru i tua mil o bobl yn Llan—. Gallech glywed calonau yn ymddryllio. Yr oeddwn ymron a chael fy nghario allan o honof fy hunan. O gogoneddwch Dduw drosof. Yr wyf yn myned ddydd Llun nesaf i Sir Feirionydd. Druan o Wynedd, y maent yn byw yma fel anifeiliaid heb wybod dim. Bernir ei fod ar un o ddyddiau neu nosweithiau yr wythnos hon, cyn cyrhaedd Llanbrynmair, wedi pregethu yn Llanidloes, ac yn Nhrefeglwys, ac mai dyma y pryd yr argyhoeddwyd Lewis Evans, Llanllugan, yn y lle olaf a enwyd. Gan ei fod yn ysgrifenu yn Llanbrynmair nos Sadwrn, y mae yn sicr iddo dreulio y Sabboth dilynol a phregethu yno, er na cheir cyfeiriad neillduol at yr odfa yn ei ysgrfeniadau ef ei hun; ond y mae traddodiad yn yr ardal, yr hwn a geir wedi ei gofnodi yn Methodistiaeth Cymru, iddo bregethu o flaen y Wynnstay Arms, ac enwir pedwar gŵr â argyhoeddwyd yn yr odfa (Gwel Methodistiaeth Cymru, Cyf I., Tudal. 98.) Diwrnod cyffrous iddo oedd dydd Llun, oherwydd cymerwyd ef i fyny gan ustus heddwch yn mhlwyf Cemaes, ar y cyhuddiad o droseddu deddf y tŷ cwrdd (Convenlicle Act,) ond boddlonwyd ar gymeryd ei enw ef ac enwau y rhai oedd gydag ef, heb eu hanfon mewn llyffetheiriau i Drefaldwyn. AR DDYDD MAWRTH, CHWEF. I 2, 1740, ysgrifena o SIR FEIRIONYDD i adrodd yr helynt y bu ynddi yn Cemaes: Llanwodd yr Arglwydd fi â gwroldeb, meddai, ni chefais fy ngadael. Llawer o ddagrau a gollwyd gan y gynulleidfa, ac yr oedd nifer wedi arfaethu dod gyda mi i Drefaldwyn pe buasai raid. Dychwelais gyda rhai dwsinau oeddynt wedi dyfod gyda mi i’r lle, o ba un y cawsom fy nghymeryd, a lleferais wrthynt am sefyll yn nydd yr ystorm. Cychwynais tuar lle hwn, taith o tua deuddeng milldir, a lleferais ddwywaith ar y ffordd. Wedi teithio encyd, disgynais ac aethum i fwthyn bychan ar ochr y ffordd, lle yr ysgrifenais hwn. Gwelais yno, mewn hen wraig, gariad at Air Duw, ac at Ei Fab, a mawr uniondeb meddwl a gofal tyner. Teimlais fy nghalon yn cynesu at yr hen wraig —dywedodd y daw Duw yn nes atom ninau os awn ni yn nes ato ef. Yr oedd yn ddiolchgar iawn, yr oedd yn gweled ei hun yn bechod i gyd, ac yr oedd ganddi gariad cryf at Grist. Yr oedd yn fwy o ddiddanwch i mi gael bod yn ei thŷ na phe buaswn mewn palas. Bwyteais ychydig fara ceirch tew caled a chaws, ac yna aethum yn fy mlaen ar y ffordd tua thŷ Meuric Dafydd, Gweirglodd Gilfach. Yn ardal Mawddwy yn rhywle yr oedd y bwthyn y preswyliai y wraig dduwiol hon, yn nhŷ yr hon y dechreuodd ysgrifenu y llythyr a orphenwyd ganddo yr ochr yma i Fwlch y Groes, ac yr oedd ganddo i ddyfod trwy Lanymawddwy cyn cyrhaedd cwmwd Penllyn. Buasai yn ddigon dymunol fod Morgan, gryf o gorph, brawd Meiric Dafydd wedi myned iw gyfarfod i’r lle hwn; megis y byddai yn myned i hebrwng Lewis Rees, fel y gwelwn oddiwrth eiriau nesaf Mr. Howell Harris. “Pan yr oeddwn yn