Search billions of records on Ancestry.com

RHAGAIR

Ni fwriedir i'r llyfryn bychan hwn fod yn Gofiant i'r diweddar a'r annwyl Tom Ellis. Deallaf y bwriedir dwyn allan Gofiant, teilwng, iddo cyn pen hir, yr hwn fydd yn cynnwys ei holl hanes yn fanwl a helaeth.

Ceisiais ysgrifennu' r penodau hyn yn syml; gadewais allan, yn fwriadol, fanylion ei fywyd, gan fodloni ar y prif ffeithiau yn unig, gan fod y llyfr wedi ei fwriadu ar gyfer bechgyn a genethod ieuanc sydd â'u hwynebau ar gyfandir bywyd. Pwysicach i'm golwg i fydd iddynt yfed o'i ysbryd - cânt ymgydnabyddu â'r ffeithiau eto. Os y cymer yr ieuenctid ei lwybr ef fel nod o'u blaenau gall ein gwlad fanteisio arnynt ymhob cyfeiriad.

Cwynir fod ein hiaith yn colli yn nhrefi glannau'r moroedd, ar y gororau, yn y dinasoedd a'r trefi poblog, ac yn yr ardaloedd gweithfaol mawr. Ffaith brudd yw hon i bob un sydd yn caru ei wlad. Pe y gwnâi pob ifanc a geneth sydd yn Ysgolion Elfennol ac Ysgolion Canolradd Cymru benderfyniad i fod mor ffyddlon i iaith a defion ei wlad ag y bu gwrthrych y penodau hyn, a phe yr yfent o'i ysbryd, buan y diflannai'r gwyn.

Hoffwn i'r penodau hyn fod yn gyfrwng i ieuenctid Cymru i benderfynu gwneud eu gorau dros ei hiaith, ei haddysg, a'i chrefydd. Gwnaeth y gwrthrych hynny, ac ond iddynt hwythau ddilyn ôl ei droed bydd Cymru yn burach, yn gryfach, ac yn wynnach nag erioed.

Yn wladgar,

O. LLEW OWAIN

Rhagfyr, 1915

hafan Llyfrau Fyny Diwethaf Nesaf