Search billions of records on Ancestry.com

SYLWADAU ARWEINIOL 

ENW Methodistaidd a ddaeth i arferiad tua thri-ugain mlynedd yn ol yw Dwyrain Meirionydd, ond y mae yn dynodi rhan o’r wlad y gosodwyd terfynau iddi gan natur. Pan y teimlwyd angen am ranu y sir yn ddau Gyfarfod Misol, ni chaed anhawsder mawr i nodi y ffiniau, oherwydd y mae mynyddoedd cribog yr Aran, y Rhoballt, yr Arenig, a'r Mignynt a’u sodlau uchel yn ffurfio terfyn gorllewinol naturiol iawn, ac yn gwahanu y rhan hon or sir oddiwrth yr hyn a elwir y Rhan Orllewinol mor naturiol ag y mae mynyddoedd y Berwyn yr ochr ddeheuol yn ei gwahanu oddiwrth Sir Drefaldwyn. Ai chymeryd yn y cyfanswm o honi, sir fynyddig iawn yw Sir Feirionydd, yr hyn barai ei bod unwaith yn un an-hawdd ei theithio; ond wedi y rhaniad a wnaed arni y mae pob un or ddwy ran wedi dyfod yn fwy tramwyadwy, am fod rhan helaeth o’r parthau mwyaf anhygyrch yn gwneyd i fyny y terfyn trwchus yn gystal ag uchel rhwng Dwyrain a Gorllewin Meirionydd. Gwneir Dwyrain Meirionydd yn yr ystyr grefyddol a Methodistaidd i’r enw i fyny o ranau uchaf tri o ddyffrynoedd y rhed yr un nifer o afonydd trwyddynt, sef y Ddyfrdwy, y Ceiriog, a'r Conwy. Pan yn sefyll yn rhan fwyaf gorllewinol plwyf Llanuwchllyn, a’n cefn at Ddolgellau a’n hwyneb tua’r dwyrain, y mae rhan eangaf Dwyrain Meirionydd yn ymestyn o’n blaen am dros ugain milldir. Dyfrheir yr holl wlad hon, neu os myner cymerir ymaith ddyfroedd yr holl wlad hon o’r Garneddwen i Glyndyfrdwy gan yr afon Ddyfrdwy a’i haberoedd (tributaries) grymus y Tryweryn ar Alwen. Yn y pantle hwn y ceir y nifer fwyaf o lawer o eglwysi y Cyfarfod Misol. Ond nid y cwbl o honynt. Ar y llaw dde i ni, dros fraich gref or Berwyn, y mae dyffryn prydferth Llanarmon, a’r Ceiriog. yn rhedeg yn gyfochrog megis a’r Ddyfrdwy, nes y gostynga y Berwyn ei ben i ddyfroedd y Ceiriog gael ymuno â dyfroedd y Ddyfrdwy yn nyffryn Maelor islaw’r Waen. Y mae pump o eglwysi y Cyf¬arfod Misol yn y dyffryn cul hwn. Ar y llaw aswy drachefn, dros drumau uchel o fryniau ellir alw, os mynir, yn fynyddoedd, y mae rhan uchaf dyffryn y Conwy, ac y mae nifer bychan o eglwysi y Cyfarfod Misol yn y dyffryn hwn. Arferai eu nifer fod yn fwy; ond yn fuan ar ol ffurfiad Cyfarfod Misol Dyffryn Conwy, aeth rhan bwysig o Sir Feirionydd, mewn ystyr grefyddol, i berthyn i’r Cyfarfod Misol hwnw, fel nad oes ond ychydig o’r ardaloedd ar lanau y Conwy yn perthyn yn awr i Ddwyrain Meirionydd.

Ni fedd Dwyrain Meirionydd un fodfedd o arfordir. Rhaid i’r tair afon a fuont yn ddyfal yn cafnio ac yn naddu ei dyffrynoedd ddeisyf caniatad i fyned i’r môr trwy derfynau Cyfarfodydd Misol Fflint a Dyffryn Conwy.

Yn ol hen raniad gwladol, ymrana dyffryn y Ddyfrdwy hefyd yn ddwy ran, Penllyn ac Edeyrnion, gan gynwys yn yr olaf yr hyn a elwid gynt Arglwyddiaeth Glyndyfrdwy. Gelwir ardaloedd glanau yr Alwen hefyd yn Ddosbarth Uwchaled.

Gwlad amaethyddol hollol bron yw y rhan hon o Feirionydd. Nid yw y gweithfeydd a geir ynddi ond rhai cymarol ddibwys, ac o gychwyniad diweddar; a lleihau yn hytrach na chynyddu y mae poblogaeth y rhan fwyaf o’r ardaloedd. Bychain yw ei threfi, ac araf yw cynydd eu trigolion, fel nad ydyw cynydd y boblogaeth yn y trefi ar ardaloedd gweithfaol ond prin ddigon i orbwyso y lleihad yn y rhanau mwyaf gwledig.

Er nad yw y rhan hon or wlad yn lliosog ei phobl, y mae o ran ei pherthynas a rhanau eraill o Ogledd Cymru yn lled ganolog. Ymae y Bala o ran agosrwydd mor gyfleus i Fangor neu Gonwy yn y Gogledd ag ydyw i Lanidloes neu y Drefnewydd yn y De, ac nid yw y pellder iddi o Gaerlleon neu Liverpool ond oddeutu yr un faint ag o Dowyn neu Aberdyfi. Buwyd yn cyrchu i Sassiwn y Bala o holl siroedd y Gogledd am lawer o flynyddoedd, ac yma y mae Coleg y Methodistiaid yn y Gogledd er adeg gyntaf ei sefydliad. Oherwydd teneuder y boblogaeth ar cyfyngiad a fu ar ei derfynau yn ystod y blynyddoedd diweddaraf, ni ellir cyfrif Cyfarfod Misol Dwyrain Meirionydd yn mysg Cyfarfodydd Misol mawrion y wlad. Dwy a deugain yw rhif yr eglwysi a berthyn iddo, ac y mae yn mysg y rhai hyny rai o’r eglwysi lleiaf a berthynant i’r Cyfundeb. Ychydig dros bedair mil yw rhif yr aelodau eglwysig yn awr yn yr holl eglwysi hyn.

Y mae genymn yn y tudalenau sydd i ddilyn i geisio rhoi ychydig o hanes camrau y llwyddiant y gwelodd Duw yn dda ei roddi ar lafur ei bobl yn yr amser a aeth heibio, fel ag i beri er yr holl ymfudo i ranau eraill o’r wlad fod cynifer o filoedd yn arddel eu hunain yn gredinwyr perthynol i'n Cyfundeb yn y rhan hon o Gymru.

hafan Llyfrau Fyny Nesaf