myned o’r bwthyn hwn tua Llanymowddwy, gwawdiwyd fi; rhedai plant ac eraill ar fy ol, gan waeddi Down with the Rumps. Pan aethum yn agos at yr eglwys daeth tyrfa o bobl mewn oed a bechgyn at eu gilydd, pan welsanit fi yn dod, gwaeddasant Down with the Rumps, a chasglasant y cŵn at eu gilydd iw hysio arnaf. Cyfarfyddodd yma a dynes dra gwahanol i hen wraig y bwthyn y cafodd fara ceirch tew a chaws ganddi. Galwent hi yn wraig foneddig, meddai, ond y mae yn amlwg mai y llall oedd y wraig foneddig yn ol ei farn ef. Pa fodd bynag, y mae yn dyfod i Lanuwchllyn y prydnawn hwn, tref fechan ar lan Llyn y Bala. Nid yw yn dweyd iddo droi i dŷ Meiric Dafydd ar ei ffordd. Cyrhaeddodd y Llan, tua phump, ar newynu, a chur yn ei ben. Gallwn feddwl iddo fod yn hwy heb cyrhaedd nag y disgwylid, oherwydd dywed: Arhosais yma; yr oedd cynulleidfa fawr iawn wedi ymgyliull, ond wedi mynd ymaith. Siaredais hyd chwech, wrth rai canoedd, am droedigaeth St. Paul. Cefais gymorth yma i efengylu gyda grym, ac yr oedd llawer yn wylo. Ar ol awr o seibiant, yn yr hon y cymerodd luniaeth, y mae yn dechreu llefaru drachefn wrth y bobl, tua wyth o’r gloch. Agorwyd drws i mi—tŷ tafarn oedd y ty — i ddarllen ac esbonio y 12fed benod o’r Rhufeiniaid, i ganu, ac i weddio. Bore dranoethy mae yn deffro yn fore, ac yn codi am wyth, ac yn pregethu i rai canoedd o bobl o naw hyd ddeg. Ni fu yn brin o hau yr hâd yn yr amser byr y bu yn Llanuwchllyn. Ond ar ol ysgrifenu tan haner dydd y mae yn cychwyn tuar Bala, ac yn cyrhaedd yno cyn dau o’r gloch. Pregethodd yno ar y stryt, ar gyfer neuadd y dref; ac yr oedd yn pregethu yno, meddai, fel pregethu uwchben ceiliogod yn ymladd. Ei destyn oedd Luc XIX. 12, — Dameg y punoedd. Cefais awdurdod i siarad wrthynt am eu pechodau, meddai. Bu ar ei ben ei hun hyd bump, pan y dechreuodd bregethu yr ail waith, ac y parhaodd hyd chwech. Dywedodd wrthynt yn y bregeth hon hanes ei droedigaeth ei hun. Nid yw yn arfer iaith gref am yr hwyl ar dylanwad oedd iw bregethau yn y Bala y tro hwn. Ei eiriau ydynt, Cefais felusder, a nerth i fod yn ffyddlon. Teimlai, yn enwedig yn nechreu y bregeth gyntaf, nad oedd yn cael fawr o awdurdod ar ei wrandawyr. Tra yr oeddwn yn siarad, yr oedd llawer yn chwerthin ar eu gilydd, a gollyngwyd ergyd o ŵn yn fy ymyl, ond y mae yn gallu dweyd er hyny. Gwrandawodd llawer, a wylodd eraill. Ei brofiad ar derfyn ei bregeth gyntaf yn y Bala, y prydnawn dydd Mercher nodedig hwnw, Chwef. 13eg, 1740, yw: Y mae arnaf ofn na wnaed llawer o ddaioni yma, ond cefais nerth i fod yn ffyddlon, ac nid annhebyg yw ei brofiad ar ddiwedd yr ail bregeth. Rhyfedd yw meddwl na lettyodd ef ddim y noswaith hono yn nhref y Bala. Yr oedd yn Llanuwchllyn tuag wyth o’r gloch, a#i wyneb tua Threfecca drachefn, ac yn myned iw wely yn Talardd, yn ymyl capel presenol Cynllwyd, tua haner nos. Tŷ Owen Ellis, a Thalardd, oedd y lleoedd y bu yn llettya ynddynt. Y mae yn codi cyn saith bore ddydd Iau, ac wedi bwyta a gweddio gyda’r teulu, y mae cyn wyth o’r gloch yn cychwyn am Fachynlleth, un filldir ar bymtheg o ffordd, a hyny heb fod o gwbl yn nhŷ Meiric Dafydd, gallem feddwl. Ond diau fod Meiric Dafydd yn ofalus o hono, ac yn cael tai mwy cyfleus nai dŷ neillduedig ei hun i’r Diwygiwr enwog lettya ynddynt. Y mae Howell Harris yn gadael Talardd, ac yn croesi Bwlch y Groes, dan weddio yn daer ar i’r Arglwydd drugarhau wrth Ogledd Cymru. Yn 1741, y mae yn ymweled drachefn a Gogledd Cymru. Daeth y tro hwn ar wahoddiad Robert Griffith o Bryn Foyno, yr hwn a’i taer gymhellai oblegid i laweroedd gael eu hargyhoeddi trwyddo pan fu yn flaenorol yn Llanuwchllyn. Dengys hyn iddo fod yn fwy llwyddianus nag y tybiai iddo fod ar ei daith gyntaf. Cyn manylu ar y daith hon, buddiol yw coffâu fod Mr. John Evans yn crybwyll am ymweliad o eiddo Howell Harris yn 1740, pan na chafodd gystal llonydd ar tro cyntaf, ac y dywedir i un Charles Evans o’r White Lion ddangos awydd iw dynu ef i lawr o’r lle y safai arno i bregethu, ac i eraill o dymherau mwy gweddaidd ei atal rhag gwneuthur felly. Ond nid yw dyddlyfr Howell Harris yn cadarnhau yr hyn a ddywed John Evans am yr ymweliad honedig hwnn yn hytrach, dengys y dyddlyfr iddo dreulio llawer o’r flwyddyn 1740, ar ol dychwelyd o Ogledd Cymru, yn Sir Benfro, yn llafurio gyda nerth a llwyddiant mawr. Crybwyllir hefyd am ymweliad o eiddo y Parch. D. Rowlands â Llanuwchllyn yn niwedd 1740, pan y llwyddodd person y plwyf cyfagos, Llangower, sef Mr. Rowland Lloyd, iw rwystro i bregethu yn yr eglwys yno. Ond y mae sicrwydd i’r Diwygiwr o Drefecca ymweled â’r Gogledd yn nechreu 1741, ac y mae yn dra thebyg mai hwn ddylai gael ei ystyried ei Ail Ymweliad â Sir Feirionydd. Dyma fel y dywedir yn yr ysgrif a gyhoeddwyd yn y Geiniogwerth (1849): Yn mis Ionawr, yn y flwyddyn 1741, ar nos Lun, y 19eg o’r mis, y daeth Howell Harris i blwyf Llanuwchllyn, ac a bregethodd yn Nantydeiliau. Bore ddydd Mawrth yr 20fed, daeth i’r Bala ar fedr pregethu. A dyma y tro y cafodd yr anmharch mwyaf yn ei holl fywyd, medd John Evans, er ei fod yn fynych mewn anmharch ac enbydrwydd mawr. Yr oedd yma amryw yn y wlad ar dref wedi cael gradd o sobrwydd meddwl. wrth ei wrando o’r blaen, a hwy a ddaethant at eu gilydd i dŷ gwraig weddw oedd yn byw tua chanol y dref, gan ddisgwyl cael ei wrando y tro hwn. Yn y cyfamser, yr oedd byddin llosog o wrthwynebwyr yn cael ei pharotoi. Yr oedd person y plwyf wedi anfon i anog y plwyfolion i ddyfod i’r Bala i amddiffyn yr Eglwys! Felly, nifer lliosog o honynt a’r person o’u blaen fel arweinydd, a ddaethant i mewn i’r dref. Yna y person fel pen y gâd, a lefodd yn groch am i bawb o’r dref ag oedd yn caru yr Eglwys ddyfod allan i’w hamddiffyn. Ar hyn cododd llawer o drigolion y dref i chwanegu y fyddin. Y person wedi hyn, a arweiniodd y llu yn gyntaf at dŷ tafarn; rhoddwyd baril o gwrw ar y gareg farch . bawb yfed a fynent iw cymhwyso at yr ymosod. Ar ol yfed yn dra helaeth, ymddiosgodd amryw o honynt at eu crysau, a daethant fel hyn a’u pastynffyn yn eu dwylaw a gwedd arswydus arnynt,. at y tŷ lle yr oedd y bobl wedi ymgynull i wrando y gŵr yn pregethu. Dynoethi y weithred yn ei hagrwch ysgeler oedd amcan Mr. Charles yn y Drysorfa Ysbrydol ac yn yr agosrwydd cydmarol hwnw o ran amser at y digwyddiad gwaradwyddus, y mae yn ymatal rhag rhoi enwau y rhai oedd yn blaenori. Ond yr oedd J. E. wedi rhoi i lawr mewn ysgrifen enwau y rhai a bleidient y Diwygiwr ar rhai ai herlidient, ac y mae can mlynedd ychwanegol o amser yn peri nad yw hyd yn nod parch i berthynasau yr erlidwyr creulawn yn galw am i ni gelu eu henwau. Os mynir gwybod enw y wraig weddw yr oedd Harris a’i wrandawyr sychedig am ei weinidogaeth, ceir yn y Geiniogwerth mai ei henw oedd Catherine Edwards, mai mam John Moses ydoedd, ac fod ei thŷ ar gyfer y t^ mawr a elwir y Bull. O’r tu arall, enw y person a hynododd ei hun cymaint oedd un Mr. Robert Jones, yr hwn oedd y pryd hyn yn person plwyf Llanycil, a brawd iddo, a elwid Andrew Jones, oedd wedi ei gynorthwyo i gael llawer o wŷr y plwyf yn nghyd. Y dafarn yr aethant i yfed iddi ar ol cyrhaedd y dref oedd yr un a elwid yr Eagles, ac a elwir yn awr Plas Coch. Yn ol yr hanes yn y Drysorfa Ysbrydol daeth y dyrfa oedd wedi ymlenwi â diod gref at y tŷ pan oedd Harris yn darllen ei destyn, Act. IX. 4, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid i ? ac felly y dywedir yn yr ysgrif yn y Geiniogwerth. Ond yn Y Tadau Melhodistaidd, Cyf I., Tudal. 113 dywedir i Harris ddechreu llefaru ar yr heol, ac mai dyna yr adeg y llefodd yr offeiriad yn groch ar i’r rhai a garent yr Eglwys ddyfod iw hamddiffyn. Yn ngwyneb y cyffro ar yr heol, barnwyd mai ofer ceisio parhau yr odfa ar yr heol, awd i dŷ preifat yn nghanol y dref. Ni chafodd ymadroddi ond ychydig yn y tŷ. Torwyd y ffenestri yn gandryll, daeth rhai o’r terfysgwyr i mewn, gan ruo fel bwystfilod. Meddianai gweinidog Crist ei enaid mewn amynedd, ond er tewi ni chaffai lonydd. Yr oedd y terfysgwyr wedi penderfynu ei gael allan. Dringodd rhai i’r tô gan fygwth tynu y tŷ i lawr; ymwthiai eraill i mewn trwy y ffenestri drylliedig. Allan y bu raid iddo ef a rhai o’i wrandawyr fyned, fel defaid i safnau cŵn. Yr oedd yn nifer ei wrandawyr amryw wŷr cryfion yn ymroddi i sefyll o’i ddeutu iw achub a’i amddiffyn hyd y gallent. Yn mhlith y rhai hyn, enwir John Moses a John Roberts o Dyddyn y Felin; ond er grymused oeddynt, ni allasant achub nemawr arno rhag y dorf fileinig hon. Yr oedd y meibion ar merched mor greulawn ar lleill; y merched yn ei drybaeddu â thom yr heol, ar meibion a’u dyrnau a’u pastynau yn ei guro yn ofnadwy. Torasant amryw archollion ar ei ben, ac yr oedd ei waed yn lliwio ceryg yr heol. Dilynwyd ef allan o’r dref tua’r llyn; bu dan draed yr erlidwyr am beth amser, a thybiodd yn sicr y collai ei fywyd. Llusgwyd ef o gwmpas wrth napcyn ei wddf, a buasai wedi ei dagu oni bai i’r napcyn ddyfod yn rhydd. Mewn modd bron yn wyrthiol y diangodd o’u dwylaw. Yr oedd Mr. Jenkin Morgan, meistr yr ysgol rad yn Llanuwchllyn, gyda Mr. Harris, ac yn gyfranog o’r amharch. Ar ffordd Llanycil, wrth ochr y llyn, tynwyd y gŵr hwn oddiar ei geffyl, glynodd ei droed yn yr wrthafl, hwythau a yrasant y ceffyl, ac yntau yn llusgo wrtho felly. Amcanasant yru y ceffyl ac yntau dros dorlan uchel i lawr tua’r llyn, ond Mr. Lewis Davies o Benybont a Mr. George Griffiths, curad Llanycil, a’u hataliasant. Wedi i’r terfysgwyr wasgar, ymgasglodd y disgyblion yn nghysgod y tywyllwch i’r llety, lle y buont yn ceisio meddyginiaethu clwyfau eu gilydd. Cynghorai Harris ei gydddioddefwyr i lynu wrth y Gwaredwr, ac i lawenhau oblegid eu cyfrif yn deilwng i ddioddef drosto. Yr oedd ef ei hun yn llawn penderfyniad hefyd. Ei ddywediad ar y pryd oedd: Dyma y gwaed cyntaf a gollais dros Grist, er i mi gael fy mygwth yn fynych. Yr hyn a’i gofidiai oedd iddo gymeryd ei berswadio i beidio pregethu. Nid oes hysbysrwydd pa fodd y treuliodd y tridiau nesaf, a fu iddo fyned i Lanuwchllyn ai ynte aros yn y Bala a wnaeth, ni wyddom. Y mae yn hysbys iddo fyned ymlaen i Bwllheli a chyrhaedd yno nos Sadwrn, pan na wyddai neb pwy ydoedd. Yn ystod y ddau ymweliad hyn, fe osodwyd i lawr sylfaen y ffurf Fethodistaidd ar grefydd yn y Bala ar amgylchoedd. Prin yw yr hysbysrwydd am y modd yr aed yn mlaen am y pedair blynedd nesaf. Yn mhen ychydig o wythnosau ar ol ymadawiad Howell Harris yr ail dro, yn ngwanwyn 1741, yrydym yn cael fod gwarant wedi ei chodi, a John Hugh, constabl y Bala, yn dal John Moses a’i fam Catherine Edwards am gynwys Mr. Harris iw tŷ; danwyd hefyd Robert Griffith Siencyn a David Stephen, dau ŵr o blwyf Llanuwchhyn, am wrando arno; rhwymwyd y rhai hyn i ateb y Chwarter Sessiwn y Pasg canlynol. Gorfu ar Catherine Edwards dalu ugain swllt am dderbyn Mr. Harris iw thŷ, ar tri wŷr eraill bum swllt bob un am wrando arno. Haedda coffadwriaeth Catherine Edwards le parchus yn ein meddwl. Bu y dref am rai blynyddau wedi yr erledigaeth ar Mr. Harris heb bregethu gan y Methodistiaid ynddi; eto, byddai y rhai a gawsent flas ar y gair yn ymgynull yn fynych i dŷ un Edward William ab Edward y Gwehydd yn agos i’r Eagles (sef y Plas Coch) i ddarllen, canu a gweddio, ac am hyny yr oeddynt yn cael llawer o amharch ac erlid. Daeth Mr. John Evans i’r dref yn 1742, yn mhen tua blwyddyn wedi y camdrin fu ar Mr. Howell Harris, ac yn nhŷ Edward Williams y Gwehydd, y lletyai. Rhoddir gair uchel iawn i Edward Williams y Gwehydd, gan Mr John Evans, fei gŵr nodedig o dduwiol, un a gynhaliai addoliad teuluaidd gyda chysondeb, ac a deithiai filldiroedd i glywed gair Duw yn cael ei bregethu. Byddai yn myned i’r Weirglodd Gilfach i wrando Lewis Rees, a llwyddodd i berswadio John Evans i ddyfod yno gydag ef un tro o leiaf. Rhoddir ar ddeall y byddai ambell i bregeth iw chael yn achlysurol yn y Bala weithiau gan un o weinidogion yr Ymneillduwyr, neu gan rai o’r Methodistiaid, ond cyfarfodydd darllen a gweddio a geid yma yn benaf, y rhai a fynychid gau y rhai oedd wedi eu deffroi gan weinidogaeth Harris, Jenkin Morgan, neu Lewis Rees, ac aelodau blaenorol hen eglwys fechan yr Ymneillduwyr. Addefa John Evans iw ragfarn at y Methodistiaid gael ei ladd yr adeg hon yn gystal ag iw barch i’r hen Ynineillduwyr fyned ar gynydd. Cyn iddo ddyfod i broffesu Crist, yr oedd y cyfarfodydd gweddiau hyn wedi effeithio yn ddwys arno. Am y pregethu a fu yn y pedair blynedd rhwng 1741 a 1745, y mae tystiolaeth J. E. yn lled bendant. Mewn atebiad i’r cwestiwn, Pa fodd y bu yma am bregethwyr wedi curfa echryslawn Mr. H. Harris? ceir ganddo: Bu dros rai blynyddoedd heb agos neb o’r Methodistiaid yn dyfod. . Yn yr ysgrif yn y Geiniogwerth y cyfeiriwyd ati o'r blaen fwy nag unwaith, ceir y ddau baragraph byr ond cynwysfawr a ganlyn :— Byddai ar brydiau yr amser yma ac ar ol hyn rai gweinidogion Ymneillduol yn dyfod i Weirglodd Gilfach a Nant y Deiliau, yn mhlwyf Llanuwchllyn, a phan y byddai pregethwr yn y manau hyny, â’i pobl y dref i’w wrandaw, a dyma fel y bu arnynt hyd y flwvddyn 1744. Yn y gauaf y flwyddyn hon, daeth un William Richard Lloyd, gŵr o Sir Aberteifi, i’r Bala i bregethu. Am fod gwrthwynebrwydd pobl y dref gymaint, byddai raid fod y bregeth cyn dydd, onide ni cheid llonyddwch. Yn y flwyddyn hon daeth Lewis Evan o Lanllugan hefyd i bregethu. Yr oedd yntau hefyd yn gorfod pregethu cyn dydd oherwydd yr erlid mawr, a mynych y cynhahwyd y cyfarfodydd yn y Cyttir, sef y Bryniau Goleu. , Ond os oedd y rhai a ddeffrowyd bron a chael eu llethu gan y gorthrymder, a nifer y pregethwyr a ymwelai â hwy yn ychydig iawn o nifer, yr ydm yn gofio fod y pedair blynedd hyn yn gyfnod o weithgarwch mawr yn y Deheubarth —yn adeg pan y sefydlwyd Cymdeithasfa, yn yr hon yr amcenid at gael cynghorwyr o gymhwysder, ac yr amcenid gosod yr holl Gymdeithasau dan arolygiaeth bugeihol; mewn gair, yr oedd yn adeg sêl ac egni mwyaf y prif Ddiwygwyr, ac yn lle diffoddi dan ludw yr erledigaeth, fe lewyrchodd yr ychydig dân a enynasid yn y Bala nes dyfod yn fflam, fel y gwelir yn yr hyn y mae genym yr hyfrydwch o roi ei hanes yn y benod nesaf. |
|
|
|
|
|
|